Skip to content
0

Digwyddiadau Wythnos Natur Cymru 4-12 Gorffennaf

Dathlwch harddwch ac amrywiaeth natur Cymru gyda'n gilydd.

Ymunwch â digwyddiad, archwiliwch eich ardal leol, byddwch yn greadigol, neu arhoswch i sylwi ar y natur o'ch cwmpas - lle bynnag y byddwch 🌍💚

Ewch i'n calendr digwyddiadau i weld beth sy'n digwydd yn eich ardal chi ac ewch i'r brif dudalen am syniadau ac ysbrydoliaeth.

Mae rhywbeth yno i bawb, o ddechreuwyr i’r rhai sy’n caru natur. Mae digwyddiadau hefyd yn digwydd ar hyd a lled gwarchodfeydd Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt a'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar. Mae'r rhan fwyaf yn ddi-dâl ac yn aml yn cynnwys teithiau cerdded dan arweiniad arbenigwyr.

Gŵyl BioBlitz Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

NBGW Bioblitz 18.07.2026

18- 19 Gorffennaf

Ymunwch â ni am ddau ddiwrnod o ddarganfod ar draws yr Ardd Fotaneg a Gwarchodfa Natur Waun Las, gan archwilio rhyfeddodau gwyllt ein tirwedd nodedig.

Mae BioBlitz yn ras yn erbyn amser i ddod o hyd i gymaint o fywyd gwyllt â phosibl dros gyfnod penodol a’i adnabod, gan greu ciplun o amrywiaeth rhywogaethau mewn lleoliad penodol. Gallwch ein helpu i gofnodi cymaint o rywogaethau â phosibl mewn 48 awr, a bod yn rhan o ddathliad mawr o fywyd gwyllt a chadwraeth Cymru.

Am Ddim - Gyda Mynediad

Manylion pellach yma

Lleoliad: Llanarthne

Arwynebeddau: Sir Gaerfyrddin

Gorffenaf 18, 2026  - Gorffenaf 19, 2026

Gŵyl Natur y Fro

Vale Nature festival 2026

18 Gorffennaf 11:00 - 15:00
Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston

Ymunwch â ni i ddathlu natur yn y Fro a darganfod beth y gallwch chi ei wneud er mwyn cefnogi adferiad natur.

Archebwch eich lle am ddim yma

Lleoliad: Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 18, 2026

Taith Gerdded Blodau Gwyllt yn y Gilfach

12 Gorffennaf, 2pm - 4pm Gilfach, ger Rhaeadr Gwy

Yr haf yw'r amser perffaith i weld yr amrywiaeth eang o blanhigion gwych sy'n ffynnu yn y Gilfach. Mae gloÿnnod byw wrth eu bodd â'r blodau gwyllt a'r glaswellt a cheir yma’r fritheg berlog fach, y glesyn cyffredin a’r brithribin gwyrdd i enwi ond ychydig.

Manylion pellach a dolen archebu

Lleoliad: Rhaeadr Gwy

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 12, 2026

Amrywiaeth o dan eich traed: pryfed Pen-lan

Biodiversity beneath your feet insects of Penlan_Cymraeg

12 Gorffennaf, Sesiynau am 11.00am - 1.00pm; ac 2pm-4pm

Ymunwch â'r entomolegydd Liam Olds am daith dywys i ddarganfod pryfed yng Nghae Ras Pen-lan. Mae'r safle, a oedd yn gae ras o fri yn y 19eg ganrif, bellach yn hafan i fywyd gwyllt. Archwiliwch yr amrywiaeth o bryfed sy'n ffynnu yma, o wenyn ac ieir bach yr haf i chwilod a chreaduriaid di-asgwrn-cefn eraill, gan fwynhau'r golygfeydd dros Gwm Tawe Isaf a Bae Abertawe ar yr un pryd.

Dyma gyfle perffaith i bobl o bob oed sy'n dwlu ar natur ddarganfod bywyd cudd pryfed yn y man gwyrdd trefol hwn.

Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

Man cyfarfod: ar hyd Clwyd Road, yn y llwybr mynediad i Gae Ras Pen-lan, Pen-lan, Abertawe SA5 7EY
What3words: power.tonic.trace

Rhaid cadw lle

Lleoliad: Pen-lan

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 12, 2026

Bore Gwyfynod ym Mhenllergaer

Moth-Morning

Dydd Sul 12 Gorffennaf am 10:00am

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed pa greaduriaid sy'n deffro tra rydyn ni'n cysgu?

Dan arweiniad ein Swyddog Cadwraeth, Chris, byddwn yn agor ein trapiau dros nos (sydd ddim yn gwneud niwed) i ddarganfod y rhywogaethau hardd ac amrywiol o wyfynod sy'n byw yn y coed. Dyma ffordd hamddenol a diddorol o ddysgu rhagor am wyfynod, a'n helpu ni i gofnodi ein canfyddiadau.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, wedi'i ariannu gan a gyda diolch i Rwydweithiau Natur.

Yn ddibynnol ar y tywydd. Hwyl i bob oed!

Cyfarfod yn y Ganolfan Ymwelwyr, Coed Dyffryn Penllergaer

Gallwch chi gadw eich lle yn rhad ac am ddim yma

Lleoliad: Penllergare

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 12, 2026

“The Art of Awe”: taith gerdded GeoMôn, Porth Amlwch

12 Gorffennaf 14:00–17:00

Ymunwch â ni ar grwydr, a chael eich trochi mewn tirweddau y mae olion dwfn ein hanes yn treiddio drwyddyn nhw. Cewch eich tywys i gysylltu’n greadigol â’r ddaeareg a’r dreftadaeth leol wrth i ni ddilyn llwybr yr arfordir o Borth Amlwch i’r ffynnon sanctaidd hanesyddol, Ffynnon Eilian. Byddwn ni’n cerdded yn hamddenol gan gymryd egwyliau rheolaidd, fydd yn rhoi'r amser a'r gofod i ni arsylwi a phrofi ein hamgylchedd.

Pellter: 4–5km. Bydd y daith gerdded yn crwydro ar hyd rhan o Lwybr Arfordirol Ynys Môn, felly dylech chi ddisgwyl llwybrau anwastad, grisiau, rhai rhannau agored, a rhai llethrau bach.

Mae manylion pellach a chyfle i gadw lle ar gyfer y digwyddiadau ar gael yma

Lleoliad: Porth Amlwch

Arwynebeddau: Ynys Môn

Gorffenaf 12, 2026

Ysgol Traeth Ynys y Barri

Event Cym

12 Gorffennaf 10:30am-12:00 Bae Whitmore

Oedran 2+ gan gynnwys gweithgareddau natur, bywyd gwyllt, crefft y goedwig a chelf gyda gemau a straeon am y môr.

Archebwch eich lle ar wefan Academi'r Traeth

Lleoliad: Ynys y Barri

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 12, 2026

Diwrnod Natur i Deuluoedd yn Nhrigonos

12 Jul Family Day SOCIALS

12 Gorffennaf 10:00-16:00 Beddgelert

Plant am ddim!

Ymunwch â ni am ddiwrnod teuluol hamddenol ac anturus wedi’i leoli yn Nhrigonos, gan gyfuno natur, gweithgareddau awyr agored ac amser gyda’ch gilydd yng nghanol Eryri.

Bydd y diwrnod yn dechrau gyda thaith natur dywysedig ysgafn yn archwilio’r dirwedd hynod ddiddorol o amgylch Chwarel Dorothea, ac yna picnic wrth ochr y llyn. Yn y prynhawn, bydd teuluoedd yn cael cyfle i roi cynnig ar badl-fyrddio ar y llyn.

Archebwch eich lle yma

Lleoliad: Beddgelert

Arwynebeddau: Parc Cenedlaethol Eryri

Gorffenaf 12, 2026

Adfer Cynefinoedd – Pyllau glan môr yn Southerndown

Event Cym

12 Gorffennaf 10:00 -11:30am Bae Dwnrhefn

Gwirfoddolwch ychydig o’ch amser i'n helpu ni i helpu cynefin y pyllau glan môr trwy gael gwared ar sbwriel sydd wedi ymgasglu.

Archebwch eich lle ar wefan Academi'r Traeth

Lleoliad: Southerndown

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 12, 2026

Fflora Gwlyptir Gwarchodfa Llyn Eiddwen

Event Cym

12 Gorffennaf 10:00 - 1:00

Bydd y daith hon yn chwilio am Bidoglys y Dŵr, Troed y gywen, Dail-ceiniog y gors, Eurinllys y gors, Melog y waun, Pumnalen y gors, Llafn y bladur, Gwlithlys, Gwlyddyn-Mair y gors a Llygaeron. Mae Gwair merllyn a Marchrawn hefyd yn bresennol. Mae'r ffawna yn cynnwys y gwas y neidr prin, y Picellwr cribog, ac yn ddiweddar cadarnhawyd bod llygod pengrwn y dŵr yn bresennol.

Cyfarfod wrth y grid gwartheg ar ochr y llyn.

Rhagor o fanylion gan gynnwys gwybodaeth gysylltu.

Lleoliad: Llyn Eiddwen

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 12, 2026

Taith Gerdded Bingo Natur gyda Seawatch

Taith Gerdded Bingo Natur

12 Gorffennaf 11:00 Cei Newydd

Ymunwch â ni wrth i ni gerdded ar hyd llwybr arfordirol hardd Cymru, yn gweld ac yn marcio unrhyw fywyd gwyllt a welwn! Drwy gyfuno ein gwybodaeth forol, gyda gwybodaeth anhygoel Josh Pedley, yr arbenigwr bywyd gwyllt lleol, mae hwn yn gyfle i ddysgu am yr holl greaduriaid mawr a mân!

Am fanylion pellach y ddolen

Lleoliad: Cei Newydd

Arwynebeddau: Ceredigion

Gorffenaf 12, 2026

Mapio Eich Taith Drwy Eryri

11 Jul Mapping Eryri

11 Gorffennaf 10:00-16:00 Bethesda

Diwrnod hwyl a chreadigol i bobl sy’n caru’r awyr agored, yn hoffi mapiau, ac eisiau chwarae gyda lliwiau a siapiau tirwedd Eryri.

Byddwn yn rhannu ein hatgofion o lwybrau ystyrlon rydym wedi’u cerdded yn Eryri. Byddwn yn myfyrio ar yr hyn mae’r llwybrau hyn yn ei olygu i ni ar lefel ddyfnach, sut maent wedi cyfoethogi ein bywydau, a sut maent yn ein cysylltu â natur a’r tir o’n gwmpas. Byddwn hefyd yn mynd am dro byr ger y lleoliad i gasglu ysbrydoliaeth a deunyddiau o’r dirwedd

Archebwch eich lle yma

Lleoliad: Bethesda

Arwynebeddau: Parc Cenedlaethol Eryri

Gorffenaf 11, 2026

Gwrachod Eryri

Dancing witches Cym

Dydd Sadwrn 11 Gorffennaf 11.30am & 12.30pm Castell Aberystwyth

Byddan yn perfformio yn Gwyl Natur Ceredigion

Lleoliad: Aberystwyth

Arwynebeddau: Ceredigion

Gorffenaf 11, 2026

Bywyd y Ddaear ei hun: Symposiwm Byr, Porth Amlwch

11 Gorffennaf 16:00 –18:00

Ymunwch â ni am gyfres o ddigwyddiadau Geo Gelf lle mae creadigrwydd yn dod law yn llaw â daeareg. O fraslunio a ffotograffiaeth i ysgrifennu creadigol mewn lleoliadau awyr agored hardd, mae pob sesiwn yn gyfle i arafu, archwilio a chreu yma ar Ynys Môn.

