Skip to content

Digwyddiadau

Gŵyl BioBlitz Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

NBGW Bioblitz 18.07.2026

18- 19 Gorffennaf

Ymunwch â ni am ddau ddiwrnod o ddarganfod ar draws yr Ardd Fotaneg a Gwarchodfa Natur Waun Las, gan archwilio rhyfeddodau gwyllt ein tirwedd nodedig.

Mae BioBlitz yn ras yn erbyn amser i ddod o hyd i gymaint o fywyd gwyllt â phosibl dros gyfnod penodol a’i adnabod, gan greu ciplun o amrywiaeth rhywogaethau mewn lleoliad penodol. Gallwch ein helpu i gofnodi cymaint o rywogaethau â phosibl mewn 48 awr, a bod yn rhan o ddathliad mawr o fywyd gwyllt a chadwraeth Cymru.

Am Ddim - Gyda Mynediad

Manylion pellach yma

Lleoliad: Llanarthne

Arwynebeddau: Sir Gaerfyrddin

Gorffenaf 18, 2026  - Gorffenaf 19, 2026

Gŵyl Natur y Fro

Vale Nature festival 2026

18 Gorffennaf 11:00 - 15:00
Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston

Ymunwch â ni i ddathlu natur yn y Fro a darganfod beth y gallwch chi ei wneud er mwyn cefnogi adferiad natur.

Archebwch eich lle am ddim yma

Lleoliad: Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 18, 2026

Noson Ystlumod a Gwyfynod Cefncoedycymer

Bat Night Cefn Coed

24 Gorffennaf 8:45 PM - 10:45 PM

Ymunwch â ni am noson ryfeddol yn archwilio byd hudolus ystlumod a gwyfynod! Mae'r digwyddiad wyneb yn wyneb hwn yn rhoi cyfle i chi ddod yn agos at y creaduriaid nosol hyn, dysgu ffeithiau diddorol, a mwynhau noson hwyliog yng nghanol byd natur. Peidiwch â cholli'r cyfle i weld y creaduriaid anhygoel hyn gan ddefnyddio dulliau gwyddonol fel synwyryddion ystlumod a thrapiau gwyfynod o dan y sêr. Dewch yn llawn chwilfrydedd a dewch â'ch ffrindiau hefyd!

Mae lleoedd parcio yn gyfyngedig yma, rhannwch geir lle bo modd.

Byddwch yn ymwybodol bod y digwyddiad hwn yn digwydd pan fydd hi wedi tywyllu ac felly efallai y bydd angen i chi ddod â thortsh.

Digwyddiad am ddim. Gwybodaeth bellach a manylion archebu ar Eventbrite

Lleoliad: Cefncoedycymer

Arwynebeddau: Merthyr Tudful

Gorffenaf 24, 2026

Gŵyl Natur Pen-y-bont ar Ogwr Caeau Newbridge

Bridgend Nature Festival

31 Gorffennaf 11:00-16:00

Dewch i ymuno â ni am ddiwrnod o archwilio a dathlu natur yng Nghaeau Newbridge! Bydd y digwyddiad hwn, gan Bartneriaeth Natur Lleol Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnwys teithiau cerdded natur wedi’u tywys, gweithdai rhyngweithiol, a sgyrsiau diddorol gan arbenigwyr cadwraeth lleol. Dysgwch am yr amrywiaeth o fywyd gwyllt y mae’r ardal hon yn gartref iddynt, a darganfyddwch sut i fynd ati i’w gwarchod. P'un a ydych chi'n hoff iawn o natur neu ddim ond eisiau treulio diwrnod yn yr awyr agored, mae'r digwyddiad hwn yn berffaith i bob oed. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gysylltu â natur ac unigolion o'r un anian!

Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle am ddim, cliciwch ar y ddolen Eventbrite

Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr

Arwynebeddau: Pen-y-bont ar Ogwr

Gorffenaf 31, 2026

Cwrs Codi Waliau Cerrig Sychion Merthyr Tudful

21 Medi - 25 Medi • 8yb-3yp

Ymunwch â'n Cwrs Codi Waliau Sychion Am Ddim!

Byddwch yn barod i ddysgu'r sgiliau i adeiladu eich wal garreg sych eich hun yn ystod y cwrs hwn sy’n para wythnos, ac sy'n rhedeg o 21 - 25 Medi, 8am-3pm. Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly gofalwch eich bod yn cofrestru'n gynnar i osgoi cael eich siomi!

Bydd yr union leoliad yn cael ei rannu ar ôl i chi gofrestru.

Peidiwch ag anghofio gwisgo dillad call, esgidiau cryfion, a dewch â phecyn cinio ynghyd â digon o ddŵr.

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at gillian.hampson@merthyr.gov.uk, barreti@merthyr.gov.uk, neu rebekka.berger@merthyr.gov.uk .

Digwyddiad am ddim. Gwybodaeth bellach a manylion archebu ar Eventbrite

Lleoliad: Merthyr Tudful

Arwynebeddau: Merthyr Tudful

Medi 21, 2026

“The Art of Awe”: taith gerdded GeoMôn, Porth Amlwch

12 Gorffennaf 14:00–17:00

Ymunwch â ni ar grwydr, a chael eich trochi mewn tirweddau y mae olion dwfn ein hanes yn treiddio drwyddyn nhw. Cewch eich tywys i gysylltu’n greadigol â’r ddaeareg a’r dreftadaeth leol wrth i ni ddilyn llwybr yr arfordir o Borth Amlwch i’r ffynnon sanctaidd hanesyddol, Ffynnon Eilian. Byddwn ni’n cerdded yn hamddenol gan gymryd egwyliau rheolaidd, fydd yn rhoi'r amser a'r gofod i ni arsylwi a phrofi ein hamgylchedd.

Pellter: 4–5km. Bydd y daith gerdded yn crwydro ar hyd rhan o Lwybr Arfordirol Ynys Môn, felly dylech chi ddisgwyl llwybrau anwastad, grisiau, rhai rhannau agored, a rhai llethrau bach.

Mae manylion pellach a chyfle i gadw lle ar gyfer y digwyddiadau ar gael yma

Lleoliad: Porth Amlwch

Arwynebeddau: Ynys Môn

Gorffenaf 12, 2026

Fflora Gwlyptir Gwarchodfa Llyn Eiddwen

Event Cym

12 Gorffennaf 10:00 - 1:00

Bydd y daith hon yn chwilio am Bidoglys y Dŵr, Troed y gywen, Dail-ceiniog y gors, Eurinllys y gors, Melog y waun, Pumnalen y gors, Llafn y bladur, Gwlithlys, Gwlyddyn-Mair y gors a Llygaeron. Mae Gwair merllyn a Marchrawn hefyd yn bresennol. Mae'r ffawna yn cynnwys y gwas y neidr prin, y Picellwr cribog, ac yn ddiweddar cadarnhawyd bod llygod pengrwn y dŵr yn bresennol.

Cyfarfod wrth y grid gwartheg ar ochr y llyn.

Rhagor o fanylion gan gynnwys gwybodaeth gysylltu.

Lleoliad: Llyn Eiddwen

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 12, 2026

Amrywiaeth o dan eich traed: pryfed Pen-lan

Biodiversity beneath your feet insects of Penlan_Cymraeg

12 Gorffennaf, Sesiynau am 11.00am - 1.00pm; ac 2pm-4pm

Ymunwch â'r entomolegydd Liam Olds am daith dywys i ddarganfod pryfed yng Nghae Ras Pen-lan. Mae'r safle, a oedd yn gae ras o fri yn y 19eg ganrif, bellach yn hafan i fywyd gwyllt. Archwiliwch yr amrywiaeth o bryfed sy'n ffynnu yma, o wenyn ac ieir bach yr haf i chwilod a chreaduriaid di-asgwrn-cefn eraill, gan fwynhau'r golygfeydd dros Gwm Tawe Isaf a Bae Abertawe ar yr un pryd.

Dyma gyfle perffaith i bobl o bob oed sy'n dwlu ar natur ddarganfod bywyd cudd pryfed yn y man gwyrdd trefol hwn.

Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

Man cyfarfod: ar hyd Clwyd Road, yn y llwybr mynediad i Gae Ras Pen-lan, Pen-lan, Abertawe SA5 7EY
What3words: power.tonic.trace

Rhaid cadw lle

Lleoliad: Pen-lan

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 12, 2026

Adfer Cynefinoedd – Pyllau glan môr yn Southerndown

Event Cym

12 Gorffennaf 10:00 -11:30am Bae Dwnrhefn

Gwirfoddolwch ychydig o’ch amser i'n helpu ni i helpu cynefin y pyllau glan môr trwy gael gwared ar sbwriel sydd wedi ymgasglu.

Archebwch eich lle ar wefan Academi'r Traeth

Lleoliad: Southerndown

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 12, 2026

Ysgol Traeth Ynys y Barri

Event Cym

12 Gorffennaf 10:30am-12:00 Bae Whitmore

Oedran 2+ gan gynnwys gweithgareddau natur, bywyd gwyllt, crefft y goedwig a chelf gyda gemau a straeon am y môr.

Archebwch eich lle ar wefan Academi'r Traeth

Lleoliad: Ynys y Barri

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 12, 2026

Taith Gerdded Blodau Gwyllt yn y Gilfach

12 Gorffennaf, 2pm - 4pm Gilfach, ger Rhaeadr Gwy

Yr haf yw'r amser perffaith i weld yr amrywiaeth eang o blanhigion gwych sy'n ffynnu yn y Gilfach. Mae gloÿnnod byw wrth eu bodd â'r blodau gwyllt a'r glaswellt a cheir yma’r fritheg berlog fach, y glesyn cyffredin a’r brithribin gwyrdd i enwi ond ychydig.

Manylion pellach a dolen archebu

Lleoliad: Rhaeadr Gwy

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 12, 2026

Diwrnod Natur i Deuluoedd yn Nhrigonos

12 Jul Family Day SOCIALS

12 Gorffennaf 10:00-16:00 Beddgelert

Plant am ddim!

Ymunwch â ni am ddiwrnod teuluol hamddenol ac anturus wedi’i leoli yn Nhrigonos, gan gyfuno natur, gweithgareddau awyr agored ac amser gyda’ch gilydd yng nghanol Eryri.

Bydd y diwrnod yn dechrau gyda thaith natur dywysedig ysgafn yn archwilio’r dirwedd hynod ddiddorol o amgylch Chwarel Dorothea, ac yna picnic wrth ochr y llyn. Yn y prynhawn, bydd teuluoedd yn cael cyfle i roi cynnig ar badl-fyrddio ar y llyn.

Archebwch eich lle yma

Lleoliad: Beddgelert

Arwynebeddau: Parc Cenedlaethol Eryri

Gorffenaf 12, 2026

Taith Gerdded Bingo Natur gyda Seawatch

Taith Gerdded Bingo Natur

12 Gorffennaf 11:00 Cei Newydd

Ymunwch â ni wrth i ni gerdded ar hyd llwybr arfordirol hardd Cymru, yn gweld ac yn marcio unrhyw fywyd gwyllt a welwn! Drwy gyfuno ein gwybodaeth forol, gyda gwybodaeth anhygoel Josh Pedley, yr arbenigwr bywyd gwyllt lleol, mae hwn yn gyfle i ddysgu am yr holl greaduriaid mawr a mân!

Am fanylion pellach y ddolen

Lleoliad: Cei Newydd

Arwynebeddau: Ceredigion

Gorffenaf 12, 2026

Bore Gwyfynod ym Mhenllergaer

Moth-Morning

Dydd Sul 12 Gorffennaf am 10:00am

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed pa greaduriaid sy'n deffro tra rydyn ni'n cysgu?

Dan arweiniad ein Swyddog Cadwraeth, Chris, byddwn yn agor ein trapiau dros nos (sydd ddim yn gwneud niwed) i ddarganfod y rhywogaethau hardd ac amrywiol o wyfynod sy'n byw yn y coed. Dyma ffordd hamddenol a diddorol o ddysgu rhagor am wyfynod, a'n helpu ni i gofnodi ein canfyddiadau.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, wedi'i ariannu gan a gyda diolch i Rwydweithiau Natur.

Yn ddibynnol ar y tywydd. Hwyl i bob oed!

Cyfarfod yn y Ganolfan Ymwelwyr, Coed Dyffryn Penllergaer

Gallwch chi gadw eich lle yn rhad ac am ddim yma

Lleoliad: Penllergare

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 12, 2026

Cofnodi bywyd gwyllt ym Mharc Slip, Pen-y-bont ar Ogwr

Event Cym

11 Gorffennaf 10:00am–3:00pm

Yn rhan o Wythnos Natur Cymru, rydyn ni’n cynnal pedair taith gerdded o amgylch Parc Slip. Byddwch chi’n dysgu am yr amrywiaeth o adar, blodau gwyllt, mamaliaid neu bryfed sydd ar y safle a sut i'w cofnodi nhw. Drwy ddysgu sut i gofnodi, gallwch chi chwarae rhan wrth helpu i warchod bywyd gwyllt lleol.

I gofrestru, ewch i'n tudalen Eventbrite lle gallwch chi gadw lle ar un o’r digwyddiadau (neu pob un os hoffech chi!)

I gadw lle yn rhad ac am ddim, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru

Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr

Arwynebeddau: Pen-y-bont ar Ogwr

Gorffenaf 11, 2026

Diwrnod Natur ar Fferm Ymddiriedolaeth Amelia, Y Barri

Event Cym

11 Gorffennaf 10:00yb - 4:30yp

Ymunwch â ni am ddiwrnod teuluol ardderchog i ddathlu natur ar Fferm Ymddiriedolaeth Amelia.

Archwiliwch ein coetir hardd a mwynhewch amrywiaeth o weithgareddau a ysbrydolwyd gan natur, gan gynnwys:

🌿Llwybr Sylwi ar Natur

🍂 Rhwbiadau Natur

🌲 Taith Natur Dywysedig drwy’r Coetir

📖 Amser Stori yn y Gwyllt

🍄 Corachod Cyll a Chrefft Madarch

🧘 Gweithgaredd ymlacio ymhlith y coed (hunan-dywysedig)

Mae eich tocyn hefyd yn cynnwys amser i archwilio'r fferm, cwrdd â'n hanifeiliaid cyfeillgar, crwydro drwy'r gerddi, dilyn ein llwybr fferm tymhorol a darganfod ein cerfluniau synhwyraidd.

Er mwyn cael rhagor o fanylion ac i archebu eich lle, cliciwch ar y ddolen

Lleoliad: Barry

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 11, 2026

Wedi Mynd yn Wyllt ym Mharc Gwledig Pen-bre

11 Gorffennaf 11:00AM – 4:00PM

Cynhelir Gone Wild yn ystod Wythnos Natur Cymru. Ymunwch â ni am ddiwrnod hwyl am ddim i’r teulu, yn dathlu natur ar ei gorau yn amgylchedd hardd Parc Gwledig Pembrey. Bydd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a fydd yn apelio at deuluoedd, y rhai sy’n newydd i fyd natur, yn ogystal â’r rhai sy’n hoff iawn o natur.

Yn ogystal â diddanwyr plant crwydrol sy’n hyrwyddo bod yn garedig i natur, bydd cyfeiriannu bach; helfa drysor natur; a gweithgareddau dan arweiniad ceidwaid y parc megis adeiladu cuddfannau a chynnau tanau gwersylla. Bydd cynrychiolwyr Canolfan Natur newydd y Parc Gwledig hefyd yn bresennol i arddangos yr hyn sydd ganddi i’w gynnig. Hefyd, bydd amrywiaeth o stondinau ecogyfeillgar a gwerthwyr bwyd ar y safle.

Mae Gone Wild AM DDIM*, nid digwyddiad â thocynnau yw hwn * mae ffioedd parcio yn berthnasol

Lleoliad: Parc Gwledig Pen-bre

Arwynebeddau: Sir Gaerfyrddin

Gorffenaf 11, 2026

Bioblits Llyn Mair

Poster Bioblits Llyn Mair

11eg o Orffennaf 11:00 – 16:00

Ymunwch a staff Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE a COFNOD am ddiwrnod o gofnodi bywyd gwyllt y goedwig law tymherus yn ardal Llyn Mair ger Maentwrog, Meirionnydd.

Bydd angen i chi ddod â dillad addas i'r digwyddiad i baratoi ar gyfer tywydd gwlyb a chynnes, yn ogystal â'ch cinio eich hun. Darperir lluniaeth ysgafn gan y trefnwyr.

Digwyddiad am ddim. Archebwch eich lle yma

Lleoliad: Maentwrog

Arwynebeddau: Gwynedd

Gorffenaf 11, 2026

Darganfod mân greaduriaid Parc Melin Mynach

11 Gorffennaf 10 AM - 12 PM

Ymunwch â Ieuenctid Cyfeillion Gŵyr i ddarganfod am y bywyd gwyllt cudd anhygoel sy'n byw yn safle’r hen bwll glo ym Mharc Melin Mynach, sy'n llawn ceiliogod rhedyn a chwilod ynghudd y tu ôl i'r trac pwmpio. Byddwn yn chwilio am bryfed cop, llifbryfed, gwenyn, a gloÿnnod byw sy'n byw ymhlith y glaswelltiroedd yn y parc.

Mae hwn yn safle anhygoel nad yw llawer yn ymweld ag ef felly dewch i ddarganfod beth sy'n byw yno.

Am ragor o fanylion ac i archebu eich lle am ddim, ewch i dudalen Eventbrite Cyfeillion Gŵyr

Lleoliad: Abertawe

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 11, 2026

Bywyd y Ddaear ei hun: Symposiwm Byr, Porth Amlwch

11 Gorffennaf 16:00 –18:00

Ymunwch â ni am gyfres o ddigwyddiadau Geo Gelf lle mae creadigrwydd yn dod law yn llaw â daeareg. O fraslunio a ffotograffiaeth i ysgrifennu creadigol mewn lleoliadau awyr agored hardd, mae pob sesiwn yn gyfle i arafu, archwilio a chreu yma ar Ynys Môn.

Mae'r symposiwm byr hwn yn cyd-fynd ag agor arddangosfa dros dro yn y Tŷ Gwylio o waith newydd gan Judith Noble, wedi'i ysbrydoli gan fywyd a gwaith y daearegwyr Edward ac Annie Greenly: Bywyd y Ddaear ei hun.

Ni waeth a ydych chi'n ddechreuwr pur neu'n artist hyderus, bydden ni wrth ein bodd yn eich gweld chi yno.

Mae manylion pellach a chyfle i gadw lle ar gyfer y digwyddiadau ar gael yma

Lleoliad: Porth Amlwch

Arwynebeddau: Ynys Môn

Gorffenaf 11, 2026

Achub a Lles Sêr Môr Porthcawl

Event Cym

11 Gorffennaf 10:00 -11:30am Traeth Rest Bay

Mae sêr môr ar y lan angen ein help ni. Dysgwch pam a sut allwch chi wneud gwahaniaeth.

Archebwch eich lle ar wefan Academi'r Traeth

Lleoliad: Porthcawl

Arwynebeddau: Pen-y-bont ar Ogwr

Gorffenaf 11, 2026

Taith Gerdded Eco Gwiar Malwen

Queer walk Cym

11 Gorffennaf 2 i 4pm

Parc Natur Penglais, Aberystwyth

GydaTom Moulsdale a Mike Kear

Gan ddefnyddio ei brofiad yn ecolegydd ac yn berson cwiar, bydd Tom yn rhannu’r hyn a ddysgodd am dueddiadau cwiar ecoleg a’r ffordd y mae hyn yn ei helpu i ddeall a rhannu gwybodaeth ecolegol, ond hefyd wedi’i arwain drwy ddrysfa iachau ac yntau’n berson anneuaidd cwiar. Byddwn yn archwilio’r pethau hyn o safbwyntiau bywyd gwyllt ac ecosystem coedwig a rhostir Penglais ac yn eu gadael i’n harwain a’n hysgogi i ddod o hyd i’n llwybrau amrywiol ein hunain y tu hwnt i’r ffurfiau deuaidd ac ailgysylltu â’r gwyllt.

Cwrdd yma ym Mharc Natur Penglais

Lleoliad: Aberystwyth

Arwynebeddau: Ceredigion

Gorffenaf 11, 2026

Cwrs Gofal Perllannau a Thocio dros yr Haf yn Fferm Ymddiriedolaeth Amelia

Event Cym

11 Gorffennaf 10 AM - 2:30 PM Fferm Ymddiriedolaeth Amelia, y Barri

Ymunwch â Phartneriaeth Natur y Fro a'r Prosiect Perllannau ar gyfer cwrs sy'n archwilio technegau gofal perllannau a thocio.

Mae hwn yn gwrs am ddim, wyneb yn wyneb, dan arweiniad The Orchard Project, i ennill sgiliau ymarferol mewn technegau tocio a dysgu sut y gall rheoli perllannau'n effeithiol wella bioamrywiaeth a chefnogi cymunedau lleol.

Archebwch eich lle yn rhad ac am ddim yma

Lleoliad: y Barri

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 11, 2026

Mapio Eich Taith Drwy Eryri

11 Jul Mapping Eryri

11 Gorffennaf 10:00-16:00 Bethesda

Diwrnod hwyl a chreadigol i bobl sy’n caru’r awyr agored, yn hoffi mapiau, ac eisiau chwarae gyda lliwiau a siapiau tirwedd Eryri.

Byddwn yn rhannu ein hatgofion o lwybrau ystyrlon rydym wedi’u cerdded yn Eryri. Byddwn yn myfyrio ar yr hyn mae’r llwybrau hyn yn ei olygu i ni ar lefel ddyfnach, sut maent wedi cyfoethogi ein bywydau, a sut maent yn ein cysylltu â natur a’r tir o’n gwmpas. Byddwn hefyd yn mynd am dro byr ger y lleoliad i gasglu ysbrydoliaeth a deunyddiau o’r dirwedd

Archebwch eich lle yma

Lleoliad: Bethesda

Arwynebeddau: Parc Cenedlaethol Eryri

Gorffenaf 11, 2026

Dathlu Natur Sain Ffagan

11th Gorffennaf 10:00 – 16:00 Dathlu Natur Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd

Ymunwch â ni yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wrth i ni ddathlu cyfoeth byd natur yng Nghymru.

Bydd gwyddonwyr Amgueddfa Cymru wrth law i roi cipolwg ar amrywiaeth rhyfeddol o fywyd, gan ddefnyddio sbesimenau o’n casgliadau sy’n cael eu storio yng Nghaerdydd.

Dewch i ddysgu gan ein harbenigwyr ar blanhigion, anifeiliaid a ffosilau.

Rydyn ni’n cydweithio â sawl elusen a sefydliad natur lleol, fydd yn siarad am eu projectau gwych sy’n helpu i ddiogelu ein bioamrywiaeth.

Am fanylion pellach dilynwch y ddolen

Lleoliad: Caerdydd

Arwynebeddau: Caerdydd

Gorffenaf 11, 2026

Gwrachod Eryri

Dancing witches Cym

Dydd Sadwrn 11 Gorffennaf 11.30am & 12.30pm Castell Aberystwyth

Byddan yn perfformio yn Gwyl Natur Ceredigion

Lleoliad: Aberystwyth

Arwynebeddau: Ceredigion

Gorffenaf 11, 2026

Gŵyl Natur Ceredigion

Nature festival CYM

11 Gorffennaf, 10am–4pm, ar Dir y Castell, Aberystwyth

Ymunwch â ni am ddiwrnod o fywyd gwyllt, creadigrwydd, darganfod a chymuned yng Ngŵyl Natur Ceredigion.

