Skip to content
Naturfa – Offer, Cwestiynau Cyffredin a Adnoddau

Cwestiynau Cyffredin

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael fel dogfen (PDF), PDF file

Wrth gwrs, mae gan bobl lawer o gwestiynau ynghylch ystyr statws Naturfa. Diben y dudalen Cwestiynau Cyffredin hon yw egluro materion allweddol a chefnogi deialog wybodus a chynhwysol. Mae’n bwysig nodi bod y gwaith hwn yn esblygu ar fyrder, ac mae’r atebion yn datblygu wrth i ni fynd yn ein blaenau.

Cynfal National Nature Reserve - Natural Resources Wales

Ai statws dros dro yw statws Naturfa?

Mae statws Naturfa yn amodol a gall gael ei ddirymu ar unrhyw adeg.

Fodd bynnag, bwriedir i statws Naturfa fod yn barhaol. Mae parhad yn egwyddor allweddol os ydym am gynnal adferiad natur. Ni ddylai cenedlaethau'r dyfodol golli'r manteision y mae ecosystemau cadarn yn eu rhoi i’r cenedlaethau presennol (Gweler 'Misconception 2').

Er mwyn i safleoedd Naturfa gyfrannu at ganlyniadau cadwraeth parhaus, rhaid sicrhau bod amodau galluogi yn bresennol. Mae’r rhain yn cynnwys strwythurau llywodraethu sefydlog a chynhwysol; capasiti rheoli hirdymor; cymorth cyfreithiol neu gymorth polisi; ac ymrwymiad cymunedol neu sefydliadol. Bydd safleoedd yn cael cydnabyddiaeth am y tro cyntaf pan fo tebygolrwydd uchel bod yr amodau galluogi hyn yn bresennol a’u bod yn annhebygol o newid yn sylweddol.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng statws Naturfa a dynodiadau anstatudol?

Mae safle Naturfa yn un sydd wedi'i asesu a'i wirio, ac sy’n bodloni meini prawf 30x30. Cydnabyddiaeth wirfoddol ydyw, ac fe’i cefnogir gan fecanweithiau amddiffyn sy’n gweithio o'r gwaelod i fyny; nid yw’n ddynodiad a wneir o'r brig i lawr. Nid yw dynodiadau anstatudol o reidrwydd yn bodloni meini prawf 30x30 (e.e. llywodraethu hirdymor a rheolaeth effeithiol). Fodd bynnag, mae dynodiadau (e.e. Safle o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur (PDF)) yn darparu tystiolaeth o werth bioamrywiaeth safle, gan gefnogi cais am statws Naturfa.

A oes angen cydsyniad cyn y gellir rhoi statws Naturfa?

es. Os yw'r asesiad yn cael ei gynnal ar ran tirfeddiannwr – mae angen cydsyniad rhydd a gwybodus gan dirfeddianwyr a deiliaid hawliau perthnasol cyn yr asesiad llawn ac unwaith eto cyn cydnabyddiaeth. Mae hyn yn golygu bod cydsyniad yn wirfoddol, a’i fod yn cael ei wneud cyn unrhyw benderfyniadau, a bod gwybodaeth glir yn cael ei rhoi i'r holl bartïon dan sylw.

A yw statws Naturfa yn ychwanegu rhwymedigaethau at drefniadau rheoli’r safle?

Nac ydy. Dewis yr awdurdod llywodraethu yw sut y dylid rheoli'r safle.

A yw statws Naturfa yn rhoi mwy o faich gweinyddol ar reolwyr safleoedd?

Mae statws Naturfa wedi'i gynllunio i fod yn ysgafn ac i alluogi, yn hytrach na bod yn faich ar drefniadau rheoli presennol. Nid yw cael y statws yn gosod rhwymedigaethau rheoli newydd.

Er hyn, i gael cydnabyddiaeth, bydd disgwyl i safleoedd roi adroddiadau o bryd i'w gilydd ar effeithiolrwydd rheoli, gan ddefnyddio'r offeryn 'Effeithiolrwydd Rheoli Ardaloedd Gwarchodedig' (MEPCA). Mae'r adroddiadau hyn yn hanfodol i olrhain ein cynnydd tuag at 30x30 ac i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd.

A yw statws Naturfa yn wahanol i ddynodiadau eraill?

Ydy. Mae'n cydnabod cadwraeth effeithiol a hirdymor a gyflawnir gan systemau llywodraethu a rheoli, o’r gwaelod i fyny, sydd eisoes yn bodoli ac sy’n cyflawni canlyniadau cyfatebol, neu well, na dynodiad statudol, a hynny er budd pobl a natur. Mae statws Naturfa yn label achredu sy'n arddangos yr arfer bioamrywiaeth gorau yng Nghymru.

A yw statws Naturfa yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i'm safle?

