Llyffant y twyni yw amffibiad prinnaf Cymru. Dim ond ychydig o gytrefi ohono sydd i’w cael ac maen nhw’n byw yn nhwyni arfordir y Gogledd-ddwyrain. Mae’n llyffant bach, dim ond 6-7cm o hyd, gyda streipen felen amlwg i lawr ei asgwrn cefn. Maen nhw’n gadael eu grifft ar ffurf llinynnau mewn pyllau twyni bas, ac mae’r llyffantod bach yn datblygu’n gyflym ac yn symud i’r twyni oddi amgylch.

Mae gwaith ailgyflwyno rhywogaethau a wnaed dan arweiniad Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid mewn partneriaeth â CNC, Awdurdodau Lleol a rheolwyr tir eraill wedi adfer llyffant y twyni a madfall y tywod i lawer o’u cynefinoedd blaenorol ac yn bwrw ymlaen â rhagor o gynlluniau ailgyflwyno arfaethedig ar fwy o safleoedd.