Mae’r ŵyl yn ddathliad rhad ac am ddim o amgylchedd naturiol rhyfeddol Ceredigion, ynghyd â’r bobl, y prosiectau a’r sefydliadau sy’n gweithio i’w warchod a’i adfer. Yn rhan o Wythnos Natur Cymru, daw’r digwyddiad â grwpiau cadwraeth, sefydliadau cymunedol, artistiaid, ymchwilwyr a gwirfoddolwyr lleol ynghyd i ysbrydoli gweithredu dros natur a helpu pobl i gysylltu â’r bywyd gwyllt ar garreg eu drws.

P’un a ydych chi’n naturiaethwr brwd, yn deulu sy’n chwilio am ddiwrnod allan hwyliog, neu’n chwilfrydig am fywyd gwyllt a thirweddau Ceredigion, bydd rhywbeth at ddant pawb.

Am fanylion pellach y ddolen

Lleoliad: Aberystwyth

Arwynebeddau: Ceredigion

Gorffenaf 11, 2026

Bonanza Bywyd Gwyllt Llyn Brenig

Llyn Brenig event

11 Gorffennaf 10:00–16:00

Ymunwch â grwpiau cadwraeth lleol yng Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig am ddiwrnod llawn hwyl i’r teulu i ddathlu bywyd gwyllt a natur.

Bydd y gweithgareddau’n cynnwys:

  • Sesiynau stori
  • Llwybrau natur
  • Creu blychau adar
  • Creu gwestai gwenyn
  • Gwneud gorsafoedd bwyd i wiwerod
  • Sgyrsiau am gadwraeth bywyd gwyllt
  • Scaly Safari – cyfle i gwrdd ag ymlusgiaid a dysgu amdanyn nhw

Trefnwyd ar eich cyfer chi gan Dŵr Cymru

Gyda:

  • Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
  • Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog
  • Scaly Safari
  • Uned Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru

Yn addas i bob oedran. Dyma gyfle ardderchog i ddysgu am gadwraeth bywyd gwyllt lleol a mwynhau gweithgareddau ymarferol ar yr un pryd.

Digwyddiad galw heibio sy’n rhad ac am ddim

Lleoliad: Llyn Brenig

Arwynebeddau: Conwy

Gorffenaf 11, 2026

Sesiwn Adnabod Wythnos Natur Cymru Parc Taf Bargoed

Taf Bargoed event 10.07.2026 Cym

10 Gorffennaf 10 AM - 12 PM Canolfan

Ymwelwyr Parc Taf Bargoed, Treharris

Ymunwch â ni ar gyfer Sesiwn Adnabod Am Ddim Wythnos Natur Cymru er mwyn agosáu at y bywyd gwyllt anhygoel o'ch cwmpas! Mae'r digwyddiad wyneb yn wyneb hwn yn berffaith i unrhyw un sy'n chwilfrydig am natur, ac yn awyddus i ddysgu sut i adnabod planhigion, anifeiliaid a phryfed sy'n frodorol i Gymru. P'un a ydych chi'n newydd i fyd natur neu’n hen gyfarwydd â hi, dewch draw am sesiwn hwyliog, hamddenol lle gallwch ofyn cwestiynau a rhannu darganfyddiadau. Peidiwch â cholli’r cyfle i gysylltu â chyd-garwyr natur!

Byddwn yn cyfarfod yn y maes parcio, o flaen y ganolfan ymwelwyr.

Efallai y bydd y daith gerdded hon dros lwybrau argloddiau coetir a llwybrau coedwig nas gwelir, felly ni fydd yn addas ar gyfer pram a/neu gadeiriau olwyn na'r rhai sydd â phroblemau symudedd.

Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn ac mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda ar dennyn.

Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle am ddim, cliciwch ar y ddolen Eventbrite

Lleoliad: Treharris

Arwynebeddau:

Gorffenaf 10, 2026

Creaduriaid y Nos – Taith Ystlumod a Gwyfynod ym Mhenllergaer

Creatures of the night

10 Gorffennaf, 9:30pm–11:00pm

Dan arweiniad ein Swyddog Cadwraeth, Chris, bydd y daith gylchol fer hon yn cynnwys llethr bach wrth i ni ddefnyddio synwyryddion arbenigol i olrhain ystlumod a gwyfynod lleol. Dyma ffordd wych o weld y coed yn dod yn fyw ar ôl iddi nosi, a chymryd rhan mewn gwyddoniaeth dinasyddion.

Cyfarfod yn y Ganolfan Ymwelwyr, Coed Dyffryn Penllergaer

Gallwch chi gadw eich lle yn rhad ac am ddim yma

Lleoliad: Penllergare

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 10, 2026

Cwrs Gofal Perllannau a Thocio dros yr Haf, Gwenfô

Event Cym

10 Gorffennaf 10 AM - 2:30 PM

Ymunwch â Phartneriaeth Natur y Fro a The Orchard Project ym Mherllan Gymunedol Gwenfô ar gyfer cwrs sy'n archwilio gofal perllannau a thechnegau tocio.

Cwrs am ddim, wyneb yn wyneb, dan arweiniad The Orchard Project, i ennill sgiliau ymarferol mewn technegau tocio a dysgu sut y gall rheoli perllannau'n effeithiol wella bioamrywiaeth a chefnogi cymunedau lleol.

Archebwch eich lle yn rhad ac am ddim yma

Lleoliad: Gwenfô

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 10, 2026

Noson Ystlumod a Gwyfynod Cwmfelin-fach

Bat & Moth Night CYM

10 Gorffennaf 20:00-23:00 Fferm Ynys Hywel, Cwmfelin-fach

Ymunwch â ni am noson addas i ddechreuwyr ar Fferm Ynys Hywel i archwilio byd diddorol ystlumod a gwyfynod. Dan arweiniad arbenigwyr lleol, byddwch yn cymryd rhan mewn taith gerdded ystlumod, yn defnyddio synwyryddion i adnabod rhywogaethau, ac yn dysgu sut mae'r dechnoleg yn gweithio. Mae'r noson hefyd yn cynnwys arddangosiad trapio gwyfynod, gan roi golwg agosach ar y rhywogaethau nosol pwysig hyn.

Mae hwn yn ddigwyddiad sy'n addas i deuluoedd, ac mae croeso i blant pan fyddant yng nghwmni oedolyn, sy'n golygu ei fod yn gyfle gwych i bob oedran ddathlu Wythnos Natur Cymru!

Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim, gyda the a choffi yn cael ei ddarparu. Fe'i trefnir gan Bartneriaeth Natur Leol Caerffili, Grŵp Ystlumod y Cymoedd, a Gwarchod Gloÿnnod Byw.

Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly archebwch ymlaen llaw.

Am ragor o fanylion ac i archebu eich lle am ddim, cliciwch ar y ddolen Eventbrite

Sylwer: Gallai’r dyddiad y digwyddiad newid yn achos tywydd gwael a bydd yn cael ei aildrefnu i'r wythnos ganlynol os oes angen.

Lleoliad: Cwmfelinfach

Arwynebeddau: Caerffili

Gorffenaf 10, 2026

Taith Gerdded Llwybr y Llechi ar gyfer Pobl Dros 55

10 Jul Slate Trail SOCIALS

10 Gorffennaf

10:00-16:00 Beddgelert

Ymunwch â ni am daith gerdded ddwysedig odidog ar hyd rhan o’r Llwybr Llechi hanesyddol yn Eryri. Mae’r llwybr hwn yn ein harwain o bentref hardd Beddgelert heibio bedd Gelert, ar hyd Bwlch Aberglaslyn, gyda golygfeydd mynyddig, coetiroedd, tirweddau hen chwareli a llwybrau mewn cymoedd anghysbell tuag at Groesor ac ymlaen i Garreg.

Archebwch eich lle yma

Lleoliad: Beddgelert

Arwynebeddau: Parc Cenedlaethol Eryri

Gorffenaf 10, 2026

Diwrnod Natur a Lles yng Nghaeau’r Ynys, Aberhonddu

Event Cym

10 Gorffennaf 10:00 - 14:00

Digwyddiad am ddim yn ystod Wythnos Natur i ddathlu natur ar ein stepen drws. Mae’n ddigwyddiad sy’n dod â lles a chadwraeth natur ynghyd. Gyda gweithgareddau ymarferol fel tynnu Jac y Neidiwr a chofnodi bywyd gwyllt i’r rhai sy’n hoff o dorchi eu llewys, ac i’r rhai a hoffai ymhyfrydu yn yr awyr agored, rydym yn cynnig sesiynau dyddiadur natur ac ymdrochi yn y goedwig.

Dysgwch fwy yma

Lleoliad: Aberhonddu

Arwynebeddau: Bannau Brycheiniog

Gorffenaf 10, 2026

Taith Gwenoliaid du Aberhonddu

10 Gorffennaf 7:30pm - 9:30pm Man cyfarfod Brecon Tap

Mae synau gwenoliaid du yn nodweddiadol o’r haf. Dewch am dro hafaidd hamddenol gyda'r nos a chael cyfle i wrando ar alwadau swnllyd y gwenoliaid du! Dysgwch fwy am yr acrobatiaid awyr anhygoel hyn a chyfrannwch at waith casglu data i helpu'r rhywogaeth hon sydd dan fygythiad.

Cynhelir y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â Grŵp Gwenoliaid Du Aberhonddu.

Digwyddiad rhad ac am ddim

Er mwyn cael mwy o fanylion a manylion cysylltu’r trefnydd dilynwch y ddolen hon

Lleoliad: Aberhonddu

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 10, 2026

Cleisio Rhedyn i Ehangu Cynefin Pryfed Tân Cwm Elan

9 Gorffennaf 1:30-4:00

Mae cynefin pryfed tân neu fagïod Cwm Elan yn dirywio ac mae’r poblogaethau lleol dan fygythiad. Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Cwm Elan i gynnal gwaith cleisio rhedyn a rheoli prysgwydd er mwyn helpu i gynyddu cynefin y magïod.

Darperir hyfforddiant. Nid oes angen unrhyw brofiad.

Er mwyn cael mwy o fanylion ac i gofrestru dilynwch y ddolen hon

Lleoliad: Cwm Elan

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 09, 2026

Cysylltu â Natur a Chwedlau Gwerin Cymru

9 Jul Llyn Llydaw

9 Gorffennaf 10:00-16:00

Canolfan Wardeniaid Pen y Pass

Taith gerdded hamddenol o Ben y Pas i Glaslyn ac yn ôl, gyda digon o amser ar gyfer chwedlau lleol a gweithgareddau syml i gysylltu â natur.

Dewch i glywed straeon am y Brenin Arthur ac Excalibur, y cawr sydd wedi’i gladdu ar Yr Wyddfa, a’r tylwyth teg a fu’n tywys glowyr lleol.

Bydd yn ddiwrnod ymlaciol ac adfywiol gyda digon o seibiannau i fwynhau’r cwm godidog hwn yng nghanol Eryri. Nid yw’r daith hon yn addas ar gyfer cŵn, mae’n ddrwg gennym.

Mae hwn yn ddigwyddiad dwyieithog ond os nad ydych yn siarad Cymraeg, peidiwch â phoeni – byddwch yn dal i ddysgu ychydig o eiriau ac yn cael amser hyfryd!

Archebwch eich lle yma

Lleoliad: Canolfan Wardeniaid Pen y Pass

Arwynebeddau: Parc Cenedlaethol Eryri

Gorffenaf 09, 2026

Gweminar: Adfer Natur a Rheoli Asedau

Event Cym

9th Gorffennaf 2 PM - 3:30 PM Gweminar

Dan ofal Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru fel rhan o Wythnos Natur Cymru.

Mewn cydweithrediad ag Ystadau Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Ymunwch â ni ar gyfer y cyntaf mewn cyfres newydd o chwe gweminar sy’n archwilio rôl arweinyddiaeth y sector cyhoeddus wrth ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur drwy reoli tir ac asedau.

Ffocws y weminar

Bydd y sesiwn gyntaf hon yn edrych ar gamau ymarferol y gall rheolwyr asedau eu cymryd i ymgorffori adfer natur wrth reoli a chynnal adeiladau a thir.

Gan fod disgwyl targedau adfer natur gorfodol o fewn y ddwy flynedd nesaf o dan Fil yr Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026, mae’r weminar hon yn gyfle amserol i:

Glywed enghreifftiau ysbrydoledig o bob cwr o Gymru

Dysgu am ddulliau syml a chost-effeithiol

Trafod pa gymorth sydd ei angen ar sefydliadau

Ymhlith y siaradwyr mae

Eifiona Williams, Llywodraeth Cymru

Ant Rogers, Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth, Partneriaeth Natur Sir Benfro

Y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, Cyngor Sir Fynwy

Penny Gruffydd, Swyddog Seilwaith Gwyrdd, Cyngor Abertawe

Jacinta Challinor, Coed Cadw

Bydd rhagor o siaradwyr yn cael eu cyhoeddi.

Pwy ddylai fynychu?

Rheolwyr asedau ac ystadau

Timau eiddo a chyfleusterau

Swyddogion sy’n gweithio ym meysydd hinsawdd, bioamrywiaeth neu reoli tir

Aelodau etholedig ac arweinwyr y sector cyhoeddus

Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle am ddim, cliciwch ar y ddolen Eventbrite

Lleoliad: Ar-lein

Arwynebeddau: Pob maes

Gorffenaf 09, 2026

Diwrnod Cofnodi Crai, Sir Frycheiniog

Event Cym

9 Gorffennaf 10:30 – 16:00

Mae'r digwyddiad hwn yn Wythnos Natur Cymru yn rhan o brosiect Coedwig Genedlaethol – Adfer Coridorau Glannau Afon yng Nghwm Crai, a reolir gan Bartneriaeth Natur Leol Bannau Brycheiniog mewn cydweithrediad â BIS, Sefydliad Gwy ac Wysg, Stump Up for Trees a Coed Cadw. Nod y prosiect yw gwella cynefinoedd glannau afon trwy greu coetiroedd, gwrychoedd a lleiniau cysgodi, cryfhau coridorau bywyd gwyllt, gwella ansawdd dŵr a chefnogi bioamrywiaeth ar draws y cwm.

Bydd y diwrnod cofnodi hwn yn canolbwyntio ar fferm amrywiol ond nad yw wedi’i chofnodi'n ddigonol o fewn ardal y prosiect. Nid yw'r fferm wedi cael ei haredig na'i gwrteithio ers blynyddoedd lawer ac mae'n cynnal amrywiaeth o gynefinoedd, gan gynnwys planhigfa gonwydd a dorrwyd yn ddiweddar (fel rhan o waith y prosiect), lleiniau cysgodi, llifolchdiroedd, coridorau glannau afon, waliau cerrig a mynediad i ardaloedd ucheldir.

Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle am ddim, cliciwch ar y ddolen Eventbrite

Bydd mwy o fanylion am y lleoliad (cyfleusterau, cod post, manylion parcio a chyfeirnod grid) yn cael eu darparu yn nes at yr amser i'r rhai sydd wedi archebu lle.

Lleoliad: Crai Valley

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 09, 2026

Grŵp Natur Blynyddoedd Cynnar Skogsmulle (Oedran 2-7) Aberdâr

Dydd Iau, 9 Gorffennaf 1-3pm

Mae plant yn gallu archwilio natur yn fanwl a dysgu yn eu pwysau mewn amgylchedd diogel.

Mae ein sesiynau yn hamddenol iawn. Mae digon o amser i’r plant archwilio, dod i adnabod ei gilydd a dod i arfer â’r gofod. Bydd gennym amrywiaeth o weithgareddau a fydd i’w gweld o amgylch ein coetir ac y gellir dechrau arnynt ar unrhyw adeg.

Mae’n rhaid talu am y digwyddiad.

Er mwyn cael rhagor o fanylion ac i archebu, ewch i'r wefan

Lleoliad: Aberdâr

Arwynebeddau: Rhondda Cynon Taf

Gorffenaf 09, 2026

Taith Gerdded Blodau Gwyllt yng Nghors Abercamlo

8 Gorffennaf, 6pm-8pm Cors Abercamlo, ger y Groes

Yr haf yw'r amser perffaith i weld yr amrywiaeth eang o blanhigion gwych sy'n ffynnu yn Abercamlo.

Mae'r porfeydd sych yn cynnwys cymysgedd o blanhigion gan gynnwys triaglog, cracheithin, melynog y waun, tamaid y cythraul, grug, grug croesddail, a dail-ceiniog y gors. Mae prysgwydd yn gynefin bywyd gwyllt pwysig sy'n darparu neithdar, hadau, ffrwythau, a safleoedd llochesu a nythu i bryfed, mamaliaid ac adar.

Digwyddiad am ddim.

Manylion pellach a dolen archebu

Lleoliad: y Groes

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 08, 2026

Wednesday Wildlife Walk Penllergare

Wed wildlife Walk

8 Gorffennaf 11:30–13:00

Darganfyddwch sut i gymryd rhan mewn Gwyddoniaeth Dinasyddion a gwarchod byd natur lleol! Ymunwch â ni am dro ganol wythnos fydd yn eich ysbrydoli chi. Byddwn yn cerdded drwy goedwig hardd Dyffryn Penllergaer gan ddarganfod y rhywogaethau anhygoel sy'n rhannu ein byd. Dan arweiniad Chris, ein Swyddog Cadwraeth arbenigol, mae'r daith gerdded hon yn gyfle perffaith i weld adar prydferth, gloÿnnod byw yn dawnsio, gweision y neidr yn hedfan o un lle i’r llall, a blodau gwyllt godidog yr haf.

Yn ystod y daith, byddwch chi'n dysgu sut i ddod yn rhan hanfodol o ymdrechion cadwraeth lleol gan ddefnyddio ap LERC. Byddwn yn dangos i chi pa mor gyflym a hawdd yw hi i gofnodi'r bywyd gwyllt rydych chi'n ei weld, sy'n golygu y bydd eich camau chi ar y llwybr yn ein helpu ni'n uniongyrchol i ddiogelu byd natur ar gyfer y dyfodol.

Cyfarfod yn y Ganolfan Ymwelwyr, Coed Dyffryn Penllergaer

Gallwch chi gadw eich lle yn rhad ac am ddim yma

Lleoliad: Penllergare

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 08, 2026

Gwyfynod Gwych Henllys

Event Cym

Dydd Mercher 8 Gorffennaf 9:30am–2:30pm

Ymunwch â ni yng Ngwarchodfa Natur Leol Henllys i ddarganfod gwyfynod anhygoel Torfaen wrth inni agor y trap gwyfynod!

Digwyddiad bywyd gwyllt hwyliog i bawb

Rhaid archebu

Gwybodaeth bellach a dolen i archebu yma

Lleoliad: Cwmbran

Arwynebeddau: Torfaen

Gorffenaf 08, 2026

Gweminar ‘Ripples of Change’: cyflwr ecolegol newidiol afonydd a llynnoedd Cymru

CAT Cym

8 Gorffennaf 7pm-8pm

Mae'r Ganolfan Technoleg Amgen ( CAT ) yn cynnal gweminar am ddim yn ystod Wythnos Natur Cymru lle bydd Dr Jane Fisher, yr academydd o'r Ysgol Raddedigion, yn ymchwilio i gyflwr newidiol Amgylcheddau Dŵr Croyw Cymru, y ffactorau sy'n gyrru'r newidiadau hyn ac atebion posibl.

Digwyddiad am ddim.

Rhagor o fanylion a dolen i archebu

Lleoliad: online

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 08, 2026

Adrodd stori ym Mharc Pont-y-pŵl

Event Cym

8 Gorffennaf 17:00-18:00

Rydym wrth ein bodd y bydd Daniel Morden yn ymuno â ni ym Mharc Pont-y-Pŵl i adrodd chwedl Gymreig am Gwion Bach a'i ddihangfa anhygoel rhag y dduwies Ceridwen. Mae’r stori gyffrous yn dilyn hynt Gwion Bach wrth iddo drawsnewid i wahanol anifeiliaid er mwyn dianc, ond i Ceridwen ei hun drawsnewid yn ysglyfaethwr a mynd ar ôl yr anifeiliaid hynny! Dewch i wrando ar y stori hudolus a gwefreiddiol hon o amser maith yn ôl!

Bydd cyfle hefyd i wneud gwaith crefft yn dilyn y stori, er mwyn i blant gael creu masgiau o rai o’r anifeiliaid yn y stori a’u lliwio.

Cynulleidfa: 7 oed a hŷn

Am ragor o fanylion ac i archebu lle am ddim ewch i wefan Eventbrite

Lleoliad: Pont-y-pŵl

Arwynebeddau: Torfaen

Gorffenaf 08, 2026

Jac y Neidiwr Tynnu Llantarnham

Event Cym

8 Gorffennaf ​ 5pm

Ymunwch â ni yn Cwmbran, am sesiwn wirfoddoli ymarferol i helpu i fynd i'r afael â Jac y neidiwr, planhigyn ymledol sy'n lledaenu'n gyflym ar hyd ein hafonydd a'n dyfrffyrdd ac yn tarfu ar fywyd gwyllt brodorol.

Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i daclo Jac, gan helpu i adfer lleoedd i blanhigion brodorol, a gwarchod cynefinoedd lleol.

Byddwn ni’n cwrdd yn what3words /// The simplest way to talk about location at 5pm

Nid oes angen unrhyw brofiad – bydd cyfarwyddyd llawn, ac mae croeso i bawb.

Lleoliad: Cwmbran

Arwynebeddau: Torfaen

Gorffenaf 08, 2026

Hyfforddiant Adnabod Blodau Gwyllt - SoDdGA Aberthin, y Bont-faen

Event Eng

8 Gorffennaf • 10 AM - 2 PM

Eisiau dysgu mwy am reoli dolydd a meithrin sgiliau ymarferol am ddim mewn adnabod blodau gwyllt?

Ymunwch â'n Cwrs Hyfforddi Adnabod Blodau Gwyllt AM DDIM i ddysgu sut i adnabod blodau gwyllt brodorol ac i ddeall pwysigrwydd dolydd ar gyfer bioamrywiaeth.

Dan arweiniad Plantlife: achub planhigion gwyllt, mae'r cwrs hwn yn gyfle gwych i adeiladu eich gwybodaeth a chysylltu â byd natur!

  • Dysgu sgiliau adnabod ymarferol
  • Deall pwysigrwydd dolydd ar gyfer bioamrywiaeth
  • Darganfod sut mae blodau gwyllt yn cynnal peillwyr a bywyd gwyllt
  • Addas ar gyfer dechreuwyr – dim angen profiad blaenorol

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o'n prosiect Cymdogion Natur ac fe'i hariennir gan gynllun Mannau Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.

Archebwch eich lle yn rhad ac am ddim yma

Lleoliad: y Bont-faen

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 08, 2026

Clwb Ffotograffiaeth Natur (Oedran 8-15) Aberdâr

8 Gorffennaf 4pm – 5:45pm

Ymunwch â ni yng Nghlwb Ffotograffiaeth Natur gyda Valleys Photography. Clwb delfrydol wedi'i leoli mewn amgylchedd hamddenol i blant 8-15 oed sydd â diddordeb mewn natur, ffotograffiaeth, bywyd gwyllt a'r awyr agored. Mae croeso i offer o bob lefel! Ffonau symudol, camerâu crwydro neu gamerâu DSLR!

Mae’n rhaid talu am y digwyddiad.

Er mwyn cael rhagor o fanylion ac i archebu, ewch i'r wefan

Lleoliad: Aberdare

Arwynebeddau: Rhondda Cynon Taf

Gorffenaf 08, 2026

Planhigion y Twyni yng Nghynffig

Kenfig event 08.07.2026

8 Gorffennaf 10am – 4pm Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig

Dewch i ymuno â Chanolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru (SEWBReC) a’r botanegydd David Barden i ddysgu am y rhywogaethau o blanhigion a geir ar y twyni yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig. Bydd rhywfaint o bwyslais ar frwyn, hesg a glaswellt, ond byddwn hefyd yn trafod planhigion eraill y twyni. Sylwch y bydd y cwrs yn cael ei gynnal yn gyfan gwbl ar y safle.