Mae'r symposiwm byr hwn yn cyd-fynd ag agor arddangosfa dros dro yn y Tŷ Gwylio o waith newydd gan Judith Noble, wedi'i ysbrydoli gan fywyd a gwaith y daearegwyr Edward ac Annie Greenly: Bywyd y Ddaear ei hun.

Ni waeth a ydych chi'n ddechreuwr pur neu'n artist hyderus, bydden ni wrth ein bodd yn eich gweld chi yno.

Mae manylion pellach a chyfle i gadw lle ar gyfer y digwyddiadau ar gael yma

Lleoliad: Porth Amlwch

Arwynebeddau: Ynys Môn

Gorffenaf 11, 2026

Wedi Mynd yn Wyllt ym Mharc Gwledig Pen-bre

11 Gorffennaf 11:00AM – 4:00PM

Cynhelir Gone Wild yn ystod Wythnos Natur Cymru. Ymunwch â ni am ddiwrnod hwyl am ddim i’r teulu, yn dathlu natur ar ei gorau yn amgylchedd hardd Parc Gwledig Pembrey. Bydd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a fydd yn apelio at deuluoedd, y rhai sy’n newydd i fyd natur, yn ogystal â’r rhai sy’n hoff iawn o natur.

Yn ogystal â diddanwyr plant crwydrol sy’n hyrwyddo bod yn garedig i natur, bydd cyfeiriannu bach; helfa drysor natur; a gweithgareddau dan arweiniad ceidwaid y parc megis adeiladu cuddfannau a chynnau tanau gwersylla. Bydd cynrychiolwyr Canolfan Natur newydd y Parc Gwledig hefyd yn bresennol i arddangos yr hyn sydd ganddi i’w gynnig. Hefyd, bydd amrywiaeth o stondinau ecogyfeillgar a gwerthwyr bwyd ar y safle.

Mae Gone Wild AM DDIM*, nid digwyddiad â thocynnau yw hwn * mae ffioedd parcio yn berthnasol

Lleoliad: Parc Gwledig Pen-bre

Arwynebeddau: Sir Gaerfyrddin

Gorffenaf 11, 2026

Cofnodi bywyd gwyllt ym Mharc Slip, Pen-y-bont ar Ogwr

Event Cym

11 Gorffennaf 10:00am–3:00pm

Yn rhan o Wythnos Natur Cymru, rydyn ni’n cynnal pedair taith gerdded o amgylch Parc Slip. Byddwch chi’n dysgu am yr amrywiaeth o adar, blodau gwyllt, mamaliaid neu bryfed sydd ar y safle a sut i'w cofnodi nhw. Drwy ddysgu sut i gofnodi, gallwch chi chwarae rhan wrth helpu i warchod bywyd gwyllt lleol.

I gofrestru, ewch i'n tudalen Eventbrite lle gallwch chi gadw lle ar un o’r digwyddiadau (neu pob un os hoffech chi!)

I gadw lle yn rhad ac am ddim, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru

Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr

Arwynebeddau: Pen-y-bont ar Ogwr

Gorffenaf 11, 2026

Dathlu Natur Sain Ffagan

11th Gorffennaf 10:00 – 16:00 Dathlu Natur Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd

Ymunwch â ni yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wrth i ni ddathlu cyfoeth byd natur yng Nghymru.

Bydd gwyddonwyr Amgueddfa Cymru wrth law i roi cipolwg ar amrywiaeth rhyfeddol o fywyd, gan ddefnyddio sbesimenau o’n casgliadau sy’n cael eu storio yng Nghaerdydd.

Dewch i ddysgu gan ein harbenigwyr ar blanhigion, anifeiliaid a ffosilau.

Rydyn ni’n cydweithio â sawl elusen a sefydliad natur lleol, fydd yn siarad am eu projectau gwych sy’n helpu i ddiogelu ein bioamrywiaeth.

Am fanylion pellach dilynwch y ddolen

Lleoliad: Caerdydd

Arwynebeddau: Caerdydd

Gorffenaf 11, 2026

Darganfod mân greaduriaid Parc Melin Mynach

11 Gorffennaf 10 AM - 12 PM

Ymunwch â Ieuenctid Cyfeillion Gŵyr i ddarganfod am y bywyd gwyllt cudd anhygoel sy'n byw yn safle’r hen bwll glo ym Mharc Melin Mynach, sy'n llawn ceiliogod rhedyn a chwilod ynghudd y tu ôl i'r trac pwmpio. Byddwn yn chwilio am bryfed cop, llifbryfed, gwenyn, a gloÿnnod byw sy'n byw ymhlith y glaswelltiroedd yn y parc.

Mae hwn yn safle anhygoel nad yw llawer yn ymweld ag ef felly dewch i ddarganfod beth sy'n byw yno.

Am ragor o fanylion ac i archebu eich lle am ddim, ewch i dudalen Eventbrite Cyfeillion Gŵyr

Lleoliad: Abertawe

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 11, 2026

Bonanza Bywyd Gwyllt Llyn Brenig

Llyn Brenig event

11 Gorffennaf 10:00–16:00

Ymunwch â grwpiau cadwraeth lleol yng Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig am ddiwrnod llawn hwyl i’r teulu i ddathlu bywyd gwyllt a natur.

Bydd y gweithgareddau’n cynnwys:

  • Sesiynau stori
  • Llwybrau natur
  • Creu blychau adar
  • Creu gwestai gwenyn
  • Gwneud gorsafoedd bwyd i wiwerod
  • Sgyrsiau am gadwraeth bywyd gwyllt
  • Scaly Safari – cyfle i gwrdd ag ymlusgiaid a dysgu amdanyn nhw

Trefnwyd ar eich cyfer chi gan Dŵr Cymru

Gyda:

  • Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
  • Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog
  • Scaly Safari
  • Uned Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru

Yn addas i bob oedran. Dyma gyfle ardderchog i ddysgu am gadwraeth bywyd gwyllt lleol a mwynhau gweithgareddau ymarferol ar yr un pryd.

Digwyddiad galw heibio sy’n rhad ac am ddim

Lleoliad: Llyn Brenig

Arwynebeddau: Conwy

Gorffenaf 11, 2026

Achub a Lles Sêr Môr Porthcawl

Event Cym

11 Gorffennaf 10:00 -11:30am Traeth Rest Bay

Mae sêr môr ar y lan angen ein help ni. Dysgwch pam a sut allwch chi wneud gwahaniaeth.

Archebwch eich lle ar wefan Academi'r Traeth

Lleoliad: Porthcawl

Arwynebeddau: Pen-y-bont ar Ogwr

Gorffenaf 11, 2026

Gŵyl Natur Ceredigion

Nature festival CYM

11 Gorffennaf, 10am–4pm, ar Dir y Castell, Aberystwyth

Ymunwch â ni am ddiwrnod o fywyd gwyllt, creadigrwydd, darganfod a chymuned yng Ngŵyl Natur Ceredigion.

Mae’r ŵyl yn ddathliad rhad ac am ddim o amgylchedd naturiol rhyfeddol Ceredigion, ynghyd â’r bobl, y prosiectau a’r sefydliadau sy’n gweithio i’w warchod a’i adfer. Yn rhan o Wythnos Natur Cymru, daw’r digwyddiad â grwpiau cadwraeth, sefydliadau cymunedol, artistiaid, ymchwilwyr a gwirfoddolwyr lleol ynghyd i ysbrydoli gweithredu dros natur a helpu pobl i gysylltu â’r bywyd gwyllt ar garreg eu drws.

P’un a ydych chi’n naturiaethwr brwd, yn deulu sy’n chwilio am ddiwrnod allan hwyliog, neu’n chwilfrydig am fywyd gwyllt a thirweddau Ceredigion, bydd rhywbeth at ddant pawb.

Am fanylion pellach y ddolen

Lleoliad: Aberystwyth

Arwynebeddau: Ceredigion

Gorffenaf 11, 2026

Bioblits Llyn Mair

Poster Bioblits Llyn Mair

11eg o Orffennaf 11:00 – 16:00

Ymunwch a staff Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE a COFNOD am ddiwrnod o gofnodi bywyd gwyllt y goedwig law tymherus yn ardal Llyn Mair ger Maentwrog, Meirionnydd.

Bydd angen i chi ddod â dillad addas i'r digwyddiad i baratoi ar gyfer tywydd gwlyb a chynnes, yn ogystal â'ch cinio eich hun. Darperir lluniaeth ysgafn gan y trefnwyr.

Digwyddiad am ddim. Archebwch eich lle yma

Lleoliad: Maentwrog

Arwynebeddau: Gwynedd

Gorffenaf 11, 2026

Diwrnod Natur ar Fferm Ymddiriedolaeth Amelia, Y Barri

Event Cym

11 Gorffennaf 10:00yb - 4:30yp

Ymunwch â ni am ddiwrnod teuluol ardderchog i ddathlu natur ar Fferm Ymddiriedolaeth Amelia.

Archwiliwch ein coetir hardd a mwynhewch amrywiaeth o weithgareddau a ysbrydolwyd gan natur, gan gynnwys:

🌿Llwybr Sylwi ar Natur

🍂 Rhwbiadau Natur

🌲 Taith Natur Dywysedig drwy’r Coetir

📖 Amser Stori yn y Gwyllt

🍄 Corachod Cyll a Chrefft Madarch

🧘 Gweithgaredd ymlacio ymhlith y coed (hunan-dywysedig)

Mae eich tocyn hefyd yn cynnwys amser i archwilio'r fferm, cwrdd â'n hanifeiliaid cyfeillgar, crwydro drwy'r gerddi, dilyn ein llwybr fferm tymhorol a darganfod ein cerfluniau synhwyraidd.

Er mwyn cael rhagor o fanylion ac i archebu eich lle, cliciwch ar y ddolen

Lleoliad: Barry

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 11, 2026

Taith Gerdded Eco Gwiar Malwen

Queer walk Cym

11 Gorffennaf 2 i 4pm

Parc Natur Penglais, Aberystwyth

GydaTom Moulsdale a Mike Kear

Gan ddefnyddio ei brofiad yn ecolegydd ac yn berson cwiar, bydd Tom yn rhannu’r hyn a ddysgodd am dueddiadau cwiar ecoleg a’r ffordd y mae hyn yn ei helpu i ddeall a rhannu gwybodaeth ecolegol, ond hefyd wedi’i arwain drwy ddrysfa iachau ac yntau’n berson anneuaidd cwiar. Byddwn yn archwilio’r pethau hyn o safbwyntiau bywyd gwyllt ac ecosystem coedwig a rhostir Penglais ac yn eu gadael i’n harwain a’n hysgogi i ddod o hyd i’n llwybrau amrywiol ein hunain y tu hwnt i’r ffurfiau deuaidd ac ailgysylltu â’r gwyllt.

