Cyflwyniad

Gyda'n gilydd, gallwn weithio tuag at Gymru lle mae mwy o bobl yn gwybod mwy am y materion sy'n effeithio ar bryfed peillio ac yn cymryd mwy o gamau i'w hamddiffyn, ac amddiffyn eu cynefinoedd a’u ffynonellau bwyd.

Mae'n bwysig bod pob cynllun sy'n cymryd rhan yn gweithio ar o leiaf un syniad o bob un o'r pedair Thema (BWYD, LLETY PUM SEREN (CYNEFIN), RHYDDID RHAG PLALADDWYR A HWYL).

Beth am ddod ynghyd ag unigolion o'r un anian o fewn eich cymuned, sefydliad neu fusnes i lunio cynllun gweithredu ar gyfer eich cynllun? Cysylltwch â'ch Hyrwyddwr Gwenyn lleol ar ddechrau eich prosiect er mwyn iddynt allu eich helpu i bennu eich syniadau ar gyfer y pedair thema.

Yn y Canllaw Gweithredu ar gyfer pob un o'r pedair thema, awgrymwn rai syniadau i'ch helpu i feddwl. Dewiswch syniadau sydd yn eich barn chi yn berthnasol i'ch ardal neu'ch sefydliad a dewiswch syniadau sy'n gyraeddadwy ac yn hwyl. Bydd hyn yn gwneud pethau'n haws o lawer, yn enwedig os ydych chi'n grŵp newydd. Os oes gennych syniadau eraill ar gyfer camau gweithredu o fewn y themâu sy'n briodol yn eich barn chi, yna mae croeso i chi eu hymgorffori.

Rhowch wybod i ni eich bod yn dymuno cymryd rhan yn y cynllun drwy lenwi ffurflen gais.

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt