Partneriaethau Natur Lleol
Mae Partneriaethau Natur Lleol yng Nghymru yn bartneriaethau o sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda'i gilydd i drawsnewid natur i bobl Cymru.
Mae gwefan Partneriaethau Natur Lleol yn tynnu sylw at y llu o brosiectau yr ymgymerir â hwy gan Bartneriaethau Natur Lleol yng Nghymru, ynghyd â map rhyngweithiol sy'n manylu ar y gwahanol ardaloedd lle mae'r gwaith yn digwydd. Gallwch weld cyflwyniad i Bartneriaethau Natur Lleol yn y fideo byr hwn.
Cysylltiadau Partneriaeth Natur Lleol
Dewch o hyd i fanylion cyswllt eich partneriaeth natur leol a mwy o wybodaeth yn eich ardal chi
Gwneud Lle i Fyd Natur
Mae ein bywyd gwyllt dan fygythiad wrth i gynefinoedd ddiflannu ac oherwydd newidiadau yn yr hinsawdd a achoswyd gan ddyn.
Digwyddiadau yn eich ardal
Yn ogystal ag addysgu, mae digwyddiadau natur yn dod â phobl ynghyd, yn eu hysbrydoli a'u hannog i gysylltu â'r awyr agored - ac i goroni'r cyfan, mae'n hwyl!
Gwarchodfeydd Natur Lleol
Mae Gwarchodfeydd Natur Lleol yn cael eu sefydlu a'u rheoli gan awdurdodau lleol, yn dilyn ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949.
Mae gan Warchodfeydd Natur Lleol rôl bwysig i'w chwarae wrth annog ymgysylltiad cymunedol â natur ac wrth warchod ardaloedd naturiol pwysig lleol sy'n cael eu gwerthfawrogi gan bobl leol.
Gallwch weld lleoliad ac enw Gwarchodfeydd Natur Lleol ar MapDataCymru























