Skip to content

Sut i gymryd rhan- Wythnos Natur Cymru 4 -12 Gorffennaf

Sut i gymryd rhan

Trefnwyr

👉 Cyflwynwch ddigwyddiad: boed hynny’n daith gerdded bywyd gwyllt neu'n sgwrs natur mewn parc lleol, os hoffech chi rannu eich cariad at natur, trefnwch a rhestrwch eich digwyddiad yma .

👉 Edrychwch ar ein tudalen adnoddau: cewch fynediad at gefnogaeth ac offer i helpu i drefnu a hyrwyddo eich digwyddiad.

👉 Cefnogwch Wythnos Natur Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol: hoffwch, rhowch sylwadau neu ail-rannwch bostiadau a defnyddiwch

#WythnosNaturCymru i fod yn rhan o'r stori.

Cymunedau

👉 Porwch ein tudalen ddigwyddiadau: darganfyddwch beth sy'n digwydd yn eich ymyl chi. Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad i archebu, neu os nad oes angen archebu, dewch draw ar y diwrnod!

👉 Edrychwch ar ein tudalen adnoddau: dewch o hyd i awgrymiadau ar sut allwch chi helpu natur i ffynnu drwy wneud pethau syml, bob dydd.

👉 Dilynwch Wythnos Natur Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol: a byddwch yn ymwybodol o’r hyn sydd yn y calendr digwyddiadau a’r ffyrdd y gall natur eich ysbrydoli. Defnyddiwch #WythnosNaturCymru i fod yn rhan o'r stori.

Ysgolion

Cystadleuaeth greadigol gyda Bardd Plant Cymru, Nicola Davies.

Mae Wythnos Natur Cymru yn ffordd ardderchog o gael disgyblion a staff i gymryd rhan! Eleni, rydym wedi partneru â Bardd Plant Cymru, Nicola Davies, i ddod â chystadleuaeth greadigol genedlaethol i ysgolion ar gyfer disgyblion CA1 a CA2.

Mae disgyblion ledled Cymru yn cael eu hannog i gyflwyno ymatebion creadigol sy'n archwilio sut maen nhw'n sylwi ar natur ac yn cael profiadau o natur yn eu bywydau bob dydd – o’r ardd gefn i fuarth yr ysgol i’r siwrnai yn ôl adref.

🍃 Lawrlwythwch y pecyn adnoddau (PDF)

Mae'r gystadleuaeth yn syml…

  1. Lawrlwythwch ac argraffwch becyn adnoddau
  2. Gofynnwch i'ch dosbarth gwblhau eu hadnodd – po fwyaf creadigol gorau’n y byd!
  3. Lluniwch restr fer o dri chais gorau eich dosbarth
  4. Cyflwynwch eich ceisiadau gorau i Nicola Davies gaiawarriors.davies@googlemail.com erbyn dydd Gwener, 5 Mehefin.

Wythnos Natur Cymru 2026 – Cystadleuaeth Barddoniaeth i Ysgolion Cynradd Trosolwg (PDF)

Chwilio am ffyrdd eraill o gymryd rhan fel ysgol? Byddwch yn ysgol sy'n Caru Gwenyn – gweler yr adran Caru Gwenyn am syniadau 🐝

Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â ni

Garden pond Rose R web
Pond dipping Cosmeston VCC web
Bee orchid SM web