Skip to content
Wales Action Plan for Pollinators

Beth yw Wythnos Natur Cymru?

Beth yw Wythnos Natur Cymru?

Mae Wythnos Natur Cymru (4 – 12 Gorffennaf) yn ymwneud â dathlu natur yn ei holl ffurfiau 🌿

Nid mewn mannau gwyllt neu anghysbell yn unig y gellir gweld natur. Mae natur i’w gweld mewn parciau, strydoedd, buarthau ysgolion, gerddi, arfordiroedd a chymunedau ledled Cymru – yn aml yn union ar eich stepen drws.

Dathlwch harddwch gwyllt a rhyfeddol Cymru – o gyfoeth y fflora a’r ffawna a’r dant y llew diymhongar i’r pryfed sy’n suo yn y gerddi a’r dolydd, y bwncath sy’n hedfan uwchben a ffefrynnau’r bwrdd adar.

Mae'n bryd aros, i edrych eto, a sylwi ar y natur sydd i’w gael mewn bywyd bob dydd – ble bynnag yr ydych chi 👀

Beth sy'n digwydd yn ystod Wythnos Natur Cymru?

Dros gyfnod o 10 diwrnod, bydd llu o unigolion a sefydliadau yn dod ynghyd i ddathlu'r natur sydd o'n cwmpas.

Gallwch wneud hyn ar eich pen eich hun, fel teulu, neu fel rhan o ddigwyddiad Wythnos Natur Cymru yn eich ymyl 🤝

Cafodd Wythnos Natur Cymru ei rhoi ar waith yn 2002. Caiff ei dathlu’n flynyddol ac mae’n llawn o ddigwyddiadau bywyd gwyllt a gydlynir gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru. Mae Wythnos Natur Cymru yn bosibl diolch i sefydliadau sy'n gyfeillgar i natur sy'n cynnal digwyddiadau a thrwy gyfranogiad Partneriaethau Natur Lleol, cymunedau, ysgolion, busnesau ac unigolion.

Orange tip - Alun Williams
Cwm Rhaeadr - NRW
Puffin - Alun Williams