Dyma ddetholiad o rai o'r safleoedd lle gallwch weld natur yn Sir Fynwy a Chasnewydd
Gwarchodfa Natur Allt-yr-ynn, Casnewydd – mae Allt-yr-ynn yn cefnogi coetir a dolydd hynafol. Mae'r coetir yn gartref i bron i 50 rhywogaeth wahanol o aderyn, ac mae 7 rhywogaeth mamaliaid wedi'u cofnodi ar y warchodfa, ynghyd â madfallod, brogaod a nadroedd y gwair. Gwyddom fod gleision y dorlan yn defnyddio’r tri phwll yn y warchodfa, a bod ystlumod yn eu defnyddio nhw fin nos i hela am bryfed uwchben yr wyneb.
Dolydd y Castell, y Fenni – Yng nghanol y Fenni, rheolir y dolydd wrth ochr Afon Wysg gan ddilyn dulliau traddodiadol o reoli dolydd sydd ar orlifdir. Mae'r caeau'n cael eu tyfu ar gyfer gwair ac yna pori gwartheg. Mae'r afon yn cynnig cyfleoedd gwylio bywyd gwyllt gwych, gydag ystlumod liw nos a gwenoliaid duon yn yr haf.
Y Pedwar Loc ar Ddeg, Rogerstone – Mae'r ganolfan wedi'i lleoli ar frig cyfres unigryw o 14 o lociau ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Nid yw'r rhan hon o’r gamlas bellach yn weithredol, ond mae'n cynnig lleoliad gwych ar gyfer gwylio bywyd gwyllt, yn ogystal â chipolwg diddorol iawn ar hanes y safle.
Coed Neuadd Goetre, ger y Fenni – Coetir bach o goed ffawydd ger Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu sy'n swyno ymwelwyr â charped o glychau'r gog yn y gwanwyn a lliwiau hyfryd yr hydref yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae hwn yn gartref i lawer o rywogaethau adar a gellir ei ddefnyddio fel dechrau taith gerdded gylchol ar hyd y gamlas i weld mwy o fywyd gwyllt.
Parc Gwledig Rogiet, Rogiet – Wedi'i adfer o hen gilffyrdd rheilffordd yn y 1990au, mae'r parc gwledig bellach yn fosaig prydferth o gynefinoedd llawn blodau sy'n darparu cyfoeth o gynefinoedd i infertebratau. Mae tegeirian bera a thegeirian y wenynen wedi’u cofnodi yma.
Parc Sant Julian - Mae Gwarchodfa Natur Leol Parc Sant Julian yn ofod agored mawr rhwng Heol Christchurch a Ffordd Caerllion. Mae’r cyfeiriad hysbys cyntaf at y safle fel 'Y Parc a Pharc Sant Julian' yn dyddio'n ôl i 1583 pan gyfeiriwyd ato fel parc ceirw canoloesol. Nodwyd poblogaeth ffyniannus o wenyn y clafrllys yn ddiweddar ar y safle hwn – sy’n rhywogaeth brin iawn.