Natur yn Wrecsam
Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnwys ardaloedd o dir isel ac ucheldir a rhychwant y cynefinoedd a rhywogaethau sy’n gysylltiedig â hwy.Yn y tiroedd isel mae dros 2000 o byllau gyda chyfanswm eu harwynebedd yn un cilomedr sgwâr. Mae’r pyllau hyn yn gynefin pwysig i’r rhywogaethau gwarchodedig fel y fadfall ddŵr gribog a’r chwilen blymio arian, anifail di-asgwrn-cefn anghyffredin dros ben a ddarganfuwyd ond yn ddiweddar yng Nghymru.
Mae un o’r poblogaethau magu mwyaf o fadfallod dŵr cribog yn y Fwrdeistref Sirol. Mae’r ardal yn cynnwys cors iseldirol fwyaf Cymru, sy’n cael ei hadfer ar hyn o bryd ar ôl blynyddoedd o godi mawn at ddibenion garddwriaethol a garddio. Mae’r gors yn cynnwys llawer o greaduriaid a phlanhigion prin fel rhosmari gwyllt a llygod pengrwn y dŵr. Mae’r ucheldiroedd yn cynnwys y Berwyn a Mynydd Rhiwabon gyda mignen a rhostir sy’n cynnal y rugiar ddu.
Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth
Mae Wrecsam yn rhan o Bionet, Partneriaeth Bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru, sy’n cyfuno gwaith bioamrywiaeth yng Nghonwy, Sir Ddinbych a Wrecsam. Mae’r Bartneriaeth yn uno prif sefydliadau gan gynnwys Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, Bywyd Gwyllt Gogledd Ddwyrain Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â sefydliadau lleol, grwpiau cymunedol ac unigolion sy’n dangos diddordeb. Rydym yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn.
Cyswllt
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
De Ffordd yr Abaty
Ystad Ddiwydiannol Wrecsam
Wrecsam
LL13 9PW
01978 298989
https://www.wrexham.gov.uk/english/planning_portal/biodiversity/wxmbap.htm
Mae Wrecsam yn aelod gwerthfawr o Rwydwaith Partneriaeth Natur Lleol Cymru gyfan
