Mae adroddiad diweddaraf UK State of Nature 2023 yn rhoi darlun manwl o sefyllfa byd natur ar hyn o bryd ac yn datgelu graddfa ddinistriol colli natur ledled y DU, y pwysau sy'n effeithio ar natur, a beth sydd angen ei wneud i fynd i'r afael â cholli natur. Cyflwynir ffigurau yn yr adroddiad fel canfyddiadau'r DU yn y rhan fwyaf o achosion. Lle nad oes gwybodaeth am y DU, cyflwynir canlyniadau ar gyfer Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ar wahân.
Mae Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2023 yn datgelu bod y nifer o 753 o rywogaethau a astudiwyd wedi gostwng 19% ar gyfartaledd ledled y DU ers 1970. Gan ddefnyddio meini prawf ar y Rhestr Goch, gwelodd asesiad o 10,008 rhywogaeth fod 16% (bron i 1,500 o rywogaethau) bellach mewn perygl o ddiflannu yng ngwledydd Prydain.
Mae'r adroddiad Sefyllfa Byd Natur yn ymgorffori data o 60 o sefydliadau ymchwil a chadwraeth sy'n defnyddio cynlluniau monitro a chanolfannau cofnodi biolegol, i ddarparu meincnod ar gyfer statws bywyd gwyllt y DU. Cyhoeddwyd argraffiadau blaenorol yn 2013, 2016 a 2019. Ynghyd ag adroddiad y DU, cyhoeddir adroddiadau ar wahân ar gyfer pob gwlad - gan gynnwys Cymru.
Yn ôl yr adroddiad, newidiadau yn y ffordd o reoli ein tir ar gyfer ffermio, a newid hinsawdd oedd achosion mwyaf dirywiad bywyd gwyllt ar ein tir, afonydd a llynnoedd. Mae rheoli tir, llygredd a rhywogaethau estron goresgynnol hefyd yn ysgogwyr allweddol dirywiad rhywogaethau. Ar y môr, ac o amgylch ein harfordiroedd, roedd hynny o ganlyniad i bysgota anghynaliadwy, newid hinsawdd a datblygiadau morol.
Mynegai Cyfanrwydd Bioamrywiaeth (BII)
Mae'r Mynegai Cyfanrwydd Bioamrywiaeth yn mesur cyfran y rhywogaethau sy'n dal yn bresennol mewn ardal a'u cyflenwad neu ddigonedd, er gwaethaf effeithiau dynol. Yr amcangyfrif mwyaf diweddar o'r BII byd-eang yw 77% sydd gryn dipyn yn is na'r lefel 90% a awgrymir fel un sydd ei hangen i gadw o fewn ffiniau planedol sy'n ofynnol i gynnal ecosystemau iach. Mae gan y DU BII o 42%, sydd o gryn dipyn yn is na'r cyfartaledd byd-eang. Hefyd, mae mynegai’r DU yn is na gwledydd bach, ôl-ddiwydiannol, hynod boblog eraill gorllewin Ewrop, fel Gwlad Belg a'r Iseldiroedd.
Gobaith at y dyfodol
Ond mae yna obaith. Mae'n bosibl gwyrdroi colledion bioamrywiaeth drwy adfer cynefinoedd, arferion amaethyddol cynaliadwy a lliniaru newid hinsawdd. Mae'r DU yn rhan o gyfres newydd o dargedau bioamrywiaeth rhyngwladol o dan y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD): y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang. Er mwyn helpu i gyflawni'r rhain, mae pob gwlad yn y DU (gan gynnwys Cymru) wedi ymrwymo i ddatblygu a gweithredu strategaethau bioamrywiaeth cenedlaethol. Mewn llawer o achosion, mae gwledydd wedi datblygu (neu wedi ymrwymo i ddatblygu) targedau cyfreithiol rwymol i adfer natur (Cymru - erbyn diwedd tymor y Senedd hon yn 2026). Yn yr adroddiad maent wedi grwpio'r targedau CBD i bum maes eang:
- Gwella statws rhywogaethau
- Cynyddu ffermio, coedwigaeth a physgodfeydd sy'n gyfeillgar i natur
- Ehangu a rheoli ardaloedd gwarchodedig
- Cynyddu gwaith adfer ecosystemau
- Cydlynu ein hymateb
Fodd bynnag, does dim modd sicrhau adferiad natur gan lywodraethau, sefydliadau statudol ac elusennau natur yn unig. Rhaid i bob sector o gymdeithas chwarae ei ran os ydym am adfer digonedd o rywogaethau a lleihau'r risg o fynd i ddifancoll, ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bethau allwn ni fel unigolion ei wneud i helpu byd natur.
Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod ymdrechion aruthrol miloedd o wirfoddolwyr i gynhyrchu'r adroddiad Sefyllfa Byd Natur gan roi o'u hamser i helpu i gofnodi a monitro bywyd gwyllt.
Sefyllfa Byd Natur 2023 - adroddiad ar fioamrywiaeth gyfredol y DU
Sefyllfa Byd Natur Cymru 2023
Mae Sefyllfa Byd Natur Cymru 2023 yn dangos, ers i waith monitro gofalus ar 380 o rywogaethau Cymreig ddechrau'n 1994, bod nifer y rhywogaethau hynny wedi gostwng 20% ar gyfartaledd. Rhywogaethau o wyfynod ddangosodd y dirywiad mwyaf, sef 43%. Hefyd, cafodd risg difodiant 3,897 o rywogaethau ei hasesu gan ddefnyddio meini prawf y Rhestr Goch a gwelwyd bod 18% (un o bob chwech) mewn perygl o ddiflannu gan gynnwys planhigion ac anifeiliaid fel tegeirian y figyn galchog, llygoden y dŵr a madfall y twyni a bod mwy na 2% eisoes wedi diflannu yng Nghymru. Mae rhywogaethau adnabyddus fel yr Eog a'r Gylfinir hefyd wedi dirywio’n ddifrifol yng Nghymru.
Mae ystlumod yn dangos cynnydd cyfartalog o 76% ers 1998, wedi'i yrru'n bennaf gan y cynnydd mawr mewn dwy rywogaeth ystlumod sydd wedi gwella o ddirywiad hanesyddol diolch i fwy o waith gwarchod eu cynefin. Mae rhai rhywogaethau gloÿnnod byw yn dangos arwyddion o adferiad hefyd
37% yw Mesur Mynegai Cyfanrwydd Bioamrywiaeth Cymru. Er ei fod yn debyg i rannau eraill o'r DU, mae gyda'r isaf yn fyd-eang.
Gobaith i’r Dyfodol
Yng Nghymru, mae nifer o brosiectau a mentrau sydd â'r potensial i wneud gwahaniaeth go iawn i fyd natur. Natur am Byth - mae rhaglen adfer rhywogaethau flaenllaw Cymru a phrosiectau cynefinoedd mawr sy'n adfer afonydd, corsydd a ffeniau a thwyni tywod wedi cychwyn.
Mae enghreifftiau o brosiectau rhywogaethau llwyddiannus yn yr adroddiad yn cynnwys gwarchod y Môr-wenoliaid Bach yn Sir Ddinbych sydd wedi galluogi'r brif nythfa fridio Gymreig i fod gyda'r pwysicaf ym Mhrydain, ac adfer mawndiroedd yng Ngheredigion sydd wedi cynnal poblogaeth Gweirlöyn Mawr y Waun.
Mae cynlluniau cenedlaethol fel Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Rhwydweithiau Natur, Prosiect Mawndir Cenedlaethol a chynllun y Goedwig Genedlaethol yn cyflawni ar gyfer natur ledled Cymru.
Bydd Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd ar waith o 2025 yn gwobrwyo ffermwyr am gynnal a chreu cynefin bywyd gwyllt, gyda grantiau hefyd i ffermydd gydweithio ar waith ar raddfa tirwedd i hybu bioamrywiaeth.
Mae mudiadau bywyd gwyllt yng Nghymru yn poeni nad ydym eto ar y trywydd i fynd i'r afael â'r argyfwng natur yma. Er ein bod yn cydnabod rhai llwyddiannau a chamau a gymerwyd tuag at adeiladu dyfodol llawn natur yng Nghymru, mae newid trawsnewidiol yn dal yn bell iawn ar y gorwel.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'r llywodraeth yn ystyried yn ofalus y syniadau ar gyfer camau gweithredu pellach at natur sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad pwysig hwn. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i roi targedau newydd ar adfer natur yn gyfraith erbyn diwedd tymor y Senedd hon yn 2026.
Cymru - Sefyllfa Byd Natur