Gwymon & Algâu

Gwymon_Hawlfraint Laura Grant

Môr-wiail a Phont Britannia_ Hawlfraint CNC

Môr-wiail a sbyngau_Hawlfraint CNC - Tîm Monitro Morol

Cyflwyniad

Mae algâu morol yn derm cyffredinol sy'n cwmpasu macroalgâu (gwymon), a welwn ar y lan, a ffytoplancton microsgopig sy’n arnofio’n rhydd (microalgâu), sy'n anweledig i'r llygad noeth ar y cyfan.

Mae ffytoplancton, sy'n golygu ‘planhigion sy’n drifftio’, yn cwmpasu llawer o wahanol grwpiau (e.e. diatomau adinoymfflangellwyr yw'r ddau brif fath) ac yn sylfaenol i weoedd bwyd morol a dŵr croyw, gan chwarae rhan allweddol yng nghylch carbon y byd ac yn cynhyrchu llawer iawn o ocsigen sy'n hanfodol ar gyfer ein bodolaeth. Gallant achosi blymau algaidd wrth i argaeledd golau a’r tymheredd gynyddu.

Mae gwymon yn dominyddu'r glannau creigiog o amgylch Cymru ac yn ymestyn i'r ardaloedd islanwol lle mae lefelau golau yn eu galluogi i dyfu. Gellir grwpio’r ‘gwymon’ mwy cyfarwydd yng Nghymru i’r categorïau canlynol yn fras: gwymon brown; gwymon coch; gwymon gwyrdd; a gwymon calchog. Fe'u ceir mewn amrywiaeth o gynefinoedd ond fel arfer maent i'w cael ynghlwm wrth greigiau ar wely'r môr, naill ai ar y lan neu yn y môr bas lle maent yn cael digon o olau'r haul i dyfu. Mae Cymru yn cynnal tua 400 o rywogaethau o facroalgâu morol.

Mae maerl yn alga coch cwrelaidd caled anarferol sy'n tyfu'n araf iawn, sydd â lliw pinc neu borffor nodweddiadol. Mae'n tyfu fel nodiwlau digyswllt, ac mae’n cymryd miloedd o flynyddoedd i ddyddodion gronni a ffurfio 'gwelyau’ maerl mawr. Ystyrir felly bod maerl yn adnodd unigryw a gwerthfawr. Y gwely maerl yn Aberdaugleddau yw'r unig wely maerl byw y gwyddys amdano yng Nghymru.

Maerl Hawlfraint CNC

Maerl Hawlfraint CNC

Maerl Hawlfraint CNC

Rôl gwymon mewn swyddogaeth ecosystem

Mae gan wymon lawer o rolau pwysig mewn ecosystemau morol – mae'r ocsigen ym mhob trydydd anadl a gymerwch yn dod o algâu morol! Mae gwymon yn cefnogi'r ecosystem naturiol a phobl drwy brosesau cynhyrchu sylfaenol / cloi carbon, a chylchu maetholion sy'n sylfaenol i weoedd bwyd morol. Mae gwymon yn darparu ac yn addasu cynefinoedd ar gyfer ystod eang o organebau, gan gynnwys rhywogaethau o bysgod a physgod cregyn a dargedir yn fasnachol. Mae'r cyfraniad tuag at swyddogaethau a gwasanaethau ecosystemau yn amrywio, ac mae mathau o fôr-wiail a gwymon brown eraill a maerl o bwysigrwydd ecolegol arbennig oherwydd eu gallu i ddarparu strwythur cymhleth i gynefinoedd.

Cadwraeth / gwarchod gwymon yng Nghymru

Mae chwe rhywogaeth o algâu yn ymddangos yn adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 fel rhywogaethau o’r pwys mwyaf. Mae gwelyau maerl hefyd yn gynefin o'r pwys mwyaf (o dan adran 7), a restrir o dan waddod isarforol. Mae coedwigoedd môr-wiail hefyd yn gynefin OSPAR.

Mae rhywogaethau algaidd wedi’u cynnwys ar restr adran 7

Enw'r rhywogaeth Enw cyffredin y rhywogaeth Enw Cymraeg y rhywogaeth
Anotrichium barbatum Bearded red seaweed Gwymon coch barfog
Cruoria cruoriaeformis A red seaweed Gwymon coch
Dermocorynus montagnei A red seaweed Gwymon coch
Lithothamnion corallinoides Coral Maerl Cramen goch gwrelaidd
Padina pavonica Peacock's tail Gwymon cynffon paun
Phymatolithon calcareum Common maerl Cramen goch

Mae llawer o ‘fiotopau’ gwymon a all fodoli o fewn, neu sydd wedi’u cynnwys o fewn nodweddion Atodiad 1 mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Mae’r rhain i’w gweld yn bennaf yn y cynefinoedd ‘Riffiau’, ‘Cilfachau a Baeau Bas Mawr’ ac ‘Aberoedd’ yn Atodiad 1.

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw rywogaethau o wymon wedi'u rhestru o dan Atodlen 8 i'r Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (planhigion prin sydd â gwarchodaeth ychwanegol) a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol cael trwydded i'w casglu.


Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt