Nid yw’r grŵp yn weithredol bellach ac nid yw gwybodaeth ar y dudalen hon yn gyfoes. Fe’i dangosir at ddibenion cyfeirio yn unig.

Dyma'r dudalen wybodaeth ar gyfer Grŵp Ecosystem Fferm diroedd Caeedig PBC. Mae gweithgareddau Grŵp Ecosystemau Ffermdiroedd Caeedig yn ymwneud ag Adran 7 cynefinoedd â blaenoriaethau yng Nghymru, fel a ganlyn: Ymylon caeau ŷd; Gwrychoedd; Perllannau traddodiadol

Y cynefin eang amlycaf yng Nghymru yw ffermdiroedd caeedig. Ceir darnau o gynefinoedd â blaenoriaeth ar ymylon caeau âr, mewn gwrychoedd ac mewn perllannau traddodiadol. Mae planhigion âr yn cynnwys glas yr ŷd, y gludlys amryliw a nodwydd y bugail. Mae adar fel brain coesgoch, breision melyn a llinosiaid yn elwa ar ddulliau priodol o reoli ffermdiroedd, ac mae ysgyfarnogod a llygod pengrwn yn byw mewn cynefinoedd ffermdir a gaiff eu rheoli mewn modd addas. Ymhellach, mae gwrychoedd a pherllannau a reolir mewn modd traddodiadol yn cynnal amrywiaeth eang o blanhigion, pryfed ac adar, ac mae perllannau traddodiadol yn cynnal y chwilen emrallt brin. Mae gwrychoedd yn bwysig ar gyfer cysylltu cynefinoedd gyda'i gilydd a chânt eu defnyddio fel lloches gan famaliaid bach, ymlusgiaid ac amffibiaid, a hefyd fel llwybrau gwasgaru.

Ffermdiroedd Caeedig â Blaenoriaeth yng Nghymru

Ffermdiroedd Caeedig â Blaenoriaeth yng Nghymru

Mae Grŵp Ffermdiroedd Caeedig PBC wedi nodi ardaloedd â blaenoriaeth ar gyfer ymdrechion cadwraethol penodol yng Nghymru, a chânt eu rhestru isod. Mae’r mapiau ar gael hefyd ar ffurf GIS. Defnyddiwch yr adran cysylltwch i wneud cais am y ffeiliau.

Daw aelodau’r Grŵp Ffermdiroedd Caeedig o gyrff statudol, awdurdodau lleol ac elusennau bywyd gwyllt, a chaiff ei gadeirio gan Clare Burrows, Cyfoeth Naturiol Cymru. A oes gennych gwestiwn yn ymwneud â gwaith y grŵp hwn? cysylltwch

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt