Skip to content
Image by Sali Palmer

Partneriaeth Natur Leol
Casnewydd

Natur yn Casnewydd

Ffurfiwyd Partneriaeth Natur Leol Chasnewydd i ddarparu grŵp sy'n gweithredu ar draws y ddwy ardal awdurdod lleol i rannu arferion gorau ac adnoddau er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf posibl i bobl a bywyd gwyllt.

Amdanoni ni

Mae Casnewydd wedi cynnal partneriaeth fioamrywiaeth hir a llwyddiannus ers blynyddoedd lawer, ac mae Partneriaeth Natur Leol Casnewydd bellach yn adeiladu ar y llwyddiant hwn trwy weithio gyda phartneriaid a'r gymuned i ddatblygu Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol.

Mae cydgysylltwyr y bartneriaeth yn rhan o Gyngor Casnewydd.

Ein Nodau

Diogelu a gwella cynefinoedd lled-naturiol presennol ar draws Casnewydd, a lle y bo'n addas creu cynefinoedd lled-naturiol newydd.

Nodi rhywogaethau sy'n bwysig yn lleol a'r camau sydd eu hangen i'w diogelu.

Cynyddu ymwybyddiaeth o fywyd gwyllt lleol a ffyrdd y gall pobl gael mynediad at natur gan annog pobl i gymryd rhan mewn cadwraeth.

Dylanwadu ar weithgareddau rheoli cadwraeth, rhannu gwybodaeth a rhoi cyngor ar arferion gorau.

Sut ydyn ni'n mynd i'w gyflawni?

Cefnogi gwaith partneriaeth rhwng sefydliadau neu unigolion i sicrhau'r manteision mwyaf posibl.

Cefnogi a datblygu prosiectau sy'n cyfrannu at nodau'r Bartneriaeth.ol i gadwraeth yng Nghasnewydd.

Cefnogi a datblygu prosiectau sy'n cyfrannu at nodau'r Bartneriaeth

Rhoi cyngor ar bolisi a chyfrannu at greu'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur leol.

Cyswllt

Lucy Arnold-Matthews - Swyddog Bioamrywiaeth ac Addysg

Cefnogaeth Cydlynydd PNL

01633 210559
Lucy.Arnold-Matthews@newport.gov.uk

https://x.com/Mon_Newport_LNP

  • Ymunwch â'n rhestr bostio ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli a newyddion ar natur leol
  • Dod yn aelod o grŵp cadwraeth natur leol, fel Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent neu Monmouthshire Meadows
  • Ymunwch â grŵp "Cyfeillion" ar gyfer parc lleol neu safle bywyd gwyllt, cysylltwch â ni i weld beth sydd yn agos atoch chi
  • Anogwch fywyd gwyllt yn eich gerddi, mae Lucy wedi rhoi rhai awgrymiadau ar YouTube i'ch rhoi ar ben ffordd
  • Cefnogi newidiadau rheoli yn eich ardal leol drwy roi sylwadau ar y newidiadau cadarnhaol a welwch

Wedi Gweld Rhywbeth Diddorol?

Gall golygfeydd achlysurol o unrhyw fywyd gwyllt fod yn werthfawr os byddwch yn eu cofnodi nhw. Ffordd syml o wneud hyn yw defnyddio system gofnodi ar-lein SEWBReC, sef neu drwy lawrlwytho Ap LERC Cymru i'ch dyfais symudol.

Mae cofnodion yn helpu i achub bywyd gwyllt a chynefinoedd bywyd gwyllt sy'n rhan o'n hecosystem a rennir.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn edrych ar gofnodion ar gyfer eich ardal ar wefan Aderyn.

Dyma ddetholiad o rai o'r safleoedd lle gallwch weld natur yng Nghasnewydd.

Gwarchodfa Natur Allt-yr-ynn, Casnewydd – mae Allt-yr-ynn yn cefnogi coetir a dolydd hynafol. Mae'r coetir yn gartref i bron i 50 rhywogaeth wahanol o aderyn, ac mae 7 rhywogaeth mamaliaid wedi'u cofnodi ar y warchodfa, ynghyd â madfallod, brogaod a nadroedd y gwair. Gwyddom fod gleision y dorlan yn defnyddio’r tri phwll yn y warchodfa, a bod ystlumod yn eu defnyddio nhw fin nos i hela am bryfed uwchben yr wyneb.

Y Pedwar Loc ar Ddeg, Rogerstone – Mae'r ganolfan wedi'i lleoli ar frig cyfres unigryw o 14 o lociau ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Nid yw'r rhan hon o’r gamlas bellach yn weithredol, ond mae'n cynnig lleoliad gwych ar gyfer gwylio bywyd gwyllt, yn ogystal â chipolwg diddorol iawn ar hanes y safle.

Parc Sant Julian - Mae Gwarchodfa Natur Leol Parc Sant Julian yn ofod agored mawr rhwng Heol Christchurch a Ffordd Caerllion. Mae’r cyfeiriad hysbys cyntaf at y safle fel 'Y Parc a Pharc Sant Julian' yn dyddio'n ôl i 1583 pan gyfeiriwyd ato fel parc ceirw canoloesol. Nodwyd poblogaeth ffyniannus o wenyn y clafrllys yn ddiweddar ar y safle hwn – sy’n rhywogaeth brin iawn.

Mae Casnewydd yn aelod gwerthfawr o Rwydwaith Partneriaeth Natur Lleol Cymru gyfan

Local Nature Partnerships Cymru
377