Skip to content
cardiff

Partneriaeth Natur Leol
Caerdydd

Natur yn Caerdydd

Mae amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau bywyd gwyllt yng Nghaerdydd. Mae llawer o’r rhain yn werthfawr a gwnaed dynodiadau statudol ac anstatudol i adlewyrchu hyn. Mae’r rhain yn cynnwys

2 o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA),

1 Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA)

1 Safle Ramsar

17 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a

6 o Warchodfeydd Natur Lleol (GNL)

Mae safleoedd eraill yn anstatudol, am eu bod yn cael eu rheoleiddio gan bolisi yn hytrach na deddfwriaeth. Gelwir y rhain yn Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur (SoBCN) yng Nghaerdydd, ac mae eu manylion ar gael ar ein gwefan.

Yng Nghaerdydd, mae rhai o’r rhywogaethau mwyaf nodedig sy’n cael eu gwarchod yn cynnwys y dyfrgi sy’n bresennol ledled tair prif afon Caerdydd; 10 rhywogaeth o’r ystlum, rhai ohonynt yn bresennol ledled y ddinas; rhai poblogaethau o’r fadfall ddŵr gribog, a phoblogaeth helaeth o’r pathew, yn bennaf i’r gogledd a’r dwyrain o’r ddinas.

Cyswllt

Canolfan Gadwraeth Fferm y Fforest
Yr Eglwys Newydd
Caerdydd
CF14 7JJ

029 223 30840
biodiversity.Team@caerdydd.gov.uk
outdoorcardiff.com/cy/bioamrywiaeth

Mae Caerdydd yn aelod gwerthfawr o Rwydwaith Partneriaeth Natur Lleol Cymru gyfan

Local Nature Partnerships Cymru
430