Lleoedd lle mae natur i’w gweld yn Sir Morgannwg
Dyma ble mae pwynt mwyaf deheuol Cymru, ac mae lleoliadau di-rif y gallwch eu darganfod a mwynhau natur yn y Fro, gyda 53km o arfordir a chefn gwlad helaeth. O barciau gwledig, Gwarchodfeydd Natur Lleol, i gynefinoedd sy’n genedlaethol bwysig, mae yna leoedd sydd wastad ar agor i’r cyhoedd.
Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston
Dyma hafan i fywyd gwyllt lleol a Gwarchodfa Natur Leol ddynodedig. Daeth y ddwy chwarel a foddwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) er mwyn gwarchod unig boblogaeth Cymru o rawn-yr-ebol serennog. Dewch i ddarganfod dros 20ha o goedwig llydanddail, cerddwch ar hyd y llwybr pren drwy welyau hesg trwchus ac archwiliwch y glaswelltiroedd sy’n gyforiog o flodau gwyllt.
Parc Gwledig Porthceri
Mae’r Parc Gwledig yn cynnig 220 erw o goedwig i’w darganfod (Coedwig Mill Wood, Coedwig Cliff Wood a Choedwig Knockmandown) yn ogystal â dolydd a phyllau dŵr mewn dyffryn cysgodol sy’n arwain at draeth caregog a chlogwyni arbennig.
Arfordir Treftadaeth Morgannwg
Mae Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn ymestyn dros 14 milltir, o Aberddawan i Borth-cawl.
Parc Dwnrhefn yn Southerndown yw cartref Canolfan yr Arfordir Treftadaeth, sef canolfan wybodaeth ac addysg a reolir gan y Parcmyn sy’n gwarchod a gofalu am yr arfordir rhyfeddol hwn. Mae Bae Dwnrhefn yn rhan o SoDdGA Arfordir Southerndown sy’n ymestyn ar hyd 5km o arfordir; cafodd y glaswelltir ar ben y clogwyn, sy’n gyfoethog o ran rhywogaethau ac yn gartref i amrywiaeth o gymunedau planhigion gwahanol, ei ddynodi oherwydd ei ddaeareg a’i werth botanegol.
Nash Point
Pwynt canol Arfordir Treftadaeth Morgannwg, mae dôl y goleudy’n SoDdGA ac yn lle ardderchog ar gyfer gweld bywyd gwyllt, o’r ysgallen glorog brin, y cor-rosyn cyffredin a’r clychlys clystyrog, i adar drycin y graig urddasol yn hedfan uwchben a llamhidyddion chwareus yn y dŵr brochus ger y gefnen dywod.
Aberogwr
Ar ffin fwyaf gorllewinol yr Arfordir Treftadaeth. Mae Afon Ogwr yn denu cyfoeth o fywyd gwyllt gydol y flwyddyn, o eogiaid a siwin i hwyaid llygad-aur a chornchwiglod. Ar draws Afon Ogwr mae twyni tywod Merthyr Mawr, sy’n Gwarchodfa Natur Genedlaethol, a chartref i dros un rhan o dair o holl fywyd gwyllt Cymru o ran planhigion a thrychfilod!
Rheolir gwarchodfeydd natur gan ystod o sefydliadau cadwraeth a bywyd gwyllt sy’n gweithio yn y sir; mae gan y rhan fwyaf ohonynt wybodaeth ar y safle sy’n esbonio mwy am y cynefinoedd a’r bywyd gwyllt y gallwch eu gweld yno. Mae cyfle hyd yn oed i gymryd rhan gyda grwpiau cadwraeth lleol er mwyn helpu i reoli cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt!
Aberddawan
Gwarchodfa Natur Leol, sy’n gyforiog o fywyd gwyllt; mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru wedi helpu i gofnodi dros fil o rywogaethau gwahanol yma, a 62 ohonynt o’r pwys mwyaf i gadwraeth a bioamrywiaeth Cymru.
Coedwig Birchgrove
Gwarchodfa 4 erw sy’n cynnwys coetir a dôl, dan reolaeth Grŵp Cadwraeth Coedwig Birchgrove.
Coedwig Cwm Talwg
Gwarchodfa Natur Leol yn y Barri, 2.85 ha o goetir collddail aeddfed a reolir gan Grŵp Preswylwyr Coedwig Cwm Talwg.
Cae Tegeiriannau Gwenfô
Gwarchodfa natur gymunedol sy’n cynnwys dros 300 o rywogaethau o flodau, gweiriau, trychfilod ac adar.
Gwarchodfeydd Natur Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru yn y Fro:
Cwm Colhuw, Trwyn Larnog, Coed Garnllwyd, Coed Brynna a Chors Llanharan.
Gwarchodfeydd Coed Cadw yn y Fro:
Coedwig Cwm George a Casehill, Monks Wood a Choed Worney
Mae gan y Fro rwydwaith helaeth o lwybrau cerdded drwy’r wlad ledled y sir. Ewch allan i grwydro!