Skip to content
Web page banner Caerphilly

Partneriaeth Natur Leol
Caerffili

Natur yng Nghaerffili

Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gorwedd yng Nghymoedd y De, wedi’i ffinio i’r de gan Gaerdydd a Chasnewydd ac i’r gogledd gan Bowys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r sir yn cynnwys 23 math amrywiol o gynefinoedd, gan gynnwys glaswelltiroedd corsiog sy’n llawn rhywogaethau, darnau o goetir hynafol, a rhwydwaith helaeth o afonydd a phyllau. Mae’r cyfoeth hwn o gynefinoedd yn cynnal ystod eang o rywogaethau, yn enwedig clwydfan mamolaeth bwysig i ystlumod pedol mwyaf a phoblogaeth gref o’r rhywogaeth glöyn byw, brith y gors. Mae rhywogaethau eraill, fel deilen gron Cernyw a’r hebog tramor, hefyd o bwys lleol sylweddol.

Amdanom ni

Rhwydwaith cydweithredol o bobl a sefydliadau sydd wedi ymrwymo i adfer natur a gwella bioamrywiaeth o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili yw Partneriaeth Natur Caerffili. Mae’n dwyn ynghyd ystod eang o bartneriaid, gan gynnwys aelodau’r cyhoedd, cynrychiolwyr cynghorau, perchnogion tir a busnesau, gwasanaethau cyhoeddus, a gweithwyr proffesiynol ym maes bywyd gwyllt, i rannu syniadau a gweithio ar y cyd tuag at wella ein hamgylchedd lleol. Ar hyn o bryd, mae gan y bartneriaeth dros 100 o aelodau, sy’n cynrychioli mwy na 40 o sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, Buglife, ac Ymddiriedolaeth Natur Gwent.

Mae’r bartneriaeth ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno. Gall aelodau gael mynediad at gyfarfodydd chwarterol, adnoddau a digwyddiadau, yn ogystal â chyfleoedd sy’n cynnwys rolau gwirfoddoli, prosiectau ymchwil a mentrau gwyddoniaeth dinasyddion.

Ein hamcanion

Prif nod y bartneriaeth natur yw gwarchod a gwella bioamrywiaeth yng Nghaerffili.

Ein hamcanion ychwanegol yw:

  • Diogelu cynefinoedd presennol, adfer cynefinoedd blaenorol, a chreu rhai newydd.
  • Addysgu pobl o bob oed am bwysigrwydd bioamrywiaeth a sut i gefnogi ei chadwraeth.
  • Annog y gymuned i fynd allan i’r awyr agored a mwynhau eu bywyd gwyllt lleol.
  • Cynnal gwaith ymchwil i rywogaethau a safleoedd, a chynnal arolygon ohonynt, er mwyn cynyddu a rhannu gwybodaeth.
  • Hyrwyddo gweithgareddau ac ymddygiadau sy’n sensitif i fywyd gwyllt lleol.

Hyfforddi a chefnogi naturiaethwyr amatur a myfyrwyr, gan ddarparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus gwerthfawr i helpu i adeiladu dyfodol gwaith bioamrywiaeth.

Sut byddwn yn cyflawni hyn

Rydym yn bwriadu cyflawni ein hamcanion drwy wneud y canlynol:

  • Cyhoeddi Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol Caerffili yn 2026, a fydd yn nodi blaenoriaethau ar gyfer adfer natur a gwydnwch ecosystemau ledled y sir.
  • Defnyddio’r bartneriaeth natur i feithrin cydweithrediadau cryf rhwng pobl a sefydliadau sy’n amddiffyn ac yn gofalu am natur.
  • Cefnogi datblygiad sy’n cyfrannu at amcanion y bartneriaeth, yn mynd i’r afael â blaenoriaethau lleol, ac yn helpu i lywio a chryfhau ceisiadau am gyllid ar gyfer prosiectau adfer natur.
  • Cyflwyno allgymorth i ysgolion drwy gyflwyno gwybodaeth am fflora a ffawna lleol a darparu deunyddiau fel blychau adar, cartrefi draenogod a gwalau dyfrgwn.
  • Cefnogi a hwyluso ymgysylltiad cymunedol trwy ddigwyddiadau fel Go Wild!
  • Cynnal ymchwil ac arolygon drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys yr arolwg brithion y gors blynyddol ac arolygon madfallod dŵr cribog.

Mae enghreifftiau o waith wedi’i gwblhau neu sydd ar y gweill yn cynnwys y canlynol:

  • Rheoli naw parc gwledig a gwarchodfa natur, yn ogystal â safleoedd natur ychwanegol a redir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
  • Gosod llwyfannau ar gyfer crehyrod glas i gefnogi poblogaethau crehyrod lleol yn Fochriw.
  • Gwaith adfer dan arweiniad y gymuned yn trosi tir yn rhostir brodorol yn Aberbargod.
  • Arolygon gwe britheg y gors blynyddol yng Nglaswelltiroedd Aberbargod.
  • Cynllun blychau bronwennod y dŵr a siglennod ar hyd afonydd Rhymni, Sirhywi ac Ebwy gan Glwb Adar Morgannwg a Gwent.
  • Mae dôl blodau gwyllt, pwll, a chylch boncyffion i sesiynau addysg wedi’u hadfer a’u creu ym Mharc Coetir Bargod.
  • Gosodwyd pedair gwâl artiffisial i ddyfrgwn ar hyd afon Rhymni wrth iddi ymlwybro drwy Barc Coetir Bargod mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac Ymddiriedolaeth Natur Gwent gyda chymorth disgyblion o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.

Ymunwch â’r bartneriaeth natur!
Ymaelodi yw’r ffordd orau o gael mynediad at adnoddau, gwybodaeth, digwyddiadau, cyfleoedd gwirfoddoli, prosiectau ymchwil, a mentrau gwyddoniaeth dinasyddion. Cysylltwch os hoffech chi gymryd rhan!

Gwirfoddoli
Am gyfleoedd o fewn Cyngor Caerffili, cliciwch yma. Am gyfleoedd eraill, ymunwch â’r bartneriaeth natur i gael yr wybodaeth ddiweddaraf. Gall gweithgareddau gwirfoddoli gynnwys rheoli ac adfer cynefinoedd, arolygon rhywogaethau a chynefinoedd, achub ac adsefydlu bywyd gwyllt, a helpu i drefnu digwyddiadau.

Cofnodi
Cyflwynwch yr hyn a welwch am fywyd gwyllt i Ganolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru. Mae’r cofnodion hyn yn ein helpu i ddeall newidiadau ym mhoblogaethau bywyd gwyllt ac i nodi ardaloedd lle mae angen ymdrechion cadwraeth. Gallwch hefyd gymryd rhan mewn arolygon gwyddoniaeth dinasyddion a gynhelir gan sefydliadau cadwraeth, sy’n darparu’r holl arweiniad sydd ei angen arnoch i ddechrau adnabod a chofnodi bywyd gwyllt. Mae mentrau poblogaidd yn cynnwys The Big River Watch, Big Butterfly Count, Gwylio Adar yr Ardd, a Chyfrifon Blodau-Pryfed wedi’u Hamseru.

Yr ardd
Gallwch chi greu hafan i fywyd gwyllt yn eich gardd eich hun. Mae’r argymhellion yn cynnwys plannu blodau gwyllt, gosod blychau adar a phorthwyr, creu priffyrdd draenogod, ychwanegu pwll bach, compostio, gadael tomenni o bren marw a cherrig, gosod gwestai gwenyn, osgoi plaladdwyr artiffisial a gwrteithiau sy’n deillio o danwydd ffosil, a chymryd rhan ym Mai Di-dor. Dewch o hyd i fwy o awgrymiadau yma.

Rheoli rhywogaethau goresgynnol
Dysgwch sut i adnabod rhywogaethau goresgynnol (e.e. jac y neidiwr, clymog Japan, y cimwch afon arwyddol, y minc Americanaidd). Rhowch wybod am yr hyn a welwch i dîm Cefn Gwlad a Thirwedd Cyngor Caerffili neu drwy INNS Mapper. Gallwch gefnogi bioddiogelwch drwy lanhau offer garddio ac esgidiau ar ôl eu defnyddio i atal hadau neu sborau rhag lledaenu, a thrwy olchi esgidiau ar ôl mynd i mewn i ddyfrffyrdd i osgoi trosglwyddo wyau cimwch yr afon. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma. Cadwch lygad ar fentrau parhaus gan sefydliadau bywyd gwyllt, fel UK Squirrel Accord a Phartneriaeth Minc Americanaidd De Cymru Menter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru.

Hyfforddiant ac addysg
Gall pawb, o ddechreuwyr i naturiaethwyr profiadol, elwa o hyfforddiant a dysgu parhaus. Mae sefydliadau fel y Cyngor Astudiaethau Maes a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod yn cynnig adnoddau, cyrsiau a seminarau o ansawdd uchel. Mae partneriaid yn y bartneriaeth natur hefyd yn cynnal gweithdai a chyflwyniadau, ac mae cynhadledd flynyddol Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn darparu cyfleoedd dysgu a rhwydweithio gwerthfawr.

Mannau i weld byd natur yng Nghaerffili

Mae Caerffili yn cynnig ystod eang o leoliadau lle gallwch chi fwynhau ei bioamrywiaeth gyfoethog. Dyma rai enghreifftiau:

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Glaswelltiroedd Aberbargod
Wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, mae’r warchodfa hon wedi’i gwarchod fel safle o bwysigrwydd Ewropeaidd. Mae’n cynnal poblogaeth gref o löynnod byw brithion y gors ac yn cynnwys cynefinoedd glaswellt y bwla a phorfa brwyn.

Fferm Ynys Hywel
Hwb cymunedol bywiog sy’n cynnal digwyddiadau rheolaidd a rhandiroedd. Mae’r fferm hefyd yn gartref i amrywiaeth drawiadol o rywogaethau ffyngau, gan gynnwys capiau cwyr.

Parc Cwm Darren
Ar un adeg, dyma oedd safle diwydiannol Glofa Ogilvie, ac mae’r ardal hon wedi’i thrawsnewid yn dirwedd sy’n gyfoethog o ran bywyd gwyllt, gyda glaswelltiroedd, coetiroedd, llynnoedd, a Gwarchodfa Natur Leol Dolydd Cwmllydrew. Mae wedi ennill Gwobr y Faner Werdd ac mae’n cynnwys tomenni sborion glo sy’n darparu cynefinoedd hanfodol i infertebratau a ffyngau.

Chwarel Llanbradach
Mae chwarel segur sydd bellach yn ffynnu fel hafan i fywyd gwyllt wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae ei hwynebau creigiog agored a’r prysgwydd o’i chwmpas yn darparu safleoedd nythu i adar, gan gynnwys yr hebog tramor, a chynefinoedd ar gyfer planhigion ac infertebratau arbenigol. Mae’r safle hwn yn gymharol hygyrch ac yn addas ar gyfer cerddwyr profiadol a gwylwyr adar.

Parc Cefn Onn

Parc gwledig hanesyddol rhestredig Gradd II sy’n darparu mynediad i rwydwaith llwybrau troed Mynydd Caerffili. Mae’r parc yn enwog am ei erddi coetir a nentydd a phyllau, gan greu lleoliad tawel sy’n gyfoethog o fywyd gwyllt. Mae’n cynnwys casgliad amrywiol o goed brodorol, arddangosfeydd blodau tymhorol o rhododendrons, asaleas, camelias yn y gwanwyn, a’r fwyaf o ddwy boblogaeth o degeiriau’r broga sydd ar ôl yn Ne Cymru.

Mae rhagor o fanylion am barciau gwledig a gwarchodfeydd natur eraill i’w cael yma.

Uchafbwyntiau

Glöyn byw brith y gors
De Cymru yw cadarnle’r DU i’r rhywogaeth brin hon. Mae Glaswelltiroedd Aberbargod yn safle allweddol, lle mae aelodau’r bartneriaeth natur fel Cadwraeth Gloÿnnod Byw yn gweithio i gynnal a gwella ansawdd cynefinoedd.

Cynefinoedd sborion glo

Mae tomenni sborion glo Caerffili yn hanfodol i infertebratau a ffyngau, gan gynnal rhostir, glaswelltir cyfoethog o rywogaethau, coetir a gwlyptiroedd. Yn ddiweddar, cynhaliodd Buglife gynhadledd ar eu gwerth ecolegol yng Ngwent.

Clwydfan ystlumod pedol mwyaf
Mae Castell Rhiw’r-perrai yn gartref i un o ddim ond pum clwydfan mamolaeth yng Nghymru, a’r unig un yn ne-ddwyrain Cymru. Mae’r castell a’r coetir o’i gwmpas wedi’u dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Cynhelir teithiau cerdded ystlumod tywysedig yn flynyddol gan ein partneriaid yn Rhiw’r-perrai.

Tegeiriau’r broga
Mae’r tegeiriau hyn wedi dirywio oherwydd newidiadau amaethyddol, tanbori a sychder. Mae Parc Cefn Onn yn cynnal y boblogaeth fwyaf o ddwy boblogaeth sy’n weddill yn Ne Cymru.

Prosiectau

Cyswllt allweddol

Tanith Stephens – Swyddog Bioamrywiaeth

Cyfeiriad:
Tŷ Bargod,
1 Ffordd Santes Gwladys,
Bargod, CF81 8AB

Ffôn: 07710017324

E-bost: stepht2@caerphilly.gov.uk

Mae Caerffili yn aelod gwerthfawr o Rwydwaith Partneriaeth Natur Lleol Cymru gyfan

Local Nature Partnerships Cymru
198