Natur yn Rhondda Cynon Taf

Mae Cymoedd De Cymru yn gartref i gyfoeth o fioamrywiaeth. Priddoedd prin eu maetholion, topograffi cymhleth, geomorffoleg a daeareg, hinsawdd wlyb fwyn fendigedig, ffermydd bach a reolir yn ôl dulliau traddodiadol ac etifeddiaeth ddiwydiannol y Cymoedd. Mae’r holl elfennau ar gyfer bioamrywiaeth gyfoethog i’w cael yma. Gyda’r ardal wedi’i bendithio â’r cymysgedd hwn, mae Cymoedd De Cymru yn cynnal amrywiaeth o gynefinoedd ar yr iseldir a’r ucheldir. Yng nghanol y Cymoedd ac wrth galon y fioamrywiaeth gyfoethog hon, lleolir Rhondda Cynon Taf.

Yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni’n ffodus o gael amrywiaeth o rywogaethau a chynefinoedd pwysig. Mae ein porfeydd rhos clasurol yn cynnal poblogaethau rhyngwladol bwysig o frithegion y gors. Mae cwm bryniog y gororau yn y De a Chwm Cynon yn y Gogledd yn dirweddau hynafol a gaiff eu ffermio, lle ceir porfeydd blodau gwyllt toreithiog eu rhywogaethau ac ystlumod pedol lleiaf. Mae’r patrymau caeau hynafol, gyda’u gwrychoedd wedi’u torri o’r coed gwyllt gwreiddiol, yn creu rhan o’r rhwydwaith cymhleth o goetiroedd lle mae pathewod yn crwydro. Mae ein Cymoedd yn gartref i frithweithiau toreithiog, di-dor o ffriddoedd, sy’n ymestyn am filltiroedd ar hyd ochrau’r cymoedd ac yn cynnig cysylltiad perffaith rhwng cynefinoedd, ynghyd â chynefin gwych i ymlusgiaid. Yn gymysg â’r ffriddoedd yn aml ceir cynefinoedd rwbel glofeydd sy’n cynnig cynefin rhagorol i 85 math o wenynen, ynghyd â’r gweirlöyn llwyd, y gwibiwr llwyd a’r glesyn bach, ac yn aml maent yn doreithiog o ffyngau. Yn yr ucheldiroedd ceir digonedd o fawndiroedd, rhostiroedd gwlyb a glaswelltiroedd asidig, ynghyd â’r cymoedd rhewlifol mwyaf deheuol yn Ynysoedd Prydain. Ynghyd â Chastell-nedd Port Talbot gerllaw, dyma gynefinoedd â photensial eithriadol, ac maent yn gartref i boblogaethau newydd eu darganfod o lygod pengrwn y dŵr. Mae yna bosibiliadau rif y gwlith i adfer bioamrywiaeth mawndiroedd, storio carbon a chynnig system atal llifogydd eithriadol o wyrdd. Mae synau troelli’r poblogaethau cenedlaethol bwysig o droellwyr mawr i’w clywed yn y coedwigoedd sydd wedi’u clirio, gan gynnig cipolwg ar y potensial i drawsnewid cynefinoedd y dirwedd o fewn ystadau’r goedwig. Felly, rydym yn eithriadol o falch o’n bywyd gwyllt, ac mae ein partneriaeth yn gweithio’n galed i ddiogelu a gwireddu cyfleoedd i gyfoethogi a dathlu ein bioamrywiaeth fendigedig.

Britheg y Gors - Liam Olds

Am y Bartneriaeth

Cafodd Partneriaeth Gweithredu dros Natur Rhondda Cynon Taf ei ffurfio ym 1998, ac mae’n cynnwys partneriaid a chanddynt frwdfrydedd a gwybodaeth drylwyr am fywyd gwyllt y sir. Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i gynllunio a gweithredu dros natur yn y sir. Mae croeso i bawb ymaelodi.

Cysylltwch â Chydlynydd eich Partneriaeth Natur Leol i gael mwy o wybodaeth ac i ddod yn aelod.

Pumnalen y gors yng Nghors y Pant -Lyn Evans

Ein Nodau

Nod cyffredinol Partneriaeth Gweithredu dros Natur Rhondda Cynon Taf yw “gwarchod a chyfoethogi bioamrywiaeth Rhondda Cynon Taf”. Gweithredu dros Natur yw’r bartneriaeth a’r cynllun ar gyfer gweithredu lleol mewn perthynas â natur a bioamrywiaeth yn Rhondda Cynon Taf.

Mae’r nod cyffredinol hwn yn cynnwys:

Codi ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth Rhondda Cynon Taf
Cofnodi bioamrywiaeth Rhondda Cynon Taf
Diogelu bioamrywiaeth Rhondda Cynon Taf
Rheoli ardaloedd er budd bioamrywiaeth Rhondda Cynon Taf

Ymylon ffyrdd yn ferw o flodau gwyllt yn Rhondda Cynon Taf - Liam Olds

Sut ydyn ni’n mynd i gyflawni hyn?

Rydym yn cyflawni ein nodau drwy gynllunio a gweithredu i warchod a gwella bioamrywiaeth yn Rhondda Cynon Taf drwy ein Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol – Gweithredu dros Natur Rhondda Cynon Taf. . Mae’r bartneriaeth yn gweithio gyda’i gilydd i nodi a monitro cynefinoedd a rhywogaethau sy’n bwysig yn lleol, gan gymryd camau i sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod, trwy waith ymarferol, addysg a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth.

Mae aelodau’r bartneriaeth yn nodi, yn monitro ac yn adrodd am natur yr ardal trwy gyfrwng cyfarfodydd a’r Cylchlythyr Cofnodwyr. Dyma gyfrwng gwerthfawr o ran codi ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth ar draws Rhondda Cynon Taf, ac mae’n ffynhonnell wybodaeth amhrisiadwy. O ganlyniad, mae rhwydwaith o gynefinoedd a reolir, sy’n cysylltu bioamrywiaeth a chymunedau, wedi’i greu trwy gytundebau cynllunio. Dyma safleoedd lle gall grwpiau a thrigolion lleol fwynhau bioamrywiaeth wych yr ardal a helpu i’w chofnodi, ei rheoli a’i chyfoethogi.

Yn yr ucheldiroedd, mae rhwydwaith o safleoedd adfer mawnogydd, sy’n gysylltiedig â saith o gynlluniau ffermydd gwynt (yn cynnwys ardal y Prosiect Adfer Mawndiroedd), wedi’i sicrhau o ganlyniad uniongyrchol i gynllun gweithredu mawnogydd Gweithredu dros Natur. Gyda’i gilydd, mae’r safleoedd hyn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer bioamrywiaeth ar raddfa tirwedd, dal a storio carbon, atal tanau glaswellt a manteision o ran arafu llifogydd. Gwybodaeth leol a dynnodd ein sylw yn wreiddiol at y mawndir hwn fel adnodd ‘cudd’.

Rhywbeth arall sydd wedi deillio o Gweithredu dros Natur yw’r rhwydweithiau pori cadwriaethol amlbartner a ddatblygwyd gyda phorwyr lleol. Mae hyn wedi datblygu bellach gyda dulliau rheoli glaswelltiroedd blodau gwyllt i sicrhau 70 hectar o ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd toreithiog o flodau gwyllt lle defnyddir dull ‘torri a chasglu’, ynghyd â 50 hectar arall lle defnyddir pori cadwriaethol. Mae’r profiad hwn o reoli tir wedi cyfrannu’n uniongyrchol at lywio a helpu i ddatblygu prosiect partneriaeth tanau glaswellt Bryniau Iach.

Mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn rheoli gwarchodfeydd natur yn yr ardal ac mae’n cynnal digwyddiadau gwirfoddoli a digwyddiadau cofnodi rhywogaethau.

Mae cofnodwyr rhywogaethau sy’n arbenigo mewn creaduriaid di-asgwrn-cefn a ffyngau yn darganfod rhywogaethau pwysig newydd ar safleoedd rwbel glofeydd.

