Skip to content
conwy

Partneriaeth Natur Leol
Conwy

Natur yn Conwy

Mae gan Gonwy gyfoeth o fywyd gwyllt sy’n dibynnu ar ystod eang o gynefinoedd. Mae’r amrywiaeth o greigiau a phriddoedd, tirffurfiau, agweddau ac uchderau yn cynnal yr un faint o gynefinoedd llednaturiol (sgri Alpaidd, gwelltiroedd, coetiroedd, llynnoedd dŵr croyw, nentydd ac afonydd, aberoedd llanwol a chynefinoedd arfordirol) â’r cynefinoedd sydd wedi’u haddasu mwy megis tir pori parhaol a choedwigoedd conwydd wedi plannu.

Mae pob un o’r cynefinoedd uchod yn cael eu defnyddio gan anifeiliaid penodol megis: eogiaid a brithyllod môr ar Afon Conwy; glesyn serennog prin y Gogarth; telor y coed a gwybedog brith y coetir derw hynafol, y bodaod tinwyn sy’n bridio ar rostiroedd uchel, a’r gylfinir sy’n gaeafu yma a’r piod môr sy’n ymgasglu i fwydo ar wastadeddau llaid Traeth Lafan.

Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae Conwy yn rhan o Bionet, Partneriaeth Bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru, sy’n cyfuno gwaith bioamrywiaeth yng Nghonwy, Sir Ddinbych a Wrecsam. Mae’r Bartneriaeth yn uno prif sefydliadau gan gynnwys Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, Bywyd Gwyllt Gogledd Ddwyrain Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â sefydliadau lleol, grwpiau cymunedol ac unigolion sy’n dangos diddordeb. Rydym yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn.

Ceir manylion Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy drwy ddilyn y ddolen isod. Cynllun Dyletswydd Bioamrwyiaeth – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Rydym yn cynnal amrywiaeth o brosiectau bioamrywiaeth gyda gwahanol bartneriaid gan gynnwys cymdeithasau tai, y gwasanaeth tân a’r GIG. Mae rhai o’r prosiectau cyfredol yr ydym yn gweithio arnynt drwy ffrwd gyllido Lleoedd Lleol i Natur yn cynnwys gosod blychau gwenoliaid duon ledled y sir, plannu coed mewn ardaloedd trefol, creu dolydd, gwella mannau gwyrdd cyhoeddus ar gyfer bioamrywiaeth a chynyddu cyfleoedd ar gyfer tyfu bwyd cymunedol.

Ceir rhagor o fanylion am brosiectau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yma.

Cysylltwch

Kate Surry Ecolegydd

Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau
Cyngor Bwrdeistref Siriol
FFordd Conwy
Mochdre,
Conwy
LL28 5AB

Ffôn: 01492 575106
Ebost:Kate Surry
Gwefan: conwy.gov.uk/cefngwlad

Er mwyn cael syniadau ar sut y gallwch helpu natur ewch i Bioamrywiaeth – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am y prosiect hwn neu mewn cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag un o’n Cydgysylltwyr Partneriaeth Natur Lleol.

Mae Conwy yn aelod gwerthfawr o Rwydwaith Partneriaeth Natur Lleol Cymru gyfan

Local Nature Partnerships Cymru
conwy bwrdeistref sirol
bionet