Lefel: O Ddechreuwyr i Wellhawyr

Digwyddiad Rhad ac Am Ddim. Rhaid archebu

Anfonwch e-bost: info@sewbrec.org.uk i gadw lle.

Lleoliad: Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig

Arwynebeddau: Pen-y-bont ar Ogwr

Gorffenaf 08, 2026

Sesiwn Therapi dan y Coed, Glyn Ebwy

Wild Heart Event Cym

8 Gorffennaf 6pm 8pm Gwarchodfa Natur Cwm Merddog

Ymunwch â Wild Heart Woodland Therapy am sesiwn ymwybyddiaeth ofalgar yn seiliedig ar natur fel rhan o Wythnos Natur Cymru.

Mae’r sesiwn Therapi dan y Coed AM DDIM ac yn eich gwahodd i arafu, anadlu’n ddwfn, ac ailgysylltu â’r tir... a chi’ch hun, a hynny wedi’ch amgylchynu gan harddwch Cymru.

Cadwch eich lle yma

Lleoliad: Glyn Ebwy

Arwynebeddau: Blaenau Gwent

Gorffenaf 08, 2026

Gweminar 'Cysylltu â byd natur yn y gwaith'

PHW webinar Cym

‘Ymunwch â Gweminar Rad ac Am Ddim Cymru Iach ar Waith: Cysylltu â byd natur yn y gwaith

Dydd Mercher 08 Gorffennaf 2026

Amser: 10:00 – 11:00

Platfform: Microsoft Teams

Ymunwch â'r weminar rad ac am ddim hon a lansiad Calendr Llesiant Natur yn y Gweithle a gyflwynir mewn cydweithrediad ag RSPB Cymru.

Cynnwys y weminar hon

  • Lansio Calendr Llesiant Natur yn y Gweithle - wedi'i gyd-gynllunio gan RSPB Cymru a Chymru Iach ar Waith yn dilyn gweithdai gyda chyflogwyr.
  • Manteision cysylltu â byd natur i weithleoedd
  • Cipolwg ar sut i ddefnyddio'r calendr yn eich gweithle chi
  • Sut i gael mynediad at adnoddau

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gael mynediad at ganllawiau arbenigol ac offer ymarferol i gefnogi eich sefydliad—yn rhad ac am ddim.

Pwy all gymryd rhan

Mae'r weminar hon ar gael i bob cyflogwr yng Nghymru, gan gynnwys rheolwyr, arweinwyr AD, rheolwyr pobl, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella’r ymgysylltiad â natur yn y gweithle.

Sesiwn Holi ac Ateb

Bydd amser i ofyn cwestiynau i RSPB Cymru a Chymru Iach ar Waith.

Gallwch gymryd rhan am ddim.

Y Siaradwyr:

  • Deanna Hughes, Cynghorydd Iechyd yn y Gweithle
  • David Llewellyn, Rheolwr Natur a Llesiant

Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â: iechydynygweithle@wales.nhs.uk.

Cofrestrwch yma erbyn dydd Mercher 01 Gorffennaf.’

Lleoliad: Ar-lein

Arwynebeddau: Pob maes

Gorffenaf 08, 2026

Cyfrinachau Cwm Idwal

7 Jul Cwm Idwal

10:00 - 15:30 Bethesda

Taith gerdded gylchol hamddenol, yn ymdrin â daeareg, amser dwfn, defnydd tir, enwau lleoedd Cymraeg, planhigion, a chwedlau.

Mae hwn yn ddigwyddiad dwyieithog ond os nad ydych yn siarad Cymraeg, peidiwch â phoeni – byddwch yn dal i ddysgu ychydig o eiriau ac yn cael amser hyfryd! Os ydych chi’n siarad Cymraeg, byddwch hefyd yn ei fwynhau.

Archebwch eich lle yma

Lleoliad: Bethesda

Arwynebeddau: Parc Cenedlaethol Eryri

Gorffenaf 07, 2026

Diwrnod Cofnodi yn Llanfechain

7 Gorffennaf, 10:30am – 4pm Llanfechain, Sir Drefaldwyn

Dewch draw i gofnodi'r bywyd gwyllt yn eich ardal leol, cwrdd â phobl o'r un anian a chysylltu â'r byd naturiol. Mae diwrnodau cofnodi yn rhoi cyfle i gofnodi'r holl fywyd gwyllt a welir ar y diwrnod i ddeall pa rywogaethau sy'n bresennol yn yr ardal.

Digwyddiad am ddim.

Manylion pellach a dolen archebu

Lleoliad: Llanfechain

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 07, 2026

Straeon i ddysgwyr Lefel Sylfaen

7 Jul Straeon Sylfaen SOCIALS

7 Gorffennaf Bala

17:00 - 18:30

Dewch i glywed chwedlau gwerin traddodiadol Cymreig mewn awyrgylch hynod o gefnogol gyda dysgwyr ar yr un lefel â chi. Cewch eich arwain yn dyner gan Fiona Collins – sef dysgwr Cymraeg y Flwyddyn yn 2019, chwedleuwraig ac awdures tair llyfr chwedlau gwerin yn y gyfres ‘Amdani’ oedd ar gyfer dysgwyr.

Mae’n gyfle gwych i ddefnyddio eich Cymraeg ac i ehangu eich geirfa, wrth gysylltu efo diwylliant traddodiadol Cymru.

Mae’r digwyddiad dwyieithog hwn am ddim, ac yn addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg ar Lefel Mynediad / Lefel Sylfaen.

Archebwch eich lle yma

Lleoliad: Bala

Arwynebeddau: Parc Cenedlaethol Eryri

Gorffenaf 07, 2026

Gweithredu afonydd Taf Bargoed

Gweithredu afonydd

Yr Wythnos Natur Cymru hon, rydym yn gweithredu dros afonydd Cymru!

Ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru a Cadwch Gymru'n Daclus, rydym yn cynnal digwyddiadau glanhau cymunedol, am ddim ac mae gwahoddiad i chi!

Dewch i gael effaith gadarnhaol gyda ni.

E-bostiwch aimee.webber@merthyr.gov.uk os hoffech gymryd rhan."

Lleoliad: Taf Bargoed

Arwynebeddau: Merthyr Tudful

Gorffenaf 07, 2026

Straeon i ddysgwyr Lefel Mynediad

7 Jul Straeon Mynediad

7 Gorffennaf Bala

15:00 - 16:30

Dewch i glywed chwedlau gwerin traddodiadol Cymreig mewn awyrgylch hynod o gefnogol gyda dysgwyr ar yr un lefel â chi. Cewch eich arwain yn dyner gan Fiona Collins – sef dysgwr Cymraeg y Flwyddyn yn 2019, chwedleuwraig ac awdures tair llyfr chwedlau gwerin yn y gyfres ‘Amdani’ oedd ar gyfer dysgwyr.

Mae’n gyfle gwych i ddefnyddio eich Cymraeg ac i ehangu eich geirfa, wrth gysylltu efo diwylliant traddodiadol Cymru.

Mae’r digwyddiad dwyieithog hwn am ddim, ac yn addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg ar Lefel Mynediad / Lefel Sylfaen.

Archebwch eich lle yma

Lleoliad: Bala

Arwynebeddau: Parc Cenedlaethol Eryri

Gorffenaf 07, 2026

Hyfforddiant Arolygu Gloÿnnod Byw a Gwyfynod yng Nghaerdydd

Caridd Uni Moth event

7 Gorffennaf 12:30–14:30 Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd

Dewch i ddathlu Wythnos Natur Cymru gyda ni, a darganfod y peillwyr lliwgar sy'n ffynnu yn ein mannau gwyrdd. 🦋🌼

Ymunwch â ni am daith dywys gyfeillgar i ddarganfod gloÿnnod byw a gwyfynod sy'n hedfan yn ystod y dydd. Cewch ddysgu sut i adnabod gwahanol rywogaethau, pam eu bod nhw'n bwysig ar gyfer cynefinoedd iach, a sut gallwch chi helpu ymdrechion cadwraeth drwy gofnodi bywyd gwyllt.

Bydd y sesiwn hon hefyd yn eich paratoi chi i gymryd rhan yn y Cyfrif Gloÿnnod Byw Mawr (17 Gorffennaf–9 Awst), arolwg mwyaf y DU o loÿnnod byw a gwyfynod sy'n hedfan yn ystod y dydd. Byddwch chi'n dysgu sgiliau adnabod ac arolygu syml a fydd yn helpu i gasglu data gwerthfawr at ddibenion cadwraeth.

Ni waeth a yw natur neu ecoleg o ddiddordeb i chi, neu a ydych chi’n syml am ddysgu rhagor am fywyd gwyllt lleol, dyma gyfle gwych i chi fod allan yn yr awyr agored yn meithrin sgiliau newydd. Does dim angen profiad, dim ond chwa o chwilfrydedd a dillad awyr agored addas.

Ar agor i staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, yn ogystal ag aelodau’r gymuned leol.
Dewch am y sesiwn gyfan neu galwch heibio cyhyd ag y gallwch chi.

Cofrestrwch i gadw eich lle yn rhad ac am ddim yma

Lleoliad: Caerdydd

Arwynebeddau: Caerdydd

Gorffenaf 07, 2026

Diwrnod Cadwraeth i Wirfoddolwyr, Aberllydan

Event Cym

6 Gorffennaf 10:30 Gwarchodfa Natur Gymunedol Pwll Slash

I ddathlu Wythnos Natur Cymru eleni, mae Gwarchodfa Natur Gymunedol Pwll Slash yn Aberllydan yn cydweithio â staff o Goleg Sir Benfro ar ddiwrnod cadwraeth i wirfoddolwyr er mwyn cynnal amrywiaeth o weithgareddau rheoli cynefinoedd a chynnal a chadw’r llwybrau pren.

Byddwn yn cwrdd yn yr ardal bicnic.

Digwyddiad am ddim. Dewch draw ar y diwrnod

Lleoliad: Aberllydan

Arwynebeddau: Sir Benfro

Gorffenaf 06, 2026

Grŵp Rhieni a Phlant Bach Natur Ladybirds (1-5 oed) Aberdâr

6 Gorffennaf 10am – 12pm

Mae’r rhain yn sesiynau hamddenol dan arweiniad plant lle mae plant a'u teuluoedd yn gallu archwilio ac ymgysylltu â'r gweithgareddau sydd i’w cael o amgylch ein coetir.

Seiliedig ar weithgareddau yng Nghoetir Cymunedol Cwm Dâr

Mae’n rhaid talu am y digwyddiad.

Er mwyn cael rhagor o fanylion ac i archebu, ewch i'r wefan

Lleoliad: Aberdâr

Arwynebeddau: Rhondda Cynon Taf

Gorffenaf 06, 2026

Gwenoliaid duon adeg machlud haul yn ardal Pen-clawdd

Swift event_Penclawdd_Cymraeg

6 Gorffennaf, 8.30pm

Byddwn yn cwrdd ym maes parcio Blaendraeth

Pen-clawdd, Pen-clawdd, Abertawe SA4 3YE
What3words: mainframe.cosmic.polygraph

Ymunwch â ni i ddathlu gwenoliaid duon gyda'r hwyr.

Gallwch glywed am brosiect achub gwenoliaid duon Abertawe

('Saving Swansea's Swifts') sydd â'r nod o warchod ein haderyn lleol poblogaidd sydd

mewn perygl. Gallwch hefyd ymuno â ni am dro adeg machlud haul i chwilio am wenoliaid duon (bydd yn dechrau tua 9.00pm).

  • Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Yn ddibynnol ar y tywydd

Does dim angen cadw lle - dewch draw a dewch â'ch teulu a'ch ffrindiau!

Os caiff y digwyddiad hwn ei ganslo, byddwn ni'n cyhoeddi'r newyddion drwy'r cyfryngau cymdeithasol:

https://www.instagram.com/swanseaswifts

https://www.facebook.com/WildAboutSwansea

Lleoliad: Penclawdd

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 06, 2026

Grŵp Addysg yn y Cartref Wildlings (3-16 oed) Aberdâr

6 Gorffennaf 1pm – 3:30pm

Mae ein sesiynau yn rhai hamddenol. Rydym yn treulio'r 15 munud cyntaf yn croesawu pawb ac yn cael diodydd poeth ger y tân gwersyll. Mae gennym weithgaredd strwythuredig a bydd pob sesiwn yn dechrau am 1:15pm i roi amser i bawb gyrraedd.

Ar ôl gorffen y gweithgaredd, byddwn yn treulio gweddill y sesiwn yn archwilio ac yn chwarae gyda'n gilydd ym myd natur.

Mae’n rhaid talu am y digwyddiad.

Er mwyn cael rhagor o fanylion ac i archebu, ewch i'r wefan

Lleoliad: Aberdâr

Arwynebeddau: Rhondda Cynon Taf

Gorffenaf 06, 2026

Taith gerdded blodau gwyllt yng Nghors Burfa

6 Gorffennaf 10am-12pm Cors Burfa, ger Llanandras

Yr haf yw'r amser perffaith i weld yr amrywiaeth eang o flodau gwyllt arbennig sy'n ffynnu yng Nghors Burfa. Mae tegeirianau brych y rhos a thegeirianau’r rhuddgoch yn ffynnu yn y ddôl wlyb ymhlith yr erwain, blodau’r llefrith, carpiog y gors a'r eglyn cyferbynddail.

Digwyddiad am ddim.

Manylion pellach a dolen archebu

Lleoliad: Presteigne

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 06, 2026

Saffari Glan Môr i Blant 2026, Gŵyr

Event Cym

5 Gorffennaf 2:00-4:00 Bae Bracelet

Hei blant! Hoffech chi chwilota am greaduriaid rhyfeddol y môr? Bydd yr arbenigwyr morol Emma a Winter yn mynd â chi ar antur drwy byllau glan môr!

Yn Wythnos Natur Cymru dewch gyda ni ar saffari glan môr gydag Emma Lowe a Winter Dotto i chwilota am y creaduriaid anhygoel sy’n cuddio yn y pyllau glan môr ar lanw isel a dan y creigiau a’r gwymon ym Mae Bracelet.

Efallai y dewch o hyd i grancod, sêr môr, anemonïau.... A wyddoch chi’r sbyngau byddwch chi’n defnyddio amser bath? Wel, mae yna sbyngau byw yn y môr o amgylch Abertawe!

Mae’r digwyddiad hwn yn fwyaf addas i unrhyw un 4 oed neu’n hŷn.

Bydd yr holl greaduriaid yn cael eu dychwelyd yn ofalus i’r lleoliad lle cawsant eu ffeindio.

Gofynnwn am roddion o £2 neu fwy gan bob oedolyn i helpu i dalu costau grŵp Abertawe Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Caiff plant ddod am ddim ond dylent fod yng nghwmni oedolyn.

I gael gwybod mwy ac i gadw lle, ewch i wefan Eventbrite

Trefnir y digwyddiad gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru

Lleoliad: Bae Bracelet

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 05, 2026

Taith gerdded gwenoliaid duon Caergybi

Event Cym

5 Gorffennaf 7:45pm - 10:00pm

Er gwaethaf dirywiad eang y gwenoliaid duon, mae Caergybi yn gartref i boblogaeth lwyddiannus mewn bocsys nythu ym Mhorthladd y Môr, ynghyd â llond llaw o safleoedd nythu eraill. Ymunwch â swyddog gwenoliaid duon Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Ben Stammers, ar ein taith gerdded flynyddol o amgylch y dref a dysgu am sut gallwn ni helpu'r adar anhygoel yma.

Am ragor o fanylion ac i archebu lle am ddim ewch i wefan.

Lleoliad: Caergybi

Arwynebeddau: Ynys Môn

Gorffenaf 05, 2026

Gwylio Blodau Gwyllt yn Sir Drefaldwyn

Event Cym

5 Gorffennaf 10:00–13:00

Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn yn y Dolydd Gobaith am gyflwyniad ymarferol i arolygu glaswelltir.

P'un a ydych chi'n hollol newydd i’r maes neu’n meddu ar rywfaint o wybodaeth fotanegol yn barod, bydd y sesiwn hon yn dangos i chi sut i asesu cyflwr glaswelltir gan ddefnyddio technegau arolygu syml. Byddwch chi'n dysgu adnabod rhywogaethau dangosydd positif a negyddol allweddol, ac yn ymarfer eu cofnodi.

Dyma sesiwn gyfeillgar ac ymarferol gyda digon o arweiniad drwyddi draw. Bydd yn gyfle gwych i chi feithrin hyder wrth adnabod planhigion, a chyfrannu at waith monitro go iawn ym maes cadwraeth.

Mae’n rhaid cadw lle ymlaen llaw.

Am ragor o fanylion ac i gadw lle, dilynwch y ddolen

Lleoliad: Dolydd Gobaith

Arwynebeddau: Powys, Sir Drefaldwyn

Gorffenaf 05, 2026

Tegeirianau a glöynnod byw Wrecsam

Event Cym

5 Gorffennaf 2:00pm - 4:00pm

Mae mis Gorffennaf yn dymor brig ar gyfer y tegeirianau a'r glöynnod byw, perffaith ar gyfer archwilio yn Chwarel y Mwynglawdd! Mae'r warchodfa natur yma’n gartref i 14 o rywogaethau o degeirianau ac efallai y byddwn ni’n gweld 9 ohonyn nhw yn y digwyddiad yma. Mae posibilrwydd hefyd o weld y tingoch a llawer o löynnod byw!

Nid oes angen cofrestru, dim ond troi fynnu.

Trefnwyd y digwyddiad hyn gan Gangen Wirfoddol Wrecsam o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Lleoliad: Wrecsam

Arwynebeddau: Wrecsam

Gorffenaf 05, 2026

Bywyd Gwyllt Gwaith Glo Pentremawr – Taith Dywys

5 Gorffennaf

10:30-12:30

Ymunwch â Glo i Natur CIC ar gyfer taith natur dywys yn Hen Waith Glo Pentremawr ym Mhontyberem, fel rhan o Wythnos Natur Cymru. Bydd y daith gerdded hon yn archwilio sut mae natur wedi adennill y safle hwn a oedd unwaith yn ddiwydiannol, gan ei drawsnewid yn hafan i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.

Darganfyddwch yr amrywiaeth gyfoethog o blanhigion, pryfed a bywyd gwyllt arall sydd bellach yn ffynnu ar hen dirwedd y pwll glo a dysgwch pam y gall safleoedd ôl-ddiwydiannol fel hyn fod mor bwysig i fioamrywiaeth. O flodau gwyllt lliwgar a phryfed peillio i rywogaethau diddorol eraill, mae digon i'w weld a'i ddysgu ar hyd y ffordd.

Cyfarfod wrth fynedfa'r safle ar Heol Capel Ifan (Y B4317): ///crust.sailors.divisible

Sylwch: Parciwch ym maes parcio Maes Hamdden Pontyberem – taith gerdded fer o'r safle ///riches.grant.burglars

#WythnosNaturCymru

Lleoliad: Pontyberem

Arwynebeddau: Sir Gaerfyrddin

Gorffenaf 05, 2026

Taith Cerdded Hygyrch

5 Jul Story Walk

5th Gorffennaf

13:00-15:00

Parcio a Thalu Pont-y-Pair, Betws-Y-Coed LL24 0BB

Ymunwch â ni ar daith stori hamddenol, hygyrch ar hyd y llwybr cerdded ym Metws-y-Coed, gan rannu llên gwerin o’r Dyffryn Conwy, wedi’i harwain gan y storïwr ac awdur Fiona Collins. Bydd amser i ni gael coffi/cacen/hufen iâ a sgwrs hefyd.

Archebwch eich lle am ddim yma

Lleoliad: Betws-Y-Coed

Arwynebeddau: Parc Cenedlaethol Eryri

Gorffenaf 05, 2026

Archwilio pyllau Coetir Cymunedol y Crwys

Pond dipping_Cymraeg

5 Gorffennaf,10.00am - 12.00pm

Ymunwch â Nature on Your Doorstep am sesiwn archwilio pyllau ymarferol yng Nghoetir Cymunedol y Crwys, gan gymryd cip ar y byd difyr o dan arwyneb y dŵr yn ystod Wythnos Natur Cymru.

Yn y sesiwn hamddenol hon, byddwch yn defnyddio rhwydi a hambyrddau i chwilio'n ofalus am y creaduriaid sy'n byw ym mhwll y coetir, o larfâu a chwilod dŵr i fadfallod dŵr o bosib. Dyma gyfle perffaith i blant, teuluoedd ac unrhyw un sy'n chwilfrydig am fyd natur ddysgu am gynefinoedd pyllau, bod yn agos at fywyd gwyllt dŵr croyw, a magu hyder wrth chwilio am greaduriaid a nodi'r hyn rydych yn dod o hyd iddo.

  • Rhaid i blant (5 oed ac yn hŷn yw'r argymhelliad) fod yng nghwmni oedolyn
  • Gwisgwch ddillad addas i'r awyr agored ac esgidiau cadarn, gan y gall y tir fod yn anwastad neu'n fwdlyd
  • Rydym yn argymell y dylech ddod â dŵr ac eli haul os bydd y tywydd yn gynnes
  • Yn amodol ar y tywydd

Man cyfarfod: Coetir Cymunedol y Crwys, Tirmynydd Road, Y Crwys, Abertawe SA4 3PU
What3words: squeaks.riverbank.hurt

Rhaid cadw lle gan fod nifer cyfyngedig ar gael.

Lleoliad: Swansea

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 05, 2026

Casglu sbwriel Cyffordd Llandudno

Event Cym

5 Gorffennaf 10:00am - 11:30am

Yn dangos ein bod ni'n malio! Gwneud cyfraniad gweithredol a gweladwy at lanhau ein hamgylchedd a dangos ei fod yn bwysig.

Dewch i ymuno â Changen Dyffryn Conwy o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a’n gwirfoddolwyr rheolaidd ni ar gyfer ein sesiwn casglu sbwriel misol yng Nghyffordd Llandudno.

Nid oes angen cofrestru, dim ond troi fynnu.

Trefnir y digwyddiad gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Lleoliad: Cyffordd Llandudno

Arwynebeddau: Conwy

Gorffenaf 05, 2026

Taith Gerdded Natur a Bore Coffi gyda Greenpeace Caerdydd

Event Cym

5 Gorffennaf 10:00 Parc Bute

Taith gerdded natur ym Mharc Bute gyda choffi a sgwrs yng Nghaffi Secret Garden. Cyfle i ddysgu am yr ardal werdd yng nghanol ein dinas a chyfarfod eraill sy'n poeni am warchod y byd naturiol a sefyll dros gyfiawnder cymdeithasol. Digwyddiad addas i deuluoedd ac mae croeso i’n ffrindiau blewog hefyd ymuno.

Cyfarfod yng Nghaffi Secret Garden, Parc Bute.

Digwyddiad am ddim. Agored i bawb

Rhagor o wybodaeth ar Instagram

Lleoliad: Caerdydd

Arwynebeddau: Caerdydd

Gorffenaf 05, 2026

Diwrnod Hwyl Coetiroedd Cymunedol Nant Fawr

Diwrnod Hwyl Coetiroedd Cymunedol Nant Fawr

5 Gorffennaf 11am - 3pm Cyncoed

Cynhelir Diwrnod Hwyl blynyddol Cyfeillion Coetiroedd Cymunedol Nant Fawr ym Maes Parcio'r Hen Gronfa Ddŵr, oddi ar Heol Rhydypennau, Cyncoed. Mae'r lôn fynediad rhwng 127 a 129 Heol Rhydypennau.

