Wythnos Natur Cymru 5 -13 Gorffennaf 2025
Gobeithio i chi fwynhau Wythnos Natur Cymru! Diolch i’n holl gyfranwyr, cyfeillion a phawb sy’n frwd dros fyd natur am eich cefnogaeth wych. Fyddai dim modd i’r wythnos ddigwydd heb eich cyfranogiad chi! Bydd Wythnos Natur Cymru yn ôl yn 2026!
Efallai bod Wythnos Natur Cymru drosodd yn swyddogol ond mae yna lwythi o ddigwyddiadau i chi eu mwynhau o hyd. Cymerwch gip ar y digwyddiadau gwych hyn a fydd yn digwydd yn fuan.
Beth am gymryd camau cadarnhaol dros fyd natur! Mae yna amrywiaeth eang o arolygon cenedlaethol i gymryd rhan ynddynt.
Y Cyfrifiad Glöynnod Byw 18 Gorffennaf – 10 Awst
Wythnos Genedlaethol Gwylio Morfilod a Dolffiniaid 26 Gorffennaf – 3 Awst
Wythnos Genedlaethol y Môr 26 Gorffennaf - 10 Awst
Noson Ystlumod Ryngwladol 30-31 Awst
Chwiliad Dolydd Mawr Mehefin-Awst
Arolwg Trychfilod i Wyddonwyr-Ddinasyddion 1st Mehefin – 31st Awst



Beth i’w ddisgwyl mewn digwyddiadau
Bydd rhywbeth at ddant pawb – digwyddiadau i unigolion, teuluoedd a’r rhai sy’n newydd i fyd natur, yn ogystal â’r rhai mwy profiadol yn y maes.
Nid oes angen i chi fynychu digwyddiad i ddathlu Wythnos Natur Cymru. Y cwbl sydd angen i chi wneud yw mynd allan i werthfawrogi’r natur sydd ar garreg eich drws yn ystod Wythnos Natur Cymru. Gallai fod yn ddechrau ar berthynas gydol oes!
Byddwch yn rhan o'r stori! Rhannwch eich straeon a’ch profiadau o fyd natur gan ddefnyddio #WythnosNaturCymru a dangoswch eich angerdd dros fyd natur!