Skip to content
Image by Sali Palmer

Partneriaeth Natur Leol
Sir Benfro

Natur yn Sir Benfro

Mae 'natur' yn golygu pob organeb fyw a’r rhwydweithiau ecolegol cymhleth (gan gynnwys elfennau a phrosesau nad ydynt yn fyw) y maent yn rhan ohonynt. Mae'n cynnwys amrywiaeth o fewn rhywogaethau, rhwng rhywogaethau ac amrywiaeth ecosystemau; cydnerthedd ecosystemau; y gwasanaethau y maent yn eu darparu i gymdeithas a'r ffordd y mae pobl yn rhyngweithio â byd natur.

Mae natur ymhobman: mewn gerddi, caeau, gwrychoedd, mynyddoedd, ar glogwyni ac yn y môr. Mae helaethrwydd natur a'i hamrywiaeth yn elfen allweddol o'r systemau naturiol sy'n ein cynnal drwy wasanaethau ecosystemol megis peillio cnydau, lliniaru llifogydd, rheoli plâu a phuro dŵr. Mae mynediad i ardaloedd naturiol hefyd yn agwedd o ansawdd bywyd, ac yn ffynhonnell o bleser a diddordeb ac yn rhoi dealltwriaeth i ni o'n hamgylchedd.

Mae llawer o sefydliadau yn cydweithio yn Sir Benfro i gynnal a gwella nodweddion naturiol lleol. Gyda'i gilydd, maent yn ffurfio Partneriaeth Natur Sir Benfro. Rydym yn adeiladu ar bartneriaethau a mentrau sy’n bodoli eisoes ac yn datblygu rhwydweithiau a mecanweithiau newydd i gyflawni amcanion cadwraeth natur fel y cânt eu nodi yn ein cynlluniau gweithredu lleol.

Amdanom ni

Mae Sir Benfro’n haeddiannol enwog am ei harfordir godidog, sy’n frith gan adar ac wedi’i gorchuddio â blodau gwyllt yn y gwanwyn. Ceir hefyd aberoedd tawel, dyffrynnoedd coediog serth a gweundir eang ar Fynydd Preseli. Rhyngddynt, mae clytwaith o gaeau a choedlannau bychain o fewn ffiniau cloddiau pridd a cherrig sy’n aml yn hynafol iawn. Mae’r môr a gwely'r môr o amgylch arfordir Sir Benfro’n llawn rhywogaethau - rhai ohonynt o gryn bwysigrwydd economaidd. Mae natur yn hanfodol i les corfforol, economaidd ac ysbrydol pawb sy'n byw ac yn gweithio yn Sir Benfro.

Ein Nodau

Mae Partneriaeth Natur Sir Benfro yn bodoli er mwyn: cydlynu, hyrwyddo a chofnodi camau presennol a newydd i warchod, hyrwyddo a gwella natur yn Sir Benfro, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, dyfroedd y glannau a gwely'r môr o amgylch arfordir Sir Benfro hyd at 12 milltir o’r lan, gan ystyried blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

Sut ydyn ni'n mynd i'w gyflawni

Mae Partneriaeth Natur Sir Benfro yn darparu'r fframwaith ar gyfer camau adfer natur lleol a fydd yn cyfrannu at gyflawni targedau cenedlaethol ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau allweddol, a chodi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o berthnasedd natur i bobl Sir Benfro. Gallwch ddod o hyd i'n Cynllun Gweithredu Adfer Natur yma: pembrokeshire.gov.uk/biodiversity/pembrokeshire-nature-partnership-plans-and-guidance

Cyswllt

Ant Rogers - Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth

Partneriaeth Natur Sir Benfro
Tîm Cadwraeth
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP

Ffôn: 01437 764551
biodiversity@pembrokeshire.gov.uk
sir-benfro.gov.uk/bioamrywiaeth

Mae sawl ffordd y gallwch helpu byd natur yn Sir Benfro, o newidiadau bach yn eich gardd i gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol neu fentrau cenedlaethol. I drafod syniadau neu i gael gwybod beth sy'n digwydd yn eich ymyl chi, cysylltwch â'r Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth.

Mae Sir Benfro yn aelod gwerthfawr o Rwydwaith Partneriaeth Natur Lleol Cymru gyfan

Local Nature Partnerships Cymru
300