Cwrdd yma ym Mharc Natur Penglais

Lleoliad: Aberystwyth

Arwynebeddau: Ceredigion

Gorffenaf 11, 2026

Cwrs Gofal Perllannau a Thocio dros yr Haf yn Fferm Ymddiriedolaeth Amelia

Event Cym

11 Gorffennaf 10 AM - 2:30 PM Fferm Ymddiriedolaeth Amelia, y Barri

Ymunwch â Phartneriaeth Natur y Fro a'r Prosiect Perllannau ar gyfer cwrs sy'n archwilio technegau gofal perllannau a thocio.

Mae hwn yn gwrs am ddim, wyneb yn wyneb, dan arweiniad The Orchard Project, i ennill sgiliau ymarferol mewn technegau tocio a dysgu sut y gall rheoli perllannau'n effeithiol wella bioamrywiaeth a chefnogi cymunedau lleol.

Archebwch eich lle yn rhad ac am ddim yma

Lleoliad: y Barri

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 11, 2026

Noson Ystlumod a Gwyfynod Cwmfelin-fach

Bat & Moth Night CYM

10 Gorffennaf 20:00-23:00 Fferm Ynys Hywel, Cwmfelin-fach

Ymunwch â ni am noson addas i ddechreuwyr ar Fferm Ynys Hywel i archwilio byd diddorol ystlumod a gwyfynod. Dan arweiniad arbenigwyr lleol, byddwch yn cymryd rhan mewn taith gerdded ystlumod, yn defnyddio synwyryddion i adnabod rhywogaethau, ac yn dysgu sut mae'r dechnoleg yn gweithio. Mae'r noson hefyd yn cynnwys arddangosiad trapio gwyfynod, gan roi golwg agosach ar y rhywogaethau nosol pwysig hyn.

Mae hwn yn ddigwyddiad sy'n addas i deuluoedd, ac mae croeso i blant pan fyddant yng nghwmni oedolyn, sy'n golygu ei fod yn gyfle gwych i bob oedran ddathlu Wythnos Natur Cymru!

Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim, gyda the a choffi yn cael ei ddarparu. Fe'i trefnir gan Bartneriaeth Natur Leol Caerffili, Grŵp Ystlumod y Cymoedd, a Gwarchod Gloÿnnod Byw.

Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly archebwch ymlaen llaw.

Am ragor o fanylion ac i archebu eich lle am ddim, cliciwch ar y ddolen Eventbrite

Sylwer: Gallai’r dyddiad y digwyddiad newid yn achos tywydd gwael a bydd yn cael ei aildrefnu i'r wythnos ganlynol os oes angen.

Lleoliad: Cwmfelinfach

Arwynebeddau: Caerffili

Gorffenaf 10, 2026

Diwrnod Natur a Lles yng Nghaeau’r Ynys, Aberhonddu

Event Cym

10 Gorffennaf 10:00 - 14:00

Digwyddiad am ddim yn ystod Wythnos Natur i ddathlu natur ar ein stepen drws. Mae’n ddigwyddiad sy’n dod â lles a chadwraeth natur ynghyd. Gyda gweithgareddau ymarferol fel tynnu Jac y Neidiwr a chofnodi bywyd gwyllt i’r rhai sy’n hoff o dorchi eu llewys, ac i’r rhai a hoffai ymhyfrydu yn yr awyr agored, rydym yn cynnig sesiynau dyddiadur natur ac ymdrochi yn y goedwig.

Dysgwch fwy yma

Lleoliad: Aberhonddu

Arwynebeddau: Bannau Brycheiniog

Gorffenaf 10, 2026

Taith Gerdded Llwybr y Llechi ar gyfer Pobl Dros 55

10 Jul Slate Trail SOCIALS

10 Gorffennaf

10:00-16:00 Beddgelert

Ymunwch â ni am daith gerdded ddwysedig odidog ar hyd rhan o’r Llwybr Llechi hanesyddol yn Eryri. Mae’r llwybr hwn yn ein harwain o bentref hardd Beddgelert heibio bedd Gelert, ar hyd Bwlch Aberglaslyn, gyda golygfeydd mynyddig, coetiroedd, tirweddau hen chwareli a llwybrau mewn cymoedd anghysbell tuag at Groesor ac ymlaen i Garreg.

Archebwch eich lle yma

Lleoliad: Beddgelert

Arwynebeddau: Parc Cenedlaethol Eryri

Gorffenaf 10, 2026

Creaduriaid y Nos – Taith Ystlumod a Gwyfynod ym Mhenllergaer

Creatures of the night

10 Gorffennaf, 9:30pm–11:00pm

Dan arweiniad ein Swyddog Cadwraeth, Chris, bydd y daith gylchol fer hon yn cynnwys llethr bach wrth i ni ddefnyddio synwyryddion arbenigol i olrhain ystlumod a gwyfynod lleol. Dyma ffordd wych o weld y coed yn dod yn fyw ar ôl iddi nosi, a chymryd rhan mewn gwyddoniaeth dinasyddion.

Cyfarfod yn y Ganolfan Ymwelwyr, Coed Dyffryn Penllergaer

Gallwch chi gadw eich lle yn rhad ac am ddim yma

Lleoliad: Penllergare

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 10, 2026

Taith Gwenoliaid du Aberhonddu

10 Gorffennaf 7:30pm - 9:30pm Man cyfarfod Brecon Tap

Mae synau gwenoliaid du yn nodweddiadol o’r haf. Dewch am dro hafaidd hamddenol gyda'r nos a chael cyfle i wrando ar alwadau swnllyd y gwenoliaid du! Dysgwch fwy am yr acrobatiaid awyr anhygoel hyn a chyfrannwch at waith casglu data i helpu'r rhywogaeth hon sydd dan fygythiad.

Cynhelir y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â Grŵp Gwenoliaid Du Aberhonddu.

Digwyddiad rhad ac am ddim

Er mwyn cael mwy o fanylion a manylion cysylltu’r trefnydd dilynwch y ddolen hon

Lleoliad: Aberhonddu

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 10, 2026

Cwrs Gofal Perllannau a Thocio dros yr Haf, Gwenfô

Event Cym

10 Gorffennaf 10 AM - 2:30 PM

Ymunwch â Phartneriaeth Natur y Fro a The Orchard Project ym Mherllan Gymunedol Gwenfô ar gyfer cwrs sy'n archwilio gofal perllannau a thechnegau tocio.

Cwrs am ddim, wyneb yn wyneb, dan arweiniad The Orchard Project, i ennill sgiliau ymarferol mewn technegau tocio a dysgu sut y gall rheoli perllannau'n effeithiol wella bioamrywiaeth a chefnogi cymunedau lleol.

Archebwch eich lle yn rhad ac am ddim yma

Lleoliad: Gwenfô

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 10, 2026

Gweminar: Adfer Natur a Rheoli Asedau

Event Cym

9th Gorffennaf 2 PM - 3:30 PM Gweminar

Dan ofal Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru fel rhan o Wythnos Natur Cymru.

Mewn cydweithrediad ag Ystadau Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Ymunwch â ni ar gyfer y cyntaf mewn cyfres newydd o chwe gweminar sy’n archwilio rôl arweinyddiaeth y sector cyhoeddus wrth ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur drwy reoli tir ac asedau.

Ffocws y weminar

Bydd y sesiwn gyntaf hon yn edrych ar gamau ymarferol y gall rheolwyr asedau eu cymryd i ymgorffori adfer natur wrth reoli a chynnal adeiladau a thir.

Gan fod disgwyl targedau adfer natur gorfodol o fewn y ddwy flynedd nesaf o dan Fil yr Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026, mae’r weminar hon yn gyfle amserol i:

Glywed enghreifftiau ysbrydoledig o bob cwr o Gymru

Dysgu am ddulliau syml a chost-effeithiol

Trafod pa gymorth sydd ei angen ar sefydliadau

Ymhlith y siaradwyr mae

Eifiona Williams, Llywodraeth Cymru

Ant Rogers, Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth, Partneriaeth Natur Sir Benfro

Y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, Cyngor Sir Fynwy

Penny Gruffydd, Swyddog Seilwaith Gwyrdd, Cyngor Abertawe

Jacinta Challinor, Coed Cadw

Bydd rhagor o siaradwyr yn cael eu cyhoeddi.

Pwy ddylai fynychu?

Rheolwyr asedau ac ystadau

Timau eiddo a chyfleusterau

Swyddogion sy’n gweithio ym meysydd hinsawdd, bioamrywiaeth neu reoli tir

Aelodau etholedig ac arweinwyr y sector cyhoeddus

Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle am ddim, cliciwch ar y ddolen Eventbrite

Lleoliad: Ar-lein

Arwynebeddau: Pob maes

Gorffenaf 09, 2026

Cysylltu â Natur a Chwedlau Gwerin Cymru

9 Jul Llyn Llydaw

9 Gorffennaf 10:00-16:00

Canolfan Wardeniaid Pen y Pass

Taith gerdded hamddenol o Ben y Pas i Glaslyn ac yn ôl, gyda digon o amser ar gyfer chwedlau lleol a gweithgareddau syml i gysylltu â natur.

Dewch i glywed straeon am y Brenin Arthur ac Excalibur, y cawr sydd wedi’i gladdu ar Yr Wyddfa, a’r tylwyth teg a fu’n tywys glowyr lleol.

Bydd yn ddiwrnod ymlaciol ac adfywiol gyda digon o seibiannau i fwynhau’r cwm godidog hwn yng nghanol Eryri. Nid yw’r daith hon yn addas ar gyfer cŵn, mae’n ddrwg gennym.

Mae hwn yn ddigwyddiad dwyieithog ond os nad ydych yn siarad Cymraeg, peidiwch â phoeni – byddwch yn dal i ddysgu ychydig o eiriau ac yn cael amser hyfryd!

Archebwch eich lle yma

Lleoliad: Canolfan Wardeniaid Pen y Pass

Arwynebeddau: Parc Cenedlaethol Eryri

Gorffenaf 09, 2026

Diwrnod Cofnodi Crai, Sir Frycheiniog

Event Cym

9 Gorffennaf 10:30 – 16:00

Mae'r digwyddiad hwn yn Wythnos Natur Cymru yn rhan o brosiect Coedwig Genedlaethol – Adfer Coridorau Glannau Afon yng Nghwm Crai, a reolir gan Bartneriaeth Natur Leol Bannau Brycheiniog mewn cydweithrediad â BIS, Sefydliad Gwy ac Wysg, Stump Up for Trees a Coed Cadw. Nod y prosiect yw gwella cynefinoedd glannau afon trwy greu coetiroedd, gwrychoedd a lleiniau cysgodi, cryfhau coridorau bywyd gwyllt, gwella ansawdd dŵr a chefnogi bioamrywiaeth ar draws y cwm.

