Skip to content
Red squirrel

Partneriaeth Natur Leol
Ynys Môn

Natur yn Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn gartref i amrywiaeth o gynefinoedd pwysig gan gynnwys twyni tywod, lagwnau, morfeydd heli, glaswelltiroedd, gwlyptiroedd, ffeniau, gwastadeddau llaid a choedwigoedd. Mae'r ynys yn cynnwys arfordir helaeth, hefo llawer ohono wedi'i ddynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae 60 o safleoedd wedi'u dynodi'n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac mae pedwar ohonynt yn cael eu rheoli fel Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol. Mae'n gartref i wiwerod coch, dyfrgwn, brain coesgoch, llygod dŵr a gwalch y pysgod yn ogystal â bod yn gartref pwysig i'r diwydiant amaethyddol.

Andanom ni

Mae Ynys Môn yn adnabyddus am yr helaethrwydd o gynefinoedd arfordirol a llwybrau cerdded yn ogystal a’r poblogaeth cynyddol o wiwerod goch. Mae'r ynys yn gymysgedd o gynefinoedd gwarchodedig a gwyllt, tir amaethyddol a threfi. Trwy gydol yr haf, mae'r arfordir yn llawn adar tra bod dolydd ac ymylon ffyrdd wedi'u gorchuddio â blodau gwyllt. Mae'r iaith Gymraeg yn wraidd yr ynys ac mae'r gymuned yn ymfalchïo yn harddwch yr ynys.

Ein hamcanion

Mae ein blaenoriaethau a'n hamcanion yn tynnu sylw at bwysigrwydd cysylltu pobl â natur:

  • Creu ardaloedd sy'n cefnogi natur o fewn cymunedau
  • Cefnogi gwerthfawrogiad o natur drwy annog monitro ac adnabod rhywogaethau lleol
  • Cefnogi gweithredu a phrosiectau sy'n fuddiol i ecosystemau a chynefinoedd lleol
  • Cynyddu bioamrywiaeth drwy wella cynefinoedd ar yr ynys i gyflawni'r nod 30x30

Sut ydan ni’n mynd i’w gyflawni

Fel Partneriaeth Natur Lleol rydym am weithio gyda phartneriaethau a chymunedau cymaint ag y gallwn. Drwy gydweithio, gallwn helpu i gysylltu natur ar draws yr ynys. Rydym yn gweithio gyda phartneriaethau i weithredu prosiectau ystyrlon sy'n fuddiol i rywogaethau lleol a bioamrywiaeth yn y tymor hir.

Dewch o hyd i Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Ynys Môn yma: Beth ydym yn gwneud i helpu bioamrywiaeth ar Ynys Môn?

Sut fedrwch chi helpu natur?

Mae yna lawer o ffyrdd i helpu natur ar Ynys Môn. O wneud eich rhan i ganiatáu i'ch gardd dyfu'n hirach yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf, i ymuno â mentrau cymunedol a gwirfoddoli gyda phartneriaethau lleol. Un ffordd syml o helpu yw nodi arsylwadau o rywogaethau a wnewch wrth gerdded. Mae lawrlwytho ap LERC Cymru yn ffordd syml o gyflwyno unrhyw ganfyddiadau ac mae'n helpu i gael darlun llawn o gyfoeth ac amrywiaeth rhywogaethau ar Ynys Môn. I drafod unrhyw syniadau neu i ddarganfod beth sy'n digwydd yn eich ymyl a sut allwch chi helpu, cysylltwch â'r Swyddog Bywyd Gwyllt Lleol.

Lle i weld natur ar Ynys Môn:

Coedwig Cymundedol Llyn Parc Mawr (Cartref i wiwerod coch ag amrywiaeth o adar) Llyn Parc Mawr – Llyn Parc Mawr

Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Cors Goch (Cartref i planhigion rhostir, telor, a gwas y neidr) Gwarchodfa Natur Cors Goch | North Wales Wildlife Trust

Parc Gwledig Morglawdd Caergybi (Cartref i Hebog tramor) Parc Gwledig Morglawdd Caergybi

Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch (Twyni tywod, wiwerod coch a llwybrau prydferth) Cyfoeth Naturiol Cymru / Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch

Gwarchodfa Natur Cemlyn (Lleoliad gwych i wylio adar) Gwarchodfa Natur Cemlyn | North Wales Wildlife Trust

Gwarchodfa Natur Lleol Trwyn yr Wylfa (Cymysgedd o glaswelltiroedd arfordirol a rhostir)

Twyni Aberffraw a Traeth Mawr (Cartref i amrywiaeth o blanhigion gan gynnwys tegeirian cors, tegeiran pyramidaidd a helleborines) Twyni Aberffraw a Traeth Mawr

Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Cors Erddreiniog (Cartref i gynefinoedd ffendir helaeth a blodau gwyllt) Cyfoeth Naturiol Cymru / Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Erddreiniog, Ynys Môn

Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Cors Bodeilio (Cartref i llaid arbennig) Cyfoeth Naturiol Cymru / Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Bodeilio, Ynys Môn

Safle o Ddiddordeb Cadwraeth Natur Aberlleiniog (Mae'r cynefinoedd yn cynnwys coetir llydanddail lled-naturiol hynafol sy'n gartref i ystlumod, dyfrgwn a gwiwerod coch) Aberlleiniog - Woodland Trust

Uchafbwyntiau ar Ynys Môn:

Gwiwer goch Sciurus vulgaris – Yn ystod yr 1970au a'r 1980au, roedd gwiwerod coch yn dod yn fwyfwy prin ar Ynys Môn oherwydd niferoedd cynyddol o wiwerod llwyd. Ar ôl ymdrechion mawr i'w hailgyflwyno a'u gwarchod, mae poblogaeth ffyniannus o wiwerod coch bellach ac nid yw gwiwerod llwyd yn bodoli ar yr ynys mwyach.

Mursen Penfro Coenagrion mercuriale - Rhestrwyd mursen penfro fel rhywogaeth mewn perygl yn Rhestr Goch Odonata Prydain 2008 ac mae wedi'i diogelu'n gyfreithiol o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae'n ffynnu mewn nentydd a ffosydd, yn aml o fewn ardaloedd rhostir asidig, a gellir ei chael mewn ardaloedd gwlyptir ar Ynys Môn.

Llygoden bengron y dŵr Arvicola amphibius – Mae llygod y dŵr wedi'u rhestru fel rhywogaeth sydd mewn perygl ac wedi'u gwarchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Maent yn byw mewn gwelyau cyrs, corsydd, nentydd a ffosydd ac maent dan fygythiad oherwydd dirywiad a cholli cynefinoedd. Mae'r minc Americanaidd hefyd yn peri bygythiad i lygod y dŵr. Ar hyd yr Afon Menai, mae poblogaethau minc Americanaidd ymledol wedi cael eu monitro a'u rheoli, gan ganiatáu i boblogaethau llygod y dŵr gynyddu.

Dyfrgi Lutra lutra- Mae dyfrgwn wedi'u gwarchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981. Mae poblogaethau ffyniannus o ddyfrgwn ledled Ynys Môn, gyda gwaith yn cael ei wneud i wella cynefinoedd a lleihau marwolaethau ar y ffyrdd.

Brân goesgoch Pyrrhocorax pyrrhocorax - Mae gan frain goesgoch ystod gyfyngedig o gynefinoedd ond mae poblogaethau preswyl toreithiog ar Ynys Môn.

Chwainlys Ynys Lawd Tephroseris integrifolia subsp. Maritima- Mae'r planhigyn blodeuol melyn hwn yn endemig i Ynys Gybi. Rhan fach o Lwybr Arfordirol Gogledd Cymru yw'r unig le yn y byd y gellir gweld y planhigyn hwn yn blodeuo ym mis Mai a mis Mehefin. Mae'n blanhigyn ag arogl melys sy'n ddeniadol iawn i gacwn bwm.

Ymhlith y prosiectau cyfredol mae:

  • Pontydd gwiwerod coch ar draws yr ynys i leihau nifer y marwolaethau traffig.
  • Silffoedd i ddyfrgwn defnyddio fel croesfannau mewn ardaloedd lle mae marwolaethau ffyrdd wedi'u nodi ar gyfer dyfrgwn.
  • Gweithio gyda Chadwch Gymru'n Daclus i weithredu gerddi bywyd gwyllt mewn ysgolion ar draws yr ynys i gynyddu mannau gwyrdd mewn ysgolion.
  • Plannu coed ar draws yr ynys.

Gosod blychau gwenoliaid duon, blychau tylluanod a blychau ystlumod mewn lleoliadau addas ar draws yr ynys i ddarparu ardaloedd diogel i rywogaethau pwysig.

Cyswllt

Aurora L Hood

Swyddog Bywyd Gwyllt Lleol

Cyngor Sir Ynys Môn

Rheoleiddio a Datblygu Economaidd
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW

E-bost: Biodiversity@ynysmon.llyw.cymru

Mae Ynys Môn yn aelod gwerthfawr o Rwydwaith Partneriaeth Natur Lleol Cymru gyfan

Local Nature Partnerships Cymru
PNL Ynys Mon