Mae bryoffytau yn cynnwys mwsoglau a llysiau’r afu a grŵp sy’n perthyn yn agos o’r enw cyrnddail. Maent yn nodweddiadol yn wyrdd, fel arfer yn fychan, ac yn rhai o’r planhigion symlaf sy’n byw ar y tir. Er enghraifft, nid ydynt yn cynhyrchu blodau na hadau, ond yn lledaenu fel sborau, blagur anrhywiol neu ddarnau o blanhigion, ac nid oes gan y rhan fwyaf ohonynt fodd o gario dŵr na maetholion yn fewnol. Nid oes ganddynt wreiddiau ond yn hytrach ffurfiannau tebyg i wraidd (gwreiddflew) a ddefnyddir ganddynt i lynu wrth arwynebeddau ac amsugno dŵr. Fel arfer mae ar fryoffytau angen amodau llaith, ond mae nifer ohonynt wedi esblygu i fyw mewn cynefinoedd eithriadol o sych. Maent i’w cael mewn amrywiaeth eang o gynefinoedd, yn cynnwys coetiroedd, corsydd, ffeniau, rhuthrau dŵr ucheldir, mewn dŵr, ar lannau afonydd, ar ymylon pyllau, llynnoedd a chronfeydd dŵr, waliau, tomenni chwarel, hyd yn oed ar darmac ac mewn craciau cerrig palmant. Maent yn sefydlu ar dir moel a chraig ac yn helpu rhywogaethau eraill ymsefydlu. Nid yn unig y mae bryoffytau yn hynod o ddiddorol i’w hastudio ac yn hardd o ran golwg, maent hefyd yn bwysig ar gyfer gweithrediad yr ecosystem ac o fudd i gymdeithas. Er enghraifft, mae mwsogl y ffynhonnau yn un o brif elfennau mawnogydd a gall ddal cymaint ag ugain gwaith ei bwysau mewn dŵr ac mae’n elfen ddefnyddiol mewn lliniaru llifogydd. Mae mawnogydd hefyd yn cloi symiau mawr o garbon ac yn helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd. Ceir cynrychiolaeth sylweddol o fryoffytau gyda 811 (73%) o’r 1110 o rywogaethau Prydeinig i’w cael yng Nghymru. Mae haen waelod derw’r Iwerydd a choed ynn yng Nghymru yn ffynonellau cyfoethog o fryoffytau gan gynnwys Dicranum majus, Rhytidiadelphus loreus, Plagiochila spinulosa, ac, yn y mannau mwyaf llaith, arae o lysiau’r afu bychain megis Drepanolejeunea hamatifolia a Plagiochila exigua. Bellach mae’r edeufwsogl Cymreig (Bryum gemmiparum) yn hynod o brin yng Nghymru ac i’w gael yn unig ar allfrigiadau creigiog heulog yn rhannau (uchaf/canol) Afon Wysg.
Mae’r Petalophyllum ralfsii yn rhywogaeth o lysiau’r afu sydd i’w chael mewn pantiau llaith twyni tywod llawn cregyn ac mae Cymru yn un o gadarnleoedd y DU ar gyfer y rhywogaeth hon. Mae’r llysiau afu Cephaloziella nicholsonii a Cephaloziella massalongi yn gysylltiad â’n gorffennol diwydiannol ac i’w cael yn hen ardaloedd mwynfeydd copr gogledd-orllewin Cymru. Mae calchfaen Cymru yn cynnal Weissia levieri ac Anomodon longifolius, ac mae’r ddwy rywogaeth i’w cael mewn llai na phump o safleoedd ym Mhrydain hyd y gwyddom, tra bo creigiau asid yn Eryri yn cynnal y Dicranodontium asperulum. Mae Barbilophozia kunzeana a Sphagnum balticum yn tyfu mewn gwlyptiroedd, a Bartramia stricta i’w gael yn unig yn y DU ar greigiau folcanig sych yn Sir Faesyfed.
Cadwraeth Bryoffytau yng Nghymru
Gyda chyfran mor sylweddol o fryoffytau Prydeinig i’w cael yng Nghymru, mae gennym gyfrifoldeb arbennig i’w gwarchod. Mae 52 rhywogaeth o fryoffytau ac 1 casgliad yn ymddangos ar restr Adran 7, sy’n rhestr o rywogaethau o bwysigrwydd pennaf yng Nghymru. Mae bygythiadau i gadwraeth bryoffytau yn cynnwys colli cynefin, newid hinsawdd, rheolaeth amhriodol o goedwigoedd, lledaeniad y rhododendron, draenio mawnogydd, adeiladu ffyrdd a thai, llygredd aer. Mae Rhestr Data Coch Bryoffytau ar gyfer Cymru wedi cael ei chynhyrchu gan Plantlife i helpu i wella ein gwybodaeth o’r bygythiadau sy’n wynebu bryoffytau a darparu data i gefnogi mentrau cadwraeth.