Bydd y diwrnod cofnodi hwn yn canolbwyntio ar fferm amrywiol ond nad yw wedi’i chofnodi'n ddigonol o fewn ardal y prosiect. Nid yw'r fferm wedi cael ei haredig na'i gwrteithio ers blynyddoedd lawer ac mae'n cynnal amrywiaeth o gynefinoedd, gan gynnwys planhigfa gonwydd a dorrwyd yn ddiweddar (fel rhan o waith y prosiect), lleiniau cysgodi, llifolchdiroedd, coridorau glannau afon, waliau cerrig a mynediad i ardaloedd ucheldir.

Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle am ddim, cliciwch ar y ddolen Eventbrite

Bydd mwy o fanylion am y lleoliad (cyfleusterau, cod post, manylion parcio a chyfeirnod grid) yn cael eu darparu yn nes at yr amser i'r rhai sydd wedi archebu lle.

Lleoliad: Crai Valley

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 09, 2026

Grŵp Natur Blynyddoedd Cynnar Skogsmulle (Oedran 2-7) Aberdâr

Dydd Iau, 9 Gorffennaf 1-3pm

Mae plant yn gallu archwilio natur yn fanwl a dysgu yn eu pwysau mewn amgylchedd diogel.

Mae ein sesiynau yn hamddenol iawn. Mae digon o amser i’r plant archwilio, dod i adnabod ei gilydd a dod i arfer â’r gofod. Bydd gennym amrywiaeth o weithgareddau a fydd i’w gweld o amgylch ein coetir ac y gellir dechrau arnynt ar unrhyw adeg.

Mae’n rhaid talu am y digwyddiad.

Er mwyn cael rhagor o fanylion ac i archebu, ewch i'r wefan

Lleoliad: Aberdâr

Arwynebeddau: Rhondda Cynon Taf

Gorffenaf 09, 2026

Cleisio Rhedyn i Ehangu Cynefin Pryfed Tân Cwm Elan

9 Gorffennaf 1:30-4:00

Mae cynefin pryfed tân neu fagïod Cwm Elan yn dirywio ac mae’r poblogaethau lleol dan fygythiad. Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Cwm Elan i gynnal gwaith cleisio rhedyn a rheoli prysgwydd er mwyn helpu i gynyddu cynefin y magïod.

Darperir hyfforddiant. Nid oes angen unrhyw brofiad.

Er mwyn cael mwy o fanylion ac i gofrestru dilynwch y ddolen hon

Lleoliad: Cwm Elan

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 09, 2026

Planhigion y Twyni yng Nghynffig

Kenfig event 08.07.2026

8 Gorffennaf 10am – 4pm Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig

Dewch i ymuno â Chanolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru (SEWBReC) a’r botanegydd David Barden i ddysgu am y rhywogaethau o blanhigion a geir ar y twyni yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig. Bydd rhywfaint o bwyslais ar frwyn, hesg a glaswellt, ond byddwn hefyd yn trafod planhigion eraill y twyni. Sylwch y bydd y cwrs yn cael ei gynnal yn gyfan gwbl ar y safle.

Lefel: O Ddechreuwyr i Wellhawyr

Digwyddiad Rhad ac Am Ddim. Rhaid archebu

Anfonwch e-bost: info@sewbrec.org.uk i gadw lle.

Lleoliad: Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig

Arwynebeddau: Pen-y-bont ar Ogwr

Gorffenaf 08, 2026

Wednesday Wildlife Walk Penllergare

Wed wildlife Walk

8 Gorffennaf 11:30–13:00

Darganfyddwch sut i gymryd rhan mewn Gwyddoniaeth Dinasyddion a gwarchod byd natur lleol! Ymunwch â ni am dro ganol wythnos fydd yn eich ysbrydoli chi. Byddwn yn cerdded drwy goedwig hardd Dyffryn Penllergaer gan ddarganfod y rhywogaethau anhygoel sy'n rhannu ein byd. Dan arweiniad Chris, ein Swyddog Cadwraeth arbenigol, mae'r daith gerdded hon yn gyfle perffaith i weld adar prydferth, gloÿnnod byw yn dawnsio, gweision y neidr yn hedfan o un lle i’r llall, a blodau gwyllt godidog yr haf.

Yn ystod y daith, byddwch chi'n dysgu sut i ddod yn rhan hanfodol o ymdrechion cadwraeth lleol gan ddefnyddio ap LERC. Byddwn yn dangos i chi pa mor gyflym a hawdd yw hi i gofnodi'r bywyd gwyllt rydych chi'n ei weld, sy'n golygu y bydd eich camau chi ar y llwybr yn ein helpu ni'n uniongyrchol i ddiogelu byd natur ar gyfer y dyfodol.

Cyfarfod yn y Ganolfan Ymwelwyr, Coed Dyffryn Penllergaer

Gallwch chi gadw eich lle yn rhad ac am ddim yma

Lleoliad: Penllergare

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 08, 2026

Clwb Ffotograffiaeth Natur (Oedran 8-15) Aberdâr

8 Gorffennaf 4pm – 5:45pm

Ymunwch â ni yng Nghlwb Ffotograffiaeth Natur gyda Valleys Photography. Clwb delfrydol wedi'i leoli mewn amgylchedd hamddenol i blant 8-15 oed sydd â diddordeb mewn natur, ffotograffiaeth, bywyd gwyllt a'r awyr agored. Mae croeso i offer o bob lefel! Ffonau symudol, camerâu crwydro neu gamerâu DSLR!

Mae’n rhaid talu am y digwyddiad.

Er mwyn cael rhagor o fanylion ac i archebu, ewch i'r wefan

Lleoliad: Aberdare

Arwynebeddau: Rhondda Cynon Taf

Gorffenaf 08, 2026

Gweminar 'Cysylltu â byd natur yn y gwaith'

PHW webinar Cym

‘Ymunwch â Gweminar Rad ac Am Ddim Cymru Iach ar Waith: Cysylltu â byd natur yn y gwaith

Dydd Mercher 08 Gorffennaf 2026

Amser: 10:00 – 11:00

Platfform: Microsoft Teams

Ymunwch â'r weminar rad ac am ddim hon a lansiad Calendr Llesiant Natur yn y Gweithle a gyflwynir mewn cydweithrediad ag RSPB Cymru.

Cynnwys y weminar hon

  • Lansio Calendr Llesiant Natur yn y Gweithle - wedi'i gyd-gynllunio gan RSPB Cymru a Chymru Iach ar Waith yn dilyn gweithdai gyda chyflogwyr.
  • Manteision cysylltu â byd natur i weithleoedd
  • Cipolwg ar sut i ddefnyddio'r calendr yn eich gweithle chi
  • Sut i gael mynediad at adnoddau

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gael mynediad at ganllawiau arbenigol ac offer ymarferol i gefnogi eich sefydliad—yn rhad ac am ddim.

Pwy all gymryd rhan

Mae'r weminar hon ar gael i bob cyflogwr yng Nghymru, gan gynnwys rheolwyr, arweinwyr AD, rheolwyr pobl, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella’r ymgysylltiad â natur yn y gweithle.

Sesiwn Holi ac Ateb

Bydd amser i ofyn cwestiynau i RSPB Cymru a Chymru Iach ar Waith.

Gallwch gymryd rhan am ddim.

Y Siaradwyr:

  • Deanna Hughes, Cynghorydd Iechyd yn y Gweithle
  • David Llewellyn, Rheolwr Natur a Llesiant

Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â: iechydynygweithle@wales.nhs.uk.

Cofrestrwch yma erbyn dydd Mercher 01 Gorffennaf.’

Lleoliad: Ar-lein

Arwynebeddau: Pob maes

Gorffenaf 08, 2026

Jac y Neidiwr Tynnu Llantarnham

Event Cym

8 Gorffennaf ​ 5pm

Ymunwch â ni yn Cwmbran, am sesiwn wirfoddoli ymarferol i helpu i fynd i'r afael â Jac y neidiwr, planhigyn ymledol sy'n lledaenu'n gyflym ar hyd ein hafonydd a'n dyfrffyrdd ac yn tarfu ar fywyd gwyllt brodorol.

Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i daclo Jac, gan helpu i adfer lleoedd i blanhigion brodorol, a gwarchod cynefinoedd lleol.

Byddwn ni’n cwrdd yn what3words /// The simplest way to talk about location at 5pm

Nid oes angen unrhyw brofiad – bydd cyfarwyddyd llawn, ac mae croeso i bawb.

Lleoliad: Cwmbran

Arwynebeddau: Torfaen

Gorffenaf 08, 2026

Hyfforddiant Adnabod Blodau Gwyllt - SoDdGA Aberthin, y Bont-faen

Event Eng

8 Gorffennaf • 10 AM - 2 PM

Eisiau dysgu mwy am reoli dolydd a meithrin sgiliau ymarferol am ddim mewn adnabod blodau gwyllt?

Ymunwch â'n Cwrs Hyfforddi Adnabod Blodau Gwyllt AM DDIM i ddysgu sut i adnabod blodau gwyllt brodorol ac i ddeall pwysigrwydd dolydd ar gyfer bioamrywiaeth.

Dan arweiniad Plantlife: achub planhigion gwyllt, mae'r cwrs hwn yn gyfle gwych i adeiladu eich gwybodaeth a chysylltu â byd natur!

  • Dysgu sgiliau adnabod ymarferol
  • Deall pwysigrwydd dolydd ar gyfer bioamrywiaeth
  • Darganfod sut mae blodau gwyllt yn cynnal peillwyr a bywyd gwyllt
  • Addas ar gyfer dechreuwyr – dim angen profiad blaenorol

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o'n prosiect Cymdogion Natur ac fe'i hariennir gan gynllun Mannau Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.

Archebwch eich lle yn rhad ac am ddim yma

Lleoliad: y Bont-faen

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 08, 2026

Adrodd stori ym Mharc Pont-y-pŵl

Event Cym

8 Gorffennaf 17:00-18:00

Rydym wrth ein bodd y bydd Daniel Morden yn ymuno â ni ym Mharc Pont-y-Pŵl i adrodd chwedl Gymreig am Gwion Bach a'i ddihangfa anhygoel rhag y dduwies Ceridwen. Mae’r stori gyffrous yn dilyn hynt Gwion Bach wrth iddo drawsnewid i wahanol anifeiliaid er mwyn dianc, ond i Ceridwen ei hun drawsnewid yn ysglyfaethwr a mynd ar ôl yr anifeiliaid hynny! Dewch i wrando ar y stori hudolus a gwefreiddiol hon o amser maith yn ôl!

Bydd cyfle hefyd i wneud gwaith crefft yn dilyn y stori, er mwyn i blant gael creu masgiau o rai o’r anifeiliaid yn y stori a’u lliwio.

Cynulleidfa: 7 oed a hŷn

Am ragor o fanylion ac i archebu lle am ddim ewch i wefan Eventbrite

Lleoliad: Pont-y-pŵl

Arwynebeddau: Torfaen

Gorffenaf 08, 2026

Gwyfynod Gwych Henllys

Event Cym

Dydd Mercher 8 Gorffennaf 9:30am–2:30pm

Ymunwch â ni yng Ngwarchodfa Natur Leol Henllys i ddarganfod gwyfynod anhygoel Torfaen wrth inni agor y trap gwyfynod!

Digwyddiad bywyd gwyllt hwyliog i bawb

Rhaid archebu

Gwybodaeth bellach a dolen i archebu yma

Lleoliad: Cwmbran

Arwynebeddau: Torfaen

Gorffenaf 08, 2026

Sesiwn Therapi dan y Coed, Glyn Ebwy

Wild Heart Event Cym

8 Gorffennaf 6pm 8pm Gwarchodfa Natur Cwm Merddog

Ymunwch â Wild Heart Woodland Therapy am sesiwn ymwybyddiaeth ofalgar yn seiliedig ar natur fel rhan o Wythnos Natur Cymru.

Mae’r sesiwn Therapi dan y Coed AM DDIM ac yn eich gwahodd i arafu, anadlu’n ddwfn, ac ailgysylltu â’r tir... a chi’ch hun, a hynny wedi’ch amgylchynu gan harddwch Cymru.

Cadwch eich lle yma

Lleoliad: Glyn Ebwy

Arwynebeddau: Blaenau Gwent

Gorffenaf 08, 2026

Taith Gerdded Blodau Gwyllt yng Nghors Abercamlo

8 Gorffennaf, 6pm-8pm Cors Abercamlo, ger y Groes

Yr haf yw'r amser perffaith i weld yr amrywiaeth eang o blanhigion gwych sy'n ffynnu yn Abercamlo.

Mae'r porfeydd sych yn cynnwys cymysgedd o blanhigion gan gynnwys triaglog, cracheithin, melynog y waun, tamaid y cythraul, grug, grug croesddail, a dail-ceiniog y gors. Mae prysgwydd yn gynefin bywyd gwyllt pwysig sy'n darparu neithdar, hadau, ffrwythau, a safleoedd llochesu a nythu i bryfed, mamaliaid ac adar.

Digwyddiad am ddim.

Manylion pellach a dolen archebu

Lleoliad: y Groes

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 08, 2026

Gweminar ‘Ripples of Change’: cyflwr ecolegol newidiol afonydd a llynnoedd Cymru

CAT Cym

8 Gorffennaf 7pm-8pm

Mae'r Ganolfan Technoleg Amgen ( CAT ) yn cynnal gweminar am ddim yn ystod Wythnos Natur Cymru lle bydd Dr Jane Fisher, yr academydd o'r Ysgol Raddedigion, yn ymchwilio i gyflwr newidiol Amgylcheddau Dŵr Croyw Cymru, y ffactorau sy'n gyrru'r newidiadau hyn ac atebion posibl.

Digwyddiad am ddim.

Rhagor o fanylion a dolen i archebu

Lleoliad: online

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 08, 2026

Cyfrinachau Cwm Idwal

7 Jul Cwm Idwal

10:00 - 15:30 Bethesda

Taith gerdded gylchol hamddenol, yn ymdrin â daeareg, amser dwfn, defnydd tir, enwau lleoedd Cymraeg, planhigion, a chwedlau.

Mae hwn yn ddigwyddiad dwyieithog ond os nad ydych yn siarad Cymraeg, peidiwch â phoeni – byddwch yn dal i ddysgu ychydig o eiriau ac yn cael amser hyfryd! Os ydych chi’n siarad Cymraeg, byddwch hefyd yn ei fwynhau.

Archebwch eich lle yma

Lleoliad: Bethesda

Arwynebeddau: Parc Cenedlaethol Eryri

Gorffenaf 07, 2026

Diwrnod Cofnodi yn Llanfechain

7 Gorffennaf, 10:30am – 4pm Llanfechain, Sir Drefaldwyn

Dewch draw i gofnodi'r bywyd gwyllt yn eich ardal leol, cwrdd â phobl o'r un anian a chysylltu â'r byd naturiol. Mae diwrnodau cofnodi yn rhoi cyfle i gofnodi'r holl fywyd gwyllt a welir ar y diwrnod i ddeall pa rywogaethau sy'n bresennol yn yr ardal.

Digwyddiad am ddim.

Manylion pellach a dolen archebu

Lleoliad: Llanfechain

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 07, 2026

Hyfforddiant Arolygu Gloÿnnod Byw a Gwyfynod yng Nghaerdydd

Caridd Uni Moth event

7 Gorffennaf 12:30–14:30 Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd

Dewch i ddathlu Wythnos Natur Cymru gyda ni, a darganfod y peillwyr lliwgar sy'n ffynnu yn ein mannau gwyrdd. 🦋🌼

Ymunwch â ni am daith dywys gyfeillgar i ddarganfod gloÿnnod byw a gwyfynod sy'n hedfan yn ystod y dydd. Cewch ddysgu sut i adnabod gwahanol rywogaethau, pam eu bod nhw'n bwysig ar gyfer cynefinoedd iach, a sut gallwch chi helpu ymdrechion cadwraeth drwy gofnodi bywyd gwyllt.

Bydd y sesiwn hon hefyd yn eich paratoi chi i gymryd rhan yn y Cyfrif Gloÿnnod Byw Mawr (17 Gorffennaf–9 Awst), arolwg mwyaf y DU o loÿnnod byw a gwyfynod sy'n hedfan yn ystod y dydd. Byddwch chi'n dysgu sgiliau adnabod ac arolygu syml a fydd yn helpu i gasglu data gwerthfawr at ddibenion cadwraeth.

Ni waeth a yw natur neu ecoleg o ddiddordeb i chi, neu a ydych chi’n syml am ddysgu rhagor am fywyd gwyllt lleol, dyma gyfle gwych i chi fod allan yn yr awyr agored yn meithrin sgiliau newydd. Does dim angen profiad, dim ond chwa o chwilfrydedd a dillad awyr agored addas.

Ar agor i staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, yn ogystal ag aelodau’r gymuned leol.
Dewch am y sesiwn gyfan neu galwch heibio cyhyd ag y gallwch chi.

Cofrestrwch i gadw eich lle yn rhad ac am ddim yma

Lleoliad: Caerdydd

Arwynebeddau: Caerdydd

Gorffenaf 07, 2026

Gweithredu afonydd Taf Bargoed

Gweithredu afonydd

Yr Wythnos Natur Cymru hon, rydym yn gweithredu dros afonydd Cymru!

Ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru a Cadwch Gymru'n Daclus, rydym yn cynnal digwyddiadau glanhau cymunedol, am ddim ac mae gwahoddiad i chi!

Dewch i gael effaith gadarnhaol gyda ni.

E-bostiwch aimee.webber@merthyr.gov.uk os hoffech gymryd rhan."

Lleoliad: Taf Bargoed

Arwynebeddau: Merthyr Tudful

Gorffenaf 07, 2026

Straeon i ddysgwyr Lefel Sylfaen

7 Jul Straeon Sylfaen SOCIALS

7 Gorffennaf Bala

17:00 - 18:30

Dewch i glywed chwedlau gwerin traddodiadol Cymreig mewn awyrgylch hynod o gefnogol gyda dysgwyr ar yr un lefel â chi. Cewch eich arwain yn dyner gan Fiona Collins – sef dysgwr Cymraeg y Flwyddyn yn 2019, chwedleuwraig ac awdures tair llyfr chwedlau gwerin yn y gyfres ‘Amdani’ oedd ar gyfer dysgwyr.

Mae’n gyfle gwych i ddefnyddio eich Cymraeg ac i ehangu eich geirfa, wrth gysylltu efo diwylliant traddodiadol Cymru.

Mae’r digwyddiad dwyieithog hwn am ddim, ac yn addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg ar Lefel Mynediad / Lefel Sylfaen.

Archebwch eich lle yma

Lleoliad: Bala

Arwynebeddau: Parc Cenedlaethol Eryri

Gorffenaf 07, 2026

Straeon i ddysgwyr Lefel Mynediad

7 Jul Straeon Mynediad

7 Gorffennaf Bala

15:00 - 16:30

Dewch i glywed chwedlau gwerin traddodiadol Cymreig mewn awyrgylch hynod o gefnogol gyda dysgwyr ar yr un lefel â chi. Cewch eich arwain yn dyner gan Fiona Collins – sef dysgwr Cymraeg y Flwyddyn yn 2019, chwedleuwraig ac awdures tair llyfr chwedlau gwerin yn y gyfres ‘Amdani’ oedd ar gyfer dysgwyr.

Mae’n gyfle gwych i ddefnyddio eich Cymraeg ac i ehangu eich geirfa, wrth gysylltu efo diwylliant traddodiadol Cymru.

Mae’r digwyddiad dwyieithog hwn am ddim, ac yn addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg ar Lefel Mynediad / Lefel Sylfaen.

Archebwch eich lle yma

Lleoliad: Bala

Arwynebeddau: Parc Cenedlaethol Eryri

Gorffenaf 07, 2026

Diwrnod Cadwraeth i Wirfoddolwyr, Aberllydan

Event Cym

6 Gorffennaf 10:30 Gwarchodfa Natur Gymunedol Pwll Slash

I ddathlu Wythnos Natur Cymru eleni, mae Gwarchodfa Natur Gymunedol Pwll Slash yn Aberllydan yn cydweithio â staff o Goleg Sir Benfro ar ddiwrnod cadwraeth i wirfoddolwyr er mwyn cynnal amrywiaeth o weithgareddau rheoli cynefinoedd a chynnal a chadw’r llwybrau pren.

Byddwn yn cwrdd yn yr ardal bicnic.

Digwyddiad am ddim. Dewch draw ar y diwrnod

Lleoliad: Aberllydan

Arwynebeddau: Sir Benfro

Gorffenaf 06, 2026

Grŵp Rhieni a Phlant Bach Natur Ladybirds (1-5 oed) Aberdâr

6 Gorffennaf 10am – 12pm

Mae’r rhain yn sesiynau hamddenol dan arweiniad plant lle mae plant a'u teuluoedd yn gallu archwilio ac ymgysylltu â'r gweithgareddau sydd i’w cael o amgylch ein coetir.

Seiliedig ar weithgareddau yng Nghoetir Cymunedol Cwm Dâr

Mae’n rhaid talu am y digwyddiad.

Er mwyn cael rhagor o fanylion ac i archebu, ewch i'r wefan

Lleoliad: Aberdâr

Arwynebeddau: Rhondda Cynon Taf

Gorffenaf 06, 2026

Grŵp Addysg yn y Cartref Wildlings (3-16 oed) Aberdâr

6 Gorffennaf 1pm – 3:30pm

Mae ein sesiynau yn rhai hamddenol. Rydym yn treulio'r 15 munud cyntaf yn croesawu pawb ac yn cael diodydd poeth ger y tân gwersyll. Mae gennym weithgaredd strwythuredig a bydd pob sesiwn yn dechrau am 1:15pm i roi amser i bawb gyrraedd.

