Gweminar: Adfer Natur a Rheoli Asedau
9th Gorffennaf 2 PM - 3:30 PM Gweminar
Dan ofal Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru fel rhan o Wythnos Natur Cymru.
Mewn cydweithrediad ag Ystadau Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Ymunwch â ni ar gyfer y cyntaf mewn cyfres newydd o chwe gweminar sy’n archwilio rôl arweinyddiaeth y sector cyhoeddus wrth ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur drwy reoli tir ac asedau.
Ffocws y weminar
Bydd y sesiwn gyntaf hon yn edrych ar gamau ymarferol y gall rheolwyr asedau eu cymryd i ymgorffori adfer natur wrth reoli a chynnal adeiladau a thir.
Gan fod disgwyl targedau adfer natur gorfodol o fewn y ddwy flynedd nesaf o dan Fil yr Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026, mae’r weminar hon yn gyfle amserol i:
Glywed enghreifftiau ysbrydoledig o bob cwr o Gymru
Dysgu am ddulliau syml a chost-effeithiol
Trafod pa gymorth sydd ei angen ar sefydliadau
Ymhlith y siaradwyr mae
Eifiona Williams, Llywodraeth Cymru
Ant Rogers, Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth, Partneriaeth Natur Sir Benfro
Y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, Cyngor Sir Fynwy
Penny Gruffydd, Swyddog Seilwaith Gwyrdd, Cyngor Abertawe
Jacinta Challinor, Coed Cadw
Bydd rhagor o siaradwyr yn cael eu cyhoeddi.
Pwy ddylai fynychu?
Rheolwyr asedau ac ystadau
Timau eiddo a chyfleusterau
Swyddogion sy’n gweithio ym meysydd hinsawdd, bioamrywiaeth neu reoli tir
Aelodau etholedig ac arweinwyr y sector cyhoeddus
Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle am ddim, cliciwch ar y ddolen Eventbrite
Location: Ar-lein
Dates: 9 Gorffenaf 2026