Mae Rhondda Cynon Taf yn doreithiog o gynefinoedd, ac mae nifer o leoedd arbennig y gallwch chi ymweld â nhw i droedio drwy fywyd gwyllt.
Mae cymunedau rhyngwladol bwysig o borfeydd rhos yn blodeuo yn yr haf gyda thamaid y cythraul, ysgall y ddôl a thegeirianau brych y rhos, ac maen nhw’n cynnal nythfeydd gwerthfawr o frithegion y gors a brithegion perlog bach. Ewch am dro i Gomin Llantrisant yn yr haf i weld â’ch llygaid eich hun.
Rydyn ni’n lwcus dros ben yn Rhondda Cynon Taf o gael treftadaeth ysblennydd o laswelltiroedd, sy’n rhan lewyrchus o wead ein bioamrywiaeth. Mewn porfeydd ac ar ymylon ffyrdd ceir arddangosfeydd blodeuog bendigedig o bys-y-ceirw, y bengaled, llygad-llo mawr, tegeirianau brych, peradyl garw a meillion coch: lle bydd gleision cyffredin, hen wrachod, ceiliogod rhedyn a gwenyn di-rif yn gwibio, yn grwnan ac yn suo.
Mae glaswelltiroedd sych y llethrau uwch yn fwy asidig, ond yr un mor hardd gyda briwydd wen, tresgl y moch, y bwrnet mawr, clychau’r gog a suran yr ŷd; ac ar y calchfaen tyf briallu Mair a thegeirianau’r wenynen. Ar fore heulog braf o hydref, dewch draw i chwilio am rywbeth arall sy’n arwydd o fioamrywiaeth doreithiog – sef lliwiau coch, oren, melyn a phorffor y ffyngau capiau cwyr.
O unrhyw safle bws ym Mhontypridd, neu’r Porth, neu Aberdâr neu Aberpennar, edrychwch i fyny ar gynefinoedd amrywiol y ffriddoedd ar ochrau’r cymoedd. Cymysgedd cymhleth o laswelltiroedd asidig, rhostiroedd, rhedyn, coetiroedd, prysgwydd a thiroedd gwlyb sy’n ymestyn filltir ar ôl milltir ar hyd ein prif gymoedd: wedi’u cysylltu gyda’i gilydd ar ffurf brithwaith cywrain a chyfnewidiol o gynefinoedd.
Mae tomenni glo yn arbennig o bwysig ar sail eu cymunedau cennau-rhostiroedd, lle mae rhostiroedd yn tyfu ymhlith carpedi o gennau cladonia gwyn, crawennog. Mae gwaith diweddar wedi cadarnhau pa mor bwysig yw’r tomenni hyn fel cynefin i greaduriaid di-asgwrn-cefn: mae arolygon ar bum tomen yn Rhondda Cynon Taf wedi cofnodi 85 math gwahanol o wenynen (yn cynnwys rhywogaethau prin). Mae hyn yn cyfateb i hanner y ffawna gwenyn y gwyddys amdani yng Nghymru a thraean o restr y DU. Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn cynnig cipolwg ar y cynefin rhyfeddol hwn.
Mae coedydd derw hynafol yr ucheldir fel Gwarchodfa Natur Leol Glyncornel, lle mae coed derw Cymreig corachaidd yn cydio’n dynn yn ochrau’r cymoedd, wedi’u carpedu â phlanhigion y llawr, yn cynnwys llus, grug, rhedyn, mwsoglau a slabiau noeth o dywodfaen Pennant, gyda’u planau haenu’n doreithiog o gennau. Mae’r coedydd hyn, a gaiff eu pori gan ddefaid, yn gartref i adar cerdd sy’n nodweddiadol o goetiroedd Cymru: tingochion, telorion y coed a chorhedyddion y coed.
Yng ngwaelodion y cymoedd, mae Llwybr Taf yn ymdroelli trwy lecynnau o goetiroedd collddail cymysg sy’n cynnal derw, ynn, masarn a llwyfenni llydanddail, gyda gwern a helyg ar dir gwlypach.
Yn y gwrychoedd cyll, derw, ynn, drain gwynion, helyg crynddail, drain duon, rhosynnau, cwyros, piswydd a helyg yr ymgartrefa’r pathew swil, a thrwy’r rhwydwaith hwn o wrychoedd mae modd i’r hyn sy’n weddill o’n coetiroedd hynafol barhau i fod yn hyfyw ac yn gysylltiedig â’i gilydd.