Ar ôl gorffen y gweithgaredd, byddwn yn treulio gweddill y sesiwn yn archwilio ac yn chwarae gyda'n gilydd ym myd natur.

Mae’n rhaid talu am y digwyddiad.

Er mwyn cael rhagor o fanylion ac i archebu, ewch i'r wefan

Lleoliad: Aberdâr

Arwynebeddau: Rhondda Cynon Taf

Gorffenaf 06, 2026

Gwenoliaid duon adeg machlud haul yn ardal Pen-clawdd

Swift event_Penclawdd_Cymraeg

6 Gorffennaf, 8.30pm

Byddwn yn cwrdd ym maes parcio Blaendraeth

Pen-clawdd, Pen-clawdd, Abertawe SA4 3YE
What3words: mainframe.cosmic.polygraph

Ymunwch â ni i ddathlu gwenoliaid duon gyda'r hwyr.

Gallwch glywed am brosiect achub gwenoliaid duon Abertawe

('Saving Swansea's Swifts') sydd â'r nod o warchod ein haderyn lleol poblogaidd sydd

mewn perygl. Gallwch hefyd ymuno â ni am dro adeg machlud haul i chwilio am wenoliaid duon (bydd yn dechrau tua 9.00pm).

  • Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Yn ddibynnol ar y tywydd

Does dim angen cadw lle - dewch draw a dewch â'ch teulu a'ch ffrindiau!

Os caiff y digwyddiad hwn ei ganslo, byddwn ni'n cyhoeddi'r newyddion drwy'r cyfryngau cymdeithasol:

https://www.instagram.com/swanseaswifts

https://www.facebook.com/WildAboutSwansea

Lleoliad: Penclawdd

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 06, 2026

Taith gerdded blodau gwyllt yng Nghors Burfa

6 Gorffennaf 10am-12pm Cors Burfa, ger Llanandras

Yr haf yw'r amser perffaith i weld yr amrywiaeth eang o flodau gwyllt arbennig sy'n ffynnu yng Nghors Burfa. Mae tegeirianau brych y rhos a thegeirianau’r rhuddgoch yn ffynnu yn y ddôl wlyb ymhlith yr erwain, blodau’r llefrith, carpiog y gors a'r eglyn cyferbynddail.

Digwyddiad am ddim.

Manylion pellach a dolen archebu

Lleoliad: Presteigne

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 06, 2026

Saffari Glan Môr i Blant 2026, Gŵyr

Event Cym

5 Gorffennaf 2:00-4:00 Bae Bracelet

Hei blant! Hoffech chi chwilota am greaduriaid rhyfeddol y môr? Bydd yr arbenigwyr morol Emma a Winter yn mynd â chi ar antur drwy byllau glan môr!

Yn Wythnos Natur Cymru dewch gyda ni ar saffari glan môr gydag Emma Lowe a Winter Dotto i chwilota am y creaduriaid anhygoel sy’n cuddio yn y pyllau glan môr ar lanw isel a dan y creigiau a’r gwymon ym Mae Bracelet.

Efallai y dewch o hyd i grancod, sêr môr, anemonïau.... A wyddoch chi’r sbyngau byddwch chi’n defnyddio amser bath? Wel, mae yna sbyngau byw yn y môr o amgylch Abertawe!

Mae’r digwyddiad hwn yn fwyaf addas i unrhyw un 4 oed neu’n hŷn.

Bydd yr holl greaduriaid yn cael eu dychwelyd yn ofalus i’r lleoliad lle cawsant eu ffeindio.

Gofynnwn am roddion o £2 neu fwy gan bob oedolyn i helpu i dalu costau grŵp Abertawe Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Caiff plant ddod am ddim ond dylent fod yng nghwmni oedolyn.

I gael gwybod mwy ac i gadw lle, ewch i wefan Eventbrite

Trefnir y digwyddiad gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru

Lleoliad: Bae Bracelet

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 05, 2026

Bywyd Gwyllt Gwaith Glo Pentremawr – Taith Dywys

5 Gorffennaf

10:30-12:30

Ymunwch â Glo i Natur CIC ar gyfer taith natur dywys yn Hen Waith Glo Pentremawr ym Mhontyberem, fel rhan o Wythnos Natur Cymru. Bydd y daith gerdded hon yn archwilio sut mae natur wedi adennill y safle hwn a oedd unwaith yn ddiwydiannol, gan ei drawsnewid yn hafan i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.

Darganfyddwch yr amrywiaeth gyfoethog o blanhigion, pryfed a bywyd gwyllt arall sydd bellach yn ffynnu ar hen dirwedd y pwll glo a dysgwch pam y gall safleoedd ôl-ddiwydiannol fel hyn fod mor bwysig i fioamrywiaeth. O flodau gwyllt lliwgar a phryfed peillio i rywogaethau diddorol eraill, mae digon i'w weld a'i ddysgu ar hyd y ffordd.

Cyfarfod wrth fynedfa'r safle ar Heol Capel Ifan (Y B4317): ///crust.sailors.divisible

Sylwch: Parciwch ym maes parcio Maes Hamdden Pontyberem – taith gerdded fer o'r safle ///riches.grant.burglars

#WythnosNaturCymru

Lleoliad: Pontyberem

Arwynebeddau: Sir Gaerfyrddin

Gorffenaf 05, 2026

Taith Cerdded Hygyrch

5 Jul Story Walk

5th Gorffennaf

13:00-15:00

Parcio a Thalu Pont-y-Pair, Betws-Y-Coed LL24 0BB

Ymunwch â ni ar daith stori hamddenol, hygyrch ar hyd y llwybr cerdded ym Metws-y-Coed, gan rannu llên gwerin o’r Dyffryn Conwy, wedi’i harwain gan y storïwr ac awdur Fiona Collins. Bydd amser i ni gael coffi/cacen/hufen iâ a sgwrs hefyd.

Archebwch eich lle am ddim yma

Lleoliad: Betws-Y-Coed

Arwynebeddau: Parc Cenedlaethol Eryri

Gorffenaf 05, 2026

Tegeirianau a glöynnod byw Wrecsam

Event Cym

5 Gorffennaf 2:00pm - 4:00pm

Mae mis Gorffennaf yn dymor brig ar gyfer y tegeirianau a'r glöynnod byw, perffaith ar gyfer archwilio yn Chwarel y Mwynglawdd! Mae'r warchodfa natur yma’n gartref i 14 o rywogaethau o degeirianau ac efallai y byddwn ni’n gweld 9 ohonyn nhw yn y digwyddiad yma. Mae posibilrwydd hefyd o weld y tingoch a llawer o löynnod byw!

Nid oes angen cofrestru, dim ond troi fynnu.

Trefnwyd y digwyddiad hyn gan Gangen Wirfoddol Wrecsam o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Lleoliad: Wrecsam

Arwynebeddau: Wrecsam

Gorffenaf 05, 2026

Gwylio Blodau Gwyllt yn Sir Drefaldwyn

Event Cym

5 Gorffennaf 10:00–13:00

Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn yn y Dolydd Gobaith am gyflwyniad ymarferol i arolygu glaswelltir.

P'un a ydych chi'n hollol newydd i’r maes neu’n meddu ar rywfaint o wybodaeth fotanegol yn barod, bydd y sesiwn hon yn dangos i chi sut i asesu cyflwr glaswelltir gan ddefnyddio technegau arolygu syml. Byddwch chi'n dysgu adnabod rhywogaethau dangosydd positif a negyddol allweddol, ac yn ymarfer eu cofnodi.

Dyma sesiwn gyfeillgar ac ymarferol gyda digon o arweiniad drwyddi draw. Bydd yn gyfle gwych i chi feithrin hyder wrth adnabod planhigion, a chyfrannu at waith monitro go iawn ym maes cadwraeth.

Mae’n rhaid cadw lle ymlaen llaw.

Am ragor o fanylion ac i gadw lle, dilynwch y ddolen

Lleoliad: Dolydd Gobaith

Arwynebeddau: Powys, Sir Drefaldwyn

Gorffenaf 05, 2026

Taith gerdded gwenoliaid duon Caergybi

Event Cym

5 Gorffennaf 7:45pm - 10:00pm

Er gwaethaf dirywiad eang y gwenoliaid duon, mae Caergybi yn gartref i boblogaeth lwyddiannus mewn bocsys nythu ym Mhorthladd y Môr, ynghyd â llond llaw o safleoedd nythu eraill. Ymunwch â swyddog gwenoliaid duon Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Ben Stammers, ar ein taith gerdded flynyddol o amgylch y dref a dysgu am sut gallwn ni helpu'r adar anhygoel yma.

Am ragor o fanylion ac i archebu lle am ddim ewch i wefan.

Lleoliad: Caergybi

Arwynebeddau: Ynys Môn

Gorffenaf 05, 2026

Diwrnod Hwyl Coetiroedd Cymunedol Nant Fawr

Diwrnod Hwyl Coetiroedd Cymunedol Nant Fawr

5 Gorffennaf 11am - 3pm Cyncoed

Cynhelir Diwrnod Hwyl blynyddol Cyfeillion Coetiroedd Cymunedol Nant Fawr ym Maes Parcio'r Hen Gronfa Ddŵr, oddi ar Heol Rhydypennau, Cyncoed. Mae'r lôn fynediad rhwng 127 a 129 Heol Rhydypennau.

Bydd gweithgareddau i blant, gan gynnwys edrych ar greaduriaid y nant trwy ficrosgop, adnabod gwyfynod drwy edrych ar wyfynod go iawn, gwneud gloÿnnod byw â phapur sidan, adnabod dail, dysgu am y pryfed a'r ymlusgiaid sy'n byw yn ardal Nant Fawr a dilyn llwybrau.

Does dim rhaid i chi gymryd rhan mewn unrhyw beth, gallwch ddod draw dim ond i gael sgwrs!

Lleoliad: Cyncoed

Arwynebeddau: Caerdydd

Gorffenaf 05, 2026

Archwilio pyllau Coetir Cymunedol y Crwys

Pond dipping_Cymraeg

5 Gorffennaf,10.00am - 12.00pm

Ymunwch â Nature on Your Doorstep am sesiwn archwilio pyllau ymarferol yng Nghoetir Cymunedol y Crwys, gan gymryd cip ar y byd difyr o dan arwyneb y dŵr yn ystod Wythnos Natur Cymru.

Yn y sesiwn hamddenol hon, byddwch yn defnyddio rhwydi a hambyrddau i chwilio'n ofalus am y creaduriaid sy'n byw ym mhwll y coetir, o larfâu a chwilod dŵr i fadfallod dŵr o bosib. Dyma gyfle perffaith i blant, teuluoedd ac unrhyw un sy'n chwilfrydig am fyd natur ddysgu am gynefinoedd pyllau, bod yn agos at fywyd gwyllt dŵr croyw, a magu hyder wrth chwilio am greaduriaid a nodi'r hyn rydych yn dod o hyd iddo.

