Sir wledig yw Bro Morgannwg yn bennaf, sy’n cynnwys iseldir tonnog, a ffinnir i’r de gan yr arfordir, sy’n cynnwys darn 19km o Arfordir Treftadaeth dynodedig. Mae’r rhanbarth yn cynnwys dros 22 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Er mai tir amaethyddol ydyw’n bennaf, mae’r Fro’n cynnal bioamrywiaeth gyfoethog iawn ac amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau, gan gynnwys ambell rywogaeth sydd dan fygythiad yn fyd-eang a chenedlaethol, fel tafolen y traeth, y fritheg frown a’r fadfall ddŵr gribog.
Manylion pellach yma
Cynhyrchwyd Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Bro Morgannwg yn 2002 mewn ymgynghoriad agos â phartneriaeth LBAP y Fro. Ar ôl adfywiad dan enw Partneriaeth Natur y Fro ar ôl rhoi Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru ar waith, mae’r bartneriaeth yn cynnwys unigolion, busnesau, cyrff anllywodraethol, grwpiau cymunedol, cofnodwyr a sefydliadau cyhoeddus.
Cysylltwch â Chydlynydd Partneriaeth Natur Leol y Fro i ddysgu mwy am y Bartneriaeth Natur Leol a sut allwch chi helpu byd natur yn y Fro.
Mae Partneriaeth Natur Bro Morgannwg yn bodoli er mwyn:
Atal colli bioamrywiaeth ym Mro Morgannwg
Gwarchod ac adfer cynefinoedd sy’n bodoli’n barod ynghyd â chreu cynefinoedd newydd.
Addysgu a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwarchod ein bioamrywiaeth yn lleol.
Darparu cyfleoedd gwirfoddoli i bobl allu dysgu am fioamrywiaeth lleol a chymryd rhan mewn gweithredu er budd natur.
Cefnogi prosiectau natur arfaethedig a rhai sy’n bodoli eisoes drwy gynnig adnoddau ac arbenigedd.
Cynghori ar ffyrdd addas o weithredu er budd cadwraeth ym Mro Morgannwg.
Hwyluso gweithio mewn partneriaeth i ymestyn ein dylanwad er mwyn addysgu a thargedu camau i adfer natur.
Datblygu rhwydwaith adfer natur gyda phartneriaid, er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd, grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol, yn ogystal ag ysgolion a busnesau, i gymryd rhan mewn gweithredu ymarferol o blaid natur yn eu cymunedau.
Gweithio gyda phartneriaid i nodi meysydd â blaenoriaeth ar gyfer gweithredu ym Mro Morgannwg sy’n adlewyrchu amcanion Cynllun Gweithredu Adfer Natur yng Nghymru a’r cyfleoedd a amlygwyd yn y Datganiad Ardal.
Cefnogi datblygu prosiectau a fydd yn cyflawni amcanion cadwraeth natur fel y’u nodir yn ein cynlluniau gweithredu lleol.
Dod yn aelod o’r BNL
Mae Partneriaeth Natur Leol y Fro yn cynnal prosiectau ac arolygon y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw; cysylltwch i ddysgu beth sy’n digwydd ledled y sir.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli’n ffordd wych o helpu bywyd gwyllt yn y Fro a dysgu mwy am gadwraeth rhywogaethau. Ceir llawer o grwpiau bywyd gwyllt yn y Fro, ymunwch â’r BNL i glywed am y cyfleoedd gwirfoddoli diweddaraf!
Cofnodi
Mae cofnodi pan welir bywyd gwyllt yn bwysig am y gall yr wybodaeth hon helpu cadwraethwyr i asesu newidiadau mewn tueddiadau poblogaethau bywyd gwyllt a gweithio i ddarganfod ffactorau a allai fod yn peri newidiadau cadarnhaol neu negyddol o fewn poblogaethau rhywogaethau. Gellir defnyddio data bywyd gwyllt i addysgu gwneuthurwyr penderfyniadau ynghylch blaenoriaethau adfer rhywogaethau, yn ogystal â dylanwadu ar ddynodiadau rhywogaethau a warchodir dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Anfonwch eich cofnodion o weld bywyd gwyllt yn y Fro at Ganolfan Gofnodi Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru.
Bioddiogelwch
Mae rhywogaethau goresgynnol, plâu niweidiol a phathogenau yn niweidiol i’n bywyd gwyllt brodorol. Dysgwch fwy am fioddiogelwch a’r camau ymarferol y gall pob un ohonom eu cymryd i leihau’r perygl o wasgaru rhywogaethau goresgynnol, pathogenau a phlâu pan fyddwn ni’n ymweld â chefn gwlad Cymru.
Gwneud Lle i Natur
Gallwch greu hafan i fyd natur yn eich gardd chi drwy ddarparu cynefinoedd allweddol ar gyfer planhigion a bywyd gwyllt. Dysgwch ragor am ‘ailwylltio’ a sut i greu cynefinoedd i fywyd gwyllt yma.
Dyma ble mae pwynt mwyaf deheuol Cymru, ac mae lleoliadau di-rif y gallwch eu darganfod a mwynhau natur yn y Fro, gyda 53km o arfordir a chefn gwlad helaeth. O barciau gwledig, Gwarchodfeydd Natur Lleol, i gynefinoedd sy’n genedlaethol bwysig, mae yna leoedd sydd wastad ar agor i’r cyhoedd.
Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston
Dyma hafan i fywyd gwyllt lleol a Gwarchodfa Natur Leol ddynodedig. Daeth y ddwy chwarel a foddwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) er mwyn gwarchod unig boblogaeth Cymru o rawn-yr-ebol serennog. Dewch i ddarganfod dros 20ha o goedwig llydanddail, cerddwch ar hyd y llwybr pren drwy welyau hesg trwchus ac archwiliwch y glaswelltiroedd sy’n gyforiog o flodau gwyllt.
Mae’r Parc Gwledig yn cynnig 220 erw o goedwig i’w darganfod (Coedwig Mill Wood, Coedwig Cliff Wood a Choedwig Knockmandown) yn ogystal â dolydd a phyllau dŵr mewn dyffryn cysgodol sy’n arwain at draeth caregog a chlogwyni arbennig.
Arfordir Treftadaeth Morgannwg
Mae Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn ymestyn dros 14 milltir, o Aberddawan i Borth-cawl.
Parc Dwnrhefn yn Southerndown yw cartref Canolfan yr Arfordir Treftadaeth, sef canolfan wybodaeth ac addysg a reolir gan y Parcmyn sy’n gwarchod a gofalu am yr arfordir rhyfeddol hwn. Mae Bae Dwnrhefn yn rhan o SoDdGA Arfordir Southerndown sy’n ymestyn ar hyd 5km o arfordir; cafodd y glaswelltir ar ben y clogwyn, sy’n gyfoethog o ran rhywogaethau ac yn gartref i amrywiaeth o gymunedau planhigion gwahanol, ei ddynodi oherwydd ei ddaeareg a’i werth botanegol.
Pwynt canol Arfordir Treftadaeth Morgannwg, mae dôl y goleudy’n SoDdGA ac yn lle ardderchog ar gyfer gweld bywyd gwyllt, o’r ysgallen glorog brin, y cor-rosyn cyffredin a’r clychlys clystyrog, i adar drycin y graig urddasol yn hedfan uwchben a llamhidyddion chwareus yn y dŵr brochus ger y gefnen dywod.
Ar ffin fwyaf gorllewinol yr Arfordir Treftadaeth. Mae Afon Ogwr yn denu cyfoeth o fywyd gwyllt gydol y flwyddyn, o eogiaid a siwin i hwyaid llygad-aur a chornchwiglod. Ar draws Afon Ogwr mae twyni tywod Merthyr Mawr, sy’n Gwarchodfa Natur Genedlaethol, a chartref i dros un rhan o dair o holl fywyd gwyllt Cymru o ran planhigion a thrychfilod!
Rheolir gwarchodfeydd natur gan ystod o sefydliadau cadwraeth a bywyd gwyllt sy’n gweithio yn y sir; mae gan y rhan fwyaf ohonynt wybodaeth ar y safle sy’n esbonio mwy am y cynefinoedd a’r bywyd gwyllt y gallwch eu gweld yno. Mae cyfle hyd yn oed i gymryd rhan gyda grwpiau cadwraeth lleol er mwyn helpu i reoli cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt!
Aberddawan
Gwarchodfa Natur Leol, sy’n gyforiog o fywyd gwyllt; mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru wedi helpu i gofnodi dros fil o rywogaethau gwahanol yma, a 62 ohonynt o’r pwys mwyaf i gadwraeth a bioamrywiaeth Cymru.
Coedwig Birchgrove
Gwarchodfa 4 erw sy’n cynnwys coetir a dôl, dan reolaeth Grŵp Cadwraeth Coedwig Birchgrove.
Coedwig Cwm Talwg
Gwarchodfa Natur Leol yn y Barri, 2.85 ha o goetir collddail aeddfed a reolir gan Grŵp Preswylwyr Coedwig Cwm Talwg.
Gwarchodfa natur gymunedol sy’n cynnwys dros 300 o rywogaethau o flodau, gweiriau, trychfilod ac adar.
Gwarchodfeydd Natur Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru yn y Fro:
Cwm Colhuw, Trwyn Larnog, Coed Garnllwyd, Coed Brynna a Chors Llanharan.
Gwarchodfeydd Coed Cadw yn y Fro:
Coedwig Cwm George a Casehill, Monks Wood a Choed Worney
Mae gan y Fro rwydwaith helaeth o lwybrau cerdded drwy’r wlad ledled y sir. Ewch allan i grwydro!
Cyngor Bro Morgannwg
Heol yr Isffordd
Y Barri, CF63 4RT
Ebost: eshaw@valeofglamorgan.gov.uk
Gwefan: clicwch yma