Infertebratau

Cwrel cwpanog_Hawlfraint CNC - Staff PCM Sgomer

Cimwch coch Palinurus elephas Hawlfraint CNC - Staff PCM Sgomer

Arctica islandica gyda Pagarus berhardus_Hawlfraint CNC - Staff PCM Sgomer

Cyflwyniad

Mae infertebratau morol yn hynod amrywiol ac yn cynnwys y grŵp mwyaf amrywiol o anifeiliaid yn ein moroedd. Yn amrywio o'r cimwch mwyaf i blancton microsgopig, mae pob cynefin morol yn cynnwys infertebratau, sy'n cyfrannu'n aruthrol at strwythur a swyddogaeth ein hecosystemau morol ac yn darparu ffynhonnell fwyd bwysig. Mae llawer ohonynt yn symudol, ond mae rhai yn ffurfio eu cynefinoedd eu hunain. Mae infertebratau yn meddiannu llu o gilfachau, o holltau creigiog rhynglanwol i waddodion islanwol dwfn, a cheir ymhell dros 2,000 o rywogaethau o facroinfertebratau yn amgylchedd morol Cymru.

Mae gan lawer o’r infertebratau a geir ym moroedd Cymru gyfnod planctonig, pan fyddant yn aros yn y golofn ddŵr am gyfnod cyntaf eu cylch bywyd cyn iddynt setlo ar wely’r môr a pharhau â’u bywyd fel infertebratau llawndwf (e.e. meroplancton fel crancod a chimychiaid). Mae rhai organebau yn aros fel swoplancton am eu cylch bywyd cyfan (holoplancton).

Ymhlith rhai o gynefinoedd mwyaf eiconig ac ysblennydd Cymru yw’r rheini sy’n cael eu hysgubo gan lanwau a cherhyntau cryf, sy’n cynnal ystod o sbyngau, bryosoaid, chwistrelli môr, hydroidau ac anemonïau trawiadol. Mae gan ardaloedd fel y Fenai, Ynys Skomer ac Ynys Enlli amrywiaeth fawr o’r rhywogaethau lliwgar hyn sy’n bwydo drwy hidlo – sbyngau hirhoedlog a charpedi o anemonïau gemwaith ynghyd â rhywogaethau cysylltiedig fel gwlithod y môr lliwgar – neu noethdagellogion.

Mae'r môr-wyntyll binc Eunicella verrucosa, yn fath o gwrel – cytref o anifeiliaid bach unigol tebyg i anemonïau sy'n rhannu sgerbwd caled sydd ynghlwm wrth greigiau ar wely'r môr. Ni cheir y rhywogaeth hon ond mewn ychydig iawn o leoedd yn y DU, ac maent i’w cael ar ymyl eithaf eu hystod ogleddol yng Nghymru yn sir Benfro, lle credir bod rhai unigolion rhwng 50 a 100 oed.

Mae'r cimwch coch neu gimwch Norwy Palinurus elephas yn gramennog mawr a thrawiadol sydd wedi'i ddosbarthu’n rhywogaeth sy'n agored i niwed ar restr goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur. Dirywiodd yn sylweddol yn ystod y 1960au a’r 1970au, ac mae bellach yn goroesi yng Nghymru yn y moroedd oddi ar Benrhyn Llŷn, Ynys Môn a Sir Benfro, ac mae’n ymddangos bod ei niferoedd yn cynyddu.

Mewn cyferbyniad, mae rhai infertebratau yn byw mewn cynefinoedd gwaddod rhynglanwol ac islanwol ar lannau agored neu mewn aberoedd cysgodol. O wyneb y gwaddod, nid yw’n amlwg o gwbl o’r tyllau bach a marciau ar yr wyneb bod cyfoeth o anifeiliaid yn byw o fewn y gwaddod. Mae'r poblogaethau niferus o fwydod gwrychog, cramenogion a molysgiaid dwygragennog yn bwyta malurion a bwyd o'r golofn ddŵr ac yn eu tro yn darparu llawer o fwyd i ysglyfaethwyr fel pysgod ac adar.

Mae cocos mawr Arctica islandica yn folysgiaid dwygragennog mawr sy’n byw wedi’u claddu mewn gwaddodion – maent yn tyfu’n araf iawn ac yn gallu byw am dros 500 mlynedd, ac mae’n bosibl mai hwn yw’r anifail sy'n byw hiraf ar y Ddaear!

Yn ogystal â'r rhywogaethau hyn sydd i gyd â rhywfaint o amddiffyniad, mae llawer mwy o rywogaethau cyffredin yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws ar y lan. Mae’r rhain yn cynnwys rhywogaethau fel abwyd melys a chocos, a hefyd y rhywogaethau hynny a geir ar y draethlin, yn enwedig ar ôl stormydd, fel gwymon corniog Flustra ceranoides, y môr-lygoden Aphrodita aculeata ac ecinodermiaid, fel y gwelchyn calonffurf Echinocardium cordatum. Mae ecinodermiaid yn unigryw i'r amgylchedd morol – ni all unrhyw ffylwm daearol wneud honiad o'r fath!

Amrywiaeth infertebratau morol Cymru o fewn 12 milltir forol i’r arfordir

(a gasglwyd o ffynonellau lluosog)

Tacsa infertebratau morol Nifer bras y rhywogaethau yng Nghymru
Arthropodau – crancod / cimychiaid / cregyn llong / berdys / corynnod môr / chwain traeth c600
Anelidau – mwydod c560
Molysgiaid – gastropodau / cregyn deuglawr / ceffalopodau c450 - 550
Cnidaria – cwrelau, anemonïau, sglefrod môr c180
Porifera – sbyngau c140
Bryosoaid – anifeiliaid mwsogl c100
Ecinodermiaid - sêr môr, draenogod môr, chwerddyfroedd môr c55
Tunicata – chwistrellau môr c50

Cadwraeth a gwarchod infertebratau yng Nghymru

Mae nifer o infertebratau morol sydd wedi'u gwarchod yn ychwanegol yng Nghymru. Rhestrir 11 o infertebratau yn adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) fel rhywogaeth o'r pwys mwyaf, gan gynnwys cregyn deuglawr fel y gragen wyntyll Atrina fragilis, yr wystrys Ostrea edulis a’r gocosen fawr Arctica islandica, y môr-wyntyll binc Eunicella verrucosa, y cimwch coch Palinurus elephas a dwy rywogaeth o sglefrod môr coesynnog. Mae infertebratau ychwanegol yn ffurfio cynefinoedd sydd wedi’u gwarchod o dan adran 7 o Ddeddf Amgylchedd (Cymru) fel cynefinoedd blaenoriaeth, gan gynnwys cymunedau ar glogfeini rhynglanwol a riffiau biogenig megis y llyngyren ddiliau Sabellaria alveolata, y gragen las Mytilus edulis a’r farchfisglen Modiolus modiolus.

Infertebratau morol ar restr adran 7 – rhywogaethau

Enw'r rhywogaeth Enw cyffredin y rhywogaeth Enw Cymraeg y rhywogaeth
Alkmaria romijni Tentacled lagoon worm Llyngyren dentaclog
Arctica islandica Icelandic cyprine or Ocean quahog Cocosen fawr
Atrina fragilis Fan mussel Cragen adain
Edwardsia timida Burrowing anemone Anenome dyllu
Eunicella verrucosa Pink sea-fan Môr-wyntyll binc
Haliclystus auricula A stalked jellyfish Slefren goesynnog
Lucernariopsis campanulata A stalked jellyfish Sglefren fôr goesynnog
Ostrea edulis Native oyster Wystrysen
Palinurus elephas Crayfish, crawfish or spiny lobster Cimwch coch
Tenellia adspersa Lagoon sea slug Môr-wlithen y morlyn

Infertebratau morol ar restr adran 7 – cynefinoedd

Enw'r cynefin
Enw Cymraeg y cynefin
Musculus discors beds (Musculus discors)
Gwelyau Musculus discors
Blue mussel beds Gwelyau o gregyn glas
Horse mussel beds Gwelyau o farchfisglod
Fragile sponge & anthozoan communities on subtidal rocky habitats Cymunedau bregus o sbyngau ac anthosoaid ar gynefinoedd creigiog islanw
Sabellaria alveolata reefs
Riffiau Sabellaria alveolata
Intertidal boulder communities Cymunedau ar glogfeini rhynglanwol

Ceir tri chynefin arall ychwanegol sydd ar restr OSPAR o rywogaethau sydd dan fygythiad ac yn dirywio; Gwelyau wystrys Ostrea edulis, Sabellaria spinulosa a cwils môr a megaffawna tyllu.

Mae llawer o'r rhywogaethau hyn hefyd wedi'u rhestru o dan adrannau amrywiol o adran 9 o'r Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, sy'n gwarchod rhag eu lladd a’u cymryd, eu haflonyddu, eu gwerthu neu eu hysbysebu. Mae'r infertebratau hyn yn cynnwys llyngyren dentaclog y morlyn Alkmaria romijni, môr-wlithen y morlyn Tenellia adspersa, y môr-wyntyll binc a’r gragen wyntyll.

Nid oes unrhyw infertebratau morol wedi'u cynnwys yn Atodiad II i Gyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau'r Gymuned Ewropeaidd. Fodd bynnag, mae llawer o infertebratau wedi’u nodi fel rhywogaethau o bwys sy'n gysylltiedig â chynefinoedd Atodiad 1, megis ‘Riffiau’, gyda llawer ohonynt yn cynnwys riffiau biogenig.

