Cyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP) cenedlaethol am y tro cyntaf yn 2015, ac mae'n cynnwys Rhan I (Ein Strategaeth ar gyfer Natur) a Rhan II (Ein Cynllun Gweithredu). Mae hwn yn gynllun Cymru gyfan ar gyfer pawb sy'n ymwneud â gweithredu bioamrywiaeth yng Nghymru. Adnewyddwyd Rhan II ar gyfer 2020-21 yn dilyn mewnbwn gan ystod o randdeiliaid.
Mae nifer o amcanion wedi'u gosod er mwyn mynd i'r afael â'r materion sy'n sbarduno'r dirywiad yn ein bioamrywiaeth, ac i'w helpu i ymadfer:
Erys y chwe amcan gwreiddiol, ynghyd â phum thema gweithredu sy'n deillio o'r amcanion.
Y pum thema yw:
Bydd Cynllun Adfer Natur Cymru yn amlinellu sut y bydd Cymru’n mynd i’r afael â Chynllun Strategol Bioamrywiaeth y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol a’r targedau bioamrywiaeth Aichi cysylltiedig yng Nghymru. Bydd y Cynllun Adfer Natur yn nodi camau gweithredu y gellir eu cyflawni yn y tymor byr ac yn pennu llwybr i gyflawni ymrwymiadau hirdymor y tu hwnt i 2020. Bydd camau gweithredu’r Cynllun yn cael eu hadolygu’n rheolaidd, gan sicrhau eu bod yn parhau i gyflawni amcanion ac uchelgais adfer natur yng Nghymru. Bydd cyfres o ddangosyddion yn cael eu datblygu hefyd i fesur cynnydd y Cynllun Adfer Natur yn erbyn yr amcanion. I gyd-fynd â’r cynllun, bydd y Fframwaith Adfer Natur yn nodi rolau a chyfrifoldebau’r rhai sy’n gyfrifol am gyflawni camau gweithredu bioamrywiaeth yng Nghymru, a sut mae’r rhain wedi’u cysylltu â’i gilydd.
Grŵp Cyflawni'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur yw'r prif grŵp rhanddeiliaid ar gyfer yr NRAP ac mae iddo aelodaeth eang, o Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, JNCC, Sefydliadau Anllywodraethol amgylcheddol, y sector ffermio a sefydliadau eraill o’r sector cyhoeddus a phreifat. Rôl y grŵp yw llywio a blaenoriaethu camau allweddol er mwyn cyflawni'r NRAP a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth yng Nghymru, gan fabwysiadu dull cydweithredol. Mae'r grŵp fel arfer yn cwrdd dair gwaith y flwyddyn, a chynhelir y cyfarfod.
Mae cyfres o grwpiau yn arwain tasgau a blaenoriaethau penodol a bennir gan Grŵp Gweithredu NRAP. Ar hyn o bryd mae’r rhain yn cynnwys:
Prosiect gwerth £6.8 miliwn yw Prosiect Afon Dyfrdwy LIFE i drawsnewid afon Dyfrdwy a'i dalgylch drwy adfer yr afon a'i hamgylchoedd i'w cyflwr naturiol. Bydd hyn yn dod â sawl mantais i'r amgylchedd, yn benodol gwella niferoedd yr eogiaid, lampreiod a misglod perlog i'w helpu i fod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol. Afon Dyfrdwy yw'r afon fwyaf yng Ngogledd Cymru ac mae ganddi ddalgylch o fwy na 1,800 km2. Mae'n un o'r afonydd mwyaf rheoleiddiedig yn Ewrop, ac ynghyd â Llyn Tegid, mae wedi'i dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).
Afon Tryweryn – un o lednentydd Afon Dyfrdwy © CNC
Mae Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Y Berwyn a Mynyddoedd De Clwyd ac ACA Migneint-Arenig-Dduallt yn cynnwys y ddwy ardal fwyaf o orgorsydd yng Nghymru.
Er bod ardaloedd mawr o orgorsydd i’w cael o hyd yng Nghymru, mae’r mwyafrif wedi dirywio oherwydd coedwigaeth, rhywogaethau estron (fel Rhododendron Rhododendron ponticum a Sbriws Sitca Picea sitchensis), gorbori, draenio, a llosgi bwriadol neu ddamweiniol. Yn ystod y 5 mlynedd y bu prosiect Gorgorsydd LIFE ar waith yng Nghymru, cafwyd gwelliannau sylweddol a pharhaol yng nghyflwr gorgorsydd mewn mannau hollbwysig oddi mewn i ddwy ACA yng Ngogledd Cymru.
Yn ychwanegol at wella bioamrywiaeth, mae adfer gorgorsydd yn esgor ar nifer fawr o fanteision eraill. Mae’r rhain yn cynnwys gwella ansawdd dŵr, lleihau cyfraddau dŵr ffo a allai effeithio ar lifogydd ar diroedd isel, ffermio, dal a storio carbon, addysg a hamdden.
Roedd y prosiect 56 mis yn ymdrin ag ardal 84 cilometr sgwâr o faint. Daeth cyllid LIFE i ben ar 31ain Mawrth 2011, gyda mwyafrif cyllid y prosiect o £3m (75%) wedi’i sicrhau trwy gyfrwng rhaglen LIFE-Nature yr UE. Mae’r gwaith yn parhau a bydd prosiectau’r dyfodol yn ddibynnol ar gronfeydd rheoli tir lleol a chyllid prosiectau ar raddfa tirwedd.
Partneriaeth dan arweiniad y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), gyda chefnogaeth gan asiantaethau statudol a thirfeddianwyr lleol, oedd y project hwn.
Mae partneriaethau lleol er lles byd natur yn gweithredu ym mhob ardal yng Nghymru ac maent yn darparu ffocws ar gyfer cyflawni amcanion y Cynllun Adfer Natur a Rheolaeth Gynaliadwy ar Gyfoeth Naturiol ar lefel leol, yn ogystal â chyfrannu at lawer o nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r astudiaethau achos hyn yn darparu cipolwg ar amrywiaeth y prosiectau a’r ystod o bartneriaid sy’n ymwneud â gweithredu’n lleol er lles byd natur yng Nghymru.
Dathlu Llwyddiant: Gweithredu ar y cyd dros fyd natur yng Nghymru
I weld trafodion cyfarfodydd blaenorol Grŵp Llywio PBC, cliciwch ar Archif Cyfarfodydd y Grŵp Llywio.