Morol

Cyflwyniad

Mae moroedd Cymru yn gartref i amrywiaeth eang o rywogaethau a chynefinoedd hynod ddiddorol. O draethau tywodlyd helaeth, aberoedd, baeau bas cyfoethog, glannau creigiog cymhleth ac ynysoedd, mae’r amrywiaeth o gynefinoedd yng Nghymru yn cynnal cyfoeth o rywogaethau morol o’r dolffin trwynbwl enigmatig i anemonïau lliwgar.

Mae llawer o rywogaethau morol Cymru yn bwysig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Er enghraifft, mae gan Fae Ceredigion un o’r poblogaethau preswyl mwyaf o ddolffiniaid trwynbwl yn y DU, ac mae Skomer ac arfordir Sir Benfro yn bwysig ar gyfer morloi llwyd Cefnfor yr Iwerydd sy’n bridio.

Mae nythfeydd adar môr Skomer, Sgogwm, Ynys Enlli a Gwales yn ysblennydd, ac yn cynnal palod, gwylogod, llursod a thua 45,000 o barau bridio o adar drycin Manaw Puffinus puffinus – y boblogaeth fridio fwyaf yn y byd.

Mae sianeli sy’n cael eu hysgubo gan y llanw yn brin yn y DU, ac mae Afon Menai yng ngogledd Cymru yn enghraifft nodedig, gyda cherhyntau llanw cryf ond yn gysgodol rhag effaith tonnau. Mae gwely'r môr yn yr amgylchedd egnïol iawn hwn yn lliwgar ac amrywiol, gyda rhywogaethau sy'n bwydo drwy hidlo ,gan gynnwys y sbwng briwsion Halichondria panicea a’r sbwng brigog tyllog Haliclona oculata a nifer o fryosoaid, chwistrelli môr a hydroidau. Mae yna hefyd boblogaeth helaeth o'r anemoni coesynnog Cereus pedunculatus. Ceir enghreifftiau eraill o sianeli sy’n cael eu hysgubo gan y llanw yn ne-orllewin Cymru, yn Aberdaugleddau, Swnt Jack, Skomer, a Swnt Dewi.

Mae'r môr-wyntyll binc trawiadol Eunicella verrucosa yn gwrel dŵr oer sy’n tyfu’n araf a warchodir yn genedlaethol ac sydd i’w ganfod ar ei derfyn gogleddol yng Nghymru ar Ynys Skomer.

Mae moroedd Cymru hefyd yn bwysig i bysgod cregyn – mae cregyn gleision yn cael eu tyfu'n fasnachol yn Afon Menai a chesglir cocos o ardaloedd rhynglanwol o amgylch Cymru.

Map o ddyfroedd Cymru 12nm yn binc ac allan at y llinell ganol yn wyrdd

Map o ddyfroedd Cymru

Mae dyfroedd mewndirol Cymru, o fewn 12 milltir forol i'r marc penllanw, yn cynnwys 43% o dir Cymru ac maent wedi’u lliwio’n binc.

Mae'r ardal werdd yn cynrychioli dyfroedd o 12 milltir forwrol i’r llinell ganol gydag Iwerddon, sy'n ffurfio Parth Economaidd Ewropeaidd Cymru.

Amrywiaeth ffawna morol Cymru

Mae amgylchedd morol Cymru yn gyfoethog – mae’r tabl hwn yn dangos niferoedd bras y rhywogaethau mewn gwahanol grwpiau tacsonomig o fewn 12 milltir forol i’n harfordir.

Tacson morol
Nifer y rhywogaethau
Mamaliaid morol (morloi, dolffiniaid, morfilod, llamhidyddion, dyfrgwn) Mae gan saith bresenoldeb sylweddol, rheolaidd a mynych yng Nghymru (gwelir rhywogaethau eraill yn achlysurol neu’n farw / yn fyw ac wedi tirio)
Infertebratau (gan gynnwys sbyngau, sglefrod môr, malwod /gwlithod, crancod, cimychiaid, cregyn llong, corgimychiaid/berdys, sêr môr, draenogod môr, chwerddyfroedd môr, mwydod segmentiedig a chwistrellau môr) Tua 2,000 – 3,000
Ymlusgiaid (crwbanod môr) Un o fewn yr ystod arferol (gyda phum rhywogaeth arall wedi’u cofnodi)
Pysgod (esgyrnog a chartilagaidd) Tua 250 – 500
Macroalgâu (gwymon) Tua 400
Planhigion blodeuol (morwellt) Dau (yn ogystal â Rwpia spp)

Cadwraeth forol yng Nghymru

Mae nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth yn gweithio i warchod rhywogaethau morol yng Nghymru.

Mae rhywogaethau a chynefinoedd morol yng Nghymru yn cael eu diogelu’n bennaf drwy’r rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig, ac mae Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn cwmpasu 69% o ddyfroedd glannau Cymru. Mae'r rhwydwaith hwn yn sicrhau bod cynefinoedd a rhywogaethau morol yn cael eu diogelu ar wahanol raddfeydd o bwysigrwydd – rhanbarthol, cenedlaethol ac Ewropeaidd.

Mae Cyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE, a droswyd i gyfraith y DU drwy Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 a Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017, yn cynnig amddiffyniad rhag niwed uniongyrchol i nifer o rywogaethau morol a ddynodwyd yn Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop. Mae nifer o gynefinoedd a rhywogaethau morol hefyd yn cael eu gwarchod o fewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau). Yn yr un modd, mae adar yn cael eu gwarchod o fewn Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGAau) a safleoedd Ramsar.

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn cynnig amddiffyniad i rywogaethau morol, yn enwedig mamaliaid morol a chrwbanod môr, pysgod a rhai infertebratau, ac mae’n cynnwys tua 45 o rywogaethau morol sydd i’w cael yng Nghymru. Mae'r ddeddfwriaeth hon hefyd yn gyfrifol am ddynodi a gwarchod Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGAau), sy'n cynnwys amrywiaeth eang o nodweddion morol.

Mae Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth ar gyfer rheoli moroedd Cymru. Cyflwynodd y Ddeddf hon nifer o newidiadau, gan gynnwys system ddiwygiedig o reoli a thrwyddedu morol, gan gynnwys pwerau newydd i ddatblygu cynlluniau morol, newidiadau i reolaeth pysgodfeydd morol, mudol a dŵr croyw, mynediad hamdden ac, yn bwysig, cadwraeth forol. Cyflwynodd Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir bwerau newydd i Weinidogion Cymru ddynodi Parthau Cadwraeth Morol yn rhanbarth glannau Cymru. Ar hyn o bryd, Skomer yw unig Barth Cadwraeth Morol Cymru. Fodd bynnag, mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i nodi rhagor o Barthau Cadwraeth Morol yng Nghymru a fydd yn cynorthwyo i gwblhau'r rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru.

Mae adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cynnwys rhestrau o rywogaethau a chynefinoedd sydd o arwyddocâd allweddol i fioamrywiaeth yng Nghymru ac y mae gan gyrff cyhoeddus ddyletswydd i’w cynnal a’u gwella. Ar hyn o bryd, mae'r rhestr hon yn cynnwys 55 o rywogaethau morol llawn, gyda rhywogaethau ychwanegol fel y dyfrgi Ewropeaidd ac eog yr Iwerydd sy'n treulio rhan o'u bywyd yn unig yn yr amgylchedd morol.

Ceir rhagor o wybodaeth am warchod grwpiau o rywogaethau morol penodol yn yr adrannau perthnasol.

Sefydliadau sy'n ymwneud â chadwraeth forol yng Nghymru

Er mai Llywodraeth Cymru sy'n bennaf gyfrifol am sicrhau bod rhwydwaith Cymru o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn cael ei reoli'n effeithiol, mae nifer o sefydliadau'n rhannu'r cyfrifoldeb am y gwaith rheoli. Mae Awdurdodau Rheoli yn sefydliadau sydd â chyfrifoldebau statudol mewn perthynas ag unrhyw fath o Ardal Forol Gwarchodedig, neu’n berchnogion tir sylweddol ar wely’r môr neu’r arfordir. Mae’r Awdurdodau Rheoli hyn wedi ffurfio Grŵp Llywio Rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy’n darparu cyfeiriad strategol ar gyfer y rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Maent wedi cynhyrchu’r Fframwaith Rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy'n cynnwys gweledigaeth ac amcanion ar gyfer rheoli'r rhwydwaith.

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) rôl statudol a rheoleiddiol mewn cadwraeth forol. Er enghraifft, mae CNC yn datblygu tystiolaeth forol, yn rhoi cyngor ar ddiogelu a rheoli safleoedd, yn llunio asesiadau o gyflwr safleoedd, yn cyflawni trwyddedu morol ar ran Gweinidogion Cymru, ac yn monitro ac yn adrodd ac yn arwain ar ddatblygu’r rhwydwaith o safleoedd morol gwarchodedig. Mae CNC hefyd yn gyfrifol am agweddau eraill ar yr amgylchedd morol ac aberol, megis rheoli pysgod mudol hyd at chwe milltir forol o’r arfordir. Mae CNC hefyd yn bartner ar hyn o bryd mewn nifer o brosiectau morol mawr.

Mae gan gyrff anllywodraethol amgylcheddol ran bwysig i'w chwarae mewn cadwraeth forol, addysgu ac ymgysylltu. Moroedd Byw Cymru – Yr Ymddiriedolaeth Natur yw gweledigaeth yr Ymddiriedolaethau Natur ar gyfer dyfodol moroedd y DU. Mae’r prosiect yn gwarchod bywyd gwyllt morol Cymru drwy drefnu digwyddiadau a gweithgareddau, monitro, arolygu traethau a chynnal gweithgareddau cadwraeth ymarferol. Mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn gorff anllywodraethol morol mawr yn y DU sy'n ymgyrchu dros wella gwarchodaeth y cefnforoedd, ac ar hyn o bryd maent yn arwain y prosiect ‘Trysorau Morol’ yng Nghymru. Mae cyrff anllywodraethol amgylcheddol eraill yn cynnwys Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, y WWF, yr RSPB a grwpiau penodol eraill sy'n canolbwyntio ar grwpiau o rhywogaethau (e.e. mamaliaid). Mae Swyddogion Safleoedd Morol Ewropeaidd yn cyfrannu'n sylweddol at gadwraeth forol yng Nghymru gyda phwyslais ar safleoedd penodol. Mae amrywiaeth o sefydliadau ymchwil hefyd sy'n cyfrannu at brosiectau ac ymchwil yng Nghymru.

Mae cofnodion o rywogaethau morol yn sylfaenol i'n dealltwriaeth o ddosbarthiad rhywogaethau morol a newidiadau dros amser. Mae prosiectau gwyddor dinasyddion fel Seasearch, Shoresearch, prosiectau gwyddor dinasyddion mamaliaid morol ac ymgyrchoedd penodol eraill, megis y Great Eggcase Hunt, yn darparu data defnyddiol i ychwanegu at y gwaith monitro presennol a wneir gan asiantaethau statudol.

Mae nifer o brosiectau ar y gweill sydd â’r nod o adfer a rheoli rhywogaethau a chynefinoedd morol sydd dan fygythiad neu’n dirywio, a amlinellir yn adrannau’r rhywogaethau morol penodol.


Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt