Skip to content
WNW website banner

Wythnos Natur Cymru 2022

Survey image

Ein thema ar gyfer 2022 oedd ‘Cysylltu - Manteision Lles Byd Natur’.

Drwy Gymru gyfan, trefnodd sefydliadau partner ddigwyddiadau Wythnos Natur Cymru oedd yn caniatáu i bobl gymryd rhan yn y byd naturiol a'i fwynhau.

Yn 2022, cawsom y pleser o ddychwelyd at ddigwyddiadau wyneb yn wyneb ledled Cymru yn ychwanegol at ddigwyddiadau ar-lein.Mynychodd lawer o bobl y digwyddiadau ac roeddynt yn cynnwys teithiau cerdded lles, sesiynau ioga, teithiau blodau gwyllt, sesiynau bioblitz a chofnodi bywyd gwyllt.Roedd ein teithiau Gwenoliaid duon yn hynod boblogaidd a chafwyd niferoedd uchel iawn !

Diolch o galon i’n sefydliadau partner sy’n gwneud Wythnos Natur Cymru yn bosibl ac i bobl a chymunedau Cymru am gymryd rhan!

Dywedwch wrthym beth mae natur yn ei olygu i chi

Yn ystod Wythnos Natur Cymru byddem wrth ein bodd yn cael gwybod beth mae natur yn ei olygu i chi. Rhannwch brofiadau o sut rydych wedi elwa'n bersonol o ymgysylltu â natur. Gall natur fod yn unrhyw le: eich gardd, parc cyhoeddus, ardal arfordirol, gwarchodfa natur neu gefn gwlad. Dyma arolwg dienw o'ch barn am fyd natur a fydd yn helpu i sicrhau llwyddiant Wythnos Natur Cymru at y dyfodol.

Cliciwch Yma i wneud yr arolwg

Pum rheswm pam mae natur yn dda i chi

  • Gall treulio 10-30 munud yn edrych ar fyd natur neu ymysg byd natur leihau lefelau straen
  • Gall mynediad at lefydd gwyrdd wella lles meddyliol a datblygiad gwybyddol plant
  • Gall ‘dod at eich coed’ neu dreulio amser mewn coetir leihau pryder gan 29%
  • Gall edrych ar dirwedd coedwig achosi i gyfradd y galon arafu a phwysedd y gwaed ostwng
  • Gall mynd am dro am 90 munud leddfu meddyliau negyddol

Mae cael profiad o natur – ar ddôl, mewn coetir, ar lan y môr, yn y parc lleol neu’r ardd - yn lles i'r enaid. Cymerwch funud i sylwi mewn difrif ar y golygfeydd, y synau a'r arogleuon. Y teimlad a gewch wrth gyffwrdd rhisgl garw coeden, gweunwellt a thywod gwlyb wrth gerdded ar y traeth. Rydym yn eich annog i ddefnyddio'ch synhwyrau yn ystod digwyddiadau Wythnos Natur Cymru yn ogystal â manteisio ar y cyfle i ddysgu mwy am fyd natur. Unwaith y byddwch wedi dysgu’r sgil hon bydd hi gennych wedyn am oes a byddwch yn gallu ei defnyddio i ymlacio’r corff a’r enaid.

Mae gwirfoddoli er budd natur hefyd yn rhoi cryn foddhad – rhoi rhywbeth yn ôl i natur a chefnogi gwaith nifer o sefydliadau a grwpiau cymunedol, sydd i gyd yn gysylltiedig â gwarchod ein cynefinoedd a’n rhywogaethau gwerthfawr yng Nghymru. Cymerwch ran – bydd llawer o’r digwyddiadau yn amlygu cyfleoedd i chi wirfoddoli ac mae’r Cydgysylltydd Partneriaeth Natur Lleol yn lle ardderchog i ymgysylltu â byd natur yn eich ardal.

Rydym yn fwy tebygol o feithrin a gofalu am yr hyn yr ydym yn ei werthfawrogi.

