Cyflwyniad

Mae Hyrwyddwyr - Caru Gwenyn yn wirfoddolwyr o bob math o grwpiau natur, grwpiau cadwraeth a grwpiau amgylcheddol o gwmpas Cymru sydd wedi dod at ei gilydd i helpu cymunedau a sefydliadau i fynd ati i amddiffyn gwenyn a pheillwyr eraill yng Nghymru drwy'r cynllun Caru Gwenyn.

Mae ganddynt wahanol gefndiroedd ac arbenigeddau ac maent i gyd yn teimlo’n angerddol am natur.

Gall Hyrwyddwyr Caru Gwenyn eich helpu i’ch rhoi ar ben ffordd i fod yn lle Caru Gwenyn swyddogol. Maent yno i roi cyngor i chi, i'ch helpu i'ch tywys ar hyd y daith ac i'ch helpu i rwydweithio â chynlluniau Caru Gwenyn eraill yn eich ardal.

Mae pob hyrwyddwr yn cwmpasu ardal ddaearyddol wahanol ac yn cydweithio i helpu i wneud y cynllun Caru Gwenyn yn llwyddiant ac felly'n helpu i ddiogelu pryfed peillio yng Nghymru.

Felly, os hoffech chi wneud eich cymuned, tref, ysgol, coleg, busnes, sefydliad, maes chwarae, addoldy neu le cymunedol arall yn un sy'n gyfeillgar i wenyn, cysylltwch â'ch Hyrwyddwr Gwenyn lleol a byddant yn fwy na pharod i helpu.

Hyrwyddwyr - Caru Gwenyn

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt