Sut i gymryd rhan?
Mae yna lawer o fudiadau sy'n casglu cofnodion ac yn cynnal arolygon sy'n recriwtio gwirfoddolwyr neu'n gofyn am gymorth achlysurol. Mae yna ambell i beth i'w ystyried cyn dechrau arni, megis faint o amser yr hoffech ei dreulio'n cofnodi ac a hoffech gofnodi pob math o fywyd gwyllt ynteu canolbwyntio ar grŵp penodol. Mae rhai arolygon ar gael drwy gydol y flwyddyn tra gall eraill fod yn ystod tymhorau neu fisoedd penodol pan fo rhywogaethau'n fwyaf gweithgar. Er enghraifft, cynhelir arolygon o'r wennol ddu tua diwedd y gwanwyn / yn yr haf pan fyddant yn mudo i Brydain tra'r amser gorau i astudio madarch yw diwedd yr haf / yn yr hydref. Mewn rhai arolygon, efallai y bydd angen i chi fynd allan gydag arbenigwr hyfforddedig, yn enwedig ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig, tra gellir dod o hyd i rywogaethau eraill heb orfod paratoi ymlaen llaw yn eich gardd neu'ch parc lleol. Mae'n werth ystyried a fyddai'n well gennych fynd allan gyda grŵp ynteu gwneud arolwg ar eich pen eich hun gan y gall hyn effeithio ar ba ymgyrchoedd y cymerwch ran ynddynt.
Y dyddiau hyn mae modd cyflwyno'r rhan fwyaf o gofnodion drwy wefan neu ap symudol, ond mae rhai mudiadau'n dal i dderbyn cofnodion a ysgrifennwyd â llaw. Mae llawer o grwpiau hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol felly os ydych yn ansicr beth rydych wedi'i gofnodi gallwch ofyn i gofnodwyr eraill; mae'r grwpiau hyn yn amrywio o ddechreuwyr i arbenigwyr felly efallai yr hoffech chwilio o gwmpas am dipyn i ddod o hyd i un sy'n addas i'ch lefel o wybodaeth (mae rhai grwpiau'n defnyddio enwau gwyddonol rhywogaethau a all fod braidd yn ddryslyd os ydych yn newydd i gofnodi). Gallwch fod yn sicr serch hynny fod yna sawl ffordd o fynd ati i gofnodi, ni waeth faint o amser, diddordeb neu wybodaeth sydd gennych.