Fin nos, cadwch olwg am ystlumod. Mae Rhondda Cynon Taf yn cynnal 13 math o ystlum o leiaf, yn cynnwys rhai prin fel yr ystlum du a’r ystlum pedol lleiaf. Yn y pegwn arall, caiff Pontypridd ei galw’n ‘Pip City’ – enw sy’n cyfeirio at y myrdd o ystlumod lleiaf ac ystlumod lleiaf meinlais (sef mathau o ystlumod pipistrelle) sy’n byw yn y dref.
Gellir olrhain rhai cynefinoedd i enciliad y llen iâ olaf 8,000 o flynyddoedd yn ôl. Dechreuodd llawer o’n cynefinoedd mawnog ffurfio yr adeg honno, wrth i lynnoedd rhewlifol, pantiau a llwyfandiroedd ucheldirol newid yn raddol i droi’n ffeniau, yn wernydd ac yna’n fawn. Mae’r rhyfeddodau crynedig, sigledig hyn yn gartref i lugaeron, gwlithlys a llafn y bladur sy’n blodeuo ymhlith y migwyn a’r twmpathau o laswellt y gweunydd a chlwbfrwyn y mawn. Bydd y Prosiect Adfer Mawndiroedd yn cynnig cyfleoedd i ymweld â’r cynefinoedd rhyfeddol hyn.
Yn y blynyddoedd i ddod, y gobaith yw y bydd modd adfer cannoedd o hectarau o fawnogydd yr ucheldir, siglo yn awel yr haf gyda channoedd ar filoedd o bennau plu’r gweunydd, dal carbon atmosfferig, a storio a rheoli dŵr storm yr ucheldir mewn modd naturiol er mwyn darparu system atal llifogydd eithriadol o wyrdd i gymunedau’r Cymoedd islaw. Tra byddwch yno, cofiwch bicio i gyrion planhigfa lle ceir llu o bilaod gwyrdd a gylfingroesion, lle mae clwbfwsoglau’n cysgodi, lle mae crëyreydd yn siglo ymhlith hemlog y gorllewin, a lle mae troellwyr mawr yn troelli fin nos yn yr haf.
Mae afonydd, a oedd yn farw a difywyd ddeugain mlynedd yn ôl, bellach yn gyrsiau dŵr iach ac amrywiol, ac yn gartref i fyrdd o bryfed y cerrig a gwybed Mai, bronwennod y dŵr, siglennod llwydion, brithyllod ac, wrth gwrs, dyfrgwn. Mae’r corsydd gorlifdir, y dolydd gorlifdir a’r gwlyptiroedd cyfagos cysylltiedig yn lleoedd gwych i weld gweision y neidr. Mae Gwarchodfa Natur Pwll Waun Cynon Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru (PDF) yn enghraifft dda o ddôl gorlifdir yn y sir.
Mae’r cymoedd rhewlifol mwyaf deheuol yn y DU yn gartref i hebogiaid tramor a phlanhigion arctig-alpaidd – blodau a rhedyn sy’n cydio’n dynn yn yr ysgafellau oeraf, mwyaf cysgodol, gan ddisgwyl mewn gobaith y bydd hafau’r twndra’n dychwelyd. Beth am archwilio gyda Croeso i’n Coedwig.
Yn y mannau lle mae diwydiannau wedi cael eu clirio, beth am brofi bioamrywiaeth ‘tir llwyd’. Yn aml, mae safleoedd ôl-ddiwydiannol yn cynnal brithweithiau anhygoel o gynefinoedd glaswelltir, gwlyptir a choetir, pob un wedi datblygu ar dir a oedd, yn ôl pob golwg, yn dir diffaith. Mae llu o ryfeddodau’n llechu yn y cymysgedd amrywiol hwn o gynefinoedd ac maent yn gartref i fadfallod dŵr, brogaod, gwibwyr llwyd a chliradenydd gwregysgoch. Ewch am dro i Barc Gwledig Cwm Dâr, lle ceir Tomenni Fictoraidd gwreiddiol a rwbel a adferwyd o’r 1970au sy’n doreithiog o rywogaethau.