Mae Naturfa yn achrediad gwirfoddol ac nid yw’n rhoi amddiffyniad statudol nac yn newid perchnogaeth tir, hawliau rheoli, na rheolaethau cyfreithiol. Y tirfeddiannwr sy’n gyfrifol o hyd am sicrhau dyfodol hirdymor y safle.

Rhaid i bob safle Naturfa gynnwys cynefin â blaenoriaeth; mae hyn yn un o’r meini prawf creiddiol ar gyfer cymhwysedd. Mae’r system gynllunio yn cydnabod bod gan gynefinoedd â blaenoriaeth werth bioamrywiaeth uchel, ac mae'n rhaid i awdurdodau cynllunio ystyried eu presenoldeb wrth asesu ceisiadau cynllunio, yn unol â'r polisi presennol.

Pan fo dynodiadau anstatudol ychwanegol yn berthnasol (er enghraifft, Safleoedd o Bwysigrwydd i Gadwraeth Natur a nodwyd drwy Gynlluniau Datblygu Lleol), bydd y rhain yn cadw eu pwysau cynllunio.

A yw statws Naturfa yn llwybr tuag at ddynodiad SoDdGA ?

Mae gan CNC ddyletswydd statudol i hysbysu safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol os bydd asesiad yn dangos eu bod yn bodloni’r meini prawf dethol llym.

Rydym yn cydnabod y gall ansicrwydd ynghylch prosesau dynodi statudol ddylanwadu ar benderfyniadau rheolwyr tir ynghylch cymryd rhan mewn mentrau cadwraeth gwirfoddol. Nid yw bod yn rhan o Naturfa yn sbarduno asesiad ar gyfer dynodiad SoDdGA

Mae Naturfa wedi’i ddylunio ac yn cael ei weithredu i fod yn fecanwaith cadarnhaol ac annibynnol i gydnabod a chefnogi gwaith sy’n buddio natur, yn hytrach na bod yn gam tuag at ddynodiad statudol. Ein nod yw meithrin ymddiriedaeth, darparu eglurder, ac annog cyfranogiad.

Beth am safleoedd Naturfa morol?

Pe bai partïon yn cydsynio i gyflwyno cais ar gyfer ardaloedd sy'n bodloni'r meini prawf, nid oes unrhyw reswm i’n hatal rhag creu safleoedd Naturfa morol.

Fodd bynnag, am fod 69% o’r ardal forol wrth y lan yng Nghymru eisoes wedi'i dynodi, nid oes cymaint o flaenoriaeth ar gydnabod safleoedd Naturfa yma o gymharu ag ardaloedd tirol, ardaloedd dŵr croyw, ac ardaloedd arfordirol.

Sut ydych chi'n osgoi ailddyfeisio'r olwyn? Beth am wledydd eraill?

Rydym yn cynnal trafodaethau parhaus â chenhedloedd eraill yn y DU i wneud yn siŵr bod ein gwaith yn cyd-fynd â pholisi 30x30. Rydym yn rhan o'r High Ambition Coalition Task Force ar gyfer 30x30 a Regions4 i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd 30x30 ledled y byd.

Beth yw’r manteision o gael statws Naturfa?

Bydd safle sydd â statws Naturfa yn cael achrediad sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Bydd hwn yn tystio i’r gwerth bioamrywiaeth y mae rheolwr y safle yn ei ddarparu. Gall yr achrediad hwn gryfhau cymwysterau amgylcheddol eich safle, a gallwch eu defnyddio yn eich gwaith marchnata (e.e. i ddefnyddwyr, manwerthwyr, a chadwyni cyflenwi sy'n blaenoriaethu cynaliadwyedd). Mae hefyd yn dangos arweinyddiaeth o ran cynaliadwyedd, gan wella enw da yn lleol ac yn genedlaethol.

Er bod marchnadoedd cyllid natur yn dal yn eu camau cynnar, ac er nad yw cyfraniad 30x30 wedi’i brofi’n helaeth, gallai cydnabyddiaeth helpu i ddenu cyfleoedd buddsoddi a chyllid yn y dyfodol.

Hefyd, ein bwriad yw y bydd bod yn rhan o rwydwaith cydnabyddedig o safleoedd Naturfa yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu gan gymheiriaid, cyngor a chydweithio, gan helpu i rannu arferion gorau, cyfuno adnoddau, a chryfhau ymagwedd pob safle at reoli cynefinoedd.

Tra bydd safleoedd peilot Naturfa yn eu dyddiau cynnar, ni allwn wneud ymrwymiad cadarn o ran cyllid cyhoeddus ychwanegol ar hyn o bryd. Serch hynny, rydym eisiau i statws Naturfa fod yn ddeniadol i bawb sy'n rheoli tir ac sydd â diddordeb mewn adfer natur. Wrth i'n polisi barhau, rydym yn rhagweld y bydd mwy o fuddion a chymhellion yn cael eu datblygu.

Cysylltwch â ni

Anfonwch e-bost i 30x30inWales@gov.wales os oes gennych unrhyw gwestiynau am Naturfa.