Yn wahanol i lawer o infertebratau daearol, e.e. gloÿnnod byw a gweision y neidr, mae llai o gymdeithasau ymroddedig yn cofnodi'r grwpiau o rywogaethau morol hyn. Fodd bynnag, mae cymdeithasau sy’n canolbwyntio ar wahanol grwpiau (e.e. mae gan y Gymdeithas Cregyn Tro ddiddordeb mewn molysgiaid) ac mae sefydliadau gwirfoddol fel Seasearch yn gweithredu yng Nghymru ac, ynghyd â’r cyrff cyhoeddus a’r cyrff statudol, maent yn cofnodi presenoldeb rhywogaethau o infertebratau morol, gan ddatblygu darlun gwerthfawr o'u dosbarthiad.

Wyau’r chwalcen rwyllog Tritia reticulata_Hawlfraint Laura Grant

Anemoni Sargartiogetan undatus _Hawlfraint Laura Grant

Riff Llyngyr diliau Sabellaria alveolata_Hawlfraint CNC

Sbyngau_Hawlfraint CNC - Staff PCM Sgomer

Brenigen lasresog Patella pellucida_Hawlfraint Laura Grant

Gwichiad y gwymon Littorina obtusata_Hawlfraint Laura Grant

Llyngyr seiri tywod Lanice conchilega_Hawlfraint Laura Grant

Cragen las Mytilus edulis_Hawlfraint CNC - Paul Brazier

Arctica islandica_Hawlfraint CNC - Staff PCM Sgomer

Môr-wyntyll binc Eunicella verrucosa Hawlfraint CNC - Parth Cadwraeth Morol

Anemoni nadreddog gwyrdd Anemonia viridis_Hawlfraint Laura Grant

Môr-wlithen yn Sgomer_Hawlfraint CNC - Staff PCM Sgomer

Gweithredu dros infertebratau morol

Mae gan nifer o'r infertebratau morol eiconig brosiectau cadwraeth wedi'u targedu sy'n canolbwyntio ar adfer a / neu wella rheolaeth.

Y môr-wyntyll binc

Fel rhywogaeth ddeheuol, ceir môr-wyntyllau pinc ar gyrion gogleddol eithaf eu dosbarthiad yn Sir Benfro yng Nghymru ac mae eu niferoedd yn dirywio. Mae prosiect Trysorau Morol Cymru (rhan o Natur am Byth!) yn brosiect a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru sy’n cael ei arwain gan CNC. Mae’n dod â naw corff anllywodraethol amgylcheddol a CNC ynghyd i gyflawni rhaglen treftadaeth naturiol ac allgymorth fwyaf Cymru i achub rhywogaethau rhag diflannu ac ailgysylltu pobl â’r byd natur.

Bydd Natur am Byth! yn adeiladu ar y gwaith monitro presennol gan Dîm Skomer ym Mharth Cadwraeth Forol Skomer ac yn ceisio gwarchod y boblogaeth o môr-wyntyllau pinc o amgylch Parth Cadwraeth Morol Skomer drwy ymgysylltu â defnyddwyr y môr a chymunedau ynghylch bregusrwydd y rhywogaeth eiconig hon. Caiff effeithiau dynol ar fôr-wyntyllau pinc eu harchwilio a bydd yn nodi mesurau gwirfoddol y gellir eu rhoi ar waith i gefnogi eu cadwraeth.

Yr wystrysen

Mae Prosiect Adfer Wystrys Cymru, a arweinir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn brosiect tair blynedd gan Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop, a weinyddir gan Lywodraeth Cymru, sy’n ymchwilio i gwestiynau ynghylch y dull o adfer yr wystrysen Ostrea edulis yn nyfrffordd Aberdaugleddau a’r dichonoldeb o wneud hynny. Prif ffocws y prosiect yw mynd i’r afael â chwestiynau adfer sylfaenol sy’n ymwneud â’r gallu i oroesi, materion recriwtio a dwysedd stocio, wrth hefyd ystyried effeithiau posibl clefyd yr wystrysen Bonamia a rhywogaethau estron.

Hefyd fel rhan o Drysorau Morol Cymru, bydd gwaith adfer y gwelyau wystrys yn Aberdaugleddau yn cael ei brofi a’i ehangu, gan adeiladu ar gynllun gweithredu Wystrys Cymru.

Prosiect arall sy’n gweithio i adfer wystrys yw The Wild Oysters Project. Mae’r prosiect hwn yn cael ei gynnal gan Gymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL), y Blue Marine Foundation (BLUE) a British Marine ac mae’n gweithio gyda phartneriaid cyflenwi lleol yng Nghymru i ddarparu canolfannau adfer (yng Nghonwy).


Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt