Natur yn Parc Genedlaethol Eryri

Wedi'i leoli ar arfordir gorllewinol Prydain sy'n gorchuddio 823 milltir sgwâr o dirweddau amrywiol, mae Eryri yn gyfystyr ag ardaloedd helaeth o ucheldiroedd gwyntog a chopaon danheddog Mae ei naw cadwyn o fynyddoedd yn gorchuddio oddeutu 52% o'r Parc ac yn cynnwys llawer o gopaon sydd dros 3,000 troedfedd (915m). Ar wahân i harddwch a swyn ei mynyddoedd uchel, mae Eryri yn dirwedd hyfryd o geunentydd afon serth, rhaeadrau a dyffrynnoedd gwyrdd. Mae coetiroedd derw, ynn, criafol a chyll i'w gweld wedi'u gwasgaru ledled y Parc tra bod aberoedd hyfryd Dyfi, Mawddach a Dwyryd a 23 milltir o arfordir a threathau thywodlyd yn cyfrannu at yr amrywiaeth yn y dirwedd. Mae'r cynefinoedd lled-naturiol ysbrydoledig hyn yn gynnyrch grymoedd naturiol a gweithgareddau dynol. Oherwydd ei leoliad ar gyrion gorllewinol Ewrop, mae Eryri yn cael ei sgubo gan dywydd cynnes, gwlyb, sy'n golygu ei fod yn gartref delfrydol i filoedd o rywogaethau a'u cynefinoedd.

Darllenwch fwy am fioamrywiaeth Eryri yma

Defaid Mynydd Cymreig ar y Carneddau (Gethin J Davies)

Amdanom ni

Sefydlwyd hen Fforwm Bywyd Gwyllt Eryri ddiwedd y 90au ar ôl gweithredu'r Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Leol. Bellach wedi ei ail-fywiogi fel Partneriaeth Natur Eryri yn dilyn gweithredu Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru, mae'r bartneriaeth bellach yn cynnwys unigolion, sefydliadau, recordwyr a grwpiau cymunedol a bywyd gwyllt sydd â gwybodaeth helaeth am fioamrywiaeth Parc Cenedlaethol Eryri.

Cysylltwch â chydlynydd PNL Eryri i ddarganfod mwy am Bartneriaeth Natur Leol Eryri a sut y gallwch chi helpu natur yn Eryri.

Yr Wyddfa o Beddgelert (Gethin J Davies)

Ein hamcanion

Nod Cynllun Gweithredu Adfer Natur Eryri yw nodi ac yna hyrwyddo cynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth y mae angen eu gwarchod yn y Parc Cenedlaethol. Mae'n bwysig i'r Parc a phartneriaid y Bartneriaeth Natur fod pobl sy'n lleol i Eryri yn dod yn fwy cysylltiedig â bioamrywiaeth. Trwy godi'r ymwybyddiaeth hon, bydd y CGAN yn helpu nid yn unig i gysylltu natur â natur, ond hefydpobl â natur, gan wneud cysylltedd yn brif ffocws y cynllun gweithredu newydd hwn. Cyflawnir hyn trwy'r canlynol:

  • Cynyddu ymwybyddiaeth o'r cynefinoedd a'r rhywogaethau â blaenoriaeth a fydd yn cael eu rhestru yn CGAN Eryri trwy ymgysylltu.
  • Diogelu'r rhywogaethau a'r cynefinoedd hyn trwy fesurau ymarferol fel gwell arferion rheoli ac adfer.
  • Nodi a mynd i'r afael â phwysau allweddol ar y rhywogaethau a'r cynefinoedd hyn megis newid hinsawdd a newid defnydd tir.
  • Sicrhau bod bioamrywiaeth yn cael ei ystyried trwy gydol holl benderfyniadau cynllunio a pholisi'r Parc.

Sulphur Tuft (Hypholoma fasciculare) in Coed y Brenin woodland (Gethin J Davies)

Sut fyddwn ni’n ei gyflawni?

Mae partneriaid Partneriaeth Natur Eryri yn dod at ei gilydd fel un o'u prif flaenoriaethau i nodi cynefinoedd a rhywogaethau ym Mharc Cenedlaethol Eryri y mae angen eu blaenoriaethu. Yna bydd y rhain yn cael eu cydblethu â Chynllun Gweithredu Adfer Natur Eryri a fydd yn cael ei gyhoeddi o fewn y tair blynedd nesaf. Bydd llawer o'r blaenoriaethau hyn yn seiliedig ar wybodaeth leol amhrisiadwy ein partneriaid yn ogystal â'r crynodeb o Ddatganiad Ardal Gogledd Orllewin Cymru. Yna bydd y blaenoriaethau a osodir yn bwydo i mewn i wella lles cymunedau lleol y Parc trwy fioamrywiaeth.

Mae gan bob un ohonom gyfraniad i'w wneud i helpu natur yn Eryri, ac nid oes amser gwell i ddechrau! Man cychwyn da yw'r adnoddau “Gwneud Lle i Natur” - fe welwch lawer o awgrymiadau ar sut y gall unigolion, grwpiau a sefydliadau wneud lle i fyd natur a helpu i ddarparu cynefinoedd hanfodol i'n planhigion a'n hanifeiliaid.

Gallwch hefyd gysylltu â'n cydlynydd PNL i weld a allan nhw eich rhoi mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r sefydliadau, grwpiau cymunedol neu grwpiau bywyd gwyllt yn eich ardal chi.