  • Rhaid i blant (5 oed ac yn hŷn yw'r argymhelliad) fod yng nghwmni oedolyn
  • Gwisgwch ddillad addas i'r awyr agored ac esgidiau cadarn, gan y gall y tir fod yn anwastad neu'n fwdlyd
  • Rydym yn argymell y dylech ddod â dŵr ac eli haul os bydd y tywydd yn gynnes
  • Yn amodol ar y tywydd

Man cyfarfod: Coetir Cymunedol y Crwys, Tirmynydd Road, Y Crwys, Abertawe SA4 3PU
What3words: squeaks.riverbank.hurt

Rhaid cadw lle gan fod nifer cyfyngedig ar gael.

Lleoliad: Swansea

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 05, 2026

Casglu sbwriel Cyffordd Llandudno

Event Cym

5 Gorffennaf 10:00am - 11:30am

Yn dangos ein bod ni'n malio! Gwneud cyfraniad gweithredol a gweladwy at lanhau ein hamgylchedd a dangos ei fod yn bwysig.

Dewch i ymuno â Changen Dyffryn Conwy o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a’n gwirfoddolwyr rheolaidd ni ar gyfer ein sesiwn casglu sbwriel misol yng Nghyffordd Llandudno.

Nid oes angen cofrestru, dim ond troi fynnu.

Trefnir y digwyddiad gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Lleoliad: Cyffordd Llandudno

Arwynebeddau: Conwy

Gorffenaf 05, 2026

Taith Gerdded Natur a Bore Coffi gyda Greenpeace Caerdydd

Event Cym

5 Gorffennaf 10:00 Parc Bute

Taith gerdded natur ym Mharc Bute gyda choffi a sgwrs yng Nghaffi Secret Garden. Cyfle i ddysgu am yr ardal werdd yng nghanol ein dinas a chyfarfod eraill sy'n poeni am warchod y byd naturiol a sefyll dros gyfiawnder cymdeithasol. Digwyddiad addas i deuluoedd ac mae croeso i’n ffrindiau blewog hefyd ymuno.

Cyfarfod yng Nghaffi Secret Garden, Parc Bute.

Digwyddiad am ddim. Agored i bawb

Rhagor o wybodaeth ar Instagram

Lleoliad: Caerdydd

Arwynebeddau: Caerdydd

Gorffenaf 05, 2026

Bywyd gwyllt glaswelltiroedd Brynlliw: taith dywys

Wildlife of Brynlliw grasslands_Cymraeg

4 Gorffennaf, Sesiynau am 10.00am - 12.00pm; ac 1pm-3pm

Dewch i ddathlu Wythnos Natur Cymru ar daith dywys i ddarganfod natur yng Nglaswelltiroedd Brynlliw gyda Glo i Natur CIC. Archwiliwch sut mae natur wedi adennill yr hen domen lo hon, gan greu hafan i amrywiaeth eang o blanhigion, pryfed a chreaduriaid gwyllt eraill.

Dewch i ddysgu am y rhywogaethau sy'n ffynnu yn y glaswelltiroedd hyn sydd wedi'u hadfer, a pham mae'r ardaloedd hyn yn hollbwysig i fioamrywiaeth. O flodau gwyllt ac ieir bach yr haf i chwilod a pheillwyr, mae digon o bethau i'w darganfod ar gyfer pobl o bob oed sy'n dwlu ar fywyd gwyllt.

Dyma gyfle perffaith i fwynhau'r awyr agored, archwilio safle o bwys hanesyddol, a darganfod trysorau naturiol cudd tirweddau ôl-ddiwydiannol Abertawe.

Croeso i bawb.

Mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

Man cyfarfod: ar hyd Station Road, Pengelli, Abertawe SA4 4GY

What3words: motivates.trucked.lend

Rhaid cadw lle

Lleoliad: Swansea

Arwynebeddau: Abertawe

Gorffenaf 04, 2026

Diwrnod natur i'r teulu ger Llyn Llangors

Event Cym

Dewch i ddarganfod bywyd gwyllt Llyn Llangors!

4 Gorffennaf 10:00am - 2:00pm

Tir Comin Llangors, Llangors

Dewch i ymuno â'r Bartneriaeth Natur Leol am ddathliad hamddenol o’r bywyd natur unigryw yn Llyn Llangors. Digwyddiad perffaith i deuluoedd, ymwelwyr a thrigolion lleol.

Bydd y gweithgareddau’n cynnwys:

  • Teithiau Cerdded Tywysedig
  • Helfeydd Natur
  • Chwilota mewn Pyllau
  • Cadw Dyddiadur Natur

Cofiwch alw heibio a chael pecyn cofnodi bywyd gwyllt am ddim!

Digwyddiad am ddim. Dewch draw ar y diwrnod!

Lleoliad: Llyn Llangors

Arwynebeddau: Bannau Brycheiniog

Gorffenaf 04, 2026

Sesiwn Ymwybyddiaeth Bioamrywiaeth yn Chickenwood, y Barri

Event Cym

4 Gorffennaf 10 AM - 11:30 AM

Ymunwch â ni i ddysgu am y gwahanol fflora a ffawna yn Chickenwood.

Mewn partneriaeth â Friends of Chickenwood ymunwch â Phartneriaeth Natur y Fro a Nature on Your Doorstep am daith dywys am ddim. Dysgwch am y gwahanol fflora a ffawna yn Chickenwood. Ar y daith gerdded hon, byddwn yn archwilio'r hafan bach hwn ar gyfer byd natur ac yn cofnodi'r amrywiaeth o rywogaethau a welwn.

Archebwch eich lle yn rhad ac am ddim yma

Lleoliad: y Barri

Arwynebeddau: Bro Morgannwg

Gorffenaf 04, 2026

Diwrnod Cofnodwyr Castell Gwydir

4 Gorffennaf 10:00-16:00

Mae Castell Gwydir yn eich gwahodd chi i Ddiwrnod Cofnodwyr yn ei erddi a'i ddolydd bywyd gwyllt. Mae'r 15 erw o ddôl ar lethr, yn llawn Cribell Felen ac wedi'u hamgylchynu gan waliau cerrig a chlytiau o brysgwydd. Mae'r cynefinoedd yma’n cynnig cyfoeth o gyfleoedd i gofnodi yn y safle yma sydd wedi’i dangofnodi. Mae'r Gerddi eu hunain yn darparu cyfleoedd cofnodi pellach, fel pyllau, hen adeiladau a phlannu ffurfiol.

Mae digon o le parcio yn y Gerddi a'r Dolydd ac mae toiledau ar gael yn y Castell. Bydd diodydd poeth ar gael, ond dewch â phecyn bwyd i ginio. Mae Castell Gwydir wedi cytuno'n garedig i beidio â gofyn am ffi fynediad gan gofnodwyr ar y diwrnod.

Archebwch eich lle am ddim yma

Lleoliad: Castell Gwydir

Arwynebeddau: Conwy

Gorffenaf 04, 2026

Diwrnod i’r teulu yn Chwarel y Mwynglawdd: agor llwybrau newydd yn swyddogol! Wrecsam

Event Cym

4 Gorffennaf 11:00am - 3:00pm

Ymunwch ag YNGC ac Ymddiriedolaeth Chwarel y Mwynglawdd i ddatgelu tri llwybr cerdded newydd yn swyddogol!

Am ragor o fanylion ac i archebu lle am ddim ewch i wefan.

Trefnir y digwyddiad gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Lleoliad: Wrecsam

Arwynebeddau: Wrecsam

Gorffenaf 04, 2026

Gŵyl Natur Caerdydd

Nature festival Cym

4 Gorffennaf Caeau Llandaf

Mae Wythnos Natur Cymru yn dathlu popeth am natur yng Nghymru. Yn y digwyddiad hwn bydd gennym weithgareddau amrywiol i bob oedran gymryd rhan ynddynt a dod ychydig yn agosach at natur. Mae'r holl weithgareddau a’r stondinau AM DDIM.

Beth i'w ddisgwyl ar y diwrnod

- Stondinau gwahanol yn cynnal gweithgareddau gwahanol gan gynnwys;

- Teithiau tywys

- Stondinau natur rhyngweithiol

- Gweithgareddau i blant

- Gweithgareddau crefft i oedolion

Lleoliad: Caerdydd

Arwynebeddau: Caerdydd

Gorffenaf 04, 2026

Bioblitz a Rhannu Gwybodaeth Natur 4ydd Gorffennaf

Bioblitz  Rhannu Gwybodaeth Natur

08:00 – 14:00Machynlleth

Ar ddydd Sadwrn y 4ydd o Orffennaf rydym yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn natur, bywyd gwyllt, ecoleg, neu unrhyw beth rhyngddynt i ymuno â ni ym Mwlch Corog am ddiwrnod o rannu gwybodaeth.

bore gyda thaith gerdded adar dan arweiniad Ben Porter, Swyddog Natur Tir Canol, a’i feicroffon parabolig anhygoel. Bydd angen i ni wybod faint o bobl i’w disgwyl ar gyfer y daith gerdded fore gynnar hon, felly os ydych chi’n bwriadu ymuno, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost atom yn post@coetiranian.org. Diolch!

I’r rhai ohonom sy’n well ganddynt aros yn y gwely ychydig yn hirach, byddwn yn dechrau prif ran y dydd am 10 y bore gyda diodydd poeth a chacennau o gwmpas y tân, a chyflwyniad i gofnodi bywyd gwyllt – y broses bwysig o gofnodi pa rywogaethau sy’n bresennol mewn gwahanol ardaloedd – gyda Carys o Ganolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru.

Yna, byddwn yn mynd ati i ymweld â gwahanol rannau o’r tir, dan arweiniad staff ac ecolegwyr arbenigol lleol, gan gofnodi unrhyw rywogaethau diddorol a ddarganfyddwn wrth fynd, a dysgu o arbenigeddau a diddordebau ein gilydd.

Mwy o wybodaeth

Lleoliad: Machynlleth

Arwynebeddau: Powys

Gorffenaf 04, 2026

Dadorchuddio Byd Natur

Nature Unearthed Cym

Parc Gwledig y Gnoll, Castell-nedd

4 Gorffennaf 11:00-16:00

Darganfyddwch ochr wyllt Castell-nedd Port Talbot yn Nature Unearthed, dathliad llawn llawenydd o fywyd gwyllt lleol a rhyfeddodau naturiol, a gyflwynir gan Bartneriaeth Natur Leol Castell-nedd Port Talbot.

Ymunwch â ni ym Mharc Gwledig hyfryd y Gnoll wrth i ni lansio Wythnos Natur Cymru gyda diwrnod llawn gweithgareddau ymarferol i bob oed.

