Skip to content
Forked spleenwort © Alun Williams

Partneriaeth Natur Leol
Ceredigion

Natur yn Ceredigion

'Mae Ceredigion yn doreithiog o gynefinoedd a bywyd gwyllt, ac mae bioamrywiaeth yn rhan bwysig o arbenigrwydd y Sir. Yn wir, mae’r rhosydd (sydd hefyd yn gynefin i frithegion y gors prin), yr aberoedd a’r gwlyptiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol sy’n cynnal adar dŵr ac adar hirgoes, ynghyd â’r coetiroedd derw, i gyd yn cyfrannu at fioamrywiaeth y Sir. Hefyd, mae Ceredigion yn gadarnle i farcutiaid a brain coesgoch. Mae arfordir Bae Ceredigion yn bwysig i adar, ac mae’r dyfroedd yn cynnal dolffiniaid trwyn potel, llamidyddion a morloi llwydion. Nid ymboeni am rywogaethau prin neu rywogaethau dan fygythiad yn unig sydd ynghlwm wrth warchod bioamrywiaeth. Mae bioamrywiaeth yn cynnwys popeth byw. Mae gwarchod y bywyd sydd o’n cwmpas yn fwyfwy pwysig, nid yn unig oherwydd gwerth aruthrol y planhigion a’r anifeiliaid, ond er lles ein hanghenion ni.

Ar hyn o bryd mae'r bartneriaeth yn datblygu Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol sy'n mynd i'r afael â'r nodau a nodir yng Nghynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru ynghyd â blaenoriaethau lleol.

Mae cynllunio ar gyfer bioamrywiaeth yng Ngheredigion yn broses barhaus. Bydd Partneriaeth Natur Ceredigion yn esblygu wrth i’r wybodaeth gynyddu a thrwy gyfrwng y camau a gymerir i gynnal amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau yn y Sir.

Cyswllt

Cyngor Sir Ceredigion
Aberaeron
SA46 0PA

Ffôn: 01545 570881
Ebost: biodiversity@ceredigion.gov.uk
Gwefan: ceredigion.gov.uk

Mae Ceredigion yn aelod gwerthfawr o Rwydwaith Partneriaeth Natur Lleol Cymru gyfan