Creu partneriaethau rhwng pobl sy'n gwarchod ac yn gofalu am natur yn CNPT.
Casglu gwybodaeth am warchod rhywogaethau a chynefinoedd yn CNPT. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i ddiweddaru'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol ac i gyflawni camau a nodwyd yn y Cynllun.
Cefnogi datblygiad prosiectau sy'n cyfrannu at nodau'r Bartneriaeth. Datblygu prosiectau newydd i fynd i'r afael â blaenoriaethau lleol.
Darparu swyddogaeth gynghori ar gyflwr natur ac adferiad natur yn CNPT. Lle bynnag y bo modd, defnyddio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth i helpu hyn h.y. trwy bresenoldeb ar grwpiau llywio strategol a rhoi cyngor i gynghorau cymunedol ac ati.
Cyflawni Cynllun Gweithredu Adfer Natur i helpu adferiad natur yn y sir.
Mae'r Bartneriaeth bob amser yn gweithio dros fywyd gwyllt yn CNPT a dyma rai enghreifftiau o waith a gwblhawyd neu sydd ar y gweill:
Mae cynllun Caru Gwenyn Cyngor CNPT yn cynyddu’r glaswelltiroedd blodau gwyllt sydd o amgylch y sir drwy newid dulliau rheoli ar safleoedd a reolir gan y cyngor.
Bydd y Bartneriaeth Natur Leol yn creu ardaloedd o flodau gwyllt drwy’r sir eleni
Mae Gwirfoddolwyr Amgylchedd Afan yn cynnal gweithgorau gwirfoddol i reoli dolydd yn Nyffryn Afan.
Mae'r cyngor yn rheoli tri pharc gwledig, pum gwarchodfa natur leol a llawer mwy o safleoedd ar gyfer natur.
Mae Grŵp Amgylchedd Bryncoch wedi bod yn cynnal patrolau llyffantod yn y gwanwyn ers 15 mlynedd, gan achub dros 800 o lyffantod yn 2019.
Mae prosiect adfer mawndiroedd ar raddfa fawr, o’r enw Adfer Mawndiroedd, yn digwydd yn ein hucheldiroedd.
Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru (WTSWW) yn rheoli pum gwarchodfa natur yn yr ardal.