Mae ymdrechion cenedlaethol i ddiogelu, gwella ac adfer natur yn ein safleoedd blaenllaw yng Nghymru yn hollbwysig. Mae’r rhain yn mynd law yn llaw â mentrau fel y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, sy'n creu mannau llawn natur yn ein trefi, ein dinasoedd a'n cymunedau ledled Cymru. Lle mae natur yn ffynnu, mae pobl a chymunedau hefyd yn ffynnu.

Mae llais natur yn aml yn mynd ar goll ynghanol blaenoriaethau eraill sy’n ymddangos yn fwy pwysig ar y pryd. Ond drwy gysylltu â natur a’r sefydliadau sy’n siarad o blaid natur gallwch fod yn rhan o lais cryf dros newid. Wedi’r cwbl, mae gweithredu dros natur a’r hinsawdd yn llawer rhy bwysig i fod yn sownd ar lôn araf blaenoriaethau.

Nid yw Wythnos Natur Cymru yn bosibl heb gymorth ein sefydliadau partner. Mae’r rhain yn gweithio’n ddiflino drwy’r flwyddyn dros natur – drwy addysgu, cefnogi, monitro a gweithredu. Diolch yn fawr i chi!

Dydd Sadwrn 2nd Gorffenaf

Diwrnod Gweirgloddiau Agored Sir Benfro
Deuddeg dôl ar draws Sir Benfro
Rhagor o wybodaeth

Bioblitz Llanbedrog gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
9:00am - 4:00pm (galwch heibio unrhyw bryd)
Rhagor o wybodaeth

Dathlu dolydd Llanddona!
10:00-18:00 (galwch heibio unrhyw bryd)
Rhagor o wybodaeth

Gwyfynod Godidog – gwyfynod y bore yng Ngwlyptiroedd Casnewydd
09:00-11:00
Rhagor o wybodaeth

Cacwn Gwlyptiroedd Casnewydd
11:00-12:30
Rhagor o wybodaeth

Diwrnod Cenedlaethol y Gweirgloddiau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
10am - 12pm & 1pm - 2pm
Rhagor o wybodaeth

Celf Natur yng Nghoed yr Esgob
10:00-12:00
Rhagor o wybodaeth

Dewch i ddarganfod Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich
10:00am – 1:00pm
Rhagor o wybodaeth

Gweithgareddau Gwyllt yng Nghwm Elan
10:00am - 1:00pm
Rhagor o wybodaeth

Diwrnod Cenedlaethol Dolydd - Arolwg peillwyr Rhosili
Unrhyw amser rhwng 11:00-15:00
Rhagor o wybodaeth

Ioga Gwyllt Dyffryn Clwyd
11:00-13:00
Rhagor o wybodaeth

Bioflits perllan Gymunedol parc Bute
14:00-16:00
Rhagor o wybodaeth

Taith Dywys ar The Bug Farm yn Nhyddewi
14:30
Rhagor o wybodaeth

  • Mae’n Ddiwrnod Cenedlaethol y Dolydd ar 2 Gorffennaf a thrwy gydol yr wythnos. Bydd Magnificent Meadows Cymru a sefydliadau partner yn cynnal digwyddiadau ledled Cymru i ddathlu dolydd.
  • Byddwch yn rhan o Chwiliad Mawr y Dolydd yn ystod Wythnos Natur Cymru. Y nod yw crwydro dolydd, chwilio am blanhigion a chofnodi’r rhywogaethau gan ddefnyddio rhestr Chwiliad Mawr y Dolydd. Mae’n agored i bawb - nid oes angen eich dôl eich hun arnoch! (Ond cofiwch gael ganiatâd y tirfeddiannwr os ydych yn crwydro ar dir rhywun arall).

Digwyddiadau pellach i ddilyn

Dydd Sul 3rd Gorffenaf

Taith Gerdded y Wardeiniaid Bae Cemlyn
11:00-13:00
Rhagor o wybodaeth

Darganfod Adar a Blodau Gwyllt 'Big Pool Wood' Gronant
13:00-15:00
Rhagor o wybodaeth

RSPB Conwy Taith gerdded blodau gwyllt
14:00-16:00
Rhagor o wybodaeth

Diwrnod gwirfoddoli Parc Hailey Caerdydd
14:00 – 17:00
Rhagor o wybodaeth

  • Mae’n Ddiwrnod Cenedlaethol y Dolydd ar 2 Gorffennaf a thrwy gydol yr wythnos. Bydd Magnificent Meadows Cymru a sefydliadau partner yn cynnal digwyddiadau ledled Cymru i ddathlu dolydd.
  • Byddwch yn rhan o Chwiliad Mawr y Dolydd yn ystod Wythnos Natur Cymru. Y nod yw crwydro dolydd, chwilio am blanhigion a chofnodi’r rhywogaethau gan ddefnyddio rhestr Chwiliad Mawr y Dolydd. Mae’n agored i bawb - nid oes angen eich dôl eich hun arnoch! (Ond cofiwch gael ganiatâd y tirfeddiannwr os ydych yn crwydro ar dir rhywun arall).

Digwyddiadau pellach i ddilyn

Dydd Llun 4th Gorffenaf

Cacwn y Llus Rhosili
11:00-12:00
Rhagor o wybodaeth

Gwenoliaid Duon yn Llanrwst
19:30-22:30
Rhagor o wybodaeth

Arolwg o Wenoliaid Du yn Uplands, Abertawe
20.30 pm
Rhagor o wybodaeth

  • Helfa Cacwn y Llus yng Nghymru
    Mae angen eich help chi arnom ni i chwilio am Gacwn y Llus a’u cofnodi. Fe'u ceir yn nodweddiadol ar ucheldiroedd a rhostiroedd y DU lle mae Llus yn bresennol ac maen nhw i’w cael ledled Cymru. Mae tudalen gofnodi gynhwysfawr wedi’i sefydlu i’ch helpu i gofnodi’r rhywogaeth cacwn hardd hon.
  • Byddwch yn rhan o Chwiliad Mawr y Dolydd yn ystod Wythnos Natur Cymru. Y nod yw crwydro dolydd, chwilio am blanhigion a chofnodi’r rhywogaethau gan ddefnyddio rhestr Chwiliad Mawr y Dolydd. Mae’n agored i bawb - nid oes angen eich dôl eich hun arnoch! (Ond cofiwch gael ganiatâd y tirfeddiannwr os ydych yn crwydro ar dir rhywun arall).

Digwyddiadau pellach i ddilyn

Dydd Mawrth 5th Gorffenaf

Taith gerdded bywyd gwyllt ar hyd Rheilffordd Gofilon a Chamlas Aberhonddu a Sir Fynwy
09:45-12:00
Rhagor o wybodaeth

Llesiant a sgiliau coetir misol Actif Woods Craig Gwaldys
10am a 1pm
Rhagor o wybodaeth

Arwyddion Maes gyda thaith cerdded trwy'r Nant-y-Pandy, Llangefni
10:00-13:00
Rhagor o wybodaeth

Diwrnod Gwirfoddolwyr- Rheoli cynefinoedd yn Ymarferol, Cymer
10:00-16:00
Rhagor o wybodaeth

Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd
10:00-16:00
Rhagor o wybodaeth

Sesiwn ‘galw heibio’ cofnodi amgylcheddol - Parc Cymunedol Chwarel Rosehill
12:00-13:30
Rhagor o wybodaeth

‘The Ancient Woods of South-East Wales’
7-9pm
Rhagor o wybodaeth

Taith ystlumod, Abertawe
20.30 - tua 23.00 /23.15
Rhagor o wybodaeth

  • Helfa Cacwn y Llus yng Nghymru
    Mae angen eich help chi arnom ni i chwilio am Gacwn y Llus a’u cofnodi. Fe'u ceir yn nodweddiadol ar ucheldiroedd a rhostiroedd y DU lle mae Llus yn bresennol ac maen nhw i’w cael ledled Cymru. Mae tudalen gofnodi gynhwysfawr wedi’i sefydlu i’ch helpu i gofnodi’r rhywogaeth cacwn hardd hon.
  • Byddwch yn rhan o Chwiliad Mawr y Dolydd yn ystod Wythnos Natur Cymru. Y nod yw crwydro dolydd, chwilio am blanhigion a chofnodi’r rhywogaethau gan ddefnyddio rhestr Chwiliad Mawr y Dolydd. Mae’n agored i bawb - nid oes angen eich dôl eich hun arnoch! (Ond cofiwch gael ganiatâd y tirfeddiannwr os ydych yn crwydro ar dir rhywun arall).

