Beth yw Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru?
Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru (PBC) yn dod â’r prif gyfranwyr o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol at ei gilydd i hyrwyddo a monitro camau gweithredu yn ymwneud â bioamrywiaeth a’r ecosystem yng Nghymru.
Llywodraethu Bioamrywiaeth yng Nghymru
Mae’r Grŵp Gweithredu Strategol ar gyfer Bioamrywiaeth yn gyrru ymdrechion cadwraeth effeithiol ac ymarferol ar lawr gwlad ac yn sefydlu gweledigaeth gyffredin ar gyfer adfer natur yng Nghymru. Mae gan y grŵp aelodaeth eang o Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, y trydydd sector amgylcheddol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.
Mae Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 (SoNaRR25) yn dangos bod y dirywiad parhaus o ran bioamrywiaeth yn gwanhau ecosystemau Cymru, sydd yn ei dro yn tanseilio lles cymunedol, ffyniant economaidd, a chydnerthedd hirdymor. Mae amgylchedd naturiol iach yn sail i'n heconomi, yn cefnogi ein hunaniaeth ddiwylliannol, ac yn darparu'r gwasanaethau ecosystem hanfodol yr ydym yn dibynnu arnynt bob dydd.
Mae Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru yn nodi'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer ymateb i'r heriau hyn.
Mae'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur yn cyd-fynd â Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming Montreal y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol ac yn adlewyrchu tirwedd ddeddfwriaethol Cymru, gan gynnwys Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethu a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru).
Mae cyflawni'r cynllun yn gofyn am ymdrech ar y cyd. Mae gan bob rhan o'r llywodraeth, pob awdurdod cyhoeddus, pob sefydliad, a phob dinesydd rôl i'w chwarae.
Rhwydwaith Ehangach PBC
Prif nod y rhwydwaith ehangach yw darparu cyngor ac arbenigedd i’r grŵp llywio, ymateb a dylanwadu ar y broses benderfynu a chyfrannu at weithgarwch bioamrywiaeth yng Nghymru. Prif nod y rhwydwaith ehangach yw darparu cyngor ac arbenigedd a dylanwadu ar benderfyniadau a chyfrannu at weithgarwch bioamrywiaeth yng Nghymru.
Tîm Cymorth PBC
Mae angen digon o gymorth ar Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru i sicrhau bod y strwythur yn gweithio’n llawn er mwyn manteisio i’r eithaf ar waith partneriaeth. Mae Tîm Cymorth PBC yn cynnwys dau swyddog llawn amser a gyflogir gan CNC a chymorth gan staff Cangen Bioamrywiaeth a Cadwriaeth Natur Llywodraeth Cymru.
Aelodaeth
Gall pawb yng Nghymru helpu i wella bioamrywiaeth ac ecosystemau a sicrhau bod yr amgylchedd naturiol y mae pob un ohonom yn dibynnu arno yn rhan annatod o’n bywydau bob dydd. Ni chodir tâl i fod yn aelod o’r bartneriaeth ehangach a gall unrhyw sefydliad neu unigolyn sydd â diddordeb mewn diogelu a gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau ymaelodi. Os hoffech chi wybod mwy am y bartneriaeth ac ymaelodi â’r bartneriaeth ehangach, cysylltwch â ni
Cefndir Hanesyddol
Cafodd Grŵp Llywio PBC ei ddiddymu’n ffurfiol ac ysgwyddodd Bwrdd Strategaeth Bioamrywiaeth Cymru a gweithgorau PBC y rhaglen waith. Lluniwyd y Cynllun Adfer Natur gan Fwrdd Strategaeth Bioamrywiaeth Cymru ac mae aelodau’r bwrdd yn cynrychioli rheolwyr tir a môr, Cyfoeth Naturiol Cymru, y trydydd sector amgylcheddol, awdurdodau lleol, Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru. Bwrdd Strategaeth Bioamrywiaeth Cymru a oedd yn gyfrifol am ddatblygu Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru. Mae’r gwaith hwn wedi’i drosglwyddo bellach i Grŵp Gweithredu’r Cynllun Adfer Natur.
Gan fod bioamrywiaeth yn bwnc sydd wedi’i ddatganoli, bydd pob un o bedair gwlad y DU yn gweithio i fynd i’r afael â nodau a thargedau’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol a rhai’r Undeb Ewropeaidd yn eu tiriogaeth eu hunain. Mae’r gwaith a wnaed o’r blaen dan Gynllun Gweithredu’r DU ar Fioamrywiaeth bellach wedi’i ganolbwyntio ar lefel y gwledydd (Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban). Mae llawer o’r offer a ddatblygwyd dan Gynllun Gweithredu’r DU ar Fioamrywiaeth yn dal i gael eu defnyddio; er enghraifft, gwybodaeth gefndir am y rhestrau o gynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth. Serch hynny, mae'r rhestrau hyn bellach yn cael eu cadw a’u diweddaru ar wahân ym mhob gwlad. Yng Nghymru, y rhestrau cyfredol yw’r rheini dan Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru).
Mae Fframwaith Bioamrywiaeth y DU yn dangos sut y mae gwaith pedair gwlad y DU yn cydgysylltu â gwaith ar lefel y DU i gyflawni Targedau Fframwaith bioamrywiaeth Kunming-Montreal. Mae’n nodi’r gweithgareddau sy’n ofynnol er mwyn ategu strategaethau bioamrywiaeth y gwledydd, a’r mannau hynny lle y mae gwaith yn strategaethau'r gwledydd yn cyfrannu at gyflawni rhwymedigaethau rhyngwladol.