Bydd gweithgareddau i blant, gan gynnwys edrych ar greaduriaid y nant trwy ficrosgop, adnabod gwyfynod drwy edrych ar wyfynod go iawn, gwneud gloÿnnod byw â phapur sidan, adnabod dail, dysgu am y pryfed a'r ymlusgiaid sy'n byw yn ardal Nant Fawr a dilyn llwybrau.

Does dim rhaid i chi gymryd rhan mewn unrhyw beth, gallwch ddod draw dim ond i gael sgwrs!

Lleoliad: Cyncoed

Arwynebeddau: Caerdydd

Gorffenaf 05, 2026

Diwrnod Cofnodwyr Castell Gwydir

4 Gorffennaf 10:00-16:00

Mae Castell Gwydir yn eich gwahodd chi i Ddiwrnod Cofnodwyr yn ei erddi a'i ddolydd bywyd gwyllt. Mae'r 15 erw o ddôl ar lethr, yn llawn Cribell Felen ac wedi'u hamgylchynu gan waliau cerrig a chlytiau o brysgwydd. Mae'r cynefinoedd yma’n cynnig cyfoeth o gyfleoedd i gofnodi yn y safle yma sydd wedi’i dangofnodi. Mae'r Gerddi eu hunain yn darparu cyfleoedd cofnodi pellach, fel pyllau, hen adeiladau a phlannu ffurfiol.

Mae digon o le parcio yn y Gerddi a'r Dolydd ac mae toiledau ar gael yn y Castell. Bydd diodydd poeth ar gael, ond dewch â phecyn bwyd i ginio. Mae Castell Gwydir wedi cytuno'n garedig i beidio â gofyn am ffi fynediad gan gofnodwyr ar y diwrnod.

Archebwch eich lle am ddim yma

Lleoliad: Castell Gwydir

Arwynebeddau: Conwy

Gorffenaf 04, 2026

Bywyd gwyllt glaswelltiroedd Brynlliw: taith dywys

Wildlife of Brynlliw grasslands_Cymraeg

4 Gorffennaf, Sesiynau am 10.00am - 12.00pm; ac 1pm-3pm

Dewch i ddathlu Wythnos Natur Cymru ar daith dywys i ddarganfod natur yng Nglaswelltiroedd Brynlliw gyda Glo i Natur CIC. Archwiliwch sut mae natur wedi adennill yr hen domen lo hon, gan greu hafan i amrywiaeth eang o blanhigion, pryfed a chreaduriaid gwyllt eraill.

Dewch i ddysgu am y rhywogaethau sy'n ffynnu yn y glaswelltiroedd hyn sydd wedi'u hadfer, a pham mae'r ardaloedd hyn yn hollbwysig i fioamrywiaeth. O flodau gwyllt ac ieir bach yr haf i chwilod a pheillwyr, mae digon o bethau i'w darganfod ar gyfer pobl o bob oed sy'n dwlu ar fywyd gwyllt.

Dyma gyfle perffaith i fwynhau'r awyr agored, archwilio safle o bwys hanesyddol, a darganfod trysorau naturiol cudd tirweddau ôl-ddiwydiannol Abertawe.

Croeso i bawb.

Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

Man cyfarfod: ar hyd Station Road, Pengelli, Abertawe SA4 4GY

What3words: motivates.trucked.lend

Rhaid cadw lle

Lleoliad: Swansea

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 04, 2026

Dadorchuddio Byd Natur

Nature Unearthed Cym

Parc Gwledig y Gnoll, Castell-nedd

4 Gorffennaf 11:00-16:00

Darganfyddwch ochr wyllt Castell-nedd Port Talbot yn Nature Unearthed, dathliad llawn llawenydd o fywyd gwyllt lleol a rhyfeddodau naturiol, a gyflwynir gan Bartneriaeth Natur Leol Castell-nedd Port Talbot.

Ymunwch â ni ym Mharc Gwledig hyfryd y Gnoll wrth i ni lansio Wythnos Natur Cymru gyda diwrnod llawn gweithgareddau ymarferol i bob oed.

Manylion pellach

Lleoliad: Castell-nedd

Arwynebeddau: Nedd Port Talbot

Gorffenaf 04, 2026

Dolau – Diwrnod Fferm i’r Gymuned, Llansteffan

Glasbren Event

4 Gorffennaf 10:00–16:00 Parc yr Arglwydd, Llansteffan

I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Dolydd, ac i gyd-fynd ag Wythnos Natur Cymru, byddwn ni’n ymgynnull i ddathlu'r amrywiaeth yn ein dolydd glaswelltir yma ar fferm Parc yr Arglwydd. Byddwn ni’n dysgu popeth sydd i’w wybod am y bywyd gwyllt sydd yma ar y fferm. Byddwn ni hefyd yn gwneud rhywfaint o waith ymarferol gyda’r pladur ac yn gwneud gwair, gan ddysgu am reoli dolydd yn gynaliadwy, a mynd am dro ar draws y tir gydag ecolegwyr lleol a'n gweithgor Natur a Bioamrywiaeth, sy'n gyfrifol am fonitro bywyd gwyllt yn barhaus yma ar y fferm.

Gallwch chi gadw eich lle yn rhad ac am ddim yma

Lleoliad: Llansteffan

Arwynebeddau: Sir Gaerfyrddin

Gorffenaf 04, 2026

Sesiwn Ymwybyddiaeth Bioamrywiaeth yn Chickenwood, y Barri

Event Cym

4 Gorffennaf 10 AM - 11:30 AM

Ymunwch â ni i ddysgu am y gwahanol fflora a ffawna yn Chickenwood.

Mewn partneriaeth â Friends of Chickenwood ymunwch â Phartneriaeth Natur y Fro a Nature on Your Doorstep am daith dywys am ddim. Dysgwch am y gwahanol fflora a ffawna yn Chickenwood. Ar y daith gerdded hon, byddwn yn archwilio'r hafan bach hwn ar gyfer byd natur ac yn cofnodi'r amrywiaeth o rywogaethau a welwn.

Archebwch eich lle yn rhad ac am ddim yma

Lleoliad: y Barri

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 04, 2026

Gŵyl Natur Caerdydd

Nature festival Cym

4 Gorffennaf Caeau Llandaf

Mae Wythnos Natur Cymru yn dathlu popeth am natur yng Nghymru. Yn y digwyddiad hwn bydd gennym weithgareddau amrywiol i bob oedran gymryd rhan ynddynt a dod ychydig yn agosach at natur. Mae'r holl weithgareddau a’r stondinau AM DDIM.

Beth i'w ddisgwyl ar y diwrnod

- Stondinau gwahanol yn cynnal gweithgareddau gwahanol gan gynnwys;

- Teithiau tywys

- Stondinau natur rhyngweithiol

- Gweithgareddau i blant

- Gweithgareddau crefft i oedolion

Lleoliad: Caerdydd

Arwynebeddau: Caerdydd

Gorffenaf 04, 2026

Diwrnod natur i'r teulu ger Llyn Llangors

Event Cym

Dewch i ddarganfod bywyd gwyllt Llyn Llangors!

4 Gorffennaf 10:00am - 2:00pm

Tir Comin Llangors, Llangors

Dewch i ymuno â'r Bartneriaeth Natur Leol am ddathliad hamddenol o’r bywyd natur unigryw yn Llyn Llangors. Digwyddiad perffaith i deuluoedd, ymwelwyr a thrigolion lleol.

Bydd y gweithgareddau’n cynnwys:

  • Teithiau Cerdded Tywysedig
  • Helfeydd Natur
  • Chwilota mewn Pyllau
  • Cadw Dyddiadur Natur

Cofiwch alw heibio a chael pecyn cofnodi bywyd gwyllt am ddim!

Digwyddiad am ddim. Dewch draw ar y diwrnod!

Lleoliad: Llyn Llangors

Arwynebeddau: Bannau Brycheiniog

Gorffenaf 04, 2026

Cysylltiadau Glaswelltir: Llesiant a Darganfod Natur Blaenrhondda

Cysylltiadau Glaswelltir

Ymunwch â ni ym Mharc Blaenrhondda ar 4 Gorffennaf, 2–4pm am brynhawn o natur, creadigrwydd a llesiant!

  • Crefftau natur a gwaith coed gwyrdd
  • Gweithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar
  • Archwilio glaswelltir

Dewch i ddathlu Wythnos Natur Cymru gyda Grow Rhondda, Cenhedlaeth Rhondda, Croeso i’n Coedwigoedd a phartneriaid.

Digwyddiad am Ddim! Dim angen archebu.

Lleoliad: Blaenrhondda Park

Arwynebeddau: Rhondda Cynon Taf

Gorffenaf 04, 2026

Ioga ym Myd Natur - Maenor Llanyrafon

Event Cym

4 Gorffennaf 2 sesiwn. 10:00- 11:00 ac 11:30-12:30

Ydych chi erioed wedi profi ioga yn yr awyr agored? Mae Yoga For Health Cymru yn cyflwyno ioga yng nghyffiniau tawel Maenor Llanyrafon i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Dolydd, sy’n rhan o Wythnos Natur Cymru. Drwy’r sesiwn cewch ddod yn nes i fyd natur, wrth ymarfer corff ac ymdawelu ymhlith y blodau gwyllt, y pryfed peillio a seiniau pêr yr adar.

Sesiwn 10:00-11:00 - Am ragor o fanylion ac i archebu lle am ddim ewch i wefan Eventbrite

Sesiwn 11:30-12:30 - Am ragor o fanylion ac i archebu lle am ddim ewch i wefan Eventbrite

Lleoliad: Cwmbran

Arwynebeddau: Torfaen

Gorffenaf 04, 2026

Natur ar Badl-fwrdd

4 Jul Paddleboard

4 Gorffennaf

Llyn Cellyn, Bala

Ymunwch â Lucy am brofiad padl-fyrddio unigryw, yn archwilio harddwch a bywyd gwyllt Llyn Celyn o’r dŵr. Mae’r sesiynau hamddenol hyn yn cyfuno padl-fyrddio ysgafn gyda chyfleoedd i arafu, cysylltu â natur a phrofi’r dirwedd o safbwynt gwahanol.

Os ydych yn hollol newydd i badl-fyrddio neu eisoes â rhywfaint o brofiad, mae’r sesiwn hon wedi’i chynllunio i fod yn groesawgar, cefnogol a phleserus.

Sesiwn y bore: 10:00 – 12:30 (cyrhaeddwch 10 munud cyn dechrau’r sesiwn)

Sesiwn prynhawn: 13:30 – 16:00 (cyrhaeddwch 10 munud cyn dechrau’r sesiwn)

Archebwch eich lle yma

Lleoliad: Y Bala

Arwynebeddau:

Gorffenaf 04, 2026

Bioblitz a Rhannu Gwybodaeth Natur 4ydd Gorffennaf

Bioblitz  Rhannu Gwybodaeth Natur

08:00 – 14:00Machynlleth

Ar ddydd Sadwrn y 4ydd o Orffennaf rydym yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn natur, bywyd gwyllt, ecoleg, neu unrhyw beth rhyngddynt i ymuno â ni ym Mwlch Corog am ddiwrnod o rannu gwybodaeth.

bore gyda thaith gerdded adar dan arweiniad Ben Porter, Swyddog Natur Tir Canol, a’i feicroffon parabolig anhygoel. Bydd angen i ni wybod faint o bobl i’w disgwyl ar gyfer y daith gerdded fore gynnar hon, felly os ydych chi’n bwriadu ymuno, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost atom yn post@coetiranian.org. Diolch!

I’r rhai ohonom sy’n well ganddynt aros yn y gwely ychydig yn hirach, byddwn yn dechrau prif ran y dydd am 10 y bore gyda diodydd poeth a chacennau o gwmpas y tân, a chyflwyniad i gofnodi bywyd gwyllt – y broses bwysig o gofnodi pa rywogaethau sy’n bresennol mewn gwahanol ardaloedd – gyda Carys o Ganolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru.

Yna, byddwn yn mynd ati i ymweld â gwahanol rannau o’r tir, dan arweiniad staff ac ecolegwyr arbenigol lleol, gan gofnodi unrhyw rywogaethau diddorol a ddarganfyddwn wrth fynd, a dysgu o arbenigeddau a diddordebau ein gilydd.

Mwy o wybodaeth

Lleoliad: Machynlleth

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 04, 2026

Diwrnod i’r teulu yn Chwarel y Mwynglawdd: agor llwybrau newydd yn swyddogol! Wrecsam

Event Cym

4 Gorffennaf 11:00am - 3:00pm

Ymunwch ag YNGC ac Ymddiriedolaeth Chwarel y Mwynglawdd i ddatgelu tri llwybr cerdded newydd yn swyddogol!

Am ragor o fanylion ac i archebu lle am ddim ewch i wefan.

Trefnir y digwyddiad gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Lleoliad: Wrecsam

Arwynebeddau: Wrecsam

Gorffenaf 04, 2026

Diwrnod Natur - natur ar garreg eich drws Parc Eirias

Conwy Bionet Nature Day 2026

4 Gorffennaf 11-3 pm Parc Eirias, Bae Colwyn LL29 7SP

Bydd y diwrnod yn amlygu ac yn dathlu byd natur yn ein mannau gwyrdd lleol / ar ein stepen drws; y manteision gwych o ran iechyd a lles a ddaw o gysylltu â natur a helpu i gyfeirio pobl at sefydliadau/grwpiau y gallent gymryd rhan ynddynt.

Bydd y diwrnod yn gymysgedd o stondinau, gweithdai, a gweithgareddau diddorol eraill i'r teulu cyfan sy'n gysylltiedig â'n gwaith gyda natur a chymunedau, gan gynnwys rhoddion a gweithdai dan arweiniad artistiaid.

Digwyddiad rhad ac am ddim

Lleoliad: Colwyn Bay

Arwynebeddau: Conwy

Gorffenaf 04, 2026

Slash pond maintenance day Broad Haven

June 28th 10:30

The Support the Boardwalk volunteer group will be having a family-friendly TLC day in the Reserve to repair our bug hotels and remove some invasive non-native Winter heliotrope.

Meet at the picnic area.

Free event. Turn up on the day

Lleoliad: Broad Haven

Arwynebeddau:

Mehefin 28, 2026

Y Troellwr Mawr a Synau’r Nos yn RSPB Ynys Hir

25 Mehefin 20:30-22:30

Mae'r cyfnos yn amser hudolus i archwilio mawnog a rhostir RSPB Ynys-hir. Crwydrwch oddi ar y llwybr arferol i chwilio am fywyd gwyllt arbennig y rhostir, gan gynnwys y Troellwr Bach a Chlochdar y Cerrig, yna gwrandewch am gân fecanyddol y Troellwr Mawr wrth i'r haul fachlud, cyn i'n tywyswyr eich cyflwyno i synau dirgel dirifedi’r nos.

Bydd rhaid talu am y digwyddiad hwn.

Rhagor o fanylion

Lleoliad: RSPB Ynys Hir

Arwynebeddau: Ceredigion

Mehefin 25, 2026

Cleisio Rhedyn i Ehangu Cynefin Pryfed Tân Cwm Elan

12 Mehefin 10:00-13:00

Mae cynefin pryfed tân neu fagïod Cwm Elan yn dirywio ac mae’r poblogaethau lleol dan fygythiad. Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Cwm Elan i gynnal gwaith cleisio rhedyn a rheoli prysgwydd er mwyn helpu i gynyddu cynefin y magïod.

Darperir hyfforddiant. Nid oes angen unrhyw brofiad.

Er mwyn cael mwy o fanylion ac i gofrestru dilynwch y ddolen hon

Lleoliad: Cwm Elan

Arwynebeddau: Powys

Mehefin 12, 2026

Taith Gerdded Wythnos Natur Cymru yng Nghorsydd Teifi

9 Gorffennaf 1:30pm–3:00pm Cilgerran

Fel rhan o Wythnos Natur Cymru, beth am ddod i fwynhau gweld rhywfaint o'r cynefinoedd a'r bywyd gwyllt ar y warchodfa natur yng nghwmni’r Swyddog Pobl a Bywyd Gwyllt, Gretchen Taylor.

Dyma daith gerdded dywys sy’n rhad ac am ddim, wedi'i hanelu at oedolion ond mae croeso hefyd i blant a chŵn sy'n ymddwyn yn dda ar dennyn. Byddwn yn archwilio gwahanol gynefinoedd a llwybrau, gan drafod yr hyn y byddwn yn ei weld a’i glywed. Y prif nod yw gwerthfawrogi bod ym myd natur a sgwrsio'n anffurfiol am y cynefinoedd a'r bywyd gwyllt sydd yma. Byddwch chi hefyd yn cael clywed am y newidiadau fydd yn cael eu gwneud i'r ganolfan ymwelwyr yn y dyfodol agos.

E-bostiwch g.taylor@welshwildlife.org i drefnu lle.

Digwyddiad wedi'i drefnu gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru

Lleoliad: Cilgerran

Arwynebeddau: Sir Benfro

Mehefin 11, 2026  - Gorffenaf 09, 2026

Pori ar y Creigiau – Digwyddiad Lansio

8 Mehefin 2:00pm - 4:00pm Clwb Golff Llanymynech

Ymunwch â ni i ddysgu am y prosiect Pori ar y Creigiau. Partneriaeth newydd yw hon rhwng Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, Clwb Golff Llanymynech, menter pori cadwraeth Pori Bach a'r arbenigwr gloÿnnod byw lleol Dr Simon Spencer sy’n cydweithio i adfer glaswelltiroedd prin sy'n llawn bywyd gwyllt ar Greigiau Llanymynech i'w hen ysblander.

Archebu yn hanfodol

Rhagor o fanylion

Lleoliad: Llanymynech

Arwynebeddau: Powys

Mehefin 08, 2026

Arolwg Gloÿnnod Byw Britheg y Gors Ystradgynlais

8 Mehefin 11:00-13:00

Mae glöyn byw Britheg y Gors yn un o'n rhywogaethau mwyaf trawiadol ond yn anffodus mae’n dirywio hefyd. Ymunwch â Sarah, Swyddog Ymgysylltu Tîm Gwyllt, i weld y gloÿnnod byw rhyfeddol hyn, dysgu am eu hecoleg a sut allwch chi helpu i amddiffyn y rhywogaeth fregus hon.

Rhagor o fanylion

Lleoliad: Ystradgynlais

Arwynebeddau: Powys

Mehefin 08, 2026

Digwyddiad Bioblitz events ym Mlaenau Gwent

Cymraeg

10:00 - 13:00

Dewch draw i ddathlu ein mynwentydd ym Mlaenau Gwent!

Dydd Sadwrn 6 Mehefin: Mynwent Glynebwy, Glynebwy

Dydd Llun 8 Mehefin: Mynwent Cefn Golau, Tredegar

Dydd Mercher 10fed Mehefin: Eglwys Sant Illtud, Aberbîg

Mae'r holl ddigwyddiadau yn digwydd rhwng 10:00 a 13:00 ac maen nhw i gyd AM DDIM ac yn agored i bob oedran a gallu.

Digwyddiad Wythnos Caru eich Mynwent dan arweiniad ein ffrindiau yn Glo i Natur CIC.

Lleoliad: Blaenau Gwent

Arwynebeddau: Blaenau Gwent

Mehefin 06, 2026  - Mehefin 10, 2026

Cystadleuaeth Gwaith Celf i ddathlu natur a Merthyr Tudful

MTBC artwork competion Cym

Galw ar bob artist ifanc!

Er mwyn dathlu Wythnos Natur Cymru, rydym yn lansio tair cystadleuaeth gyffrous i ffotograffwyr, artistiaid a phlant sy’n mwynhau creu sydd wedi'u hysbrydoli gan natur a bywyd gwyllt Merthyr Tudful!

Dyma eich cyfle chi i archwilio byd rhyfeddol natur a'i grisialu drwy gyfrwng celf. Ceir gwobrau ardderchog. Pob lwc! #

*Daw'r gystadleuaeth i ben ar 1 Gorffennaf 2026*

Er mwyn cymryd rhan, bydd angen i chi dderbyn telerau ac amodau'r gystadleuaeth.

Telerau ac Amodau Cystadleuaeth Gwaith Celf: https://forms.office.com/e/MbeBpxAPGd

Lleoliad: Merthyr Tudful

Arwynebeddau: Merthyr Tudful

Mehefin 03, 2026  - Gorffenaf 08, 2026

Cystadleuaeth Artistiaid Bach i ddathlu natur a Merthyr Tudful

MTBC little artwork competion Cym

Galw ar bob artist ifanc sy'n dod i'r amlwg! Er mwyn dathlu Wythnos Natur Cymru, rydym yn lansio tair cystadleuaeth gyffrous i ffotograffwyr, artistiaid a phlant sy’n mwynhau creu sydd wedi'u hysbrydoli gan natur a bywyd gwyllt Merthyr Tudful!

Dyma eich cyfle chi i archwilio byd rhyfeddol natur a'i grisialu drwy gyfrwng celf. Ceir gwobrau ardderchog. Pob lwc! #

*Daw'r gystadleuaeth i ben ar 1 Gorffennaf 2026*

Er mwyn cymryd rhan, bydd angen i chi dderbyn telerau ac amodau'r gystadleuaeth.

Telerau ac Amodau Cystadleuaeth Artistiaid Bach : https://forms.office.com/e/tBbu0Ugnwq

Lleoliad: Merthyr Tudful

Arwynebeddau: Merthyr Tudful

Mehefin 03, 2026  - Gorffenaf 08, 2026

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth i ddathlu natur a Merthyr Tudful

MTBC photo competion Cym

Galw ar bob ffotograffydd ifanc! Er mwyn dathlu Wythnos Natur Cymru, rydym yn lansio tair cystadleuaeth gyffrous i ffotograffwyr, artistiaid a phlant sy’n mwynhau creu sydd wedi'u hysbrydoli gan natur a bywyd gwyllt Merthyr Tudful!

Dyma eich cyfle chi i archwilio byd rhyfeddol natur a'i grisialu drwy gyfrwng celf. Ceir gwobrau ardderchog. Pob lwc! #

*Daw'r gystadleuaeth i ben ar 1 Gorffennaf 2026*

Er mwyn cymryd rhan, bydd angen i chi dderbyn telerau ac amodau'r gystadleuaeth.

Telerau ac Amodau'r Gystadleuaeth Ffotograffiaeth: https://forms.office.com/e/Q3BaUhVSPy

Lleoliad: Merthyr Tudful

Arwynebeddau: Merthyr Tudful

Mehefin 02, 2026  - Gorffenaf 08, 2026

Diwrnod Mudo Pysgod y Byd yn Gilfach

28 Mai 10:00yb - 2:00yp Gwarchodfa Natur Gilfach
Ymunwch â ni yng Ngwarchodfa Natur Gilfach am ddiwrnod o ddathlu teithiau anhygoel pysgod mudol. Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei gynnal gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed mewn partneriaeth â Phrosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf, yn cynnig gweithgareddau i bob oedran.
Rhagor o fanylion

Lleoliad: Gwarchodfa Natur Gilfach

Arwynebeddau: Powys

Mai 28, 2026

Sylwi ar adar gyda Branwen yn Ynys Dinas

23 Mai 10:00 - 15:00

Gan ganolbwyntio ar adar môr fel llursod, gwylogod ac adar drycin y graig, bydd y daith gerdded gyfan hon yn 3-4 milltir wedi’i graddio dros dir garw ac yn cynnwys llethrau serth. Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim ac nid oes angen i chi fynychu'r digwyddiad cyfan. Dewch am y diwrnod neu galwch draw am awr neu ddwy. Does dim angen archebu.
Rhagor o fanylion

Lleoliad: Ynys Dinas

Arwynebeddau: Sir Benfro

Mai 23, 2026

Diwrnod Cofnodwyr Cwm Penmachno

10:00-16:00

Bydd Cofnod yn hwyluso diwrnod i gofnodi bywyd gwyllt ar y safle preifat yma. Mae trapio gwyfynod wedi digwydd ar y safle, ond mae'r perchnogion yn awyddus iawn i ddarganfod pa rywogaethau eraill sy'n byw ar eu tir. Cynefin Dôl wlyb a lled-wlyb / porfa frwyn gydag ardaloedd helaeth o Polytrichum a Sphagnum gyda theimlad ucheldirol. Amodau cerdded Esgidiau cerdded neu efallai welingtyns, yn dibynnu ar faint o law sydd wedi bod. Mae'r safle'n gryno ac ar lethr ysgafn. Rheolaeth bresennol Pori dwysedd isel iawn gan geffylau. Cyfleusterau Dewch â phecyn bwyd i ginio, ond mae'r perchnogion wedi addo cawl! Toiledau ar gael ar y safle. Parcio cyfyngedig iawn ar y safle, ond mae digon ar gael yn y chwarel lechi gerllaw (5 munud o waith cerdded).

