Gadewch i ni ddathlu harddwch ac amrywiaeth bywyd gwyllt Cymru gyda'n gilydd!
Ymunwch â digwyddiad lleol, archwiliwch ofod gwyrdd, neu ewch allan i’r awyr agored a gwrando ar y bywyd gwyllt o’ch cwmpas – ar eich pen eich hun, gyda’ch teulu, neu fel rhan o grŵp cymunedol.
Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl yng Nghymru ymgysylltu â natur. A hynny ar eich telerau chi, ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Gartref, yn y parc, yn eich ysgol neu'ch gweithle; mewn gwarchodfeydd natur, ar yr arfordir, ar dir neu yn y môr... Mae Byd Natur i Bawb.
Beth i'w ddisgwyl mewn digwyddiadau
Bydd rhywbeth i bawb – digwyddiadau i unigolion, teuluoedd a'r rhai sy'n newydd i fyd natur, ac i'r naturiaethwr mwy profiadol.
Cynhelir digwyddiadau Wythnos Natur Cymru bob blwyddyn yng ngwarchodfeydd yr Ymddiriedolaeth Natur a'r RSPB, gwarchodfeydd natur lleol a chenedlaethol, parciau a mannau gwyrdd cymunedol, ysgolion a safleoedd addoli, traethau ac ardaloedd arfordirol.
Mae digwyddiad nodweddiadol yn cynnwys taith gerdded wedi’i thywys ar safle natur. Bydd arweinydd arbenigol yn tynnu sylw at blanhigion ac anifeiliaid a phwysigrwydd y cynefin ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae'r mwyafrif helaeth o'r digwyddiadau yn rhad ac am ddim*
*Efallai y codir tâl mynediad i ychydig o ddigwyddiadau. Mae hyn yn cefnogi'r gwaith gwerthfawr mae'r sefydliad yn ei wneud ar ran natur.
Digwyddiad cynulleidfa wahoddedig
Iaith a’n tirwedd – archwilio rôl y Gymraeg o ran cysylltu â byd natur
Digwyddiad cynulleidfa wahoddedig ddydd Iau 10 Gorffennaf
Mae pryder cynyddol bod pobl yn y byd gorllewinol yn dechrau datgysylltu o’r byd natur a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar iechyd corfforol a meddyliol.
Mae’r Gymraeg wedi bod yn rhan ganolog o’n diwylliant ers canrifoedd. Mae’r sesiwn hon yn archwilio’r rôl sydd gan iaith i’w chwarae wrth feithrin ymdeimlad o le a stiwardiaeth o’n hamgylchedd.
Bydd y sesiwn hon yn croesawu siaradwyr o barciau cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Eryri, yn ogystal â’r cwmni brandio Creo, wrth i ni archwilio sut y gall iaith ein helpu i’n hailgysylltu â’r mannau a’r tirweddau naturiol o’n cwmpas.
Digwyddiad ar y cyd rhwng Green Advocates ac Ymlaen yw hwn i ddathlu Wythnos Natur Cymru.
Dathlu Wythnos Natur Cymru yn hyfrydwch Parc y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd
Digwyddiad cynulleidfa wahoddedig ddydd Mawrth 15 Gorffennaf
Byddwn yn archwilio Llwybr Iechyd a Llesiant y Dolydd lle cawn amser i sgwrsio a dod i adnabod ein cyd-eiriolwyr. Roedd Llwybr Iechyd a Llesiant y Dolydd yn rhan o raglen Magnificent Meadows Cymru, sef rhaglen i adfer dros 500 hectar o ddolydd blodau gwyllt yng Nghymru a chysylltu cymunedau lleol â’r mannau naturiol hyn. Creodd y prosiect ddau lwybr cerdded yn cysylltu Ysbyty Athrofaol Cymru â’r dolydd ym Mharc y Mynydd Bychan ac mae’n hyrwyddo’r defnydd o’r rhain er llesiant cleifion a staff.
Ymweliadau prosiect Wild Oysters ag ysgolion
Digwyddiad ysgolion
Bydd prosiect Wild Oysters yn cynnal ymweliadau â Marina Conwy ar gyfer ysgolion i ddathlu Wythnos Natur Cymru. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan yn y daith ‘saffari wystrys’ i archwilio cynefinoedd wystrys a bioamrywiaeth. Gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fiolegwyr morol!
Dysgwch fwy am brosiect Wild Oysters yma
Edrychwch ar y digwyddiadau gwych hyn sy'n digwydd yn yr haf! Beth am gymryd rhan a'i wneud yn haf o natur!
Wythnos ymwybyddiaeth o’r Wennol Ddu 28 Mehefin – 6 Gorffennaf
Wythnos Genedlaethol Gwas y Neidr 5 – 13 Gorffennaf
Wythnos Genedlaethol Gwyfynod 20 - 28 Gorffennaf
Diwrnod Rhyngwladol y Gors 28 Gorffennaf
Wythnos Genedlaethol Gwylio Morfilod a Dolffiniaid 26 Gorffennaf – 3 Awst
Wythnos Genedlaethol y Môr 26 Gorffennaf - 10 Awst
Noson Ystlumod Ryngwladol 30-31 Awst
Chwiliad Dolydd Mawr Mehefin-Awst
Arolwg Trychfilod i Wyddonwyr-Ddinasyddion 1st Mehefin – 31st Awst