Manylion pellach

Lleoliad: Castell-nedd

Arwynebeddau: Nedd Port Talbot

Gorffenaf 04, 2026

Diwrnod Natur - natur ar garreg eich drws Parc Eirias

Conwy Bionet Nature Day 2026

4 Gorffennaf 11-3 pm Parc Eirias, Bae Colwyn LL29 7SP

Bydd y diwrnod yn amlygu ac yn dathlu byd natur yn ein mannau gwyrdd lleol / ar ein stepen drws; y manteision gwych o ran iechyd a lles a ddaw o gysylltu â natur a helpu i gyfeirio pobl at sefydliadau/grwpiau y gallent gymryd rhan ynddynt.

Bydd y diwrnod yn gymysgedd o stondinau, gweithdai, a gweithgareddau diddorol eraill i'r teulu cyfan sy'n gysylltiedig â'n gwaith gyda natur a chymunedau, gan gynnwys rhoddion a gweithdai dan arweiniad artistiaid.

Digwyddiad rhad ac am ddim

Lleoliad: Colwyn Bay

Arwynebeddau: Conwy

Gorffenaf 04, 2026

Ioga ym Myd Natur - Maenor Llanyrafon

Event Cym

4 Gorffennaf 2 sesiwn. 10:00- 11:00 ac 11:30-12:30

Ydych chi erioed wedi profi ioga yn yr awyr agored? Mae Yoga For Health Cymru yn cyflwyno ioga yng nghyffiniau tawel Maenor Llanyrafon i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Dolydd, sy’n rhan o Wythnos Natur Cymru. Drwy’r sesiwn cewch ddod yn nes i fyd natur, wrth ymarfer corff ac ymdawelu ymhlith y blodau gwyllt, y pryfed peillio a seiniau pêr yr adar.

Sesiwn 10:00-11:00 - Am ragor o fanylion ac i archebu lle am ddim ewch i wefan Eventbrite

Sesiwn 11:30-12:30 - Am ragor o fanylion ac i archebu lle am ddim ewch i wefan Eventbrite

Lleoliad: Cwmbran

Arwynebeddau: Torfaen

Gorffenaf 04, 2026

Cysylltiadau Glaswelltir: Llesiant a Darganfod Natur Blaenrhondda

Cysylltiadau Glaswelltir

Ymunwch â ni ym Mharc Blaenrhondda ar 4 Gorffennaf, 2–4pm am brynhawn o natur, creadigrwydd a llesiant!

  • Crefftau natur a gwaith coed gwyrdd
  • Gweithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar
  • Archwilio glaswelltir

Dewch i ddathlu Wythnos Natur Cymru gyda Grow Rhondda, Cenhedlaeth Rhondda, Croeso i’n Coedwigoedd a phartneriaid.

Digwyddiad am Ddim! Dim angen archebu.

Lleoliad: Blaenrhondda Park

Arwynebeddau: Rhondda Cynon Taf

Gorffenaf 04, 2026

Dolau – Diwrnod Fferm i’r Gymuned, Llansteffan

Glasbren Event

4 Gorffennaf 10:00–16:00 Parc yr Arglwydd, Llansteffan

I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Dolydd, ac i gyd-fynd ag Wythnos Natur Cymru, byddwn ni’n ymgynnull i ddathlu'r amrywiaeth yn ein dolydd glaswelltir yma ar fferm Parc yr Arglwydd. Byddwn ni’n dysgu popeth sydd i’w wybod am y bywyd gwyllt sydd yma ar y fferm. Byddwn ni hefyd yn gwneud rhywfaint o waith ymarferol gyda’r pladur ac yn gwneud gwair, gan ddysgu am reoli dolydd yn gynaliadwy, a mynd am dro ar draws y tir gydag ecolegwyr lleol a'n gweithgor Natur a Bioamrywiaeth, sy'n gyfrifol am fonitro bywyd gwyllt yn barhaus yma ar y fferm.

Gallwch chi gadw eich lle yn rhad ac am ddim yma

Lleoliad: Llansteffan

Arwynebeddau: Sir Gaerfyrddin

Gorffenaf 04, 2026

Taith Gerdded Wythnos Natur Cymru yng Nghorsydd Teifi

9 Gorffennaf 1:30pm–3:00pm Cilgerran

Fel rhan o Wythnos Natur Cymru, beth am ddod i fwynhau gweld rhywfaint o'r cynefinoedd a'r bywyd gwyllt ar y warchodfa natur yng nghwmni’r Swyddog Pobl a Bywyd Gwyllt, Gretchen Taylor.

Dyma daith gerdded dywys sy’n rhad ac am ddim, wedi'i hanelu at oedolion ond mae croeso hefyd i blant a chŵn sy'n ymddwyn yn dda ar dennyn. Byddwn yn archwilio gwahanol gynefinoedd a llwybrau, gan drafod yr hyn y byddwn yn ei weld a’i glywed. Y prif nod yw gwerthfawrogi bod ym myd natur a sgwrsio'n anffurfiol am y cynefinoedd a'r bywyd gwyllt sydd yma. Byddwch chi hefyd yn cael clywed am y newidiadau fydd yn cael eu gwneud i'r ganolfan ymwelwyr yn y dyfodol agos.

E-bostiwch g.taylor@welshwildlife.org i drefnu lle.

Digwyddiad wedi'i drefnu gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru

Lleoliad: Cilgerran

Arwynebeddau: Sir Benfro

Mehefin 11, 2026  - Gorffenaf 09, 2026

Cystadleuaeth Artistiaid Bach i ddathlu natur a Merthyr Tudful

MTBC little artwork competion Cym

Galw ar bob artist ifanc sy'n dod i'r amlwg! Er mwyn dathlu Wythnos Natur Cymru, rydym yn lansio tair cystadleuaeth gyffrous i ffotograffwyr, artistiaid a phlant sy’n mwynhau creu sydd wedi'u hysbrydoli gan natur a bywyd gwyllt Merthyr Tudful!

Dyma eich cyfle chi i archwilio byd rhyfeddol natur a'i grisialu drwy gyfrwng celf. Ceir gwobrau ardderchog. Pob lwc! #

*Daw'r gystadleuaeth i ben ar 1 Gorffennaf 2026*

Er mwyn cymryd rhan, bydd angen i chi dderbyn telerau ac amodau'r gystadleuaeth.

Telerau ac Amodau Cystadleuaeth Artistiaid Bach : https://forms.office.com/e/tBbu0Ugnwq

Lleoliad: Merthyr Tudful

Arwynebeddau: Merthyr Tudful

Mehefin 03, 2026  - Gorffenaf 08, 2026

Cystadleuaeth Gwaith Celf i ddathlu natur a Merthyr Tudful

MTBC artwork competion Cym

Galw ar bob artist ifanc!

Er mwyn dathlu Wythnos Natur Cymru, rydym yn lansio tair cystadleuaeth gyffrous i ffotograffwyr, artistiaid a phlant sy’n mwynhau creu sydd wedi'u hysbrydoli gan natur a bywyd gwyllt Merthyr Tudful!

Dyma eich cyfle chi i archwilio byd rhyfeddol natur a'i grisialu drwy gyfrwng celf. Ceir gwobrau ardderchog. Pob lwc! #

*Daw'r gystadleuaeth i ben ar 1 Gorffennaf 2026*

Er mwyn cymryd rhan, bydd angen i chi dderbyn telerau ac amodau'r gystadleuaeth.

Telerau ac Amodau Cystadleuaeth Gwaith Celf: https://forms.office.com/e/MbeBpxAPGd

Lleoliad: Merthyr Tudful

Arwynebeddau: Merthyr Tudful

Mehefin 03, 2026  - Gorffenaf 08, 2026

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth i ddathlu natur a Merthyr Tudful

MTBC photo competion Cym

Galw ar bob ffotograffydd ifanc! Er mwyn dathlu Wythnos Natur Cymru, rydym yn lansio tair cystadleuaeth gyffrous i ffotograffwyr, artistiaid a phlant sy’n mwynhau creu sydd wedi'u hysbrydoli gan natur a bywyd gwyllt Merthyr Tudful!

Dyma eich cyfle chi i archwilio byd rhyfeddol natur a'i grisialu drwy gyfrwng celf. Ceir gwobrau ardderchog. Pob lwc! #

*Daw'r gystadleuaeth i ben ar 1 Gorffennaf 2026*

Er mwyn cymryd rhan, bydd angen i chi dderbyn telerau ac amodau'r gystadleuaeth.

Telerau ac Amodau'r Gystadleuaeth Ffotograffiaeth: https://forms.office.com/e/Q3BaUhVSPy

Lleoliad: Merthyr Tudful

Arwynebeddau: Merthyr Tudful

Mehefin 02, 2026  - Gorffenaf 08, 2026

Adrodd stori ym Mharc Pont-y-pŵl

8 Gorffennaf 17:00-18:00

Rydym wrth ein bodd y bydd Daniel Morden yn ymuno â ni ym Mharc Pont-y-Pŵl i adrodd chwedl Gymreig am Gwion Bach a'i ddihangfa anhygoel rhag y dduwies Ceridwen. Mae’r stori gyffrous yn dilyn hynt Gwion Bach wrth iddo drawsnewid i wahanol anifeiliaid er mwyn dianc, ond i Ceridwen ei hun drawsnewid yn ysglyfaethwr a mynd ar ôl yr anifeiliaid hynny! Dewch i wrando ar y stori hudolus a gwefreiddiol hon o amser maith yn ôl!

Bydd cyfle hefyd i wneud gwaith crefft yn dilyn y stori, er mwyn i blant gael creu masgiau o rai o’r anifeiliaid yn y stori a’u lliwio.

Cynulleidfa: 7 oed a hŷn

Am ragor o fanylion ac i archebu lle am ddim ewch i wefan Eventbrite

Lleoliad: Pont-y-Pŵl

Arwynebeddau: Torfaen

Dim dyddiadau i ddod

Beth i'w ddisgwyl mewn digwyddiadau

Bydd rhywbeth i bawb – digwyddiadau i unigolion, teuluoedd a'r rhai sy'n newydd i fyd natur, ac i'r naturiaethwr mwy profiadol.

Cynhelir digwyddiadau Wythnos Natur Cymru bob blwyddyn yng ngwarchodfeydd yr Ymddiriedolaeth Natur a'r RSPB, gwarchodfeydd natur lleol a chenedlaethol, parciau a mannau gwyrdd cymunedol, ysgolion a safleoedd addoli, traethau ac ardaloedd arfordirol.

Mae digwyddiad nodweddiadol yn cynnwys taith gerdded wedi’i thywys ar safle natur. Bydd arweinydd arbenigol yn tynnu sylw at blanhigion ac anifeiliaid a phwysigrwydd y cynefin ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae'r mwyafrif helaeth o'r digwyddiadau yn rhad ac am ddim*

*Efallai y codir tâl mynediad i ychydig o ddigwyddiadau. Mae hyn yn cefnogi'r gwaith gwerthfawr mae'r sefydliad yn ei wneud ar ran natur.