Lleoliad: Cwm Penmachno

Arwynebeddau: Conwy

Mai 13, 2026

Taith Gerdded Coetir y Gwanwyn Y Barri

Taith Gerdded Coetir y Gwanwyn

Dydd Gwener 17 Ebrill: 13:30 i 15:30, Coedwig Pencoedtre, Y Barri

Mewn partneriaeth â Cyfeillion Coed Pencoedtre, Partneriaeth Natur y Fro a Natur Hud, ymunwch â ni am daith dywys y gwanwyn i archwilio Coedwig Pencoedtre wrth i'r coetir ddod yn fyw unwaith eto.

Bydd y daith hamddenol brynhawn hon yn canolbwyntio ar yr hyn i'w weld (a'i glywed) yn y goedwig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, o garpedi clychau'r gog ac arogl craf y geifr (garlleg gwyllt) i gân adar, twf dail ffres a'r manylion bach sy'n aml yn mynd heb sylw.

Yn addas i oedolion a theuluoedd â phlant hŷn sy'n mwynhau cerdded ysgafn.

Cadwch eich tocyn am ddim yma!

Lleoliad: Y Barri

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Ebrill 26, 2026

Rhinos (a wenoliaid duon) yng Nghaerwedros!

Rhinos (a wenoliaid duon) yng Nghaerwedros!

Bob haf, mae gwenoliaid duon yn dychwelyd i Gaerwedros ac ar draws Cymru, gan lenwi’r awyr gyda’u sgrechian eiconig a’u cyflymder. Ond mae’r adar poblogaidd hyn mewn trafferthion. Dros y degawdau diwethaf, mae niferoedd gwenoliaid duon wedi gostwng yn sydyn, yn bennaf oherwydd colli mannau nythu mewn adeiladau.

Y newyddion da? Mae cymunedau’n camu i fyny. Yng Ngheredigion, mae grwpiau lleol – gan gynnwys ein Grŵp Swift Caerwedros – yn cymryd camau i amddiffyn ac adfer cynefinoedd nythu.

Mae eleni hefyd yn nodi 75 mlynedd ers sefydlu Neuadd Goffa Caerwedros, ac mae’r pentref yn dathlu mewn steil. Mae ‘Hafod y Wennol’ – tŵr nythu gwenoliaid duon newydd sbon — y cyntaf yng Ngheredigion — wedi’i osod, sy’n cynnwys 16 blwch nythu a 24 cwpan nythu ar gyfer gwenoliaid y bondo. Bydd yr ychwanegiad gwych hwn yn helpu i sicrhau cytrefi presennol o’r ddwy rywogaeth yng nghanol y gymuned.

Diolch yn fawr iawn i Bartneriaeth Natur Ceredigion am ariannu’r prosiect, ac i Lester o Peak Boxes am adeiladu a gosod y tŵr.

Eisiau cymryd rhan? Cadwch ddydd Sadwrn 25 Ebrill yn rhydd am ddiwrnod llawn gweithgareddau hwyliog sy’n dathlu gwenoliaid … a rhinos hefyd!

Siaradwyr

Edward Mayer – Sylfaenydd Swift Conservation ac arbenigwr y DU ar gwenoliaid duon

Jack Gradidge – Swyddog Cadwraeth Fferm Folly – yr arbenigwr lleol ar bopeth blewog ac Affricanaidd!

Lleoliad: Caerwedros

Arwynebeddau: Ceredigion

Ebrill 25, 2026

Her Natur y Ddinas 2026: Abertawe

Her Natur y Ddinas 2026: Abertawe’n dychwelyd y gwanwyn hwn 24-27 Ebrill!

Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad gwyddoniaeth dinesydd cyffrous hwn, lle mae dinasoedd ledled y byd yn gweithio gyda'i gilydd i ddarganfod a chofnodi cymaint o fywyd gwyllt â phosib.
Gallwch gymryd rhan yn eich amser eich hun, cymryd rhan gyda ffrindiau neu deulu, ymuno â grŵp neu alw heibio unrhyw un o'n digwyddiadau natur sy'n addas ar gyfer pob oedran a diddordeb. O ddal gwyfynod, gwylio adar a dod o hyd i ymlusgiaid i archwilio pyllai trai, mynd ar droeon bywyd gwyllt gyda'r teulu a sesiynau ysgol goedwig, bydd digon o ffyrdd i chi gymryd rhan.

Mae pob cofnod o fywyd gwyllt ar draws Dinas a Sir Abertawe yn cyfrif – gerddi, parciau, coetiroedd, gwarchodfeydd natur a hyd yn oed y môr!
Drwy gymryd rhan, byddwch yn dysgu mwy am eich bywyd gwyllt lleol wrth helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o fioamrywiaeth Abertawe. Y cyfan y mae ei angen arnoch i gyflwyno'ch cofnod yw'r ap iNaturalist, sydd am ddim. ’n dychwelyd y gwanwyn hwn 24-27 Ebrill!

Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad gwyddoniaeth dinesydd cyffrous hwn, lle mae dinasoedd ledled y byd yn gweithio gyda'i gilydd i ddarganfod a chofnodi cymaint o fywyd gwyllt â phosib.

Gallwch gymryd rhan yn eich amser eich hun, cymryd rhan gyda ffrindiau neu deulu, ymuno â grŵp neu alw heibio unrhyw un o'n digwyddiadau natur sy'n addas ar gyfer pob oedran a diddordeb. O ddal gwyfynod, gwylio adar a dod o hyd i ymlusgiaid i archwilio pyllai trai, mynd ar droeon bywyd gwyllt gyda'r teulu a sesiynau ysgol goedwig, bydd digon o ffyrdd i chi gymryd rhan.

Mae pob cofnod o fywyd gwyllt ar draws Dinas a Sir Abertawe yn cyfrif – gerddi, parciau, coetiroedd, gwarchodfeydd natur a hyd yn oed y môr!

Drwy gymryd rhan, byddwch yn dysgu mwy am eich bywyd gwyllt lleol wrth helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o fioamrywiaeth Abertawe. Y cyfan y mae ei angen arnoch i gyflwyno'ch cofnod yw'r ap iNaturalist, sydd am ddim.

Lleoliad: Abertawe

Arwynebeddau: Abertawe

Ebrill 24, 2026

O'r Pwll Glo i Gadwraeth Tonmawr

O'r Pwll Glo i Gadwraeth Tonmawr

11:00-13:00

Ymunwch â Glo i Natur CIC am daith gerdded dywys bywyd gwyllt yng Ngwarchodfa Natur Whitworth, Ton-mawr. Darganfyddwch sut mae natur wedi trawsnewid hen Bwll Glo Whitworth yn gynefinoedd gwerthfawr sy'n cefnogi amrywiaeth gyfoethog o blanhigion, pryfed a bywyd gwyllt arall. Gallwch ddysgu sut i adnabod cynefinoedd a rhywogaethau allweddol sbwriel glo a deall pwysigrwydd ecolegol a chadwraeth y tirweddau ôl-ddiwydiannol rhyfeddol hyn.

Booking required.

Lleoliad: Tonmawr

Arwynebeddau: Nedd Port Talbot

Ebrill 18, 2026

Sgwrs gan Merlin Hanbury-Tenison

Sgwrs gan Merlin Hanbury-Tenison

16 Ebrill 6:30pm - 9:30pm Gwesty’r Metropole, Llandrindod
Ymunwch â ni am sgwrs gan Merlin Hanbury-Tenison, arbenigwr cadwraeth a chyn-filwr o Gernyw.
Codir ffioedd archebu.
Rhagor o fanylion.

Lleoliad: Llandrindod

Arwynebeddau: Powys

Ebrill 16, 2026

Cyflwyniad i Loÿnnod Byw RSPB South Stack Cliffs

Cyflwyniad i Loÿnnod Byw RSPB South Stack Cliffs
14 Ebrill 18:30-20:30
Yn y ddarlith gyda'r nos hon, bydd Bob yn trafod rhai o'r rhywogaethau mwyaf tebygol y byddwch chi'n dod ar eu traws ar hyd eich teithiau cerdded. Mynnwch awgrymiadau gwych ar gyfer adnabod ac arferion gloÿnnod byw a gweld a allwch chi eu rhoi ar waith ar eich taith nesaf!
Codir ffioedd archebu.
Rhagor o fanylion a dolen i archebu yma.

Lleoliad: RSPB South Stack Cliffs

Arwynebeddau: Conwy

Ebrill 14, 2026

Cyfarfod BTO Cymru

Chough A. Hood web

Cyfarfod BTO Cymru

7 Ebrill 19:00 - 20:15 Ar-lein

Byddwn yn tynnu sylw at sefyllfa adar yn genedlaethol, yn rhoi trosolwg o'n harolygon a'n prosiectau yng Nghymru, ac yn dangos sut y gallwch chi gymryd rhan i helpu i warchod ein hadar ar gyfer y dyfodol.

Lleoliad: Ar-lein

Arwynebeddau: Pob maes

Ebrill 07, 2026

Brecwast gyda Dolffin Trwyn Potel, Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion

Brecwast gyda Dolffin Trwyn Potel, Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion
4 Ebrill 9:30am - 11:00am
Ymunwch â’n tîm Cadwraeth Forol ar gyfer ein digwyddiad “Brecwast gyda Dolffin Trwyn Potel”.
Tocynnau: £4 i oedolion, £2 i blant, £10 tocyn teulu (2 oedolyn, 2 blentyn)
Rhagor o fanylion a dolen i archebu yma.

Lleoliad: Cei Neweydd

Arwynebeddau: Ceredigion

Ebrill 04, 2026

Ystlumod dyffrynnoedd Wysg a Gwy

Ystlumod dyffrynnoedd Wysg a Gwy

19 Mawrth am 7.30pm yn y Fenni

Sgwrs ddarluniadol ar ystlumod ein hardal yn seiliedig ar 40 mlynedd o gadwraeth ac ymchwil, yn bennaf ar ystlumod pedol ac ystlumod prin eraill yn Nyffryn Gwy a Fforest y Ddena.

Rhagor o fanylion

Lleoliad: y Fenni

Arwynebeddau: Sir Fynwy

Mawrth 19, 2026

Bryn Ifan: Gweledigaeth ar gyfer amaethyddiaeth a bywyd gwyllt

Bryn Ifan: Gweledigaeth ar gyfer amaethyddiaeth a bywyd gwyllt

25 Chwefror 7:30pm - 9:00pm (ar-lein)

Dafydd Thomas, Swyddog Prosiect, fydd yn cyflwyno ar y cyfleoedd a'r materion ar gyfer cadwraeth a ffermio yn y fferm 450 erw sydd wedi’i chaffael yn ddiweddar ym Mryn Ifan.

Rhagor o fanylion a gwybodaeth am archebu yma.

Lleoliad: ar-lein

Arwynebeddau: Gwynedd

Chwefror 25, 2026

Adeiladu blwch nythu yn RSPB Ynys-hir

Adeiladu blwch nythu yn RSPB Ynys-hir

21 Chwefror 13:30-14:30

Mae gosod blwch nythu yn ein gerddi a'n mannau agored yn ffordd ardderchog o helpu adar fel y titw mawr, y titw tomos las, y robin goch a llawer mwy. Dewch i ymuno â ni yn RSPB Ynys-hir i adeiladu eich blwch nythu eich hun.

Rhagor o fanylion a gwybodaeth am archebu yma.

Lleoliad: RSPB Ynys-hir

Arwynebeddau: Ceredigion

Chwefror 21, 2026

Ffermio ar gyfer y Gylfinir

Ffermio ar gyfer y Gylfinir

Ffermio ar gyfer y Gylfinir

Ymunwch â Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn a Katie Appleby o'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adar Hela a Bywyd Gwyllt

ar gyfer noson ddifyr yn ymchwilio i gadwraeth ac adferiad y Gylfinir yng nghanolbarth Cymru.

Dewch i glywed gan banel dan arweiniad ffermwr ochr yn ochr â chadwraethwyr sy’n gweithio’n weithredol i helpu Cylfinirod, gan rannu profiadau ymarferol, heriau a llwyddiannau.

Mae aderyn dŵr mwyaf y DU, y Gylfinir, yn prysur ddiflannu o’r dirwedd a rhagwelir y bydd wedi diflannu o Gymru erbyn 2033. Nid yn unig y mae'r aderyn hwn yn rhan hanfodol o dreftadaeth, diwylliant, celf a llesiant Cymru, ond mae diogelu’r rhywogaeth allweddol hon yn helpu i ddiogelu ystod eang o fywyd gwyllt a chynefinoedd eraill hefyd Mae

@CurlewConnectionsWales yn gweithio gyda thirfeddianwyr, ffermwyr a chymunedau ledled Cymru i helpu i sicrhau dyfodol yr aderyn gwych – a gallwch chi fod yn rhan o’r daith honno hefyd.

Mwynhewch swper am ddim, wedi’i wneud gyda chynhwysion lleol, gan gynnwys cawl tymhorol, detholiad o gawsiau Cymreig, a lluniaeth drwy gydol y noson.

Digwyddiad am ddim! Yn cynnwys bwyd a diod, rhaid archebu. Ewch i:montwt.co.uk/events

Lleoliad: Y Drenewydd

Arwynebeddau: Powys

Chwefror 12, 2026

Dathlu Arfordiroedd Iach yng Nghanolfan Gwlyptiroedd Llanelli

Dathlu Arfordiroedd Iach yng Nghanolfan Gwlyptiroedd Llanelli
10 Chwefror 18:00-20:00
Ymunwch â Phrosiect Seagrass er mwyn cael gwylio sawl ffilm fer sy'n archwilio straeon pobl leol, bywyd gwyllt, bwyd môr cynaliadwy a morwellt.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau cliciwch yma.

Er mwyn gweld rhestr o ddigwyddiadau Prosiect Seagrass a gynhelir y gaeaf hwn cliciwch yma.

Lleoliad: Llanelli

Arwynebeddau: Sir Gaerfyrddin

Chwefror 10, 2026

Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd Gwarchodfa Natur Cors Crymlyn

World Wetlands Day 2026 Life Quake

Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd Gwarchodfa Natur Cors Crymlyn

Ymunwch ag aelodau o brosiect adfer mawndir LIFEquake ar daith dywys o amgylch y warchodfa a dysgu am yr amrywiaeth enfawr o adar, planhigion ac infertebratau a geir o amgylch Gwarchodfa Crymlyn...yn ogystal â chlywed am y nifer o ffyrdd maen nhw'n gweithio i reoli'r dirwedd wlyptiroedd gwerthfawr.

Am ragor o wybodaeth

Lleoliad: Gwarchodfa Natur Cors Crymlyn

Arwynebeddau: Abertawe

Chwefror 02, 2026

Confensiwn Adar Ysglyfaethus Cymru 2026

Confensiwn Adar Ysglyfaethus Cymru 2026

10:00 - 16:00 31 Ionawr Prifysgol Aberystwyth

Ymunwch â BTO Cymru ar gyfer Confensiwn Adar Ysglyfaethus cyntaf Cymru i ddathlu tymor cyntaf Cudyll Cymru.

Yn ogystal â chyflwyno'r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu am adar ysglyfaethus Cymru eleni, bydd y digwyddiad yn cynnwys siaradwyr gwadd amlwg fel:

Rhagor o fanylion a gwybodaeth am gadw lle yma

Lleoliad: Aberystwyth

Arwynebeddau: Ceredigion

Ionawr 31, 2026

Gwylio Adar i Ddechreuwyr

Gwylio Adar i Ddechreuwyr
24 Ionawr 10:30-12:00
Big Garden Birdwatch yn RSPB Ynys-hir. Dewch i ddatblygu’ch sgiliau gwylio adar gyda ni i’ch paratoi ar gyfer Big Garden Birdwatch yr RSPB. Cyngor cyfeillgar ac awgrymiadau i’ch rhoi ar ben y ffordd gyda gwylio adar.
Bydd y sesiwn hon yn rhoi’r hyder a’r wybodaeth i chi gymryd rhan yn y Big Garden Birdwatch eleni ar ôl dychwelyd adref.

Rhagor o fanylion a gwybodaeth am archebu yma.

Lleoliad: RSPB Ynys-hir

Arwynebeddau: Ceredigion

Ionawr 24, 2026

Big Garden Birdwatch

Digwyddiad Mawr yr Ardd - Gwylio Adar

Arolwg bywyd gwyllt gardd mwyaf y byd yw Big Garden Birdwatch. Bob blwyddyn, mae cannoedd o filoedd o gariadon natur fel chi yn cymryd rhan, gan helpu i greu darlun o sut mae adar gardd yn ffynnu.

Arwynebeddau: Pob maes

Ionawr 23, 2026

Amrywiol wrth Natur: Webinar 3

Amrywiol wrth Natur: Webinar 3

Ymunwch â ni ar 21 Ionawr o 6 - 7:30yh am weminar ysbrydoledig sy'n dathlu'r Gymraeg a'r Ymdeimlad o Le yn y Sector Amgylchedd a Chadwraeth.

Mae'r digwyddiad hwn yn dod â siaradwyr ynghyd y mae eu gwaith yn dangos sut y gall y Gymraeg ddyfnhau ymgysylltiad â natur a threftadaeth ledled Cymru.
Trwy straeon personol a myfyrdodau ar draws y sector, byddwn yn archwilio sut mae defnyddio'r Gymraeg mewn cadwraeth yn helpu i gyfathrebu â phobl ar bob lefel - o gymunedau lleol i gynulleidfaoedd cenedlaethol - a sut y gall gweithio gyda hanes a hunaniaeth ddiwylliannol mewn golwg wneud diogelu ein tirweddau a'n bywyd gwyllt yn fwy ystyrlon ac effeithiol.

Archebwch le yma.

Arwynebeddau: Pob maes

Ionawr 21, 2026

Cudyll Cymru: monitro adar ysglyfaethus yng Nghymru

Sgwrs Grŵp Adar gan Charlotte Griffiths – Cudyll Cymru: monitro adar ysglyfaethus yng Nghymru

21 Ionawr 7:30pm - 9:00pm, Y Trallwng

Dysgwch sut mae prosiect gwyddoniaeth dinasyddion a redir gan Gymdeithas Adareg Prydain yn gweithio i annog y rhai sy’n frwd dros fywyd gwyllt i gymryd rhan mewn gwaith monitro adar ysglyfaethus yng Nghymru.

Rhagor o fanylion a gwybodaeth am archebu yma.

Lleoliad: Y Trallwng

Arwynebeddau: Powys

Ionawr 21, 2026

Creu Gwlyptir yn River Meadow

Creu Gwlyptir yn River Meadow

15 Ionawr 7:30pm - 9:00pm, Y Fenni

Ymunwch â ni am sgwrs am ein gwaith yn adfer gwlyptir yn ein gwarchodfa natur newydd, River Meadow.

Pris mynediad £4.

Rhagor o fanylion a gwybodaeth am archebu yma.

Lleoliad: Y Fenni

Arwynebeddau: Sir Fynwy

Ionawr 15, 2026

Taith Gerdded y Gaeaf yng Ngwarchodfa Natur Y Gogarth

Taith Gerdded y Gaeaf yng Ngwarchodfa Natur Y Gogarth

10 Ionawr 12:30pm - 3:00pm

Ymunwch â ni am daith gerdded y gaeaf i fyny at y llecyn gwylio ar gyfer Gwarchodfa Natur Y Gogarth.

Mae’r digwyddiad yma’n rhan o’n prosiect Natur yn Cyfrif ni. Yn ystod ein digwyddiadau, rydyn ni’n cofnodi'r rhywogaethau rydyn ni’n eu darganfod fel rhan o brosiect gwyddoniaeth y dinesydd i'n helpu ni i reoli ein gwarchodfeydd natur a'n cynefinoedd lleol. Mae prosiect Natur yn Cyfrif yn cael ei gyllido gan y Gronfa Dreftadaeth a Llywodraeth Cymru.

https://www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy/events/2026-01-10-taith-gerdded-y-gaeaf-yng-ngwarchodfa-natur-y-gogarth

Lleoliad: Llandudno

Arwynebeddau: Conwy

Ionawr 10, 2026

Ditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd

Ditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd

21st Rhagfyr 10am to 12pm

Dewch i ymuno â sesiwn crefftau Nadolig Ditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd .

Mae Ditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd yn gyfle i dditectifs ifanc a’u teuluoedd ddysgu am natur ymhob tymor.

Dewch i ymuno â sesiwn crefftau Nadolig Ditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd. Byddwn yn defnyddio deunyddiau naturiol i greu addurniadau Nadoligaidd i chi fynd â nhw adref.

Cyfarfod yng Nghanolfan Gadwraeth Fferm y Fforest, Forest Farm Road, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd. CF14 7JH

Rhagor o wybodaeth a manylion archebu yma

Lleoliad: Caerdydd

Arwynebeddau: Caerdydd

Rhagfyr 21, 2025

Taith Gerdded Adar Gwyllt y Gaeaf yng Ngwarchodfa Natur Ynys-hir yr RSPB

Taith Gerdded Adar Gwyllt y Gaeaf yng Ngwarchodfa Natur Ynys-hir yr RSPB

7 Rhagfyr rhwng 10.30am a 12.30pm

Ymunwch â’n tywyswyr arbenigol wrth iddyn nhw eich helpu i weld corhwyaid bychan, chwiwellod chwibanog, a hwyaid llwyd hyfryd. Chwiliwch hefyd am wyddau, elyrch ac adar hirgoes.

Mae pob pris tocyn yn cynnwys ffioedd mynediad i’r warchodfa a diod boeth yn y Ganolfan Ymwelwyr ar ôl y daith gerdded.

Rhagor o fanylion a gwybodaeth am archebu yma.

Lleoliad: Ynys-hir yr RSPB

Arwynebeddau: Ceredigion

Rhagfyr 07, 2025

Noson gyda Liz Bonnin

Noson gyda Liz Bonnin

3rd Rhagfyr, 6:00pm - 9:00pm Bae Colwyn

Ymunwch â ni ar 3ydd Rhagfyr yn Theatr Colwyn am noson arbennig gyda'r ddarlledwraig, y biolegydd a’r cyflwynydd bywyd gwyllt hynod boblogaidd, Liz Bonnin, yn sgwrsio gyda Phrif Weithredwr yr Ymddiriedolaethau Natur, Craig Bennett.

For more information and ticket booking click here

Lleoliad: Bae Colwyn

Arwynebeddau: Conwy

Rhagfyr 03, 2025

Diverse by Nature's second webinar

Ail webinar Amrywiol wrth Natur

Ymunwch â ni am weminar grymuso a mewnwelediadol sy'n dathlu cynhwysiant anabledd o fewn y sector amgylchedd a chadwraeth.

Mae'r digwyddiad hwn yn cynnwys dau siaradwr ysbrydoledig y mae eu profiadau bywyd a'u teithiau proffesiynol yn taflu goleuni ar y rhwystrau, y datblygiadau arloesol, a'r cyfleoedd ar gyfer mwy o hygyrchedd a chynrychiolaeth mewn gwaith sy'n canolbwyntio ar natur.

Fydd y webinar hyn yn cynnwys sgyrsiau gan Anita Eade – Cyfarwyddwr, Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt a Gwlyptiroedd a Jess Poole – Ymgynghorydd Arbenigol, Cyfoeth Naturiol Cymru.

Trwy straeon personol ac adlewyrchiadau ar draws y sector, bydd y sesiwn hon yn archwilio sut mae cynhwysiant anabledd yn cyfoethogi ymdrechion cadwraeth ac yn helpu i adeiladu sector mwy cyfartal yn ei gyfanrwydd.

Bydd y digwyddiad yn cael ei cynnal -

3 Rhagfyr 6:00pm - 7:30pm

Cofrestrwch yma: https://event.swisscom.ch/v/diversebynaturewebinar2

Lleoliad: ar-lein

Arwynebeddau: Pob maes

Tachwedd 28, 2025  - Rhagfyr 03, 2025

Ystlumod Pedol Brynbuga

Ystlumod Pedol Brynbuga
12 Tachwedd, 7.30pm - 9pm, Brynbuga
Ymunwch â Dave Priddis o Grŵp Ystlumod Swydd Gaerloyw am sgwrs ar Ystlumod pedol.
Cost £4 Dim angen cadw lle ymlaen llaw.
Rhagor o fanylion a gwybodaeth am gadw lle yma

Lleoliad: Usk

Arwynebeddau: Sir Fynwy

Tachwedd 12, 2025

Taith dywys yn Coed Buchesau

Celtic Rainforest event

Taith dywys yn Coed Buchesau

28th Hydref 10:30-12:30

JYmunwch a ni ar daith dywys o amgylch Coed Buchesau ger Rhydymain, Dolegllau i ddysgu mwy am y gwaith adfer a wneir ar y safle gyda'r nod o wella ei statws cadwraethol. Dewch ia rhcwilio hanes y coetir hynafol hwn a thrafod yr ymyriadau rheoli sydd wedi cael ei wneud ar y safle.

Lleoliad: Rhydymain

Arwynebeddau: Parc Cenedlaethol Eryri

Hydref 28, 2025

Taith ffwng Abertawe

Fungus Walk Clyne Valley

Taith ffwng Abertawe

Ymunwch â menter Nature on Your Doorstep am sesiwn Chwilota am Ffyngau ddiddorol ym Mharc Gwledig Dyffryn Clun fel rhan o ddathliadau Diwrnod Ffwng y DU!

Dewch i ddarganfod byd dirgel a hudolus ffyngau wrth i ni archwilio cynefin coetir cyfoethog y parc. Gallwch ddysgu sut i adnabod amrywiaeth o rywogaethau ffwng a datgelu eu rôl hanfodol yn ein hecosystemau.

Man cwrdd: Ynys Newydd Car Park, Derwen Fawr Road, Sketty, Swansea SA2 8DU

What3words: ///cases.buck.closed

Sylwer: Taith gerdded addysgol yw hon, nid digwyddiad chwilota.

Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn

Mae’r digwyddiad yn dibynnu ar y tywydd

Gwisgwch ddillad addas ac esgidiau cadarn sy’n addas ar gyfer y tywydd a'r tir

Manylion archebu

Lleoliad: Abertawe

Arwynebeddau: Abertawe

Hydref 26, 2025

Y Môr a Rhanwn

New Date_Y Mor a Rhanwn_The Sea We Share_Poster

Y Môr a Rhanwn – Diwrnod i’r Teulu, digwyddiad cydweithredol gan Bionet a Phrosiect Wystrys Gwyllt, ar 12 Hydref 2025, rhwng 11yb a 2yp ar Draeth a Phromenâd Llandrillo-yn-Rhos.

Mae’r digwyddiad AM DDIM yn cynnwys:
🎶 Perfformiadau cerddorol
🧒 Gweithgareddau i’r teulu
🧹 Glanhau’r traeth
🐚 Chyfle i ddysgu mwy am brosiectau cadwraeth forol ar hyd ein harfordir.

🔗 https://fb.me/e/5YkzikP0o

Lleoliad: Llandrillo-yn-Rhos.

Arwynebeddau: Conwy

Hydref 12, 2025

Diwrnod Ffwng y Du yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Fungus day event

Diwrnod Ffwng y Du yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
4 Hydref 10am - 4pm
Darganfyddwch ryfeddodau cudd yr organebau anhygoel hyn trwy deithiau tywys, gweithgareddau i bawb, ac arddangosfa o rai o’r rhywogaethau ffwngaidd rhyfedd a rhyfeddol a geir yn lleol.

Mae ein Gardd Fotaneg yn cynnig y lleoliad perffaith i archwilio amrywiaeth o gynefinoedd cyfeillgar i fadarch, gan gynnwys coedwigoedd, caeau, dolydd, lawntiau, a gwelyau blodau. Byddwch yn dod ar draws amrywiaeth gyfoethog o fywyd ffwngaidd, o’r capiau cwyr prin a lliwgar i’r corniau drewllyd. Mae pob rhywogaeth mor rhyfedd ag y mae’n brydferth!

Rhagor o fanylion

Lleoliad: Llanarthne

Arwynebeddau: Sir Gaerfyrddin

Hydref 04, 2025

Gwlyptiroedd Pwysig Cymru

Gwlyptiroedd Pwysig Cymru
3 Hydref 19:30 -21:00 Pensychnant
Yn y sgwrs hon ar gyfer Cymdeithas Adareg Cambria, bydd Gethin yn tynnu sylw at bwysigrwydd rhyngwladol gwlyptiroedd Cymru i rai o’n hadar gaeafu.

Gan ganolbwyntio’n bennaf ar adar y dŵr ac adar hirgoes, bydd y sgwrs hon yn ystyried eu poblogaethau yng Nghymru, eu hecoleg, a’r lleoedd gorau yn y wlad i’w gweld.
Bydd y sgwrs yn gorffen gyda chyflwyniad i Arolwg Adar Gwlyptiroedd y BTO a sut gallwch chi gymryd rhan yn yr arolwg gwerthfawr hwn.

Digwyddiad am ddim, a does dim angen cadw lle ymlaen llaw.
Rhagor o fanylion

Lleoliad: Pensychant

Arwynebeddau: Conwy

Hydref 03, 2025

Diwrnod Bioamrywiaeth Blaenafon

Blaenavon Biodiversity Day

Diwrnod Bioamrywiaeth Blaenafon

20 Medi 10:00-15:00

The Whistle Inn, Blaenafon

Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod Bioamrywiaeth Blaenafon i archwilio byd bywiog ffyngau, adar, pryfed, celf a gweithgarwch!

Lleoliad: Blaenavon

Arwynebeddau: Torfaen

Medi 20, 2025

Sesiwn Bywyd Gwyllt Ar Ôl Tywyllwch – Parc Gwledig Porthceri

Sesiwn Bywyd Gwyllt Ar Ôl Tywyllwch – Parc Gwledig Porthceri

Dydd Gwener 19 Medi: 18:00 i 20:00

Ymunwch â Phartneriaeth Natur Leol y Fro a Natur Hud ar gyfer sesiwn ar ôl tywyllwch i wylio ystlumod yn hela yn yr awyr, wedi’u dwyn i’r golwg gyda chymorth synwyryddion. Gwelwch yr amrywiaeth anhygoel o wyfynod sy’n cael eu denu at y trapiau golau, a phrofwch y dirwedd mewn ffordd newydd drwy gamera thermol sy’n datgelu symudiadau bywyd gwyllt sydd fel arfer yn gudd rhag y llygad.

Archebwch eich tocyn am ddim yma!

Lleoliad: Parc Gwledig Porthceri

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Medi 19, 2025

Gwirfoddoli Gwyddoniaeth Gymunedol Llanymddyfri

Gwirfoddoli Gwyddoniaeth Gymunedol Llanymddyfri

Gwirfoddoli Gwyddoniaeth Gymunedol y Gymuned Garbon, Llanymddyfri

Dydd Sadwrn, 13 Gorffennaf 10 AM – 4 PM

Y Gymuned Garbon, Coedwig Glandwr, Llanymddyfri, SA20 0LW

Am fwy o fanylion ac i gofrestru cliciwch yma

Mae Coedwig Glandwr yn gartref i Astudiaeth Garbon Coedwig Glandŵr sy'n bwriadu cyflymu a gwella'r broses o ddal carbon deuocsid (CO2) mewn coed a phridd er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Mae ein rhaglen Gwirfoddoli Gwyddoniaeth Gymunedol yn gofalu fod pobl yn ganolog i’r ymchwil er mwyn helpu i gyflawni amcanion y prosiect. Mae'n ddiwrnod hyfryd sy’n dod â choed, gwyddoniaeth a phobl at ei gilydd.

Lleoliad: Llanymddyfri

Arwynebeddau: Sir Gaerfyrddin

Awst 17, 2025

Saffari helfa trychfilod

Saffari helfa trychfilod

10:30am - 12:30pm

Beth fyddwch chi'n dod o hyd iddo wrth i ni chwilio am chwilod, glöynnod byw ac unrhyw beth arall y gallwn ni ei weld! Croeso i helwyr pryfed o bob oed!

Pwynt cyfarfod

Tai Isaf, Pentir, LL57 4YA. SH 581667 ///awestruck.bench.stopped

Lleoliad: Pentir

Arwynebeddau: Gwynedd

Awst 13, 2025

Cerdded Gyda Ni – Teithiau Cerdded Natut Rhosili

Cerdded Gyda Ni – Teithiau Cerdded Natut Rhosili

2 Awst 11:00 - 15:00

Darganfyddwch harddwch Cefnen Rhosili a'r ardal gyfagos drwy fynd ar deithiau cerdded tywysedig. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn hanes, natur, neu ddim ond yn mwynhau sgwrsio, mae'r teithiau cerdded hyn yn gyfle perffaith i archwilio a chysylltu.

Digwyddiad rhad ac am ddim Argymhellir archebu.

https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/rhosili-and-south-gower-coast/events/835a05b6-bf77-4516-9ee7-3d01288e91df?origin=search

Lleoliad: Rhosili

Arwynebeddau: Abertawe

Awst 02, 2025

Mamaliaid môr godidog Bae Ceredigion!

Mamaliaid môr godidog Bae Ceredigion!

Ymunwch â’n Tîm #CadwraethMorol i ddarganfod mamaliaid môr godidog Bae Ceredigion!

Dathlwch Wythnos Genedlaethol y Môr drwy ymuno â’n Tîm #CadwraethMorol i ddarganfod mamaliaid môr godidog Bae Ceredigion!

Byddwn yn cadw llygad am ddolffiniaid trwyn potel, llamidyddion, morloi llwyd yr Iwerydd a morfuglennod o wal harbwr Cei Newydd

Cyfarfod yng Nghanolfan Bywyd Morol Bae Ceredigion am 10yb

Tocyn: £4 y plentyn. Rhaid i rai dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch yma https://champ.ly/iMhFmrmE

Lleoliad: Cai Newydd

Arwynebeddau: Ceredigion

Awst 01, 2025

Hyfforddiant Arolwg Glöynnod Byw Glynebwy

Hyfforddiant Arolwg Glöynnod Byw Glynebwy

30 Gorffennaf 10:00am - 1:00pm

Ymunwch â ni yn ein Canolfan Adnoddau Amgylcheddol i ddysgu adnabod gloÿnnod byw sylfaenol a sut i gymryd rhan yng Nghynllun Monitro Glöynnod Byw cenedlaethol y DU. Erbyn diwedd y sesiwn, gobeithio y byddwch chi'n teimlo'n hyderus i gofrestru i gynnal eich Arolwg Glöynnod Byw eich hun, naill ai ar un o'n gwarchodfeydd neu mewn man gwyrdd lleol yn eich ardal chi!

Digwyddiad rhad ac am ddim Rhaid cadw lle ymlaen llaw.

https://www.gwentwildlife.org/events/2025-07-30-butterfly-survey-training-environmental-resource-centre

Lleoliad: Glynebwy

Arwynebeddau: Blaenau Gwent

Gorffenaf 30, 2025

Gŵyl Natur Pen-y-bont ar Ogwr

Gŵyl Natur Pen-y-bont ar Ogwr

Gŵyl Natur Pen-y-bont ar Ogwr

Ymunwch â ni yng Nghaeau Newbridge ddydd Gwener 25 Gorffennaf ar gyfer Gŵyl Natur gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr!

Ymunwch â Phartneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr ac amrywiaeth o elusennau natur lleol, sefydliadau a grwpiau cymunedol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, o helfeydd natur a theithiau cerdded ffwng, i wneud coronau helyg, a gweithdai adnabod rhywogaethau. 🌳🐞🦋

Mae'r digwyddiad hwn am ddim i bawb, a'r bwriad yw ei fod yn hygyrch ac yn ddiddorol i bawb sydd â diddordeb mewn natur.

Bachwch eich tocyn am ddim: https://www.eventbrite.co.uk/e/bridgend-nature-festival-tickets-1335317062279?aff=oddtdtcreatorWe

Welwn ni chi yna gobeithio!

📅 Dyddiad: Dydd Gwener 25 Gorffennaf 2025

📍 Lleoliad: Caeau Newbridge

⏰ Amser: 11am - 3pm

Lleoliad: Bridgend

Arwynebeddau: Pen-y-bont ar Ogwr

Gorffenaf 25, 2025

Teithiau cerdded tywysedig gwiwerod coch Ynys Môn

Teithiau cerdded tywysedig gwiwerod coch Ynys Môn

Dewch am daith gerdded dywysedig gydag un o’n ceidwaid gwiwerod coch ac archwiliwch Goed y Llaethdy. Dysgwch ffeithiau diddorol am y gwiwerod coch sy’n byw yma ar Ynys Môn.

Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn ddigon ffodus i weld yr anifeiliaid swynol hyn yn ystod y daith gerdded! Ar un adeg yn olygfa brin, mae gwiwerod coch bellach yn ffynnu diolch i raglen ailgyflwyno ym Mhlas Newydd, rhan o Brosiect Gwiwerod Coch Ynys Môn.

Lleoliad: Llanfairpwll

Arwynebeddau: Ynys Môn

Gorffenaf 23, 2025  - Gorffenaf 30, 2025

Gwyl Natur Y Frô

Vale Nature Festival Save the Date Cymraeg

Gwyl Natur Y Frô

Helpwch ni I dathlu Natur Y Frô

Cadw'r Dyddiad!

Dydd Sadwrn 19 Gorffennaf 11:00 — 16:00 Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston

Lleoliad: Pharc Gwledig Cosmeston

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 19, 2025

Gŵyl y ddôl Sir y Fflint

Meadowfest Cym

Gŵyl y ddôl Sir y Fflint

Dathlu gŵyl y ddôl Sir y Fflint gyda ni a dysgwch am ein dolydd blodau gwyllt ysblennydd!

Dewch i ddarganfod arddangosion, adrodd straeon, paentio wynebau a gweithgareddau hwyl arall i’r teulu.

Pryd: Dydd Sadwrn 19eg o Orffennaf, 11yb – 3yh

Lle: Nghanolfan Ymwelwyr Parc Gwepra, Wepre Drive, Cei Connah, CH5 4HL

Mynediad: Di-dâl

Lleoliad: Parc Gwepra

Arwynebeddau: Sir Fflint

Gorffenaf 19, 2025

Gŵyl Bioflits Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

BioBlitz Festival National Botanic Garden Wales

Gŵyl Bioflits Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Gŵyl Bioflits, 19 a 20 Gorffennaf

Yn dilyn Wythnos Natur Cymru, mae sefydliadau cadwraeth o bob cwr o Gymru yn dod ynghyd i ddathlu natur ac i gofnodi cymaint o rywogaethau â phosibl dros y penwythnos. Mae gennym amserlen lawn o deithiau cerdded, sgyrsiau, teithiau tywys, stondinau ymgysylltu, a gweithdai dros y penwythnos cyfan i geisio ysgogi ymwelwyr i gymryd rhan yn y gwaith o gofnodi bywyd gwyllt ac i ennyn eu diddordeb ym myd natur. Manylion pellach

Lleoliad: Llanarthne

Arwynebeddau: Sir Gaerfyrddin

Gorffenaf 19, 2025  - Gorffenaf 20, 2025

BioBlitz ym Mhencadlys Outside Lives

BioBlitz ym Mhencadlys

BioBlitz ym Mhencadlys Outside Lives

15 Gorffennaf 10:00 - 14:00

Pencadlys Outside Lives, Ffordd Maeshafn, Gwernymynydd, yr Wyddgrug

Fel rhan o Wythnos Natur Cymru 2025, mae Outside Lives, mewn cydweithrediad â Cofnod a Bionet, yn cynnal BioBlitz cyffrous – ac rydyn ni eich angen CHI!

Pam cymryd rhan?

  • Helpwch i gyfrannu at ymchwil wyddonol go iawn
  • Dysgwch gan arbenigwyr ac eraill sy’n caru byd natur
  • Darganfyddwch y bywyd gwyllt anhygoel sydd gennym ar y safle
  • Cyfle i gael hwyl gyda'ch gilydd yn yr awyr agored!

Digwyddiad rhad ac am ddim. Rhaid archebu gan fod y lleoedd sydd ar gael yn gyfyngedig.

Lleoliad: yr Wyddgrug

Arwynebeddau: Sir Fflint

Gorffenaf 15, 2025

Adnabod Coed yr Haf, Coed Pengelli

Adnabod Coed yr Haf, Coed Pengelli

13 Gorffennaf 10:00am - 3pm

Wnaethoch chi erioed stopio a meddwl tybed pa fath o goeden yw hon? Ehangwch eich gwybodaeth am sut i adnabod coed yn yr haf, boed hynny o ran diddordeb cyffredinol, ar gyfer rheoli coetir neu er mwyn adnabod pren ar gyfer gwaith coed a chrefftau.

Ymunwch â Choleg Coppicewood yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol hardd Coed Pengelli i - Adnabod coed cyffredin yng Nghymru a’r DU, - Dysgu mwy am goed mewn coedwig law dymherus, a llawer mwy.

Pris: £45

Rhagor o wybodaeth a manylion archebu yma

Lleoliad: Pengelli

Arwynebeddau: Sir Benfro

Gorffenaf 13, 2025

Cwrs Adnabod Gweision Neidr a Thaith Gerdded Dywysedig yng Ngwlyptiroedd Casnewydd

Cwrs Adnabod Gweision Neidr a Thaith Gerdded Dywysedig yng Ngwlyptiroedd Casnewydd

Cwrs Adnabod Gweision Neidr a Thaith Gerdded Dywysedig yng Ngwlyptiroedd Casnewydd

13 Gorffennaf 10:00-15:00

Bydd diwrnod o ddathlu a darganfod yn dod â chi yn agos at weision neidr, wrth i ni ddathlu blwyddyn ers lansio Gwlyptiroedd Casnewydd fel Man Cyfoethog o ran Gweision Neidr.

Bydd y diwrnod yn cynnwys llu o weithgareddau cyffrous:

  • Teithiau tywysedig gweision y neidr - cwrs adnabod a thaith gerdded dywysedig yng nghwmni Steve Preddy, Cofnodwr y Sir. Archebwch docyn i ymuno â'i sesiwn. Amser cychwyn 10am.
  • Archwilio pyllau dŵr - Agor rhwng 10:30am a 2:30pm, Talwch am eich offer yn y ganolfan - £4.50 yr un.
  • Crefftau gwas y neidr a thaflen adnabod gweision y neidr
  • Arweinwyr gwybodus wrth law os bydd unrhyw gwestiynau

Rhagor o wybodaeth a manylion archebu yma

Lleoliad: Casnewydd

Arwynebeddau: Casnewydd

Gorffenaf 13, 2025

Cwrs Adnabod Cacwn a Thaith Gerdded Dywysedig yng Ngwlyptiroedd Casnewydd

Cwrs Adnabod Cacwn a Thaith Gerdded Dywysedig yng Ngwlyptiroedd Casnewydd

Cwrs Adnabod Cacwn a Thaith Gerdded Dywysedig yng Ngwlyptiroedd Casnewydd

12 Gorffennaf 11:00-13:00

Mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn gartref i amrywiaeth ryfeddol o gacwn gan gynnwys y 7 rhywogaeth gyffredin a 2 arbennig iawn! Ymunwch â’n taith gerdded dywysedig a'n gweithdy adnabod lle byddwch chi'n dysgu popeth am y rhywogaethau hyn; sut i'w hadnabod, eu cylch bywyd, sgiliau maes a ffyrdd y gallwch chi helpu i gynnal a gwella’r niferoedd yn eich gardd a'ch mannau gwyrdd.

Argymhellir y gweithdy hwn ar gyfer oedolion neu bobl ifanc 16-24 oed.

Cost £9.00 - £11.00

Os oes gennych ddiddordeb yn y byd naturiol ac yn dymuno dilyn gyrfa ym maes cadwraeth, dewch draw i ddysgu sgiliau newydd i'w hychwanegu at eich CV a dysgu gan bobl wybodus sy'n teimlo’n angerddol ynglŷn â pheillwyr a llawer mwy.

Rhagor o wybodaeth a manylion archebu yma

Lleoliad: Casnewydd

Arwynebeddau: Casnewydd

Gorffenaf 12, 2025

Planhigion Allan o Le: Sgwrs a Thaith Gerdded ar y Gogarth

Planhigion Allan o Le: Sgwrs a Thaith Gerdded ar y Gogarth

Planhigion Allan o Le: Sgwrs a Thaith Gerdded ar y Gogarth

12 Gorffennaf 2:00pm - 3:30pm

Ymunwch â ni wrth i ni archwilio'r arddangosfa Dihangwyr Gerddi newydd ar y Gogarth, ac wedyn taith gerdded dywys gyda warden y safle.

Rhagor o wybodaeth a manylion archebu yma

Cyfraniad digwyddiad partner yw hwn i ddathlu Wythnos Natur Cymru

Lleoliad: y Gogarth

Arwynebeddau: Conwy

Gorffenaf 12, 2025

Taith Fotanegol Cors Burfa, Llanandras

Taith Fotanegol Cors Burfa

Taith Fotanegol Cors Burfa, Llanandras

12 Gorffennaf, 2:00pm - 4:00pm

Yr haf yw'r amser perffaith i weld yr ystod eang o blanhigion rhyfeddol sy'n ffynnu yng Nghors Burfa. Dewch draw i ymuno â Bronwen Jenkins, wrth iddi roi taith i ni o amgylch rhai o'r mannau gorau sydd gan Burfa i'w cynnig.

Digwyddiad rhad ac am ddim. Archebwch ymlaen llaw os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth bellach a dolen archebu: https://www.rwtwales.org/events/2025-07-12-botanical-walk-burfa-bog

Lleoliad: Llanandras

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 12, 2025

Gwylio Gwyfynod Caerdydd

Moth Watch Cardiff 12.07.2025 Cym

Gwylio Gwyfynod

Dysgwch fwy am drapio ac arolygu gwyfynod * Seswn am ddim addas i deuluoedd * Addasi blant 5r oed *. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn * Celf a chrefft ar thema gwyfynod

Dydd Sadwrn 12 Gorffenaf Galwch heibio 9:30-12

Ganolfan Ymwelwyr Parc Bute

Lleoliad: Ganolfan Ymwelwyr Parc Bute

Arwynebeddau: Caerdydd

Gorffenaf 12, 2025

Cyfrinachau'r lan

Cyfrinachau'r lan

Cyfrinachau'r lan

12 Gorffennaf 10.00am

Mumbles Rd, Blackpill Cwrdd yn Blackpill (ar y glaswellt ger y lido), Abertawe SA3 5AS

Dewch i archwilio rhyfeddodau cudd y draethlin gyda ni! Wrth i'r llanw cilio fydd yn gadael cliwiau diddorol am y bywyd morol dirgel sy'n byw yn nyfroedd dwfn Bae Abertawe a Phenrhyn Gŵyr.

