Skip to content
Wrexham

Partneriaeth Natur Leol
Wrecsam

Natur yn Wrecsam

Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnwys ardaloedd o dir isel ac ucheldir a rhychwant y cynefinoedd a rhywogaethau sy’n gysylltiedig â hwy.Yn y tiroedd isel mae dros 2000 o byllau gyda chyfanswm eu harwynebedd yn un cilomedr sgwâr. Mae’r pyllau hyn yn gynefin pwysig i’r rhywogaethau gwarchodedig fel y fadfall ddŵr gribog a’r chwilen blymio arian, anifail di-asgwrn-cefn anghyffredin dros ben a ddarganfuwyd ond yn ddiweddar yng Nghymru.

Mae un o’r poblogaethau magu mwyaf o fadfallod dŵr cribog yn y Fwrdeistref Sirol. Mae’r ardal yn cynnwys cors iseldirol fwyaf Cymru, sy’n cael ei hadfer ar hyn o bryd ar ôl blynyddoedd o godi mawn at ddibenion garddwriaethol a garddio. Mae’r gors yn cynnwys llawer o greaduriaid a phlanhigion prin fel rhosmari gwyllt a llygod pengrwn y dŵr. Mae’r ucheldiroedd yn cynnwys y Berwyn a Mynydd Rhiwabon gyda mignen a rhostir sy’n cynnal y rugiar ddu.

Bydd Grŵp Bioamrywiaeth Wrecsam yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn ac mae’n bartneriaeth o gyrff y llywodraeth, grwpiau, elusennau ac unigolion. Y grŵp sy’n gweithredu Cynllun Gweithredu Lleol ar Fioamrywiaeth Wrecsam, a gynhyrchwyd ganddynt yn 2002. Mae Prosiectau Bioamrywiaeth y mae’r grŵp yn ymwneud â hwy’n cynnwys cyfoethogi cynefinoedd afon ac adeiladu gwalau dyfrgwn, cynnal arolygon o byllau a’u rheoli, arolygon adar rhostir ac arolygon tir glas diffaith yn ogystal â phrosiectau addysgol a chynyddu ymwybyddiaeth niferus.

Cyswllt

Emma Broad - Ecologist

Wrexham County Borough Council
Lambpit Street
Wrexham
LL11 1WL

01978 298 762

Emma.Broad@wrexham.gov.uk

https://www.wrexham.gov.uk/english/planning_portal/biodiversity/wxmbap.htm

Mae Wrecsam yn aelod gwerthfawr o Rwydwaith Partneriaeth Natur Lleol Cymru gyfan

Local Nature Partnerships Cymru
bionet