Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio â'r diwydiant a rhanddeiliaid i edrych yn fanylach ar y dystiolaeth a'r materion sy'n ymwneud â phryfed peillio a'u cadwraeth yng Nghymru. Yn dilyn ymgynghoriad, yn 2013, lansiwyd ' Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio' a oedd yn pennu'r weledigaeth strategol, y canlyniadau a'r meysydd gweithredu er mwyn atal a gwrthdroi dirywiad pryfed peillio yng Nghymru. Mae Tasglu Pryfed Peillio, sy'n cynnwys rhanddeiliaid allweddol, yn weithredol erbyn hyn.

Yn 2018, diweddarwyd Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio gan aelodau'r Tasglu Pryfed Peillio. Mae nod cyffredinol y Cynllun Gweithredu hwn yn parhau'n berthnasol, fodd bynnag roedd angen adolygiad i ddiweddaru'r camau gweithredu er mwyn adlewyrchu ; y fenter Caru Gwenyn, Cynllun Monitro Pryfed Peillio Cenedlaethol y DU, polisi iechyd gwenyn sy'n ystyried y risgiau yn dilyn achosion o Gacwn Asia, y gwaith parhaus a gwaith newydd gan aelodau'r Tasglu Pryfed Peillio a gofynion newydd sy'n deillio o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Cynllun Gweithredu ar gyfer Beillwyr: Adolygiad 2013-18 a Gweithredoedd y Dyfodol (PDF)