Uchafbwyntiau
Weithiau, mae morloi llwyd (Halichoerus grypus), llamhidyddion (Phocoena phocoena) a dolffiniaid cyffredin (Delphinus delphis) i'w gweld yn y môr o amgylch Porthcawl. Cadwch lygad amdanyn nhw wrth gerdded ar hyd y promenâd.
Mae'r wiber (Vipera berus), neidr y gwair (Natrix natrix) ac amrywiaeth eang o blanhigion gwlyptir diddorol gan gynnwys llugaeron (Vaccinium oxycoccos), ffeuen y gors (Menyanthes) a hesgen blodau anghyfagos (Carexr emota) wedi'u cofnodi yn yr ardaloedd gwlypach o amgylch Cwm Ogwr.
Mae glaswelltiroedd corsiog o gwmpas Cwm Risca yn cynnal poblogaeth o frith y gors (Euphydryas aurinia) sydd o bwys cenedlaethol. Cadwch lygad hefyd am ei brif blanhigyn bwyd, tamaid y cythraul (Succisa pratensis).
Gellir gweld caldrist y gors (Epipactis palustris) hardd yn blodeuo ym Merthyr Mawr yn yr haf. Ar yr un safle, dylai’r rhai sy'n hoff o ffyngau gadw llygad ar y Morel unigryw, sy'n dwyn ffrwythau o fis Mawrth i fis Mehefin.
Mae coetiroedd ar lawr cwm Llynfi’n cynnwys rhywogaethau glöyn byw nodedig megis yr iâr wen wythiennog (Pieris napi) a brith y coed (Pararge aegeria), yn ogystal ag ambell redynen o bwys fel rhedynen bêr y mynydd (Oreopteris limbosperma) a thafod yr hydd (Asplenium scolopendrium).
Mae ardaloedd ucheldirol Llynfi a Garw yn llefydd da i weld hebogiaid tramor (Falco peregrinus), barcutiaid coch (Milvus milvus), troellwyr mawr (Caprimulgus europaeus) a gweilch Marthin (Accipiter gentilis) ac amrywiaeth o rywogaethau ystlumod.
Mae Afon Garw, sy'n llifo o'r gogledd i'r de trwy Ogledd y sir, yn gynefin rheolaidd i las y dorlan (Alcedo atthis) ac ystlum y dŵr (Myotis daubentoniid). Yn yr un modd, mae Afon Ewenni ar ffin ddwyreiniol y fwrdeistref sirol hefyd yn cynnal amrywiaeth o rywogaethau gan gynnwys y brithyll (Salmo trutta) a'r gangen las (Thymallus thymallus).
Mae ysbrydwlithod (Selenochlams ysbryda) hynod swil, a gofnodwyd fel rhywogaeth yn 2008, wedi'u canfod yng Ngolchfeydd Ogwr. Gall entomolegwyr amatur ddod o hyd i amrywiaeth eang o infertebratau diddorol ac anarferol ar y safle.
Mae ystlumod lleiaf (Pipistrellus sp.) i'w gweld, ochr yn ochr â chornchwiglod (Vanellus vanellus) a thelorion helyg (Phylloscopustrochilus) o amgylch glaswelltiroedd Betws.
Yn olaf, cadwch lygad am gerfluniau derw ‘Ceidwaid Natur’ ar hyd a lled mannau gwyrdd Pen-y-bont ar Ogwr. Mae 5 ym mharc gwledig Bryngarw, a 5 arall i’w gweld yn safleoedd gwarchodedig y sir.