Uchafbwyntiau - rhywogaethau prin ac endemig a geir yn Eryri
Ystlum pedol lleiaf (Rhinolophus hipposideros): Un o rywogaethau ystlum lleiaf a geir yn y DU, mae Eryri yn gadarnle i'r ystlum pedol lleiaf, sy'n cyfrif am dros 25% o gyfanswm poblogaeth y DU. Er eu bod yn breswylwyr ogofâu yn wreiddiol, mae'r ystlum pedol lleiaf wedi addasu ac mae cytrefi haf bellach i'w cael fel rheol ar doeau tai gwledig mawr ac adeiladau allanol.
Cregyn Gleision Perlog Dŵr Croyw (Margaritifera margaritifera): Mae cragen ddu neu frown tywyll gan y cregyn gleision perlog dŵr croyw, mae'n tyfu i 15cm o hyd ac mae'n enwog am gynhyrchu perlau lliw tywyll. Ychydig o boblogaethau sy'n hysbys yn Eryri er gwaethaf cofnodion hanesyddol sy'n dyddio'n ôl am ganrifoedd lawer.
Malwen Ludiog (Myxas glutinosa): Mae'r falwen ludiog yn falwen ddŵr croyw bach ac yn un o'r prinnaf yn Ewrop. Credwyd ei bod wedi diflannu yng Nghymru, ond cafodd ei hailddarganfod yn Llyn Tegid ym 1998, mewn ardal lle na welwyd hi ers 1952. Credir bellach mai hon yw'r unig boblogaeth hyfyw yn Eryri.
Y Gwyniad (Coregonus pennantii): Mae Coregonus lavaretus yn rhywogaeth o bysgod gwyn a elwir yn lleol fel y gwyniad, a chredir eu bod yn bresennol mewn un llyn yn unig ledled Eryri, sef yn Llyn Tegid yn y Bala.
Chwilen yr Wyddfa (Chrysolina cerealis) :Mae gan chwilen fach yr Wyddfa elytra llachar streipiog coch, aur, gwyrdd a glas sy'n esbonio ei enw Ewropeaidd, chwilen ddeilen yr enfys. Er gwaethaf digonedd cymharol o gynefin addas yn y Parc Cenedlaethol, dim ond mewn llond llaw o safleoedd ar yr Wyddfa ei hun y ceir y chwilen, ac efallai Cwm Idwal.
Lili’r Wyddfa (Lloydia serotina): Mae Lili’r Wyddfa yn blanhigyn blodeuol cain, arctig-alpaidd sydd â dail tebyg i laswellt. Er bod ganddi ddosbarthiad eang mewn rhanbarthau alpaidd ac arctig, Eryri yw ei hunig leoliad hysbys yn y DU.
Darganfyddwch fwy am ein rhywogaethau prin a rhyfeddol yma