Dyma ychydig o leoedd a ddylai fod ar eich rhestr wrth ymweld ag Eryri:

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal: Ym 1954, daeth Cwm Idwal y Warchodfa Natur Genedlaethol gyntaf yng Nghymru a heddiw mae'n lle poblogaidd i ymwelwyr sydd â diddordeb mewn cerdded, dringo, pysgota a daeareg.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Aber: Mae'r rhaeadr ysblennydd yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Aber wedi bod yn boblogaidd gydag ymwelwyr ers oes Fictoria. Mae tarddiad Afon Goch sy’n ffurfio Rhaeadr Fawr yn cychwyn ym mynyddoedd y Carneddau.

Canolfan Gwylio Gweilch Glaslyn ger Porthmadog: Mae'r ganolfan wylio bellach yn nwylo grŵp cymunedol Bywyd Gwyllt Glaslyn sy'n goruchwylio amddiffyn y gweilch sy’n bridio yn Aber Glaslyn.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Yr Wyddfa: Yr Wyddfa yw mynydd uchaf Cymru a saif yng nghanol Eryri.

Gwarchodfa RSPB Coed Garth Gell ger Dolgellau: Fe welwch warchodfa natur coetir a rhostir Coed Garth Gell yn nyffryn ysblennydd Mawddach. Mae'r llwybrau ymwelwyr yn dirwyn trwy goetir derw gydag afon sy'n llifo yng ngwaelod y dyffryn. Mae pila gwyrdd, “redpolls” ac, weithiau, gwalch-wen a chnocell y coed i gyd yn galw'r coetiroedd hyn yn gartref.

Gwarchodfa RSPB Cors Arthog: Mae Cors Arthog yn wlyptir bach ac yn lle gwych i weld amrywiaeth o blanhigion, blodau, gloÿnnod byw ac adar. Mae'n un o'r darnau o gors uchel sydd ar ôl a fyddai unwaith wedi gorchuddio llawer o Aber Mawddach gerllaw. Cofnodir yma dros 130 o rywogaethau o blanhigion, gan gynnwys melyn-mair y gors a baner felen yn y gwanwyn, a thramgwydd cywarch, dolydd y ddolen ac a charpiog y gors trwy'r haf.

Ymweld ag Eryri

Uchafbwyntiau - rhywogaethau prin ac endemig a geir yn Eryri

Ystlum pedol lleiaf (Rhinolophus hipposideros): Un o rywogaethau ystlum lleiaf a geir yn y DU, mae Eryri yn gadarnle i'r ystlum pedol lleiaf, sy'n cyfrif am dros 25% o gyfanswm poblogaeth y DU. Er ei bod yn breswylwyr ogofâu yn wreiddiol, mae'r ystlum pedol lleiaf wedi addasu ac mae cytrefi haf bellach i'w cael fel rheol ar doeau tai gwledig mawr ac adeiladau allanol.

Cregyn Gleision Perlog Dŵr Croyw (Margaritifera margaritifera): Mae cragen ddu neu frown tywyll gan y cregyn gleision perlog dŵr croyw, mae'n tyfu i 15cm o hyd ac mae'n enwog am gynhyrchu perlau lliw tywyll. Ychydig o boblogaethau sy'n hysbys yn Eryri er gwaethaf cofnodion hanesyddol sy'n dyddio'n ôl am ganrifoedd lawer.

Malwen Ludiog (Myxas glutinosa): Mae'r falwen ludiog yn falwen ddŵr croyw bach ac yn un o'r prinnaf yn Ewrop. Credwyd ei fod wedi diflannu yng Nghymru, ond cafodd ei ailddarganfod yn Llyn Tegid ym 1998, mewn ardal lle na welwyd hi ers 1952. Credir bellach mai hon yw'r unig boblogaeth hyfyw yn Eryri.

Y Gwyniad (Coregonus pennantii): Mae Coregonus lavaretus yn rhywogaeth o bysgod gwyn a elwir yn lleol fel Y gwyniad, a chredir eu bod yn bresennol mewn un llyn yn unig ledled Eryri, yn Llyn Tegid yn y Bala.

Chwilen yr Wyddfa (Chrysolina cerealis) :Mae gan chwilen fach yr Wyddfa elytra llachar streipiog coch, aur, gwyrdd a glas sy'n esbonio ei enw Ewropeaidd, chwilen ddeilen yr Enfys. Er gwaethaf digonedd cymharol o gynefin addas yn y Parc Cenedlaethol, dim ond mewn llond llaw o safleoedd ar yr Wyddfa ei hun y ceir y chwilen, ac efallai Cwm Idwal.

Lili’r Wyddfa (Lloydia serotina): Mae Lili’r Wyddfa yn blanhigyn blodeuol cain, arctig-alpaidd sydd â dail tebyg i laswellt. Er bod ganddo ddosbarthiad eang mewn rhanbarthau alpaidd ac arctig, Eryri yw ei unig leoliad hysbys yn y DU.

Darganfyddwch fwy am ein rhywogaethau prin a rhyfeddol yma

Cyswllt

Dafydd Roberts

Ecolegydd

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Penrhyndeudraeth, Gwynedd, LL48 6LF

E-bost: Dafydd Roberts
Gwefan: eryri.llyw.cymru

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn aelod gwerthfawr o Rwydwaith Partneriaeth Natur Lleol Cymru gyfan

Partneriaethau Natur Lleol CymruPartneriaeth Natur Eryri

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt