Prosiect Corsydd Sir Gaerfyrddin
Mae partneriaeth dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llwyddo i gael grant o £43,000 o Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Gan weithio ar bum comin yng nghyffiniau Brechfa a Llanfynydd, bydd y prosiect - sydd hefyd yn cael cyllid gan Gyfoeth Naturiol Cymru a ninnau - yn ymchwilio i hanes y corsydd, yn dathlu cynefinoedd a rhywogaethau arbennig y corsydd, ac yn cymryd camau i ddiogelu'r cynefinoedd pwysig hyn i'r dyfodol.
Mae corsydd llawr gwlad, sydd wedi cael eu ffurfio dros filoedd o flynyddoedd, yn enghreifftiau mwyfwy prin o gynefin mawnog pwysig, ac mae'r cynefin hwn yn cynnal bywyd gwyllt sy'n arbenigol ond sydd hefyd dan fygythiad. Mae corsydd yn cadw carbon yn y mawn, a phan fo eu cyflwr yn dda maent yn tynnu rhagor o garbon o'r awyrgylch, gan helpu i leihau newid yn yr hinsawdd. Caiff dŵr ei hidlo gan gorsydd a'i ollwng yn araf i nentydd. Yn ddiamheuaeth mae corsydd yn rhan werthfawr o'n hetifeddiaeth gan fod y mawn yn archif byw ac unigryw sy'n gofnod o'r newidiadau sydd wedi bod o ran yr hinsawdd, y llystyfiant a'r dirwedd.
Un o brif amcanion y prosiect yw sicrhau bod cyfleoedd i bobl leol ddysgu rhagor am bwysigrwydd y safleoedd hyn a chydweithio â phartneriaid eraill y prosiect - sef Prifysgol Abertawe, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed - er mwyn ymchwilio i bwysigrwydd cynefinoedd y corsydd hyn o ran ecoleg, o ran diwylliant ac o ran y dirwedd ac er mwyn hyrwyddo'r elfennau hynny. Ein gobaith yw y gallwn gyda'n gilydd ddod o hyd i hanes ein hinsawdd a'n llystyfiant yn lleol, gan ymchwilio i'r modd yr oedd ein hynafiaid yn byw yn y cynefinoedd hyn, ynghyd â rhoi sylw i'w cysylltiadau â newid yn yr hinsawdd, a hynny yn y presennol ac yn y gorffennol.
Bydd y prosiect yn parhau tan fis Rhagfyr 2016, gan roi sylw i'r canlynol:
- cynnal sesiwn i'r cyhoedd gyda Phrifysgol Abertawe er mwyn codi craidd mawn o un o'r corsydd, ac er mwyn helpu'r gwyddonwyr â'u hymchwiliadau ar y safle.
- cynnal diwrnod mawn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru lle gall pobl gael golwg fanwl ar samplau mawn drwy ddefnyddio microsgop – gan hoelio sylw ar figwyn hynafol ac ar baill sydd filoedd o flynyddoedd oed - ynghyd â chymryd rhan mewn gweithdy argraffu a gweithdy gweithio crochenwaith Oes yr Efydd, a gwrando ar chwedleuwyr;
- cydweithio â'r ysgolion lleol ac ymweld â chomin Mynydd Bach i gael golwg ar glwstwr rhyfeddol o feddrodau o Oes yr Efydd, ynghyd â dysgu rhagor am y dirwedd gynhanesyddol ac am y bobl oedd yn byw yno;
- darparu cyfleoedd i wirfoddolwyr estyn help llaw i'r prosiect a dysgu rhagor am dirwedd hanesyddol y cynefinoedd hyn;
- creu strimynnau atal tân, cau ffosydd, codi sbwriel, a gwaredu clymog Japan - gan helpu i sicrhau bod y safleoedd yn fwy addas i'w pori ynghyd â'u diogelu rhag llosgi bwriadol.
Wrth i'r prosiect gamu ymlaen ychwanegir rhagor o wybodaeth yn y man hwn.