Natur yn Sir y Fflint
Mae Sir y Fflint yn sir o gyferbyniadau. Yn gorwedd rhwng y siroedd gwledig i’r gorllewin o Fryniau Clwyd ac ardaloedd mwy datblygedig Sir Gaer a Glannau Mersi, mae defnydd tir yn amrywio o ddatblygu diwydiannol dwys trwodd i ardaloedd anghysbell a gwyllt. Dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, trawsffurfiwyd ardal Sir y Fflint yn sylweddol. Mae effaith datblygu amaethyddiaeth, tai a thynnu mwnau’n arwyddocaol ond, eto, mae Sir y Fflint yn dal i gadw llawer o ardaloedd sydd o bwysigrwydd i fywyd gwyllt, o fewn cylchoedd trefol a gwledig fel ei gilydd. .
Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir y Fflint yn cynnwys grŵp llywio bach sy’n goruchwylio’r broses ynghyd â fforwm technegol sy’n cynghori’r grŵp llywio ar faterion rhywogaethau a chynefinoedd. Mae gweithgor hefyd sy’n edrych yn benodol ar Addysg Bioamrywiaeth, Ymwybyddiaeth a Chyfranogiad y Gymuned.
Cyswllt
Sarah Slater - Swyddog Bioamrywiaeth
Yr Adran Gynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi
Tŷ Dewi Sant, Ewlo
Parc Dewi Sant
Ewlo
CH5 3FF
Ffôn: 01352 752121
Bioamrywiaeth@siryfflint.gov.uk
Mae Sir y Fflint yn aelod gwerthfawr o Rwydwaith Partneriaeth Natur Lleol Cymru gyfan