Dan arweiniad biolegwyr môr profiadol fyddwch yn ymgymryd â rôl gwyddonydd môr am y diwrnod ac yn chwilio am wyau ystifflog, pyrsiau'r fôr-forwyn, gwymon lliwgar ac amrywiaeth o gregyn môr prydferth. Ar hyd y ffordd byddwn hefyd yn archwilio microblastigau a'u heffaith bosib ar fywyd gwyllt lleol.
Caiff yr holl ganfyddiadau eu cofnodi a'u cyflwyno i brosiectau gwyddoniaeth dinasyddion cenedlaethol gan ein helpu i ddeall ein hamgylchedd morol yn well.

P'un a ydych chi'n chwilfrydig am fywyd y môr neu'n frwdfrydig dros amddiffyn ein moroedd, dyma'r digwyddiad perffaith ar gyfer pobl o bob oedran felly dewch i ymdrochi ym myd natur!

  • Mae croeso i blant, ond rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
  • Dewch â digon o ddillad i'ch cadw'n gynnes yn ogystal ag eli haul a het haul

Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-ojgzrne

Lleoliad: Swansea

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 12, 2025

Bywyd cudd sborion pwll go: taith gerdded bioamrywiaeth

Bywyd cudd sborion pwll go: taith gerdded bioamrywiaeth

Bywyd cudd sborion pwll go: taith gerdded bioamrywiaeth

11 Gorffennaf, 10.00am – 12.00pm ac 1.00pm – 3.00pm

Cwrdd ger trac pwmpio Melin Mynach, Pontarddulais Road, Gorseinon, Abertawe SA4 4FQ

What3words: //crispier.ignites.salary

Dewch i ddarganfod bywyd gwyllt annisgwyl Parc Melin Mynach ar daith dywys dan arweiniad yr entomolegydd Liam Olds. Cewch gyfle i archwilio sut mae byd natur wedi dychwelyd i’r safle hwn lle bu pwll glo, gan greu lloches unigryw i rywogaethau prin ac arbenigol. Dysgwch am werth ecolegol cynefinoedd ôl-ddiwydiannol a'r creaduriaid di-asgwrn-cefn, y planhigion a'r bywyd gwyllt diddorol arall sydd bellach wedi ymgartrefu ynddynt. Mae'n ddelfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn bywyd gwyllt a hanes lleol.

Rhaid cadw lle: Hidden Life of Colliery Spoil: Biodiversity Guided Walk Tickets, Parc Melin Mynach, Swansea | TryBooking United Kingdom

Lleoliad: Swansea

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 11, 2025

Darlunio gyda siarcol

darlunio gyda siarcol

Darlunio gyda siarcol

Agored i bob oedolyn (16*)

Pryd Gwe 11 Gorff 2025, 10.30am-1.30pm

Lle Caeau ger Heol Saron, Bynea, Llanelli

Dewch i ymuno â ni i greu pensiliau siarcol ar dân gwersyll, ac yna darlunio gyda nhw i gofnodi eich amser mewn byd natur. Nid oes angen sgiliau artistig!

Bydd lluniaeth ar gael.

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn cydweithio gyda chyllid TWIG i ddatblygu dau safle - ym Mynea ac yng Nghoetir Glofa Pentremawr, Pontyberem. Mae hyn yn cynnwys creu coetir, cynyddu bioamrywiaeth a gwella mannau gwyrdd er budd y gymuned ac i hybu llesiant.

I archebu eich lle am ddim, cysylltwch â Becky

07786 916954 beckybrandwoodcormack@smallwoods.org.uk

Cysylltwch â Gus Hellier os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y safleoedd a'r prosiect yn gyffredinol

ghellier@carmarthenshire.gov.uk 01558 825303

Lleoliad: Llanelli

Arwynebeddau: Sir Gaerfyrddin

Gorffenaf 11, 2025

Taith Gerdded Natur ym Morfa Berwig

Morfa Berwig

Taith Gerdded Natur ym Morfa Berwig

Cysylltwch â bywyd gwyllt a chynefinoedd godidog Sir Gaerfyrddin yn Wythnos Natur Cymru Nid oes angen archebu ymlaen llaw. Mwy o wybodaeth: PAubrey(ecarmarthenhsire.gov.uk

10 Gorffennaf

10y.b. - 11.30

Morfa Berwig

Lleoliad: Morfa Berwig

Arwynebeddau: Sir Gaerfyrddin

Gorffenaf 10, 2025

Taith gerdded yn Old Castle Down

High-Brown--Ben-Williams

Taith gerdded yn Old Castle Down

10 ac 11 Gorffennaf. Bydd y teithiau’n cychwyn am 11:00

Dewch i ddathlu Wythnos Natur Cymru drwy ymuno â Dot Williams o Gwarchod Gloÿnnod Byw i grwydro Old Castle Down a dysgu mwy am bili-pala prinnaf Cymru, y Fritheg Frown, a’r gwaith sy’n cael ei wneud i sicrhau ei dyfodol drwy raglen Natur am Byth. Dewch i nabod y mathau eraill o fywyd gwyllt anhygoel y mae Old Castle Down yn gartref iddynt.

Bydd pob taith gerdded yn cymryd tua 2 awr. Mae rhan fer o’r llwybr yn dringo llethr i ben y twyn ac mae hi’n anwastad dan droed mewn mannau, felly dylid gwisgo esgidiau cadarn. Dewch â dŵr a het gan nad oes llawer o gysgod rhag yr haul ar y twyn. Mae trogod i’w cael ar y twyn o bryd i’w gilydd, felly dylid gwisgo trowsus hir.

Byddwn ni’n cwrdd yn yr ardal barcio ar waelod Old Castle Down.

What3Words: ///amuse.fans.fears

Image © Ben Williams

Lleoliad: Saint-y-brid

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 10, 2025  - Gorffenaf 11, 2025

Taith gerdded i ddarganfod gweision y neidr

Dragonfly Magor Eng

Taith gerdded i ddarganfod gweision y neidr

Dydd Iau 10 Gorffennaf, 10:00 – 11:30

Gwarchodfa Cors Magwyr

Ymunwch â thîm Lefelau Byw am daith gerdded hamddenol yng Nghors Magwyr, a fydd yn gyfle i gael golwg agosach ar weision y neidr a mursennod, wrth i ni ddathlu blwyddyn ers i’r @britishdragonflysociety ddynodi’r safle hwn yn fan cyfoethog o ran gweision y neidr!

Mae hefyd yn Wythnos Gweision y Neidr ac yn @wythnosnaturcymru felly hyd yn oed yn fwy o gymhelliant i fynd allan i archwilio yn yr awyr agored!

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, archebwch le ar Eventbrite

Lleoliad: Magwyr

Arwynebeddau: Sir Fynwy

Gorffenaf 10, 2025

Llwybr y Pâl yn RSPB Ynys Lawd

10 Gorffennaf a 12 Gorffennaf

Ymunwch â ni ar daith dywys i ymweld â'n nythfa brysur o adar môr. Y mis hwn fydd y mis olaf i weld ein hamrywiaeth ryfeddol o adar môr cyn iddyn nhw wneud eu ffordd allan i'r môr dros y gaeaf. Dewch draw i'w gweld cyn iddyn nhw adael!

Cost £4.00 - £11.00

Rhagor o fanylion a sut i archebu yn y ddolen

Lleoliad: Caerygbyi

Arwynebeddau: Ynys Môn

Gorffenaf 10, 2025

Monitro Draenogod Caerdydd

Hedgehog cardiff 10.07.2025 Cym

Monitro Draenogod

10 Gorffennaf 1pm - 3pm

Parc y Mynydd Bychan Caerdydd

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i roi camerâu a'u casglu 30 diwrnod yn ddiweddarach. Byddwn yn cyflwyno'r arolwg ac yn dangos i chi sut i sefydlu'r camerâu, cyn i ni rannu'n dimau i'w rhoi allan ar draws y safle. Ar ôl i'r camerâu gael eu casglu, mae delweddau'n cael eu llwytho i fyny i'n hwb ar MammalWeb.

Yn anffodus, mae ein draenogod annwyl dan fygythiad, ar ôl i'w niferoedd ddirywio'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Digwyddiad a am ddim. Rhagor o wybodaeth a manylion archebu yma

Lleoliad: Caerdydd

Arwynebeddau: Caerdydd

Gorffenaf 10, 2025

Monitro bioamrywiaeth

Edible Mach

Monitro bioamrywiaeth

10 Gorffennaf 10:00-12:00

Mae Edible Mach yn dathlu #wythnosnaturecymru drwy gynnal ambell weithgaredd i fonitro bioamrywiaeth. Mae gennym dudalen iNaturalist newydd ar gyfer safle ein rhandir arddangos felly gallwch chi uwchlwytho unrhyw beth a welwch chi yno yma:https://www.inaturalist.org/projects/edible-mach-y-plas Ar Dydd Iau 10fed o Orffennaf, yn ein sesiwn gwirfoddoli rheolaidd yn y Plas 10-12 byddwn yn arolygu’r safle ac yn gwneud cynefinoedd bywyd gwyllt. Dewch draw i ymuno

Y Plas, Machynlleth

Lleoliad: Machynlleth

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 10, 2025

Taith Feithrinfa Goed Sir Ddinbych

Taith Feithrinfa Goed Sir Ddinbych

Taith Feithrinfa Goed Sir Ddinbych

Dydd Iau 10fed Gorfennaf 10am -11:30am

Un Llais Cymru Cynghorau Cymuned a Thref

Taith unigryw o’r feithrinfa goed a blodau gwyllt i ddarganfod ein rhywogaethaubrodorol bendigedig. Sefydlwyd y feithrinfa i gyflenwi prosiectau bioamrywiaethledled Sir Ddinbych ac nid yw ar agor i'r cyhoedd. Bydd hwn yn gyfle gwych i ofyncwestiynau am y gwahanol fathau brodorol o goed, llwyni a phlanhigion a'uhaddasrwydd i swyddogaethau a chynefinoedd gwahanol.Gallai'r wybodaeth hon eich helpu i drawsnewid cynlluniau plannu eich Cyngor,gwella bioamrywiaeth, a hyrwyddo mathau treftadaeth Gymreig sy'n ffynnu yn einhinsawdd unigryw ac yn cefnogi ein bywyd gwyllt amrywiol.

Bydd lleoedd yn gyfyngedig. Cofrestrwch Nawr

Lleoliad: Saint Asaph

Arwynebeddau: Sir Ddinbych

Gorffenaf 10, 2025

Sesiwn Flasu i Wirfoddolwyr! Aberaman

Sesiwn Flasu i Wirfoddolwyr! Aberaman

Sesiwn Flasu i Wirfoddolwyr! Aberaman

9 Gorffennaf 10am – 1pm

Hoffech chi helpu bywyd gwyllt yn eich ardal leol, aros yn egnïol a chwrdd â phobl o'r un anian â chi? Ymunwch â ni am sesiwn flasu gwirfoddoli ym Mhwll Waun Cynon!

Ymunwch â Tara, ein swyddog gwarchodfeydd, i ddysgu mwy am rywogaethau goresgynnol, bywyd gwyllt brodorol a sut allwch chi helpu!

Gwarchodfa natur Pwll Waun Cynon

What 3 words //distorts.deputy.unearthly

Cysylltwch â Tara T.Daniels@welshwildlife.org er mwyn cael rhagor o wybodaeth.

Lleoliad: Aberman

Arwynebeddau: Rhondda Cynon Taf

Gorffenaf 09, 2025

Y Bil Llywodraethu Amgylcheddol Newydd: Beth mae'n ei olygu i gyrff cyhoeddus?

Y Bil Llywodraethu Amgylcheddol Newydd: Beth mae'n ei olygu i gyrff cyhoeddus?

Ddydd Mercher 9th Gorffennaf11am-12.30

Y Bil Llywodraethu Amgylcheddol newydd: beth mae'n ei olygu i gyrff cyhoeddus? Yr Wythnos Natur Cymru hon, ymunwch â Chenedlaethau'r Dyfodol Cymru a Chyswllt Amgylchedd Cymru wrth i ni drafod Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethu a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Darganfyddwch beth mae'r Bil yn ei gynnig a beth allai hyn ei olygu i chi fel corff cyhoeddus. Rydym wrth ein bodd yn cael arbenigedd rhai o'n sefydliadau amgylcheddol blaenllaw yng Nghymru i'w drafod ac i ateb eich cwestiynau. Mae'r digwyddiad hwn ar-lein yn unig, 11am-12.30pm ddydd Mercher 9fed Gorffennaf.

Cofrestrwch arlein

Arwynebeddau: Pob maes

Gorffenaf 09, 2025

Diwrnod Hel Sbwriel Adfer Tirwedd y Ddawan

Restore the Thaw Litter Pick

Diwrnod Hel Sbwriel Adfer Tirwedd y Ddawan

9 Gorffennaf 10:00 - 12:30

Y Rhws, Dwyrain Aberddawan

Ddydd Mercher 9 Gorffennaf 10-12.30pm fel rhan o Wythnos Natur y Fro byddwn yn ail-ymweld â'r SoDdGA yng Ngwarchodfa Natur Aberddawan i gasglu sbwriel. Anfonir y manylion y diwrnod cynt.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gadarnhau eich presenoldeb yn y digwyddiad hwn, cysylltwch â ni ar thaw@valeofglamorgan.gov.uk neu ffoniwch: 07395 365387 neu 07395 365386.

Rhagor o wybodaeth

Lleoliad: Tirwedd y Ddawan

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 09, 2025

Digwyddiad Celf Natur - Gwenoliaid Duon a Gwenoliaid

Swift Art

Digwyddiad Celf Natur - Gwenoliaid Duon a Gwenoliaid

Dydd Mercher 09 Gorffennaf 19:00 – 21:00

Y Barri, Park Rd, y Barri CF62 3BY

Ymunwch â Phartneriaeth Natur Leol y Fro a Sarah Hannis am noson greadigol am ddim wedi'i hysbrydoli gan acrobatiaid awyr hardd yr haf – y gwenoliaid duon, y gwenoliaid a gwenoliaid y bondo.

Digwyddiad rhad ac am ddim. Rhaid archebu lle.

Lleoliad: Y Barri

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 09, 2025

SAFFARI AR LAN Y MÔRTRAETH CEFN SIDAN

Cefn Sidan

SAFFARI AR LAN Y MÔRTRAETH CEFN SIDAN

9 Gorffennaf

10am - 12pm

Cysylltwch â bywyd gwyllt a chynefinoedd godidog Sir Gaerfyrddin yn Wythnos Natur Cymru Nid oes angen archebu ymlaen llaw. Am Ddim. Mwy o wybodaeth: PAubrey@carmarthenhsire.gov.uk

Lleoliad: Cefn Sidan Beach

Arwynebeddau: Sir Gaerfyrddin

Gorffenaf 09, 2025

Digwyddiad Gwas y Neidr Beaufort Hill

Digwyddiad Gwas y Neidr Beaufort Hill

Digwyddiad Gwas y Neidr Beaufort Hill

Pyllau a Choetiroedd Beaufort Hill

Dydd Mercher 9 Gorffennaf 10:00-13:00

Dewch i ymuno â ni i ddysgu popeth am weision y neidr a'u perthnasau. Dyma gyfle gwych i ddysgu am weision y neidr yn ystod Wythnos Genedlaethol Gweision y Neidr ac Wythnos Natur Cymru.

Er mwyn cael rhagor o fanylion ac i archebu, cysylltwch â Sheryl Beck

Lleoliad: Glyn Ebwy

Arwynebeddau: Blaenau Gwent

Gorffenaf 09, 2025

Taith Drwy’r Ddôl, Aberthin

Meadow Walk Aberthin

Taith Drwy’r Ddôl, Aberthin

Mawrth 08 Gorffennaf 18:00 – 20:00

Ymunwch â Grŵp Dolydd y Fro, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot i grwydro o amgylch dôl SoDdGA syfrdanol yn Aberthin!

Noder bod hwn yn safle mawr a bod angen lefel dda o ffitrwydd.

Datgelir y lleoliad ar ôl cofrestru.

Lleoliad: Aberthin

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 08, 2025

Taith Feithrinfa Celtic Wildflowers

Taith Feithrinfa Celtic Wildflowers

Taith Feithrinfa Celtic Wildflowers

Dydd Mawrth 8fed Gorfennaf

10am -12pm

Un Llais Cymru Cynghorau Cymuned a Thref

Mae taith arbennig o’r feithrinfa am ddarganfod ein rhywogaethau brodorol fendigedig. Mae Celtic wildflowers yn eu cyfrannu i brosiectau natur ledled Cymru a gwledydd Prydain, felly bydd yn glyfle gwych i ofyn cwestiynau am yr amrywiadau brodorol gwahanol o goed, llwyni a phlanhigion a’u haddasrwydd i swyddogaethau a chynefinoedd gwahanol.

Gallai wybodaeth hyn eich helpu i drawsnewid cynlluniau plannu eich Cyngor, gwella bioamrywiaeth, a hyrwyddo amrywiadau treftadaeth Cymreig sy’n ffynnu yn ein hinsawdd unigryw ac yn cefnogi ein bywyd gwyllt amrywiol.

Bydd lleoedd yn gyfyngedig. Cofrestrwch Nawr

Lleoliad: Abertawe

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 08, 2025

Creadigrwydd ystyriol yn y coed Pontyberem

Mindful creativity in the woods Cym 1

Creadigrwydd ystyriol yn y coed

Crêwch eich llyfrau braslunio eich hun gyda thechnegau rhwymo llyfrau, a chrwydro drwy'r coed i chwilio am ysbrydoliaeth wrth inni dynnu llun yn ystyriol gyda'n gilydd.

7 Gorffennaf

6 y.p. - 8.30 y.p.

Coed Pentremawr, Pontyberem

Digwyddiad addas i oedolion yn unig (16 oed +)

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Becky Brandwood-Cormack:

beckybrandwoodcormack@smallwoods.org.uk

Digwyddiad Coed Lleol/Small Woods Wales

Lleoliad: Pontyberem

Arwynebeddau: Sir Gaerfyrddin

Gorffenaf 07, 2025

Taith Dywys Afon Elái

Taith Dywys Afon Elái

Taith Dywys Afon Elái

Llun 7 Gorffennaf 10:00 – 12:20

Llanbedr-y-fro

Ymunwch ag Oliver Wicks o Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru am daith dywys ar hyd afon Elái ble bydd yn dangos y gwaith maen nhw wedi’i wneud ac yn dathlu manteision y dirwedd waith hon. Bydd angen esgidiau cerdded da a lefel resymol o ffitrwydd.

I gadw lle ac am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Oliver Wicks yn oliver.wicks@sewrt.org

Lleoliad: Llanbedr-y-fro

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 07, 2025

Cymuned Stryd Y Ddôl

Cymuned Stryd Y Ddôl

Cymuned Stryd Y Ddôl

Dydd Llun 7th Gorffennaf 10:30am- 12:30pm

Un Llais Cymru Cymuned a Thref

Mae cymuned Stryd y Ddôl yn brosiect anhygoel yng nghanol Pontypridd. Wedi'iariannu'n wreiddiol gan grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn 2021, mae'r gofodcymunedol hwn wedi datblygu ers hynny i fod yn lleoliad amlbwrpas i gymunedauymgysylltu â natur, tyfu bwyd, dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau newydd.Mae gan y prosiect hwn gymaint o elfennau gwahanol, mae'n siŵr y bydd rhywbethy gallwch chi gael eich ysbrydoli ganddo a byddwch chi'n gadael yn teimlo'nfrwdfrydig ac yn hyderus i greu rhywfaint o le i natur ar garreg eich drws. ByddHelen a Holly o Gyngor Tref Pontypridd yn ein harwain a byddant yn rhannu eugwybodaeth a'u profiad gyda chi gyd. Unwaith y bydd y daith wedi'i chwblhau, byddcyfle i grwydro o amgylch y safle, yna gallwn fwynhau lluniaeth a chyfle i ofyncwestiynau neu ymlacio yn natur.

Bydd lleoedd yn gyfyngedig. Cofrestrwch Nawr

Lleoliad: Ponytpridd

Arwynebeddau: Rhondda Cynon Taf

Gorffenaf 07, 2025

Taith Fotaneg yng Ngilfach

Gilfach Cym

Taith Fotaneg yng Ngilfach

7 Gorffennaf, 11:00am - 1:00pm

Yr haf yw'r amser perffaith i weld yr ystod eang o blanhigion rhyfeddol sy'n ffynnu yng Ngilfach. Taith gerdded dan arweiniad Bronwen Jenkins, botanegydd a gwirfoddolwr hirdymor gyda Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed.

Gwybodaeth bellach a dolen archebu: https://www.rwtwales.org/events/2025-07-07-botanical-walk-gilfach

Lleoliad: Gilfach

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 07, 2025

Gweithdy codi waliau sych deuddydd Mhwll Du

Gweithdy codi waliau sych deuddydd Mhwll Du

Gweithdy codi waliau sych deuddydd Mhwll Du

7 - 8 Gorffennaf, 9.30am – 4.00pm

Maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Southgate, Abertawe SA3 2AN

Mae waliau sychion yn rhan bwysig o dirwedd penrhyn Gŵyr ac maent wedi bod ers milenia.
Ymunwch â ni am gyfres o weithdai lle byddwn yn dysgu rhagor am bwysigrwydd waliau sychion ym mhenrhyn Gŵyr a sut i'w hadeiladu.

Gallwn weithio yn ôl galluedd unigolion, ond mae angen i unigolion allu codi cerrig o lefel y tir i uchder ysgwydd. Cynhelir bob gweithdy dros ddeuddydd.

  • Darperir te/coffi a bisgedi. Dewch â'ch cinio eich hun
  • Dillad - argymhellir eich bod yn gwisgo llawer o haenau (gan gynnwys dillad dwrglos) er mwyn cadw'n gynnes os yw'n oer, a chadw'n oer pan fydd yr haul yn tywynnu.
  • Darperir menig gwaith, ond mae'n rhaid i'r rhai sy'n cymryd rhan ddod â'u hesgidiau/bŵts blaen dur eu hunain wrth godi waliau

Rhaid cadw lle (am ddim): Dry stonewalling workshop (Pwll Du) at Southgate National Trust Car Park event tickets from TicketSource

Lleoliad: Abertawe

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 07, 2025

GWEITHGAREDDAU YN LLYN LLECH OWAIN

Llyn Llech Owain

GWEITHGAREDDAU YN LLYN LLECH OWAIN

Cysylltwch â bywyd gwyllt a chynefinoedd godidog Sir Gaerfyrddin yn Wythnos Natur Cymru Nid oes angen archebu ymlaen llaw. Mwy o wybodaeth: PAubrey(ecarmarthenhsire.gov.uk

6 Gorffennaf

10:30 - 2pm

Lleoliad: Llyn Llech Owain

Arwynebeddau: Sir Gaerfyrddin

Gorffenaf 06, 2025

Taith Gerdded Llesol ar gyfer Wythnos Natur Cymru, Caerdydd

Taith Gerdded Llesol ar gyfer Wythnos Natur Cymru, Caerdydd

Taith Gerdded Llesol ar gyfer Wythnos Natur Cymru, Caerdydd

6 Gorffennaf, 10:00 - 12:00

Cymerwch seibiant o fwrlwm bywyd ac ymunwch â ni am dro hamddenol yn ystod Wythnos Natur Cymru i hyrwyddo lles ac ailgysylltu â byd natur.

Man cyfarfod yw Maes Parcio Fferm y Fforest. link

Lleoliad: Cardiff

Arwynebeddau: Caerdydd

Gorffenaf 06, 2025

Swifft Hâff Llanberis

'Swifft Hâff' Llanberis

'Swifft Hâff' Llanberis

6 Gorffennaf 7:30pm - 10:30pm

Gwylio a dysgu am yr adar anhygoel yma - a mwynhau 'Swifft Hâff'!

Rhagor o wybodaeth a manylion archebu yma

Cyfraniad digwyddiad partner yw hwn i ddathlu Wythnos Natur Cymru

Lleoliad: Llanberis

Arwynebeddau: Gwynedd

Gorffenaf 06, 2025

Braslunio Byd Natur, Llanilltud Fawr

Nature sketch

Braslunio Byd Natur, Llanilltud Fawr

Dydd Sul 06 Gorffennaf 14:00 – 15:00

Mynwent Eglwys Sant Illtud Llanilltud Fawr

Dewch i werthfawrogi natur yn y fynwent drwy dynnu lluniau neu ysgrifennu am oddeutu awr unwaith y mis, dan arweiniad y darlunydd, Sarah Hannis.

Rhaid archebu

Croesewir rhoddion.

Lleoliad: Llanilltud Fawr

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 06, 2025

Green Gathering Pontardawe

green-gathering-pontardawe-cym

Green Gathering Pontardawe

Dydd Sul, 6 Gorffennaf 10:00-4:00

Cynhelir Green Gathering Glantawe ym Mharc Glan yr Afon, Pontardawe

Dewch i ymgolli ym myd natur. Wyddoch chi byth beth wnewch chi ei ddarganfod. Cymerwch ran mewn digwyddiadau celf a chrefft, gwnewch fomiau hadau a gweld gwaith celf sydd ar werth.

Mae'r holl weithgareddau yn rhad ac am ddim!

Dewch draw ar y diwrnod. Does dim angen archebu.

Mynediad am ddim i blant. £3 i oedolion.

Lleoliad: Pontardawe

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 06, 2025

Cystadleuaeth Cerflunio Pili-pala Saint-y-brid

Cystadleuaeth Cerflunio Pili-pala Saint-y-brid

Cystadleuaeth Cerflunio Pili-pala Saint-y-brid

5-6 Gorffennaf, 10:00 –18:00

I helpu i ddathlu’r glöyn byw hynod brin sydd i’w weld yn Saint-y-brid - y Fritheg Frown, mae Gwarchod Gloÿnnod Byw yn eich gwahodd i fod yn greadigol a chymryd rhan! Gwnewch eich glöyn byw eich hun, gadewch eich dychymyg yn rhydd! Yn agored i bawb yn y pentref – aelwydydd, busnesau, grwpiau cymunedol.

Arddangoswch nhw yn eich gardd neu’ch dreif rhwng 10am ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf tan 6pm ddydd Sul 6 Gorffennaf

Gwnewch yn siŵr eu bod yn ddigon sefydlog i wrthsefyll y tywydd. I’w beirniadu ar sail creadigrwydd, gwreiddioldeb a gwerth artistig. Bydd gwobrau i’r 1af, yr 2il a’r 3ydd.

Cyflwyniad yn The Fox 7pm nos Fawrth 8 Gorffennaf.

Lleoliad: St Brides

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 05, 2025  - Gorffenaf 06, 2025

Diwrnod Natur Llangors

Llangorse Nature Day Cym

Diwrnod Natur Llangors

5 Gorffennaf, 10:00am i 2:00pm

Comin Llangors, Llyn Syfaddan

Dathlwch Wythnos Natur Cymru yn Llangors! Bydd y digwyddiad yn cynnwys:

Teithiau Tywys, Creu Dyddiadur Natur, a dysgu sut i adnabod coed Mae hwn yn ddigwyddiad agored ac am ddim, wedi'i anelu at deuluoedd a phobl ifanc.

Trefnir y digwyddiad gan y Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Lleoliad: Llangors

Arwynebeddau: Bannau Brycheiniog

Gorffenaf 05, 2025

Botaneg i Ddechreuwyr

Botaneg i Ddechreuwyr

Botaneg i Ddechreuwyr

5 Gorffennaf 11:00-12:00

Rhaid cadw lle ymlaen llaw. Digwyddiad rhad ac am ddim.

I ddathlu Diwrnod y Dolydd ac Wythnos Natur Cymru rydym yn cynnal dathliad o fyd natur. Fel rhan o’r diwrnod hwn rydym yn cynnig sesiwn botaneg i ddechreuwyr am ddim i ddysgu mwy am y planhigion rhyfeddol hyn.

Ydych chi’n barod i fynd ar antur i fyd dolydd a glaswelltiroedd? Ymunwch â ni am ddigwyddiad botaneg i ddechreuwyr ble byddwch yn dysgu am yr amrywiaeth o rywogaethau o blanhigion mae’r tirweddau hyn yn gartref iddynt. Byddwn yn crwydro drwy harddwch a phwysigrwydd glaswelltiroedd.

What3Words: palms.rabble.stuff

Lleoliad: Caerdydd

Arwynebeddau: Caerdydd

Gorffenaf 05, 2025

Darganfod Cemlyn gyda'r wardeiniaid

Darganfod Cemlyn gyda'r wardeiniaid

Darganfod Cemlyn gyda'r wardeiniaid

1 Mehefin 2025 - Sunday 13 Gorffennaf 2025

11:00am - 3:00pm

Ymunwch â wardeniaid Cemlyn ar daith gerdded dywys o amgylch Gwarchodfa Natur anhygoel Cemlyn i weld môr-wenoliaid pigddu, môr-wenoliaid cyffredin a môr-wenoliaid Arctig yn nythu yn y gytref adar môr ysblennydd hon.

Rhagor o wybodaeth a manylion archebu yma

Cyfraniad digwyddiad partner yw hwn i ddathlu Wythnos Natur Cymru

Lleoliad: Cemaes

Arwynebeddau: Ynys Môn

Gorffenaf 05, 2025  - Gorffenaf 13, 2025

SAFFARI AR LAN Y MÔRTRAETH CEFN SIDAN

Cefn Sidan

SAFFARI AR LAN Y MÔRTRAETH CEFN SIDAN

9 Gorffennaf

10am - 12pm

Cysylltwch â bywyd gwyllt a chynefinoedd godidog Sir Gaerfyrddin yn Wythnos Natur Cymru Nid oes angen archebu ymlaen llaw Mwy o wybodaeth: PAubrey@carmarthenhsire.gov.uk

Lleoliad: Cefn Sidan Beach

Arwynebeddau: Sir Gaerfyrddin

Gorffenaf 05, 2025

Diwrnod Bioblitz Stad Southwood

Bioblitz Day at Southwood Estate

Diwrnod Bioblitz Stad Southwood

Diwrnod BioBlitz yn Stad Southwood 5 Gorffennaf 09:00 – 17:00

Helpwch ni i gofnodi bywyd gwyllt yn Stad Southwood ar y Diwrnod BioBlitz arbennig hwn ar gyfer Wythnos Natur Cymru a Diwrnod Cenedlaethol y Dolydd! Cofnodwch y planhigion a’r anifeiliaid y dewch chi ar eu traws a rhyfeddwch at yr amrywiaeth o rywogaethau sy’n ffynnu yn y dirwedd anhygoel hon. Does dim angen profiad. Yn addas ar gyfer dechreuwyr, y rhai sydd am wella eu sgiliau, ac arbenigwyr. Yn addas i bawb. Rhaid i blant dan 12 fod yng nghwmni oedolyn.

Digwyddiad am ddim. Does dim angen archebu. I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Rebecca Evans 01646 623110 stackpole@nationaltrust.org.uk

Stad Southwood yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Sir Benfro

Cysylltwch ag Rebecca Evans am ragor o wybodaeth 01646 623110

Lleoliad: Niwgwl

Arwynebeddau: Sir Benfro

Gorffenaf 05, 2025

Gwylio Blodau Gwyllt Llandinam

Gwylio Blodau Gwyllt Llandinam

Gwylio Blodau Gwyllt Llandinam

5 Gorffennaf, 11:00am - 1:00pm

Helpwch ni i arolygu'r dolydd yng nghwarchodfa GraeanLlandinam , ffordd ardderchog o ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Dolydd ac Wythnos Natur Cymru! Nid oes angen profiad blaenorol; darperir hyfforddiant, sy’n golygu bod hwn yn gyfle perffaith i ddysgu sut i adnabod rhai o blanhigion y dolydd. Rhaid archebu.

Lleoliad: Llandinam

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 05, 2025

Diwrnod Alfred Russel Wallace Brynbuga

Diwrnod Alfred Russel Wallace Brynbuga

Diwrnod Alfred Russel Wallace Brynbuga

5 Gorffennaf, Sessions House, Brynbuga 11am tan 5pm

I ddathlu cyflawniadau un o frodorion ​​enwocaf Brynbuga, bydd Cymdeithas Ddinesig Brynbuga yn cynnal Diwrnod Alfred Russel Wallace i nodi'r diwrnod, ar 1 Gorffennaf 1858, y cyflwynodd Wallace a Darwin eu damcaniaeth am esblygiad. Bydd teithiau cerdded tywysedig, arddangosfeydd a ffilmiau, a chrefftau; mae'r rhaglen lawn ar gael ar y dudalen Facebook yma.

Lleoliad: Brynbuga

Arwynebeddau: Sir Fynwy

Gorffenaf 05, 2025

Tu Hwnt i'r Ffin: Dianc o Erddi ar y Gogarth

Tu Hwnt i'r Ffin: Dianc o Erddi ar y Gogarth

Tu Hwnt i'r Ffin: Dianc o Erddi ar y Gogarth

17 Mehefin 2025 - 1 Hydref 2025

10:00am - 5:30pm

Cyfle i fynd yn ôl mewn amser a darganfod sut daethpwyd â phlanhigion gardd i Gymru o bedwar ban byd, a’r niwed sy’n gallu cael ei achosi i fyd natur hyd heddiw wrth iddyn nhw ddianc o erddi. Yn cynnwys gwaith gan yr artist, Manon Awst.

Rhagor o wybodaeth

Cyfraniad digwyddiad partner yw hwn i ddathlu Wythnos Natur Cymru

Lleoliad: y Gogarth

Arwynebeddau: Conwy

Gorffenaf 05, 2025  - Gorffenaf 13, 2025

Taith Gerdded Ystlumod yng Nghastell Ffwl-y-mwn

Taith Gerdded Ystlumod

Dydd Sadwrn 05 Gorffennaf 21:00-23:00

Ymunwch â Phrosiect Adfer Tirwedd y Ddawan a Grŵp Ystlumod Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr ar daith gerdded ystlumod gyda'r nos o amgylch Castell Ffwl-y-mwn. Bydd gennym synwyryddion ystlumod i'n galluogi i glywed galwadau ecoleoli'r ystlumod a darganfod ble maen nhw'n clwydo wrth iddyn nhw ddod allan gyda'r cyfnos. Dysgwch am fywyd ystlumod a phrofwch y cyffro o'u gweld yn hedfan.

Digwyddiad rhad ac am ddim. Rhaid archebu.

Croesewir rhoddion.

Lleoliad: Castell Ffwl-y-mwn

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 05, 2025

Dydd Dolydd Caerdydd

Dydd Dolydd Caerdydd

Dydd Dolydd Caerdydd

Gorffennaf 5 10:00 am - 2:00 pm

Am Ddim. Dim angen archebu.

Beth am gychwyn Wythnos Natur Cymru trwy ein helpu i ddathlu’r cynefinoedd blodau gwyllt gwych sydd gennym yma yng Nghaerdydd? Diwrnod Cenedlaethol y Dolydd yw’r amser delfrydol i ddarganfod sut mae Ceidwaid Parciau Cymunedol a Phartneriaeth Natur Leol Caerdydd yn rheoli ac yn adfer cynefinoedd glaswelltir llawn blodau gwyllt yn y ddinas, hafan ar gyfer glöynnod byw, gwenyn a llu o fywyd gwyllt arall.

Gyda gweithdai a gweithgareddau wedi’u cynllunio, bydd digon i’ch hysbysu a’ch diddanu.

What3Words: clear.solved.tent

Lleoliad: Caerdydd

Arwynebeddau: Caerdydd

Gorffenaf 05, 2025

Diwrnod Fferm Gymunedol

Diwrnod Fferm Gymunedol

Diwrnod Fferm Gymunedol

5 Gorffennaf 9:30 - 4:00 pm

Fferm Parc yr Arglwydd, Llansteffan

Ymunwch â Glasbren ar gyfer eu Diwrnod Fferm Gymunedol fisol nesaf pan fyddwn yn dathlu Wythnos Natur Cymru!

Yn ogystal â bore o weithgareddau fferm cymunedol - byddwn yn dathlu Wythnos Natur Cymru drwy groesawu Tim Hollis a Helen Peake i'n tywys ar daith gerdded i gwrdd â'r bywyd gwyllt sydd ar y fferm.

Darganfyddwch fwy am Glasbren yma

Lleoliad: Llansteffan

Arwynebeddau: Sir Gaerfyrddin

Gorffenaf 05, 2025

Celf yn yr Ardd yng Ngerddi Dyffryn

Dyffryn

Celf yn yr Ardd yng Ngerddi Dyffryn

Tan 18 Gorffennaf

Cyfunwch gelf a'r awyr agored yng Ngerddi Dyffryn yr haf hwn. O 20 Mehefin tan 18 Gorffennaf bydd y gerddi'n gartref i ddarnau unigryw o gelf awyr agored rhyngweithiol.

Mae'r darnau celf hyn yn dathlu byd natur ac yn datgelu stori Dyffryn fel gardd sy’n warchodfa natur. Maent yn canolbwyntio ar gysylltedd, garddwriaeth ac annog ymwelwyr i gofleidio ac ymateb i fyd natur.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol - Gerddi Dyffryn

Lleoliad: Dyffryn

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 04, 2025  - Gorffenaf 18, 2025

Sgwrs a Thaith Gerdded Gwenoliaid Duon yn Nhrefynwy

Sgwrs a Thaith Gerdded Gwenoliaid Duon yn Nhrefynwy

Sgwrs a Thaith Gerdded Gwenoliaid Duon yn Nhrefynwy

3 Gorffennaf, 7pm-9pm

Sgwrs yng Nghanolfan Bridges (7pm-8pm), Taith Gerdded Leol (8pm-9pm)

Allwch chi ddweud y gwahaniaeth rhwng gwenoliaid duon, gwenoliaid a gwenoliaid y bondo? Dewch i ddarganfod sut allwch chi helpu gwenoliaid duon yn Nhrefynwy, gan grŵp cadwraeth 'Swifts of Usk'.

Lleoliad: Trefynwy

Arwynebeddau: Sir Fynwy

Gorffenaf 03, 2025

Gwenoliaid duon ar fachlud haul yng Nghlydach

Gwenoliaid duon ar fachlud haul yng Nghlydach

Gwenoliaid duon ar fachlud haul yng Nghlydach

3 Gorffennaf, 8.30pm

Cwrdd ar Park Rd, Clydach, Abertawe SA6 5LT
Man cwrdd: 51°41'56.4"N 3°53'23.1"W - Google Maps
What3words: ///sugars.lollipop.noise

Ymunwch â ni i ddathlu gwenoliaid duon gyda'r hwyr.

Dewch i glywed am brosiect Achub Gwenoliaid Duon Abertawe sydd â’r nod o warchod ein gwenoliaid duon lleol poblogaidd, sydd mewn perygl. Gallwch ymuno â ni hefyd ar dro machlud haul i chwilio am wenoliaid duon (a fydd yn dechrau o gwmpas machlud yr haul)

  • Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Yn ddibynnol ar y tywydd
  • Does dim angen cadw lle - dewch draw a dewch â'ch teulu a'ch ffrindiau!

Gwefan y prosiect: Saving Swansea's Swifts - Gower Ornithological Society

I ofyn cwestiynau am ymgyrch Saving Swansea's Swifts, e-bostiwch: swanseaswifts@gmail.com

Lleoliad: Abertawe

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 03, 2025

Gwenoliaid duon ar fachlud haul yn Nhreforys

Gwenoliaid duon ar fachlud haul yn Nhreforys

Gwenoliaid duon ar fachlud haul yn Nhreforys

4 Gorffennaf, 8.30pm

Cwrdd wrth y fynedfa i Barc Treforys ar Park Lodge Rd, Treforys, Abertawe SA6 6DL
Man cwrdd: 51°40'04.9"N 3°55'54.6"W - Google Maps
What3words: ///quest.orders.bump

Ymunwch â ni i ddathlu gwenoliaid duon gyda'r hwyr.

Dewch i glywed am brosiect Achub Gwenoliaid Duon Abertawe sydd â’r nod o warchod ein gwenoliaid duon lleol poblogaidd, sydd mewn perygl. Gallwch ymuno â ni hefyd ar dro machlud haul i chwilio am wenoliaid duon (a fydd yn dechrau o gwmpas machlud yr haul)

  • Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Yn ddibynnol ar y tywydd
  • Does dim angen cadw lle - dewch draw a dewch â'ch teulu a'ch ffrindiau!

Gwefan y prosiect: Saving Swansea's Swifts - Gower Ornithological Society

I ofyn cwestiynau am ymgyrch Saving Swansea's Swifts, e-bostiwch: swanseaswifts@gmail.com

Lleoliad: Abertawe

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 03, 2025

Arolwg Ystlumod y Cyfnos

Arolwg Ystlumod y Cyfnos – Prosiect Wilder Lugg

Arolwg Ystlumod y Cyfnos – Prosiect Wilder Lugg

2 Gorffennaf, 9.15pm - 10.45pm

Ymunwch â Swyddog Prosiect Wilder Lugg a’r ecolegwr Dan Westbury i gerdded a chynnal arolwg o ystlumod ar fferm Wilder Pentwyn, Llanbister.

Manylion pellach

Lleoliad: Fferm Wilder Pentwyn, Llanbister

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 02, 2025

Taith Gerdded Bywyd Gwyllt RSPB Conwy

Taith Gerdded Bywyd Gwyllt

Dydd Sadwrn 21 Mehefin,

11yb-1yp. Ymunwch â’n tywyswyr gwybodus a darganfyddwch fywyd gwyllt bendigedig RSPB Conwy, wrth iddyn nhw anelu at weld 50 o rywogaethau adar mewn dim ond ychydig oriau!

£4.00 y pen. Ffioedd mynediad yn berthnasol.

Angen bwcio events.rspb.org.uk/conwy
rspb.org.uk/conwy 

Lleoliad: RSPB Conwy

Arwynebeddau:

Mehefin 21, 2025

Bryn Roundton: ôl troed trwy 40 mlynedd

Bryn Roundton: ôl troed trwy 40 mlynedd

11am - 1pm

Ymunwch â ni i ddathlu pen-blwydd Gwarchodfa Natur Bryn Roundton yn 40 oed, gyda thaith dywys hafaidd drwy’r warchodfa, ac yna taith gerdded i fyny i gopa’r bryn, gan ddysgu popeth am fywyd gwyllt y safle arbennig hwn ar hyd y ffordd.

Manylion pellach

Lleoliad: Bryn Roundton, Yr Ystog

Arwynebeddau: Sir Drefaldwyn

Mehefin 14, 2025

Sgwrs a Theithiau y Wennol Ddu

Sgwrs a Theithiau y Wennol Ddu

Dydd Mawrth 10 Mehefin: 19:00 i 21:00
Sgwrs yn Clwb Bowlio Romilly, Parc Romilly, Y Barri, wedi’i dilyn gan daith dywysedig i tor Gwennol Ddu yn y Cnap.

Ymunwch â Phartneriaeth Natur y Fro a Edward Mayer o Swift Conservation am noson ysbrydoledig i ddysgu popeth am wenoliaid duon– eu hecoleg, eu cadwraeth, a sut gallwch chi helpu!

Archebwch eich tocyn an ddim yma!

Lleoliad: Clwb Bowlio Romilly

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Mehefin 10, 2025

Gweithdy Cysylltiadau Gwastraff Glo Dyffryn Ogwr

Coal Spoil Connections Workshop - Ogmore Washeries (June 2025) (4)

Gweithdy Rhywogaethau Eiconig Sborion Glo yng Ngolchfeydd Ogwr

Ymunwch â thîm Cysylltiadau Sborion Glo a Liam Olds am deithiau tywys i ddarganfod y rhywogaethau rhyfeddol sydd i'w cael ar domennydd sborion

glo. Dysgwch fwy am y prosiect Cysylltiadau Sborion Glo a'r bywyd gwyllt y mae Golchfeydd Ogwr yn gartref iddo. a

Dyddiad: Dydd Llun 9 Mehefin 2025

10:30am < Taith 1 o amgylch y safle gyda Liam Olds 1:00pm <- Taith 2 o amgylch y safle gyda Liam Olds

Amser: 10:30am-3:30pm Lleoliad: Golchfeydd Ogwr

Cynorthwyydd Cadwraeth Buglife: Ashleigh Davies Ll t|

E-bost: Ashleigh.Davies@buglife.org.uk

Lleoliad: Ngolchfeydd Ogwr

Arwynebeddau: Pen-y-bont ar Ogwr

Mehefin 09, 2025

Adrodd stori ym Mharc Pont-y-pŵl

8 Gorffennaf 17:00-18:00

Rydym wrth ein bodd y bydd Daniel Morden yn ymuno â ni ym Mharc Pont-y-Pŵl i adrodd chwedl Gymreig am Gwion Bach a'i ddihangfa anhygoel rhag y dduwies Ceridwen. Mae’r stori gyffrous yn dilyn hynt Gwion Bach wrth iddo drawsnewid i wahanol anifeiliaid er mwyn dianc, ond i Ceridwen ei hun drawsnewid yn ysglyfaethwr a mynd ar ôl yr anifeiliaid hynny! Dewch i wrando ar y stori hudolus a gwefreiddiol hon o amser maith yn ôl!

Bydd cyfle hefyd i wneud gwaith crefft yn dilyn y stori, er mwyn i blant gael creu masgiau o rai o’r anifeiliaid yn y stori a’u lliwio.

Cynulleidfa: 7 oed a hŷn

Am ragor o fanylion ac i archebu lle am ddim ewch i wefan Eventbrite

Lleoliad: Pont-y-Pŵl

Arwynebeddau: Torfaen

Dim dyddiadau i ddod

Therapi’r Goedwig Glyn Ebwy

Therapi’r Goedwig Glyn Ebwy

Therapi’r Goedwig Glyn Ebwy

Dydd Mercher 9 Gorffennaf 6pm - 8pm

Ymunwch â ni am sesiwn ymwybyddiaeth ofalgar yn seiliedig ar natur fel rhan o Wythnos Natur Cymru.

Mae'r sesiwn ‘Therapi’r Goedwig’ hon, sydd AM DDIM, yn eich gwahodd i arafu, anadlu'n ddwfn, ac ailgysylltu â'r tir... a chi'ch hun, a hynny wedi'ch amgylchynu gan harddwch Cymru.

Gwarchodfa Natur Dyffryn Distaw - Glyn Ebwy

Am ragor o wybodaeth, edrychwch amdanom ar Instagram

@wildheart.woodland_therapy

Lleoliad: Gwarchodfa Natur Dyffryn Distaw

Arwynebeddau: Blaenau Gwent

Dim dyddiadau i ddod