Ers sawl blwyddyn, mae Gwarchod Glöynnod Byw a Trefi Taclus wedi bod yn cynnal safleoedd hollbwysig ar gyfer brithegion y gors.

Ymhellach, mae Clwb Adar Morgannwg wedi bod yn gweithio gyda deiliaid tai i ddiogelu gwenoliaid du yn Rhondda Cynon Taf.

Mae grwpiau gwirfoddoli lleol, fel Cynon Valley Organic Adventures a Chyfeillion Coedwig Tynant, yn gweithio i roi help llaw i fioamrywiaeth a thanio diddordeb pobl yr ardal.

Ynghyd â llawer mwy!

  • Ymunwch â Phartneriaeth Rhondda Cynon Taf!
  • Gwirfoddoli
  • Cofnodi
  • Garddio

Mae Partneriaeth Gweithredu dros Natur Rhondda Cynon Taf yn cynnal prosiectau ac arolygon y gallwch gymryd rhan ynddynt, felly cofiwch gysylltu i weld beth sydd ar y gweill yn y sir.

Gallwch wirfoddoli i helpu bywyd gwyllt Rhondda Cynon Taf. Ymunwch â’r bartneriaeth Gweithredu dros Natur er mwyn cael y diweddaraf am y cyfleoedd.

Gallwch anfon manylion am fywyd gwyllt rydych chi wedi’i weld at Ganolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru ac at Dîm Bioamrywiaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf er mwyn iddynt gael eu cynnwys yn y Cylchlythyr Cofnodwyr.

Gallwch greu hafan i fywyd gwyllt yn eich gardd gefn. Beth am gael cipolwg ar My Wild Garden Year gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, sy’n aelodau o Gweithredu dros Natur, i gael awgrymiadau bob mis ynghylch garddio er budd bywyd gwyllt.

Mae Rhondda Cynon Taf yn doreithiog o gynefinoedd, ac mae nifer o leoedd arbennig y gallwch chi ymweld â nhw i droedio drwy fywyd gwyllt.

Mae cymunedau rhyngwladol bwysig o borfeydd rhos yn blodeuo yn yr haf gyda thamaid y cythraul, ysgall y ddôl a thegeirianau brych y rhos, ac maen nhw’n cynnal nythfeydd gwerthfawr o frithegion y gors a brithegion perlog bach. Ewch am dro i Gomin Llantrisant yn yr haf i weld â’ch llygaid eich hun.

Rydyn ni’n lwcus dros ben yn Rhondda Cynon Taf o gael treftadaeth ysblennydd o laswelltiroedd, sy’n rhan lewyrchus o wead ein bioamrywiaeth. Mewn porfeydd ac ar ymylon ffyrdd ceir arddangosfeydd blodeuog bendigedig o bys-y-ceirw, y bengaled, llygad-llo mawr, tegeirianau brych, peradyl garw a meillion coch: lle bydd gleision cyffredin, hen wrachod, ceiliogod rhedyn a gwenyn di-rif yn gwibio, yn grwnan ac yn suo.

Mae glaswelltiroedd sych y llethrau uwch yn fwy asidig, ond yr un mor hardd gyda briwydd wen, tresgl y moch, y bwrnet mawr, clychau’r gog a suran yr ŷd; ac ar y calchfaen tyf briallu Mair a thegeirianau’r wenynen. Ar fore heulog braf o hydref, dewch draw i chwilio am rywbeth arall sy’n arwydd o fioamrywiaeth doreithiog – sef lliwiau coch, oren, melyn a phorffor y ffyngau capiau cwyr.

O unrhyw safle bws ym Mhontypridd, neu’r Porth, neu Aberdâr neu Aberpennar, edrychwch i fyny ar gynefinoedd amrywiol y ffriddoedd ar ochrau’r cymoedd. Cymysgedd cymhleth o laswelltiroedd asidig, rhostiroedd, rhedyn, coetiroedd, prysgwydd a thiroedd gwlyb sy’n ymestyn filltir ar ôl milltir ar hyd ein prif gymoedd: wedi’u cysylltu gyda’i gilydd ar ffurf brithwaith cywrain a chyfnewidiol o gynefinoedd.

Mae tomenni glo yn arbennig o bwysig ar sail eu cymunedau cennau-rhostiroedd, lle mae rhostiroedd yn tyfu ymhlith carpedi o gennau cladonia gwyn, crawennog. Mae gwaith diweddar wedi cadarnhau pa mor bwysig yw’r tomenni hyn fel cynefin i greaduriaid di-asgwrn-cefn: mae arolygon ar bum tomen yn Rhondda Cynon Taf wedi cofnodi 85 math gwahanol o wenynen (yn cynnwys rhywogaethau prin). Mae hyn yn cyfateb i hanner y ffawna gwenyn y gwyddys amdani yng Nghymru a thraean o restr y DU. Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn cynnig cipolwg ar y cynefin rhyfeddol hwn.

Mae coedydd derw hynafol yr ucheldir fel Gwarchodfa Natur Leol Glyncornel, lle mae coed derw Cymreig corachaidd yn cydio’n dynn yn ochrau’r cymoedd, wedi’u carpedu â phlanhigion y llawr, yn cynnwys llus, grug, rhedyn, mwsoglau a slabiau noeth o dywodfaen Pennant, gyda’u planau haenu’n doreithiog o gennau. Mae’r coedydd hyn, a gaiff eu pori gan ddefaid, yn gartref i adar cerdd sy’n nodweddiadol o goetiroedd Cymru: tingochion, telorion y coed a chorhedyddion y coed.

Yng ngwaelodion y cymoedd, mae Llwybr Taf yn ymdroelli trwy lecynnau o goetiroedd collddail cymysg sy’n cynnal derw, ynn, masarn a llwyfenni llydanddail, gyda gwern a helyg ar dir gwlypach.

Yn y gwrychoedd cyll, derw, ynn, drain gwynion, helyg crynddail, drain duon, rhosynnau, cwyros, piswydd a helyg yr ymgartrefa’r pathew swil, a thrwy’r rhwydwaith hwn o wrychoedd mae modd i’r hyn sy’n weddill o’n coetiroedd hynafol barhau i fod yn hyfyw ac yn gysylltiedig â’i gilydd.

Fin nos, cadwch olwg am ystlumod. Mae Rhondda Cynon Taf yn cynnal 13 math o ystlum o leiaf, yn cynnwys rhai prin fel yr ystlum du a’r ystlum pedol lleiaf. Yn y pegwn arall, caiff Pontypridd ei galw’n ‘Pip City’ – enw sy’n cyfeirio at y myrdd o ystlumod lleiaf ac ystlumod lleiaf meinlais (sef mathau o ystlumod pipistrelle) sy’n byw yn y dref.

Gellir olrhain rhai cynefinoedd i enciliad y llen iâ olaf 8,000 o flynyddoedd yn ôl. Dechreuodd llawer o’n cynefinoedd mawnog ffurfio yr adeg honno, wrth i lynnoedd rhewlifol, pantiau a llwyfandiroedd ucheldirol newid yn raddol i droi’n ffeniau, yn wernydd ac yna’n fawn. Mae’r rhyfeddodau crynedig, sigledig hyn yn gartref i lugaeron, gwlithlys a llafn y bladur sy’n blodeuo ymhlith y migwyn a’r twmpathau o laswellt y gweunydd a chlwbfrwyn y mawn. Bydd y Prosiect Adfer Mawndiroedd yn cynnig cyfleoedd i ymweld â’r cynefinoedd rhyfeddol hyn.

Yn y blynyddoedd i ddod, y gobaith yw y bydd modd adfer cannoedd o hectarau o fawnogydd yr ucheldir, siglo yn awel yr haf gyda channoedd ar filoedd o bennau plu’r gweunydd, dal carbon atmosfferig, a storio a rheoli dŵr storm yr ucheldir mewn modd naturiol er mwyn darparu system atal llifogydd eithriadol o wyrdd i gymunedau’r Cymoedd islaw. Tra byddwch yno, cofiwch bicio i gyrion planhigfa lle ceir llu o bilaod gwyrdd a gylfingroesion, lle mae clwbfwsoglau’n cysgodi, lle mae crëyreydd yn siglo ymhlith hemlog y gorllewin, a lle mae troellwyr mawr yn troelli fin nos yn yr haf.

Mae afonydd, a oedd yn farw a difywyd ddeugain mlynedd yn ôl, bellach yn gyrsiau dŵr iach ac amrywiol, ac yn gartref i fyrdd o bryfed y cerrig a gwybed Mai, bronwennod y dŵr, siglennod llwydion, brithyllod ac, wrth gwrs, dyfrgwn. Mae’r corsydd gorlifdir, y dolydd gorlifdir a’r gwlyptiroedd cyfagos cysylltiedig yn lleoedd gwych i weld gweision y neidr. Mae Gwarchodfa Natur Pwll Waun Cynon Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn enghraifft dda o ddôl gorlifdir yn y sir.

Mae’r cymoedd rhewlifol mwyaf deheuol yn y DU yn gartref i hebogiaid tramor a phlanhigion arctig-alpaidd – blodau a rhedyn sy’n cydio’n dynn yn yr ysgafellau oeraf, mwyaf cysgodol, gan ddisgwyl mewn gobaith y bydd hafau’r twndra’n dychwelyd. Beth am archwilio gyda Croeso i’n Coedwig.

Yn y mannau lle mae diwydiannau wedi cael eu clirio, beth am brofi bioamrywiaeth ‘tir llwyd’. Yn aml, mae safleoedd ôl-ddiwydiannol yn cynnal brithweithiau anhygoel o gynefinoedd glaswelltir, gwlyptir a choetir, pob un wedi datblygu ar dir a oedd, yn ôl pob golwg, yn dir diffaith. Mae llu o ryfeddodau’n llechu yn y cymysgedd amrywiol hwn o gynefinoedd ac maent yn gartref i fadfallod dŵr, brogaod, gwibwyr llwyd a chliradenydd gwregysgoch. Ewch am dro i Barc Gwledig Cwm Dâr, lle ceir Tomenni Fictoraidd gwreiddiol a rwbel a adferwyd o’r 1970au sy’n doreithiog o rywogaethau.

Uchafbwyntiau

  • Mae ardal Rhondda Cynon Taf yn bwysig yn rhyngwladol ar sail ei glaswelltiroedd porfa rhos, sef cynefin y mae gennym gyfrifoldeb arbennig drosto. Mae brithegion y gors ar eu hediad rhwng Mai a Mehefin ac maent yn dibynnu ar borfeydd rhos. Chwiliwch yn eich ardal eich hun am gaeau gwlyb lle tyf glaswellt y gweunydd a thamaid y cythraul, ac efallai y dewch o hyd i borfa rhos newydd, yn ogystal â safle newydd i frithegion y gors efallai. Yn hwyrach yn yr haf, gallwch ymuno â grŵp gwirfoddoli i arolygu gweoedd larfaol.
  • Gellir dod o hyd i weirloynod llwyd, ynghyd â llu o greaduriaid di-asgwrn-cefn eraill, ar safleoedd rwbel y glofeydd. Mae gan y glöyn byw hwn guddliw gwych pan mae’n glanio ar dir noeth a cherrig, felly cadwch eich llygaid ar agor!
  • Ewch allan ar ffriddoedd y cymoedd a dilynwch yr hen lwybrau defaid. Yn y gwanwyn mae madfallod yn torheulo ar redyn marw, mae clychau’r gog yn glasu’r bryniau ac mae lliw gwyrdd llachar y dail llus newydd yn tynnu sylw at y rhostir. Ganol yr haf, mae brithegion gwyrdd yn hedfan fry uwchben y bryniau, ac ym mis Awst mae’r llus yn aeddfedu a’r grug yn troi’r bryniau’n borffor. Tirwedd gyfoethog ac amrywiol, gyda’r fioamrywiaeth yn gydnaws ei lliw.
  • Mae’r toreth o laswelltiroedd blodau gwyllt yn berl arall yn ein coron bioamrywiaeth. Hyd yn oed pan fyddwch mewn tagfa draffig, gallwch fwynhau pys-y-ceirw a llygad-llo mawr ar ymylon y ffyrdd, ac mae myrdd o hen borfeydd i’w cael o hyd, sy’n cynnal arddangosfeydd toreithiog eu blodau naill ai o gasgliadau blodeuol asidig, niwtral neu galchaidd. Un o’r pethau sy’n sirioli dechrau’r haf yw gwibio trwy giât mochyn a’ch cael eich hun mewn gweirglodd llawn blodau, neu dir a gaiff ei bori gan wartheg, yn frith o dwmpathau morgrug ac yn ferw o su pryfetach. Fodd bynnag, gall safleoedd tir llwyd fod yr un mor wefreiddiol. Mae safleoedd newydd yn disgwyl am gael eu darganfod, ac mae gan bob rhan o Rondda Cynon Taf ei glaswelltiroedd blodau gwyllt arbennig ei hun.
  • Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref i 10 math o degeirian o leiaf, sy’n golygu y gallwch weld tegeirianau ysblennydd yn eu blodau fwy neu lai yn unrhyw le ddiwedd y gwanwyn a dechrau’r haf. Er ein bod, yn naturiol, yn ymfalchïo yn ein casgliad o degeirianau’r waun sy’n tyfu ym Mynwent Cefn Parc, rydyn ni yr un mor falch o’n degau ar filoedd o degeirianau brych a thegeirianau’r-gors deheuol sy’n tyfu ar ymylon ffyrdd ac mewn glaswelltiroedd, harddwch dihafal tegeirianau brych y rhos ar yr ucheldiroedd ac mewn porfeydd rhos, a lliw gwyrdd gwan caineirianau’r coetiroedd, yn ogystal â nodweddion dynwaredol eithriadol tegeirianau’r wenynen, sef rhywogaeth sydd wrth ei bodd bellach â rwbel glofeydd y cymoedd.
  • Mae’r pathew yn un o arbenigwyr y sir, gan ymgartrefu mewn coetiroedd a gwrychoedd yn rhan ddeheuol Rhondda Cynon Taf a hefyd bellach ym mhen gogleddol Cwm Cynon. Mae’r creadur bach bendigedig hwn yn crwydro coetiroedd liw nos, gan symud fel acrobat o goeden i goeden.
  • Mae bioamrywiaeth mewn afonydd ledled y fwrdeistref sirol yn dal i gynyddu, wrth i’r afonydd ymadfer ar ôl llygredd diwydiannol a threfol y gorffennol. Arwydd gwych o’r adferiad hwn yw bronwen y dŵr (ein hunig aderyn cerdd dyfrol). Dim ond mewn mannau lle ceir ffynhonnell fwyd sy’n doreithiog o greaduriaid di-asgwrn-cefn dyfrol y mae bronwennod y dŵr yn ffynnu – rhywbeth sydd ynddo’i hun yn arwydd o afon iach. Ar y cychwyn, mae’n debyg mai’r cwbl a welwch yw fflach o ddu a gwyn yn hedfan heibio, ond gyda rhywfaint o amynedd gall pawb ddod yn gyfarwydd â’r adar hoffus hyn, a’u gwylio’n trochi ac yn siglo i fyny ac i lawr ar gerrig yr afon, ac yna’n plymio i’r dyfroedd byrlymus.
  • Yn yr hydref, edrychwch am ffyngau glaswelltir a ffyngau coetir. Yn aml, mae hen laswelltiroedd a safleoedd rwbel glofeydd yn cynnal myrdd o gapiau cwyr melyn, oren a choch, ac yn ein coetiroedd hynafol mae modd dod o hyd i rai prin fel menyg helyg a menyg cyll.

Mae Rhondda Cynon Taf yn aelod gwerthfawr o Rwydwaith Partneriaeth Natur Lleol Cymru gyfan

Local Nature Partnerships CymruRCT_logo

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt