‘Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).’

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cydnabod pwysigrwydd natur a’i fioamrywiaeth. Bydd nod Cymru Gydnerth yn helpu i gyflawni amcanion adfer natur yng Nghymru.

Mae’r Ddeddf yn sefydlu swydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol statudol i Gymru i gefnogi’r cyrff cyhoeddus a restrwyd yn y Ddeddf i weithio tuag at gyflawni’r nodau llesiant.

Mae’r Ddeddf hefyd yn sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r rhain yn gyfrifol am wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardal drwy weithio i gyflawni’r nodau llesiant.