Mae mamaliaid wedi llenwi pob math o gilfachau sydd ar gael iddynt a gallant fod yn arbenigol ….neu’n gyffredinol …. Maent yn amrywio mewn maint o’r chwistlen leiaf i’r carw coch mawr, ac mae mamaliaid gwyllt yn cynnwys rhywogaethau sy’n cerdded, rhedeg, dringo a hyd yn oed hedfan. Mae rhai’n enigmatig ac maent yn ein mythau a’n chwedlau. Ystyriwn eraill yn bla pan fo’u hanghenion nhw’n gwrthdaro â’n rhai ni.
O’r cnofilod sy’n cynaeafu hadau, i’r porwyr, megis ceirw, cwningod ac ysgyfarnogod, i anifeiliaid cigfwytaol, rhai arbenigol (y wenci) a rhai manteisgar (y llwynog), i’r ystlumod arbenigol iawn. Ar y cyfan yng Nghymru, mae tua 45 o rywogaethau o famaliaid tir rhydd o 5 Urdd wahanol. Maent yn byw yn y rhan fwyaf o fathau o gynefinoedd o’r ucheldiroedd mwyaf anghysbell i gymoedd coediog ac amgylcheddau dyfrol megis afonydd, nentydd ac aberoedd ac mae rhai wedi addasu i rannu ein hanheddau.
Mae mamaliaid yn mabwysiadu amrywiaeth o strategaethau goroesi. Mae llygod a chwningod yn anifeiliaid sy’n magu’n gyson iawn, ond mae ystlumod yn byw am nifer o flynyddoedd ac yn rhoi genedigaeth ddim mwy nag unwaith y flwyddyn. Mae pathewod ac ystlumod yn gaeafgysgu pan fo’r cyflenwadau bwyd yn isel er nid yw gwiwerod yn gaeafgysgu, ond gallant fod yn llai actif yn ystod y gaeaf.
Nid yw nifer o’r mamaliaid sydd yng Nghymru’n frodorol ac maent wedi effeithio ar famaliaid brodorol eraill, megis y minc a ddihangodd o ffermydd ffwr ac sydd wedi cael effaith ddinistriol ar lygoden y dŵr, a’r wiwer lwyd (a ryddhawyd gan y Fictoriaid da eu bwriad, ond sy’n gyfrifol am y gostyngiad yn niferoedd y wiwer goch). Mae rhai mamaliaid yn niferus iawn (amcangyfrifir bod 75 miliwn llygoden bengron ym Mhrydain Fawr) ac maent mewn cyswllt rheolaidd â phobl mewn tai (llygod bach), gerddi, (tyrchod daear) neu yng nghefn gwlad yn fwy cyffredinol lle ystyrir rhai yn bla am ryw reswm neu’i gilydd (e.e. y llwynog). Mae eraill yn brin iawn (ystlumod duon, beleod) ac yn gostwng yn eu niferoedd (llygod y dŵr) ac felly maent yn destun pryder cadwraeth mawr neu’n unigryw i Gymru (llygod Sgomer). Mae rhai’n ddiflanedig o ganlyniad i weithgarwch dynol ac mae rhai’n dymuno iddynt gael eu hailgyflwyno (afancod).
Yr hyn sydd ganddynt i gyd yn gyffredin yw eu bod yn rhoi genedigaeth i epilod ac mae’r fam yn eu magu â llaeth tan iddynt allu ymdopi ar eu pennau’u hunain. Maent hefyd yn rhan allweddol o fioamrywiaeth Cymru. Ac maent yn ddangosydd da o iechyd ein hamgylchedd – er enghraifft, mae’r ffaith bod dyfrgwn wedi dychwelyd i’r rhan fwyaf o afonydd Cymru yn dangos bod ein cyrsiau dŵr yn lân a bod digonedd o bysgod ac amffibiaid ynddynt. Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) wedi eu dynodi oherwydd poblogaethau pwysig o ddyfrgwn, llygod y dŵr a rhywogaethau o ystlumod. Mae’r dyfrgi hefyd yn brif nodwedd neu’n nodwedd gymhwysol o 13 Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).