Skip to content
Naturfa – lle natur

Hysbysiad Preifatrwydd Data Naturfa

Y math o ddata rydyn ni'n eu casglu a pham

Data Personol

  • Enw a'ch prif gyfeiriad e-bost - er mwyn sicrhau bod gennym bwynt cyswllt ar gyfer gohebiaeth.

Data arall sy'n cael eu casglu gennym

  • Enw'r safle: er mwyn sicrhau y gellir adnabod y safle wrth ei asesu ac o bosibl ei gydnabod.
  • Manylion y safle: gan gynnwys enw, ffiniau, maint, ac unrhyw wybodaeth ategol (e.e. cynllun rheoli) i wirio a yw'n bodloni'r meini prawf.

Sut y byddwn yn cael gafael ar eich eich data personol

Mae eich data personol yn cael eu casglu'n uniongyrchol drwy un neu fwy o'r dulliau isod:

  • Rydych chi'n cyflwyno'r wybodaeth drwy'r offeryn asesu safle Naturfa.
  • Rydych chi'n cyflwyno'r wybodaeth fel tystiolaeth ategol fel rhan o'r broses enwebu.

Pryd a pham y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol

  • Ni fydd eich manylion personol byth yn cael eu cyhoeddi.
  • Efallai y byddwn yn rhannu data personol ag unigolion a fydd yn ein cynorthwyo i asesu, fel aelodau'r panel asesu (e.e. y Grŵp Gweithredu Strategol ar Fioamrywiaeth).

Pryd a pham y byddwn yn rhannu gwybodaeth ychwanegol

  • Yng Nghymru: Ar gyfer safleoedd a gydnabyddir yn swyddogol, bydd manylion y safle (enw, ffiniau, gwerth bioamrywiaeth, math o lywodraethu, cynllun rheoli cryno, sgoriau effeithiolrwydd rheoli) yn ymddangos ar gronfa ddata gyhoeddus o ardaloedd gwarchodedig a chadwriaethol a gynhelir gan Lywodraeth Cymru/Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Adrodd yn y DU ac yn rhyngwladol: Mae'r DU yn rhan o'r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol. Ar gyfer safleoedd cydnabyddedig, bydd enw'r safle, ffiniau, math o lywodraethu, sgôr effeithiolrwydd rheoli, a blwyddyn gydnabyddiaeth yn cael eu rhannu gyda'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Bydd safleoedd yn cael eu cyflwyno i Gronfa Ddata y Byd ar gyfer Ardaloedd Gwarchodedig a Chadwriaethol ac, lle bo modd, Llwyfan Cyfraniadau Natur yr IUCN.
  • Bydd manylion am safleoedd cydnabyddedig yn cael eu rhannu â safleoedd eraill i helpu i adeiladu cymuned ymarfer, ar gyfer adeiladu gwybodaeth, a hyrwyddo.

Ein sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data personol

Rydym yn prosesu eich data personol i gyflawni ein dyletswyddau i gynnal a gwella bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau, ac i gyflawni ymrwymiad Cymru i'r targed 30x30. Dyma dasg a gyflawnir er budd y cyhoedd.

Mae hyn yn golygu bod gennych yr hawliau a ganlyn:

  • Gofyn am gopïau o wybodaeth amdanoch chi a chael gwybod pam rydyn ni'n ei defnyddio.
  • Cael gwybodaeth anghywir amdanoch chi wedi'i chywiro.
  • Gwrthwynebu bod eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru oherwydd eich sefyllfa benodol.
  • Cyfyngu ar ein defnydd o wybodaeth amdanoch o dan yr amodau canlynol:
    • pan fo achos o ddefnyddio gwybodaeth anghywir
    • pan fo ein defnydd o'ch gwybodaeth yn anghyfreithlon, ac rydych chi am i ni gyfyngu ar ei defnydd yn hytrach na'i dileu
    • pan nad oes angen eich gwybodaeth ar Lywodraeth Cymru mwyach ond mae ei hangen arnoch ar gyfer camau cyfreithiol
    • pan fo gennych yr hawl i wrthwynebu rhoi gwybodaeth, ac rydych chi'n defnyddio'r hawl honno

Eich Hawliau Data Personol

  • Gofyn am gopïau o wybodaeth amdanoch chi a chael gwybod pam rydym ni'n ei defnyddio;
  • Cael gwybodaeth anghywir amdanoch chi wedi'i chywiro;
  • Gwrthwynebu bod eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru oherwydd eich sefyllfa benodol;
  • Cyfyngu ar ein defnydd o wybodaeth amdanoch o dan yr amodau canlynol:
    • pan fo achos o ddefnyddio gwybodaeth anghywir;
    • pan fo ein defnydd o'ch gwybodaeth yn anghyfreithlon, ac rydych chi am i ni gyfyngu ar ei defnydd yn hytrach na'i dileu;
    • pan nad oes angen eich gwybodaeth ar Lywodraeth Cymru mwyach ond mae ei hangen arnoch ar gyfer camau cyfreithiol;
    • pan fo gennych yr hawl i wrthwynebu rhoi gwybodaeth, ac rydych chi'n defnyddio'r hawl honno.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael ar dudalen hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru.

Mae gan Gomisiynydd Gwybodaeth y DU ragor o wybodaeth am eich hawliau hefyd ar eu gwefan.

Cais am Fynediad at Ddata gan y Gwrthrych

I wneud cais, ysgrifennwch at: y Swyddog Diogelu Data, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ, neu e-bostiwch SwyddogDiogeluData@llyw.cymru gan roi eich enw a'ch manylion cyswllt i ni a disgrifiad o'r data yr hoffech eu gweld. Byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn ac erbyn 30 diwrnod ar ôl eich cais fan bellaf. Efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu rhyw fath o ddull o'ch adnabod, fel nad ydym yn rhoi data amdanoch chi i'r person anghywir trwy gamgymeriad.

Pa mor hir y byddwn ni'n cadw'ch data

Byddwn yn cadw eich data drwy gydol cyfnod y broses asesu nes bod penderfyniad wedi'i wneud ar gydnabyddiaeth.

Os bydd cais y safle am gydnabyddiaeth yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich data am y cyfnod y mae'r safle yn cael ei chydnabod. Gellir dod â'r gydnabyddiaeth i ben ar gais Llywodraeth Cymru neu berchennog y safle.

Os nad yw'r safle yn llwyddo i dderbyn cydnabyddiaeth, byddwn yn cadw'r data nes bod yr ymgeisydd yn ei gwneud yn glir nad oes ganddo ddiddordeb mewn cael cydnabyddiaeth mwyach.

Os nad yw Llywodraeth Cymru yn siŵr am fwriad y tirfeddiannwr (e.e. Nid ydym wedi derbyn cyfathrebiadau ers chwe mis). Byddwn yn dileu data ar ôl dwy flynedd ers yr enghraifft ddiwethaf o gyfathrebu i gael ei harbed.

Sut y byddwn yn cadw eich data yn ddiogel

Nod Llywodraeth Cymru yw diogelu eich gwybodaeth bersonol drwy system o fesurau diogelwch sefydliadol a thechnegol. Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau'r canlynol:

  • Bod yr holl ddata cyswllt personol ond yn cael eu defnyddio at y dibenion a nodwyd.
  • Bod data yn cael eu storio'n ddiogel o fewn platfform sydd wedi'i brofi o ran gwytnwch.
  • Bod data yn cael ei storio mewn modd diogel gyda'r profion diogelwch gofynnol wedi cael eu cynnal, a bod y data yn cael eu prosesu a'u storio mewn ffordd gywir a dibynadwy. Mae hyn yn golygu y bydd data yn cael eu cofnodi fel data a ddarparwyd gan ddefnyddwyr. Ar eu cofnodi ar y system, bydd mesurau diogelu ar waith i atal colli, llygredd, neu addasu data heb awdurdod.
  • Bydd copïau wrth gefn rheolaidd yn cael eu cynnal i sicrhau y gellir adfer data os bydd system yn methu neu data'n cael eu colli. Mae cywirdeb data yn cael ei gynnal trwy arferion storio diogel, adolygu systemau o dro i dro, a chydymffurfiaeth â safonau diogelu data a monitro amgylcheddol perthnasol.
  • Mae'r holl liniaduron a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu rheoli a'u hamgryptio.
  • Mae angen cyfrif Corfforaethol ar ddefnyddwyr, sy'n cynnwys enw defnyddiwr, cyfrinair a biometreg dilys i gael mynediad i'r gliniadur ac adnoddau rhwydwaith.
  • Mae rheolaethau mynediad seiliedig ar ddefnyddwyr yn cael eu gweithredu i sicrhau bod gan staff y lefelau cywir o fynediad at y data.
  • Mae'r gronfa ddata sy'n cadw canlyniadau asesiadau, data defnyddwyr a manylion dilysu defnyddwyr yn cael ei chynnal yn y DU.