Digwyddiadau pellach i ddilyn

Dydd Mercher 6th Gorffenaf

Heic fywyd gwyllt yr Haf ym Mangor
10:00-15:00
Rhagor o wybodaeth

Clirio Jac y neidiwr yng Nghwmafan
10:00-12:00
Rhagor o wybodaeth

Llogi Tywysydd yng Ngwlyptiroedd Casnewydd
10:00:12:00 and 14:00
Rhagor o wybodaeth

Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd
10:00-16:00
Rhagor o wybodaeth

Adar, blodau a madfallod dŵr Halkyn
11:00-15:00
Rhagor o wybodaeth

Chwilfrydedd am Chwilod! Gŵyr
4.00pm - 5.00pm
Rhagor o wybodaeth

Taith Gerdded Gwenoliaid Duon, Glantawe
18:30-21:00
Rhagor o wybodaeth

Hyfforddiant Archwilio Iechyd Gwrychoedd ac Arolwg ar-lein
19:00
Rhagor o wybodaeth

Gwenoliaid Duon yn Nhrefriw
19:30-22:30
Rhagor o wybodaeth

Gwenoliaid Du Llanrhaeadr
19:30
Rhagor o wybodaeth

Arolwg o Wenoliaid Du yn Sgeti, Abertawe
20:30
Rhagor o wybodaeth

  • Helfa Cacwn y Llus yng Nghymru
    Mae angen eich help chi arnom ni i chwilio am Gacwn y Llus a’u cofnodi. Fe'u ceir yn nodweddiadol ar ucheldiroedd a rhostiroedd y DU lle mae Llus yn bresennol ac maen nhw i’w cael ledled Cymru. Mae tudalen gofnodi gynhwysfawr wedi’i sefydlu i’ch helpu i gofnodi’r rhywogaeth cacwn hardd hon.
  • Byddwch yn rhan o Chwiliad Mawr y Dolydd yn ystod Wythnos Natur Cymru. Y nod yw crwydro dolydd, chwilio am blanhigion a chofnodi’r rhywogaethau gan ddefnyddio rhestr Chwiliad Mawr y Dolydd. Mae’n agored i bawb - nid oes angen eich dôl eich hun arnoch! (Ond cofiwch gael ganiatâd y tirfeddiannwr os ydych yn crwydro ar dir rhywun arall).

Digwyddiadau pellach i ddilyn

Dydd Iau 7th Gorffenaf

Bioblitz yng Ngwarchodfa Natur Leol Coetiroedd Cymunedol Roseheyworth, Abertillery
09:30-12:00
Rhagor o wybodaeth

Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd
10:00-16:00
Rhagor o wybodaeth

Gweithdy Adnabod a Monitro Peillwyr
14:00-16:00
Rhagor o wybodaeth

Taith ystlumod Parc Singleton
21.00 - tua 23.00
Rhagor o wybodaeth

  • Helfa Cacwn y Llus yng Nghymru
    Mae angen eich help chi arnom ni i chwilio am Gacwn y Llus a’u cofnodi. Fe'u ceir yn nodweddiadol ar ucheldiroedd a rhostiroedd y DU lle mae Llus yn bresennol ac maen nhw i’w cael ledled Cymru. Mae tudalen gofnodi gynhwysfawr wedi’i sefydlu i’ch helpu i gofnodi’r rhywogaeth cacwn hardd hon.
  • Byddwch yn rhan o Chwiliad Mawr y Dolydd yn ystod Wythnos Natur Cymru. Y nod yw crwydro dolydd, chwilio am blanhigion a chofnodi’r rhywogaethau gan ddefnyddio rhestr Chwiliad Mawr y Dolydd. Mae’n agored i bawb - nid oes angen eich dôl eich hun arnoch! (Ond cofiwch gael ganiatâd y tirfeddiannwr os ydych yn crwydro ar dir rhywun arall).

Digwyddiadau pellach i ddilyn

Dydd Gwener 8th Gorffenaf

Taith gerdded gwenoliaid duon Caergybi

Dydd Sadwrn 9th Gorffenaf

BioBlitz Trefdraeth am Natur!
O 08:00am – ymunwch ar unrhyw adeg o’r dydd!
Rhagor o wybodaeth

Gwyfynod Godidog – gwyfynod y bore yng Ngwlyptiroedd Casnewydd
09:00-11:00
Rhagor o wybodaeth

Rheoli Coetiroedd yn Ymarferol - Llandrindod
09:30-15:00
Rhagor o wybodaeth

Darganfod planhigion Coed Y Felin
10:00-12:00
Rhagor o wybodaeth

‘Lladd Jac y Neidiwr’ SoDdGA Maes y Plwyf – Y Bont-faen
10:00-15:00
Rhagor o wybodaeth

Parti Penrhyn, Gwaith Powdwr (Bioblitz gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru)
11:00am - 4:00pm (galwch heibio unrhyw bryd)
Rhagor o wybodaeth

Lliwiau Clun, Abertawe
13.30-3.30 pm
Rhagor o wybodaeth

  • Helfa Cacwn y Llus yng Nghymru
    Mae angen eich help chi arnom ni i chwilio am Gacwn y Llus a’u cofnodi. Fe'u ceir yn nodweddiadol ar ucheldiroedd a rhostiroedd y DU lle mae Llus yn bresennol ac maen nhw i’w cael ledled Cymru. Mae tudalen gofnodi gynhwysfawr wedi’i sefydlu i’ch helpu i gofnodi’r rhywogaeth cacwn hardd hon.
  • Byddwch yn rhan o Chwiliad Mawr y Dolydd yn ystod Wythnos Natur Cymru. Y nod yw crwydro dolydd, chwilio am blanhigion a chofnodi’r rhywogaethau gan ddefnyddio rhestr Chwiliad Mawr y Dolydd. Mae’n agored i bawb - nid oes angen eich dôl eich hun arnoch! (Ond cofiwch gael ganiatâd y tirfeddiannwr os ydych yn crwydro ar dir rhywun arall).

Digwyddiadau pellach i ddilyn

Dydd Sul 10th Gorffenaf

Taith Gerdded y Wardeiniaid Bae Cemlyn
11:00-13:00
Rhagor o wybodaeth

Tegeirianau ac eraill Minera
14:00-16:00
Rhagor o wybodaeth

  • Helfa Cacwn y Llus yng Nghymru
    Mae angen eich help chi arnom ni i chwilio am Gacwn y Llus a’u cofnodi. Fe'u ceir yn nodweddiadol ar ucheldiroedd a rhostiroedd y DU lle mae Llus yn bresennol ac maen nhw i’w cael ledled Cymru. Mae tudalen gofnodi gynhwysfawr wedi’i sefydlu i’ch helpu i gofnodi’r rhywogaeth cacwn hardd hon.
  • Byddwch yn rhan o Chwiliad Mawr y Dolydd yn ystod Wythnos Natur Cymru. Y nod yw crwydro dolydd, chwilio am blanhigion a chofnodi’r rhywogaethau gan ddefnyddio rhestr Chwiliad Mawr y Dolydd. Mae’n agored i bawb - nid oes angen eich dôl eich hun arnoch! (Ond cofiwch gael ganiatâd y tirfeddiannwr os ydych yn crwydro ar dir rhywun arall).

Digwyddiadau pellach i ddilyn

Well-being Posts_wel v3_
Robin
Get Connected