Mae pori gofalus a phriodol yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng bywyd gwyllt yn ffynnu neu'n diflannu'n gyfan gwbl. Gall reoli rhywogaethau ymosodol ac ymledol, cynnal cynefinoedd agored drwy atal llwyni rhag ymledu, a chreu bylchau er mwyn i rywogaethau newydd allu egino.
Yn yr amgylchedd ehangach gall pori gefnogi rheolaeth ar y risg o lifogydd a thanau, gwella mynediad i ofod gwyrdd a bod o fudd i beillwyr.
