Mae Grŵp Trefol a Thir Llwyd PBC ar hyn o bryd yn nodi ardaloedd â blaenoriaeth ar gyfer ymdrechion cadwraethol penodol. Sylw llawn i gynefinoedd Trefol a Thir Llwyd ledled Cymru ym mhob awdurdod lleol yw’r cam nesaf – anfonwch unrhyw ddiweddariadau sydd gennych chi at Pete Frost.
Nid yw’r grŵp yn weithredol bellach ac nid yw gwybodaeth ar y dudalen hon yn gyfoes. Fe’i dangosir at ddibenion cyfeirio yn unig.
Dyma'r dudalen wybodaeth ar gyfer Grŵp Ecosystem Dinesig a Thir Llwyd PBC. Mae gweithgareddau Grŵp Ecosystem Dinesig a Thir Llwyd yn ymwneud ag Adran 7 cynefinoedd â blaenoriaethau yng Nghymru, fel a ganlyn: Brithwaith o gynefinoedd agored ar dir a oedd cynt wedi ei ddatblygu
Cyfeirir at gynefin â blaenoriaeth mewn lleoliad trefol fel Cynefin Clytwaith Agored ar Dir a Ddatblygwyd o'r Blaen. Mae Cynefin Clytwaith Agored i'w gael ar safleoedd sydd wedi eu datblygu o'r blaen neu safleoedd lle mae'r tir wedi ei droi o'r blaen. Mae'n glytiog yr olwg gyda pheth lystyfiant, ac mae'n cynnwys llecynnau o ddaear noeth – rhywfaint o lecynnau noeth mewn ambell le, mwy mewn lleoedd eraill. Gwelir ef yn bennaf ar dir trefol a thir a arferai fod yn ddiwydiannol, ond mae hefyd i'w gael y tu allan i'r ardaloedd hyn mewn chwareli ac ar gilffyrdd rheilffyrdd ac ati. Mae ailddatblygu'r tir, ei droi'n safle tirlenwi, ewtroffigedd, dulliau amhriodol o'i reoli neu ei 'adfer' ac olyniaeth naturiol yn bygwth ei ddifrodi a'i ddirywio. Ychydig o safleoedd Cynefin Clytwaith Agored a gaiff eu gwarchod ar ffurf Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu warchodfeydd natur.
Mae'r cynefin hwn yn cynnal poblogaethau o anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac isblanhigion cenedlaethol anfynych. Yn bwysig, mae'n cynnig cyfle i astudio olyniaeth ecolegol, sy'n hynod brin yng nghefn gwlad Cymru, ac mae hefyd yn rhoi cyfle cyntaf i nifer o drigolion dinasoedd a threfi gael profiad uniongyrchol o natur.
- Urban & Brownfield Priority Habitat map Blaenau Gwent
- Urban & Brownfield Priority habitat map Bridgend
- Urban & Brownfield Priority habitat map Cardiff
- Urban & Brownfield Priority habitat map Carmarthenshire
- Urban & Brownfield Priority habitat map Gwynedd
- Urban & Brownfield Priority habitat map Merthyr Tydfil
- Urban & Brownfield Priority habitat map Monmouthshire
- Urban & Brownfield Priority habitat map Newport
- Urban & Brownfield Priority habitat map Powys
- Urban & Brownfield Priority habitat map Rhondda Cynon Taf
- Urban & Brownfield Priority habitat map Vale of Glamorgan
- Urban & Brownfield Priority habitat map Wrexham
- Datblygiad y grŵp dinesig a thir llwyd Cyfarfod Ebrill 2015
- Datblygiad y grŵp dinesig a thir llwyd Cyfarfod Mehefin 2014
- Datblygiad y grŵp dinesig a thir llwyd Cyfarfod Ionawr 2014
- Datblygiad y grŵp dinesig a thir llwyd Medi 2012
- Datblygiad y grŵp dinesig a thir llwyd Cyfarfod Gorffennaf 2012
- Datblygiad y grŵp dinesig a thir llwyd Cyfarfod Mawrth 2012
- Datblygiad y grŵp dinesig a thir llwyd Cyfarfod Mehefin 2011
- Datblygiad y grŵp dinesig a thir llwyd Cyfarfod 5 Mawrth 2011
- Datblygiad y grŵp dinesig a thir llwyd Cyfarfod Gorffennaf 2010
- Datblygiad y grŵp dinesig a thir llwyd Cyfarfod Medi 2009
- Datblygiad y grŵp dinesig a thir llwyd Cyfarfod Gorffennaf 2009
- Datblygiad y grŵp dinesig a thir llwyd Cyfarfod Ebrill 2009
- Datblygiad y grŵp dinesig a thir llwyd Cyfarfod Ionawr 2009