Skip to content

Bioamrywiaeth

BioamrywiaethAmrywiaeth a chymhlethdod bywyd – o fewn rhywogaethau (genynnau), ar draws rhywogaethau, ac ecosystemau. Biodiversity definition | Biodiversity A-Z

Tirweddau Dynodedig

Ardaloedd yng Nghymru a ddynodwyd yn Barciau Cenedlaethol neu Dirweddau Cenedlaethol, lle mae cysylltiadau rhwng pobl a natur wedi cynhyrchu cymeriad unigryw sydd â gwerth ecolegol, diwylliannol a golygfaol sylweddol. Mae gwaith gwarchod yn canolbwyntio ar gynnal y cysylltiadau hyn. Maent yn cael eu cydnabod fel Ardaloedd Gwarchodedig Categori V. Protected areas definition | Biodiversity A-Z

Safleoedd dynodedig / Safleoedd gwarchodedig

Ardaloedd a nodwyd yn ffurfiol am eu pwysigrwydd bioamrywiaeth, yn aml o dan fframweithiau cenedlaethol neu ryngwladol. Mae enghreifftiau'n cynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, a safleoedd Ramsar Cyfoeth Naturiol Cymru / Dod o hyd i ardaloedd o dir a môr gwarchodedig

Ecosystemau

Cymuned o bethau byw (planhigion, anifeiliaid a micro-organebau) sy'n rhyngweithio â'i gilydd a chyda'u hamgylchoedd (pridd, dŵr ac aer) fel un system gysylltiedig. Ecosystem definition | Biodiversity A-Z.

Tegwch

TegwchTegwch o ran llywodraethu a rheolaeth, sicrhau cydnabyddiaeth o hawliau, gwneud penderfyniadau cynhwysol, a dosbarthiad teg o fuddion a chostau Guidance on other effective area-based conservation measures (OECMs) | IUCN Library System

FPIC (Cydsyniad Rhydd, Blaenorol a Gwybodus)

FPIC (Cydsyniad Rhydd, BlaenorolCydsyniad a roddir yn rhydd, heb orfodaeth, cyn i weithgareddau ddigwydd, ac sydd yn seiliedig ar wybodaeth lawn am effeithiau posibl, gan barchu prosesau gwneud penderfyniadau arferol IHRB - What is Free, Prior and Informed Consent (FPIC)?

Llywodraethu

LSut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud a sut mae pŵer a chyfrifoldebau yn cael eu harfer mewn grŵp, sefydliad, neu gymdeithas Governance definition | Biodiversity A-Z

Awdurdod llywodraethu

AwdurdodYr endid (sef unigolyn, sefydliad neu gorff) sydd â chyfrifoldeb am reoli safle a gwneud penderfyniadau am y defnydd ohono a'i gadwraeth Guidance on other effective area-based conservation measures (OECMs) | IUCN Library System

Cynefin â blaenoriaeth

Cynefinoedd lled-naturiol o brif bwysigrwydd at ddibenion cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru. Wedi'i restru o dan Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Adran 7 – Partneriaeth Bioamrywiaeth CymruRhwydwaith Ecolegol Cadarn (REN)
Rhwydwaith cysylltiedig o gynefinoedd sydd wedi'u cynllunio i wella gwytnwch ecolegol a chefnogi adferiad natur ledled Cymru. Mae’r rhwydweithiau hyn yn cysylltu ardaloedd bioamrywiaeth craidd (e.e safleoedd gwarchodedig) â thirweddau cyfagos i ganiatáu symudiad rhywogaethau, i gynnal prosesau ecosystemau, ac i ddarparu manteision lluosog i fioamrywiaeth a lles dynol. Maen nhw’n seiliedig ar egwyddorion amrywiaeth, ehangder, cyflwr a chysylltedd, gan sicrhau y gall ecosystemau wrthsefyll, adfer ac addasu i bwysau fel newid yn yr hinsawdd a cholli cynefinoedd Cyfoeth Naturiol Cymru / Canllaw i Ymarferwyr ar Rwydweithiau Ecolegol CadarnDeiliad hawliau
Unigolion neu grwpiau sydd â hawliau cyfreithiol neu arferol mewn perthynas â safle. Mae pob person yn ddeiliaid hawliau o dan gyfraith hawliau dynol, ond mewn cyd-destunau bioamrywiaeth, mae hyn yn aml yn cyfeirio at y rhai sydd â deiliadaeth tir neu hawliau adnoddau Rights-holders definition | Biodiversity A-ZRhanddeiliaid
Unigolion a chymunedau y gallai prosiect gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar eu bywydau, a'r rhai sy'n gallu dylanwadu ar ei ganlyniadau. IUCN

Cynefinoedd lled-naturiol o brif bwysigrwydd at ddibenion cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru. Wedi'i restru o dan Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Adran 7 – Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru

Rhwydwaith Ecolegol Cadarn (REN)

Rhwydwaith Ecolegol Cadarn (REN)Rhwydwaith cysylltiedig o gynefinoedd sydd wedi'u cynllunio i wella gwytnwch ecolegol a chefnogi adferiad natur ledled Cymru. Mae’r rhwydweithiau hyn yn cysylltu ardaloedd bioamrywiaeth craidd (e.e safleoedd gwarchodedig) â thirweddau cyfagos i ganiatáu symudiad rhywogaethau, i gynnal prosesau ecosystemau, ac i ddarparu manteision lluosog i fioamrywiaeth a lles dynol. Maen nhw’n seiliedig ar egwyddorion amrywiaeth, ehangder, cyflwr a chysylltedd, gan sicrhau y gall ecosystemau wrthsefyll, adfer ac addasu i bwysau fel newid yn yr hinsawdd a cholli cynefinoedd Cyfoeth Naturiol Cymru / Canllaw i Ymarferwyr ar Rwydweithiau Ecolegol Cadarn

Deiliad hawliau

Deiliad hawliauUnigolion neu grwpiau sydd â hawliau cyfreithiol neu arferol mewn perthynas â safle. Mae pob person yn ddeiliaid hawliau o dan gyfraith hawliau dynol, ond mewn cyd-destunau bioamrywiaeth, mae hyn yn aml yn cyfeirio at y rhai sydd â deiliadaeth tir neu hawliau adnoddau Rights-holders definition | Biodiversity A-Z

Rhanddeiliaid

RhanddeiliaidUnigolion a chymunedau y gallai prosiect gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar eu bywydau, a'r rhai sy'n gallu dylanwadu ar ei ganlyniadau. IUCN (PDF)