Skip to content
WNW 2026 header print copy Cym

Gobeithio eich bod wedi mwynhau Wythnos Natur Cymru!

Er bod yr wythnos wedi dod i ben, gobeithiwn ei bod wedi eich ysbrydoli i barhau i ddarganfod y byd natur sydd ar garreg eich drws – neu yn eich cynefin – drwy gydol y flwyddyn.

Diolch o galon i'n holl bartneriaid, cyfranwyr, gwirfoddolwyr a phawb sy'n caru byd natur am eich cefnogaeth arbennig. Fyddai Wythnos Natur Cymru ddim yn bosibl heb eich cyfranogiad.

🌿 Bydd Wythnos Natur Cymru yn ôl yn 2027!

Efallai bod Wythnos Natur Cymru wedi dod i ben yn swyddogol, ond mae digon o ddigwyddiadau natur wych yn dal i ddod. Ewch ati i weld beth sydd ar y gweill a pharhewch i archwilio'r byd natur o'ch cwmpas.

Broad bodied chaser - Alun Williams
500 (1)
500 (2)

Beth i’w ddisgwyl mewn digwyddiadau

Bydd rhywbeth at ddant pawb – digwyddiadau i unigolion, teuluoedd a’r rhai sy’n newydd i fyd natur, yn ogystal â’r rhai mwy profiadol yn y maes.

Nid oes angen i chi fynychu digwyddiad i ddathlu Wythnos Natur Cymru. Y cwbl sydd angen i chi wneud yw mynd allan i werthfawrogi’r natur sydd ar garreg eich drws yn ystod Wythnos Natur Cymru. Gallai fod yn ddechrau ar berthynas gydol oes!

Byddwch yn rhan o'r stori! Rhannwch eich straeon a’ch profiadau o fyd natur gan ddefnyddio #WythnosNaturCymru a dangoswch eich angerdd dros fyd natur!

Facebook

Instagram

Bluesky